 |
 |
 |
Dyma 1970 Y penawdau, y pethau, y bobl |
 |
 |
 |
Clicwch ar bwnc:
Cymru Y Byd Cerddoriaeth Celfyddydau Ffilmiau Teledu Chwaraeon Gwyddoniaeth Ffordd o Fyw Marwolaethau
CYMRU
Ym mis Ionawr, cafodd 2,000 o bobol eu symud o'u cartrefi yn Rhondda Fach ar ôl i dwll gael ei weld yng nghronfa ddŵr Lluest Wen.
Bu ffermwyr yn atal trafnidiaeth yng nghanol Hwlffordd i brotestio am ragor o gefnogaeth i amaethyddiaeth - rhan o gyfres o brotestiadau. Yr Ysgrifennydd Amaeth oedd Cledwyn Hughes, AS Môn.
Ym misoedd cynta'r flwyddyn, bu protestiadau mawr dros Gymru am garchariad Dafydd Iwan. Cafodd 3 mis am wrthod talu dirwy o £56. Talwyd yr arian yn y diwedd gan ynadon. Yn Llundain, roedd 22 o aelodau Cymdeithas yr Iaith wedi meddiannu'r Uchel Lys a chafodd 14 garchar am eu trafferth.
Cafodd rhingyll yn y fyddin, John Jenkins, ddeng mlynedd o garchar am achosi ffrwydradau yn enw Mudiad Amddiffyn Cymru tros gyfnod o chwe blynedd.
Addysg - Bu helynt mawr dros gynlluniau Cyngor Sir Gaernarfon i gau Ysgol Bryncroes ym Mhen LlÅ·n. Daeth yn achos cenedlaethol ac, ar un adeg, roedd pwyllgor rhieni'n cynnal eu hysgol annibynnol eu hunain ac wedi penodi prifathrawes. Erbyn diwedd y flwyddyn, roedden nhw wedi gorfod derbyn ei bod yn cau. Erbyn hynny hefyd, roedd ysgolion uwchradd a chynradd o dan adain y Swyddfa Gymreig.
Roedd golygfeydd dramatig ar lan afon Menai ym mis Mai wrth i dân ddinistrio Pont Reilffordd Britannia. Bu'n mudlosgi am naw awr. Ym mis Mehefin, cafodd pedwar o ddynion yn cael eu lladd yn Noc Penfro pan gwympodd rhan o bont £3 ½ miliwn tros afon Cleddau.
Agor a dadorchuddio - agorwyd Ysgol Uwchradd Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin, agorwyd Llwybr Arfordir Sir Benfro a chafodd cerflun o Lloyd George ei ddadorchuddio yn Llundain gan y Tywysog Charles.
Cafodd y mudiad Adfer ei sefydlu dan arweiniad Emyr Llywelyn. Y nod ar y dechrau, oedd prynu tai i'w gosod i bobl leol. Ond byddai hefyd yn datblygu'n fudiad iaith mwy na hynny, gan ganolbwyntio ar achub Y Fro Gymraeg.
Cafodd chwech o ferthyron Cymru'r gorffennol eu gwneud yn saint gan y Pab yn Rhufain. Yn eu plith, roedd John Roberts, Trawsfynydd, John Jones o Glynnog Fawr a Richard Gwyn o Lanidloes.
Cafwyd gwrthwynebiad mawr ar ôl i gwmni metelau Rio Tinto Zinc gyhoeddi eu bod eisiau dechrau cloddio arbrofol i chwilio am gopr ym mryniau Meirionnydd
Y BYD
Yn Abertawe y bu un o'r protestiadau mwya' yn erbyn taith gan dîm rygbi'r Springboks o Dde Affrica. Ysgrifennydd Cymru heddiw, Peter Hain, oedd un o arweinwyr yr ymgyrch yn erbyn y daith.Ddechrau'r flwyddyn cafodd tri phlisman eu hanafu wedi i 2,000 o brotestwyr gwrth-apartheid brotestio yn Whitehall, Llundain.
Mynd o ddrwg i waeth yr oedd pethau yng Ngogledd Iwerddon gyda therfysgu yn y strydoedd, bomiau yn Belffast a degau'n cael eu lladd. Cafodd yr Aelod Seneddol ifanc Pabyddol, Bernadette Devlin, yn cael tri mis o garchar am dorri ar draws cyngor Unoliaethol yn Omagh a dim ond yr ymgyrch ddiogelwch fwya' erioed a gadwodd bethau'n dawel ar ddiwrnod gorymdeithio'r Orenwyr.
Gyda'r rhyfel yn ne-ddwyrain Asia bellach yn cynnwys Cambodia, bu protestiadau mewn sawl rhan o'r byd cyn i'r Arlywydd Nixon gyhoeddi cadoediad tua diwedd y flwyddyn. Cafodd yr Unol Daleithiau eu cyhuddo o ladd 600 o bobl ddiniwed yn Pinksville, Fietnam (My Lai oedd yr enw diweddarach).
Cafodd pobol dros 18 oed bleidleisio am y tro cyntaf' a'r blaid Doriaidd a enillodd yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mehefin.
Ymddiswyddodd Harold Wilson a daeth yr arweinydd cerddorfeydd a'r hwyliwr selog, Edward Heath, yn Brif Weinidog yn ei le.
Yng Nghymru, llwyddodd Plaid Cymru i sefyll ym mhob sedd am y tro cyntaf, ond collodd Gwynfor Evans Gaerfyrddin i'r Llafurwr ifanc, Gwynoro Jones.
Daeth AS Henley, Peter Thomas yn Ysgrifennydd Cymru - roedd yn wreiddiol o Ddyffryn Conwy.
Safodd ymgeisydd o'r blaid asgell dde eithafol, y National Front, yng Nghymru am y tro cyntaf.
Roedd helynt rhyngwladol wrth i gapten pêl-droed Lloegr, Bobby Moore, gael ei gyhuddo ar gam o ddwyn breichled aur o siop gemwaith yn Bogota, Colombia.
Ym mis Mai, cafodd 100 o skinheads eu harestio am achosi helynt mewn trefi glan-môr yn Lloegr. Bu helyntion tebyg yng Nghymru hefyd yn ystod y flwyddyn gydag ymladd rhyngddyn nhw a hell's angels.
Ym mis Awst bu tua 200 o brotestwyr 'Black Power' yn gorymdeithio drwy Orllewin Llundain er mwyn dangos eu gwrthwynebiad yn erbyn y ffordd roedd pobl ddu yn cael eu trin gan yr heddlu yn yr ardal.
Ym mis Medi bu rhyfel cartref rhwng y Palestiniaid a Gwlad yr Iorddonen, cyn i'r ddau arweinydd, Yasser Arafat a'r Brenin Hussein, arwyddo cytundeb heddwch.
Roedd nifer o streiciau yn yr hydref, gan gynnwys rhai gan lowyr De Cymru, gweithwyr y gorsafoedd trydan a gweithwyr cyngor - arweiniodd hynny at sbwriel yn strydoedd Llundain. Bu streic undydd anferth yn erbyn Mesur Perthnasau Diwydiannol y Llywodraeth.
Ym mis Tachwedd, daeth ton anferth i foddi nifer o ynysoedd yn nelta'r Ganges ym Mhacistan gyda rhwng 175,000 a 250,000 o bobl yn marw.
CERDDORIAETH
Y gantores Rosalind Lloyd o Lanbed oedd y Miss Asbri gynta' - wedi ei dewis gan y cylchgrawn pop. Y beirniaid oedd Huw Jones, Meinir Lloyd a Sulwyn Thomas.Y wobr oedd noson allan efo Hywel Gwynfryn!
Daeth dau o grwpiau mwya' gwreiddiol Cymru i sylw'r byd - Y Tebot Piws gyda Dewi Pws yn arwain yr antics a chriw o gerddorion gwirioneddol dda, o'r enw Y Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog.
Dechreuodd yr Hennessys, grŵp Gwyeddelig o Gaerdydd, ganu yn Gymraeg a merch ysgol o Derry yng Ngogledd Iwerddon a enillodd gystadleuaeth yr Eurovision. Rosemary Brown oedd ei henw - ond mae'n fwy adnabyddus dan ei henw llwyfan, Dana. Y gân oedd All Kinds of Everything.
Cafodd y gantores Mary Hopkin ei gwneud yn aelod o'r Orsedd am ennill enwogrwydd trwy Ewrop.
Daeth The Beatles i ben gyda straeon am ffraeo mawr, yn arbennig rhwng John Lennon a Paul McCartney.
Deg Uchaf Y Cymro ym mis Rhagfyr oedd:
1. Cofio Cynan - Hogia'r Wyddfa
2. Oes mae 'na le - Tony ac Aloma
3. Wil coes bren - Hogia'r Deulyn
4. Blaenau Ffestiniog - Tebot Piws
5. Y Gwanwyn - Hogia'r Wyddfa
6. Diolch i ti - Tony ac Aloma
7. Yr Hogyn Pren - Tebot Piws
8. Gwylliaid Cochion Mawddwy - Huw Jones
9. Peintio'r byd yn wyrdd - Dafydd Iwan
10. Llond bola - Y Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog
Ymhlith y caneuon Saesneg, roedd:
Love Grows - Edison Lighthouse
I Want You Back - Jackson 5
Wand'rin' Star - Lee Marvin
Bridge Over Troubled Water - Simon and Garfunkel
Spirit in the Sky - Norman Greenbaum
Back ÃÛÑ¿´«Ã½ - Sgwad Cwpan y Byd Lloegr
In the Summertime - Mungo Jerry
All Right Now - Free
The Wonder of You - Elvis Presley
I Hear You Knocking - Dave Edmunds (Cymro a fyddai wedyn yn canu'r gitâr ar Gee Geffyl Bach, Dafydd Iwan)
CELFYDDYDAU
Yng Nghymru y lansiwyd y gwasanaeth ffonio barddoniaeth cyntaf' yng ngwledydd Prydain. Roeddech chi'n ffonio rhif a gwrando ar recordiad o gerdd.
Côr Poliffonig Caerdydd yn cynrychioli Cymru yn ffair y Byd yn Osaka, Japan, fel rhan o wyl Expo '70.
Gwasg Gomer yn cychwyn menter newydd yn hanes cyhoeddi llyfrau Cymraeg trwy ddarparu ar gyfer y Nadolig 4 llyfr clawr llipa yn gwerthu am goron yr un - un gan Islwyn Ffowc Elis ac un gan T. Llew Jones.
Ymhlith Llyfrau Cymraeg eraill yn siart Llyfrau'r Cymro, roedd Prynu Dol gan Kate Roberts a Basged y Saer, Robin Williams. Roedd un o nofelau Saesneg pwysica'r flwyddyn, A Winter in the Hills, gan John Wain, wedi ei gosod yn ardal Rhosgadfan.
Dechrau darlledu'r Eisteddfod Genedlaethol mewn lliw. Tomi Evans yn ennill y Gadair gyda cherdd rydd gynganeddol i'r Twrch Trwyth.
Cafodd y dramodydd Saunders Lewis ei enwebu ar gyfer Gwobr Lenyddiaeth Nobel - yn aflwyddiannus.
FFILMIAU
Roedd M*A*S*H a Catch 22 yn ddwy ffilm sardonig a dychanol am brofiadau rhyfel yr Unol Daleithiau - y naill mewn ysbyty rhyfel yn Korea a'r llall wedi ei seilio ar nofel Joseph Heller.
Dechreuodd y canwr Mick Jagger ar yrfa (fer) mewn ffilmiau, gan actio'r prif ran yn Ned Kelly.
Cafodd yr actores Glenda Jackson, sydd bellach yn aelod seneddol, glod mawr am ei rhan yn y ffilm o nofel D.H. Lawrence, Women in Love.
Un o'r ffilmiau mwya' poblogaidd yn sinemâu Cymru oedd Butch Cassidy and the Sundance Kid, gyda Paul Newman a Robert Redford yn actio dau leidr yn y Gorllewin Gwyllt. Ond roedd ffilm gowbois Andey Warhol, Lonesome Cowboys, ychydig yn wahanol - roedd y cowbois i gyd yn hoyw a'r sheriff yn gwisgo bicini du.
TELEDU
Daeth Owen Edwards yn Bennaeth Rhaglenni ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru i ddilyn Aneirin Talfan Davies.
Cafodd yr Eisteddfod Genedlaethol ei darlledu mewn lliw am y tro cyntaf. Cafodd y cynulleidfaoedd weld Tomi Evans yn cipio'r gadair am gerdd rydd gynganeddol a Bryan Martin Davies yn cael y gyntaf' o'i ddwy goron.
Dechreuodd y gomedi Fo a Fe - un o'r comedïau mwya' llwyddiannus erioed yn Gymraeg. Ryan Davies a Guto Roberts, Rhoslan, oedd yn y prif rannau, gyda Clive Roberts a Gaenor Morgan Rees.
Ar deledu Saesneg, roedd hi'n flwyddyn dda i gomedi hefyd gyda chyfresi fel:
Morecambe and Wise; Steptoe and Son; Dad's Army; Monty Python's Flying Circus; Peter Cooke a Dudley Moore.
Ychydig yn fwy sylweddol, un o gonglfeini teledu Cymraeg oedd Dan Sylw, y rhaglen drafod a materion cyfoes gyda Gwyn Erfyl.
CHWARAEON
Brasil oedd enillwyr Cwpan Bêl-droed y Byd, gan ei chipio am y trydydd tro a chael yr hawl i gadw Tlws Jules Rimet. Y ffeinal, pan enillodd Brasil o 4-1 yn erbyn yr Eidal oedd un o'r goreuon erioed ac, yn ôl llawer, tîm Brasil oedd y gorau erioed hefyd, gyda Pelé yn amlwg. Collodd Lloegr 3-2 i Orllewin yr Almaen yn rownd yr wyth ola'.
Muhammad Ali (Cassius Clay) yn curo Jerry Quarry yn ei ornest gyntaf' ers 3½ blynedd.
Lloegr gafodd y nifer fwyaf o fedalau yng Ngemau'r Gymanwlad yng Nghaeredin, gyda Awstralia'n 2il a Canada'n 3ydd. Roedd Cymru'n gydradd 7fed gyda 12 medal - yn eu plith, aur am y naid hir i Lynn Davies (eto), arian i'r paffiwr o Fangor, David Davies, ac i'r codwr pwysau o Gaernarfon, Ieuan Owen.
Dycnwch - Y tenor Washington James oedd un o dîm ralio Cymru a gymerodd ran mewn rali o Lundain i Mecsico, gan deithio 23,000 o filltiroedd trwy Ewrop a De America. Nhw oedd y nawfed i gyd a'r trydydd o wledydd Prydain. A Mair Leonard o Abertawe oedd y wraig gyntaf' i nofio o'r Mwmbwls i Borthcawl.
Enillodd Ray Reardon o Gymru Bencampwriaeth Snwcer Proffesiynol y Byd am y tro cyntaf' - y gyntaf' o chwe buddugoliaeth yn ystod y 70au. Ond y neidiwr ceffylau, David Broome, oedd Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn yng Nghymru.
GWYDDONIAETH
Yn Japan, dyfeisiwyd pram gyda thraciau yn lle olwynion, er mwyn ei gwneud hi'n haws mynd tros stepiau.
Dechreuodd yr heddlu ddefnyddio lluniau Photofit i ddal drwgweithredwyr.
Cafodd rhai pobl yn Pittsburgh, yn yr unol Daleithiau setiau ffôn oedd yn gadael ichi weld y person ar y pen arall. Gyda llaw, roedd 14 miliwn o setiau ffôn yng ngwledydd Prydain a defnyddiwyd y term "band llydan" i ddisgrifio gwifrau oedd yn gallu cario miloedd o alwadau ar yr un pryd.
Tynnwyd lluniau o atomau am y tro cyntaf' erioed, gyda meicrosgop oedd yn chwyddo 5 miliwn o weithiau.
Dechreuodd gwyddonwyr arbrofi gyda cheir oedd yn rhedeg ar stêm a chyflwynwyd y bagiau awyr cyntaf' i wella diogelwch.
FFORDD O FYW
Ymhlith y ceir newydd, roedd y Range Rover a'r Hillman Avenger.
Dangosodd ffigurau a gyhoeddwyd ym mis Ionawr mai £34.40 oedd incwm wythnosol pob unigolyn ar gyfartaledd, cyn trethi ac yswiriant.
Yn ôl ffigurau eraill, roedd gwario wythnosol teulu Prydeinig nodweddiadol wedi codi I £28.57. gyda 25.7% o hynny yn mynd ar fwyd. Roedd 48% o deuluoedd heb geir, 35% heb beiriant golchi a 65% heb deleffôn.
Rhybuddiodd y Cenhedloedd Unedig y byddai poblogaeth y byd yn codi i 7 biliwn erbyn 2000. Roedden nhw'n rhu uchel o 1 biliwn.
Daeth set newydd o lythrennau'n bwysig ym mywyd Cymru wrth i'r ganolfan drwyddedu ceir, y DVLC, agor yn Nhreforys Abertawe. Ond caeodd y pwll yng Nglyncorrwg (yr ola' yn Nghwm Afan) a Chwarel Dorothea yn Nyffryn Nantlle.
Newidiodd strydoedd Caerdydd unwaith ac am byth, wrth i'r bws troli olaf wneud ei daith olaf yn y ddinas.
Ffasiwn - Y prif ffasiynau oedd Lês 'see through', sgertiau midi-maxi, crysu T hir wedi'u gwisgo fel ffrogiau mini fel arfer gyda llun o gymeriad Disney arnyn nhw. Roedd dillad sipsiwn hefyd yn boblogaidd - ffrogiau a sgertiau llawn, hyd midi, topiau Hwngaraidd. mwclis pren, clustdlysau mawr a sgarffiau rownd y pen.
Mae llyfr siopa a gadwyd gan wraig leol yn dangos pris pethau yn siopau Llanbed: Menyn - 4/- (20c) y pwys; 20 Embassy - 5/3 (26c); Pwys o siwgr 9½d (4c); hanner dwsin o wyau - 7/6 (37½c); Tun mawr o corned beef - 5/4 (26½c).
MARWOLAETHAU
Roedd Ionawr yn fis creulon, wrth i bedwar Cymro mawr gael eu colli:
D.J. Williams - ar ôl annerch cyfarfod yn ei Filltir Sgwâr yn Rhydcymerau, lle bu'n annog pobol i brynu Y Cymro a'r Faner.
Y cyn-Archdderwydd Cynan - Syr Albert Evans-Jones - yn 75 oed. Roedd wedi mynd o fod yn dipyn o rebel i fod yn un o bileri'r Sefydliad Cymraeg.
Sylfaenydd yr Urdd a'r dyn a wnaeth y ffilm lafar gynta' yn Gymraeg, Syr Ifan ab Owen Edwards.
Trefor Morgan, sylfaenydd cwmni yswiriant Undeb ac un o noddwyr mwya' cenedlaetholdeb Gyrmaeg.
Bu farw dau o eiconau'r byd roc Saesneg yn sydyn o gyffuriau - y gitarydd croenddu, Jimi Hendrix a'r gantores gyda'r llais cras, Janis Joplin.
Ymhlith y marwolaethau nodedig eraill, roedd:
Charles de Gaulle, cyn-Arlywydd Ffrainc
Abdel Nasser, Arlywydd yr Aifft
E. M. Forster, y nofelydd
Erle Stanley Gardner, y nofelydd ditectif
Gypsy Rose Lee, y stripar
 |
 |
 |
 |
|


[an error occurred while processing this directive]
[an error occurred while processing this directive]
[an error occurred while processing this directive]
|