 |
 |
 |
Dyma 1971 Y penawdau, y pethau, y bobl |
 |
 |
 |
Clicwch ar bwnc:
Cymru Y Byd Cerddoriaeth Celfyddydau Ffilmiau Teledu Chwaraeon Gwyddoniaeth Ffordd o Fyw Marwolaethau
CYMRU
Sefydlu Cymdeithas Tai Gwynedd ym mis Ionawr - ymgais gan Dafydd Iwan ac eraill i gynnig tai i bobol leol.
Mis Ebrill - 6 dyn yn cael eu lladd ym mhwll glo Cynheidre ger Llanelli gan nwy. 25 arall wedi eu hanafu.
Agorwyd Llwybr Clawdd Offa - tro ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a'r ail Lwybr Cenedlaethol yng Nghymru.
Cafwyd dau o'r achosion mwya' eto yn erbyn Cymdeithas yr Iaith - achos cynllwyn yn erbyn wyth o'r arweinwyr yn Abertawe ac achos mwy wedyn yn erbyn 17 o aelodau yn yr Wyddgrug ym mis Medid - 14 am ddringo mastiau teledu a thri am achosi difrod yn stiwdios Granada ym Manceinion. Cafodd Ffred Ffransis ddwy flynedd o garchar ac eraill flwyddyn a chwe mis.
Rhwyg yn dechrau datblygu rhwng Cymdeithas yr Iaith a mudiad Adfer, dan arweinyddiaeth Emyr Llywelyn. Byddai'r croesdynnu'n parhau am ddeng mlynedd a mwy.
Gorffen adeiladu Atomfa'r Wylfa yn Ynys Môn - ail atomfa Cymru.
Bu gostyngiad mwya'r ganrif yn nifer y bobol oedd yn gallu siarad Cymraeg yng Nghymru yn ôl y Cyfrifiad (gostyngiad o 5% i lawr i ychydig tros 20%).
Sefydlwyd Cymdeithas Ysgolion Meithrin Cymru a fyddai wedyn yn datblygu yn Fudiad Ysgolion Meithrin.
Achub traeth Cefn Sidan rhag cael ei droi'n faes tanio i'r fyddin ac achubwyd Cwm Senni rhag cael ei foddi.
Ddiwedd y flwyddyn, cafodd Ynys Enlli ei gwerthu am £95,000 gan yr Arglwydd Newborough, i foneddigyn arall, Michael Pearson.
Y BYD
Ar ail ddiwrnod y flwyddyn, cafodd 66 o bobol eu lladd a 145 eu hanafu mewn trychineb ym Mharc Ibrox, cae pêl-droed Rangers yn Glasgow. Chwalodd grisiau adeg gêm yn erbyn yr hen elyn, Celtic.
Ar y trydydd dydd, dechreuodd y Brifysgol Agored i gynnig addysg trwy'r post ac ar y teledu.
Trwbwl at y dyfodol - llwyddodd Idi Amin i gipio grym yn Uganda, gan ddisodli'r Arlywydd, Milton Obote. Hwn fyddai un o unbeniaid mwya' creulon y 70au.
Ar Chwefror 15, daeth arian degol i wledydd Prydain gan ddisodli'r bunt, y swllt, a'r geiniog.
Cafwyd golygfeydd dramatig wrth i losgfynydd Etna ffrwydro yn Sisili yn yr Eidal. Er fod y ffrwydradau wedi parhau am wyth wythnos a mwy a gwneud gwerth £3 miliwn o ddifrod (yn arian y cyfnod), chafodd neb ei ladd.
Ym mis Awst, ar ôl misoedd o drais, y cafwyd y diwrnod gwaetha' yn hanes terfysgoedd Gogledd Iwerddon - 12 o bobol gyffredin a 2 filwr yn cael eu lladd, mwy na 100 o adeiladau'n cael eu rhoi ar dân. Sefydlwyd gwersylloedd i ffoaduriaid o ardaloedd Catholig yng Ngweriniaeth Iwerddon. Ond, ym mis Rhagfyr cafwyd gwaeth a 15 yn cael eu lladd mewn ffrwydriad mewn tŷ tafarn.
Bu'r ddamwain waethaf ar draffordd ym Mhrydain yn digwydd ar yr M6 ger Caer. 200 o geir yn rhan o'r 'pile up'. Lladd 10 a 70 yn cael eu hanafu.
Parhaodd y ras yn y gofod - llwyddodd dwy roced o'r Unol Daleithiau i osod rhagor o ddynion ar y lleuad ond cychwynnodd y Rwsiaid am Mars a llwyddodd tri o'u gofodwyr i gylchdroi o amgylch y ddaear am dair wythnos yn yr orsaf ofod gyntaf' cyn cael eu lladd pan ddihangodd eu hawyr.
Roedd yr ymladd yng Nghambodia wedi parhau ar hyd y flwyddyn ... yn ogystal â'r protestiadau yn erbyn presenoldeb yr Unol Daleithiau yn Fietnam. Erbyn diwedd y flwyddyn, roedd llai o Americanwyr yno nag ar un adeg ers 1966 - bron 200,000 o filwyr.
Ym mis Rhagfyr, cafwyd rhyfel rhwng India a Pacistan tros Bangladesh. Ar ôl 14 diwrnod, India'n cyhoeddi fod Bangladesh yn rhydd.
CERDDORIAETH
Heather Jones yn canu un o glasuron y Gymraeg, Colli Iaith, am y tro cyntaf' ar raglen deledu o farddoniaeth y bardd, Harri Webb. Y gerddoriaeth gan Meredydd Evans.
Ond hit annisgwyl y flwyddyn oedd Pererin Wyf - y gantores groenddu, Iris Williams, yn canu geiriau Williams Pantycelyn ar alaw draddodiadol, Amazing Grace.
Dechreuodd Endaf Emlyn ganu am y tro cynta' ers pan oedd yn foi soprano a daeth enw newydd arall i'r amlwg, cyn-lowr ifanc o'r enw Max Boyce, gyda record hir, Duw 'Na Le.
Dewi Pws yn ennill cystadleuaeth y rhaglen deledu Disc a Dawn (Cân i Gymru) efo Breuddwyd (Nwy yn y Nen). Eleri Llwyd, gwraig yr AS Elfyn Llwyd erbyn hyn, yn canu.
Deg Uchaf Y Cymro ym mis Rhagfyr oedd:
1. Mae rhywun wedi dwyn fy nhrwyn - Tebot Piws
2. Tony ac Aloma
3. Pam fod eira yn wyn? - Dafydd Iwan
4. Pererin Wyf - Iris Williams
5. Colli Iaith - Heather Jones
6. Mr Pwy a ŵyr - Hogia'r Wyddfa
7. Llwch y Ddinas - Y Triban
8. Nadolig? Pwy a ŵyr - Ryan Davies
9. Ble mae f'anwylyd? - Tony ac Aloma
10. Coed y maes - Janet Rees (a fu ar Opportunity Knocks yn ystod y flwyddyn)
Mick Jagger, canwr y Rolling Stones, yn priodi Bianca Perez Morena de Maccias yn St Tropez.
Y canwr, Frank Sinatra, yn codi $800,000 i elusennau mewn dau gyngherdd 'ffarwel' mewn dwy theatr yn Los Angeles.
LP y flwyddyn oedd Led Zeppelin IV gyda chaneuon fel Stairway to Heaven. Oedd gan y band gysylltiadau Cymreig a daeth y canwr, Jimmy Page, i fyw i'r Canolbarth.
Roedd caneuon mwya' llwyddiannus y flwyddyn yn dangos symudiad oddi wrth y bandiau gitâr at ddechreuadau glam rock:
My Sweet Lord - George Harrison
Baby Jump - Mungo Jerry
Hot Love - T Rex
I Did What I Did for Maria - Tony Christie (ie, fo!)
Chirpy Chirpy Cheep Cheep - Middle of the Road
Get It On - T Rex
I'm Still Waiting - Diana Ross
Reason To Believe/Maggie May - Rod Stewart
Coz I Luv You - Slade
Ernie (The Fastest Milkman in the West) - Benny Hill.
CELFYDDYDAU
Yr awdures, Kate Roberts, yn rhoi ei hen gartref, Cae'r Gors, i'r genedl. (Bellach yn cael ei ddatblygu'n ganolfan dreftadaeth).
Cyhoeddi tri llyfr nodedig - Welsh is Fun gan Heini Gruffudd, ffenomenon yn y byd dysgu Cymraeg gyda chartwnau a jôcs, a The Welsh Extremist, llyfr diffiniol Ned Thomas am yr ymgyrch iaith a chenedlaetholdeb ddiweddar, ac Aros Mae, fersiwn Gwynfor Evans o hanes Cymru.
Cafwyd taith gyntaf y pantomeim Cymraeg - Mawredd Mawr, gyda Dewi Pws, Rosalind Lloyd, Dyfan Roberts ac eraill.
Roedd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor ar dir Castell y Penrhyn: Cadair arall i Emrys Roberts a choron arall i Bryan Martin Davies ... Sachliain a Lludw yn sioe roc gyntaf', Y March Hud oedd cyfrol farddoniaeth gyntaf' Alan Lloyd Roberts (Alan Llwyd wedyn), a'r darlledwr Vaughan Hughes a ffrind yn cyfadde'' mai dywediadau oddi ar gefn bocs matsus oedd mewn cerdd a ddaeth i'r deg uchaf am y Goron.
Ym myd celfyddyd gain, cafodd lluniau enwog Andy Warhol o Marilyn Monroe eu gweld am y tro cyntaf'.
TELEDU
Cafodd siaradwyr Cymraeg fersiwn deledu o nofel Marion Eames, Y Stafell Ddirgel - gyda John Ogwen, Lisabeth Miles ac eraill.
Rhoddodd Hywel Gwynfryn a Derek Boote gynnig ar sioe gomedi arall, Dau a Hanner - yr hanner oedd yr actores, Maureen Rhys.
Un o lwyddiannau comedi'r flwyddyn ar deledu Saesneg oedd The Liver Birds, am ddwy ferch ifanc yn Lerpwl. Ond Cymraes Gymraeg, Nerys Hughes, oedd yn actio un ohonyn nhw.
Yn Saesneg hefyd, dyma flwyddyn y Tuduriaid - daeth The Six Wives of Henry VIII i ÃÛÑ¿´«Ã½ 1 ar ôl cael ei dangos ar ÃÛÑ¿´«Ã½2 yn 1970 a chafodd ei dilyn gan Elizabeth R - am ei ferch. Yn honno, roedd Glenda Jackson (yr AS bellach) yn y brif ran. (Cafodd y gyfres ei dangos ddwywaith oherwydd ei bod wedi cael ei darlledu y tro cyntaf' yr un pryd â Sportsnight with Coleman a doedd llawer o wragedd ddim wedi cael yr hawl i'w gweld.)
Bore Da oedd yn deffro siaradwyr Cymraeg ar y radio, gyda'r newyddiadurwr, T. Glynne Davies wrth y meic. Dewch i'r Llwyfan oedd un o'r rhaglenni radio mwya' poblogaidd - math o Waw Ffactor cynnar - Einir Wyn Owen o Rwilas oedd yr enillydd, gyda'r canwr, Trebor Edwards, a'r adroddwraig, Eiry Palfrey, ymhlith y cystadleuwyr.
FFILMIAU
Er fod y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg wedi ei ffurfio, doedd dim ffilmiau mawr yn yr hen iaith yn 1971 ... ond cafodd pobol Abergwaun ffodd i fyw wrth i Richard Burton ac eraill yn dod i'r hen harbwr i ffilmio Under Milk Wood.
Roedd yna gynnwrf yn ardal Ffestiniog a Maentwrog hefyd gyda ffilmio antur rywiol o'r enw Danny Jones (y ddarpar-gyflwynwraig rhaglenni plant, Jenny Hanley, oedd un o'r sêr). Ond doedd honno'n ddim wrth y noethni a'r trais yn The Devils, gan Ken Russell.
Ffilm gyda chysylltiad Cymreig hollol wahanol oedd 10 Rillington Place am y llofruddiaethau enwog ger Paddington, pan gafodd y Cymro, Timothy Evans, ei grogi ar gam.
Cân fawr y flwyddyn yn y sinema oedd y thema i'r Bond ddiweddara', Diamonds are Forever - gyda'r Gymraes, Shirley Bassey yn canu.
Ond ffilm fwya' llwyddiannus y flwyddyn oedd y dagreuol Love Story, a doddodd galonnau, gyda Ryan O'Neal, ac Ali McGraw yn actio gwraig ifanc gyda chanser.
CHWARAEON
Cymru'n ennill y Gamp Lawn mewn rygbi gan ddechrau ar Oes Aur newydd. Y Cymry'n asgwrn cefn Enillwyd gêm yr Alban o un pwynt gyda chic gan y blaenasgellwr John Taylor o'r ystlys dde. Y Llewod wrth iddyn nhw guro Seland Newydd mewn cyfres am y tro cyntaf', dan arweiniad yr hyfforddwr o Gefneithin, Carwyn James.
Joe Frazier yn ennill pencampwriaeth bocsio pwysau trwm y byd ar ôl curo Muhammad Ali. Dechrau ar gyfres o ornestau cofiadwy.
Y joci o Dalgarth, Geoff Lewis, yw'r Cymro cyntaf' i ennill ras Y Derby. Mill Reef oedd enw'r ceffyl.
Y pêl-droediwr, Pele, yn gwneud ei ymddangosiad ola' dros ei wlad mewn gêm Brasil yn erbyn Yugoslavia. Roedd wedi sgorio mwy na 1,000 o goliau yn ystod ei yrfa - y chwaraewr gorau erioed, meddai llawer.
Enillodd Arsenal y Dwbl, gyda'r hirwallt Charlie George yn sgorio'r gôl fuddugol yn ebryn Lerpwl yn rownd derfynol Cwpan yr FA. Dim ond Spurs oedd wedi gnweud y dwbwl cyn nhw yn ystod y ganrif gyfan.
Seicolegydd, Nicolette Milnes-Walker o Gaerdydd oedd y ddynes gyntaf' i hwylio ar ei phen ei hun heb stopio ar draws môr yr Iwerydd (o Dale, Sir Benfro i Newport, Rhode Island)
... a sefydlwyd Cyngor Chwaraeon Cymru i hybu chwaraeon a dosbarthu arian cyhoeddus i'r maes.
GWYDDONIAETH
Dechreuodd pobl ddefnyddio CCTV.
Dechreuwyd ar drawsnewid byd cyfrifiaduron gyda dyfeisio'r meicrobrosesydd a'r sgrîn hylif crisial - liquid crystal display.
Trawsnewidiwyd y gegin hefyd, pan ddyfeisiwyd y prosesydd bwyd.
Ac roedd chwyldro ar y ffordd ym myd teledu gyda'r peiriant recordio fideo cyntaf' erioed.
Agorwyd Ysbyty Prifysgol Caerdydd.
FFORDD O FYW
Recordiwyd y tymheredd ucha' erioed yng ngwledydd Prydain ym mis Ionawr, yn Abergwyngregyn ger Bangor - 18.3 gradd Celsiws.
Yn Sydney, Awstralia, cafodd Mrs Leonard Brodrick naw babi yr un pryd, ond bu farw'r cyfan o fewn wythnos.
Clociau ym Mhrydain yn dychwelyd i'r G.M.T ar ôl 3 blynedd o arbrawf o 'British Standard Time'.
Cododd incwm y Frenhines o £475,000 y flwyddyn i £980,000. Felly, byddai hi wedi gallu fforddio talu £60 - pris pythefnos ym Melita - neu grws yn y Môr Canoldir am £141. Ac, yn sicr, gallai fod wedi fforddi gwely a brecwast gyda'r teulu Owen yn Shepherd's Bush am ddim ond 75 ceiniog y noson.
Llythyr yn yr Herald Cymraeg yn dweud fod un o'r llywodraethwyr mewn ysgol yn Sir Gaernarfon dros ei 100 oed.
Roedd ceir newydd y flwyddyn yn amrywiol (!) o'r Fiat 127 a'r Morris Marina di-fflach i'r Jaguar E-type newydd a'r Rolls Royce Corniche.
Gorffennwyd yr M4 yr holl ffordd o dde Cymru i Lundain.
Ffasiwn: I fenywod, hon oedd blwyddyn yr hot pants. Hot pants ym mhob lliw a phatrwm dan haul ac, wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen, aeth yr hot pants yn fyrrach. I ddynion a merched, y nod oedd cael jîns newydd oedd yn edrych mor hen â phosib!
Roedd hi'n flwyddyn dda o ran statws yr iaith - mae'n debyg mai priodas Alun Evans a Davena Evans ym Mheniel, Abertawe oedd y gynta' i'w chofrestru yn Gymraeg a daeth y dystysgrif prawf car ar gael yn Gymraeg hefyd.
Yn union cyn y Nadolig, roedd gan Swyddfa'r Post hysbysebion yn ypapurau newydd yn gofyn i bobol ddeialu rhifau ffôn yn uniongyrchol yn hytrach na mynd trwy'r cyfnewidfeydd - er mwyn i'r teleffonyddion gael gwyliau!
Agorwyd canolfan Disney World yn Yr unol Daleithiau.
MARWOLAETHAU
Marwolaeth fwya'r flwyddyn yng Nghymru oedd colli'r bardd a'r heddychwr, Waldo Williams.
Hefyd bu farw T.E. Nicholas, y bardd, y sosialydd a'r deintydd, a oedd yn well sonedwr nag oedd o dynnwr dannedd.
Gyda marwolaeth Ifan Gruffydd ( Y Gŵr o Basradwys), o bentre' Paradwys yn Ynys Môn, diflannodd talp o hen ffordd o fyw.
Collwyd dau arlunydd pwysig hefyd - Ceri Richards, un o ffrindiau Dylan Thomas, a Brenda Chamberlain o Fangor a fu'n byw, yn sgrifennu ac arlunio yn Ynys Enlli.
Angladd fawr y flwyddyn oedd un y trwmpedwr jazz, Louis Armstrong, yn Efrog Newydd.
Ymhlith y marwolaethau eraill, roedd:
Nikita Khrushchev, Arlywydd yr Undeb Sofietaidd
Jim Morrison, canwr carismatiadd The Doors
Harold Lloyd, un o gomed
Jim Morrison, canwr carismatiadd The Doors
Harold Lloyd, un o gomedïwyr y ffilmiau tawel
Coco Chanel, y ddynes ffasiwn
Y paffiwr Sonny Liston, a gollodd i Cassius Clay
Papa Doc Duvalier, Arlywydd Haiti
 |
 |
 |
 |
|


[an error occurred while processing this directive]
[an error occurred while processing this directive]
[an error occurred while processing this directive]
|