Michael Jackson, 1972
Beth yw eich atgofion chi o 1972? Cyfrannwch i'r dudalen hon drwy anfon eich atgofion atom - ewch i waelod y dudalen
1972 oedd blwyddyn Eisteddfod Hwlffordd a thra roedd Dafydd Rowlands yn cyflawni'r dwbwl gyda'r Goron a'r Fedal Ryddiaith ron ni'n cael trafferth canfod rhywle sych i gysgu. Mi ddechreuis mewn pabell cyn symud ymlaen at sedd flaen Austin A35 ac yna i ysgubor cyfagos. Doedd yr un ohonyn nhw yn dal dwr a'r unig loches sych cyfleus oedd cell yr heddlu.Un o sgil effeithiau ymuno a phrotest Cymdeithas yr Iaith yn erbyn arwyddion ffyrdd uniaith Saesneg oedd noson yng nghwmni heddweision Hwlffordd. O leia nes i'm gwlychu!! John Hardy, Bangor
 |