 |
 |
 |
Dyma 1972 Y penawdau, y pethau, y bobl |
 |
 |
 |
Clicwch ar bwnc:
Cymru Y Byd Cerddoriaeth Celfyddydau Ffilmiau Teledu Chwaraeon Gwyddoniaeth Ffordd o Fyw Marwolaethau
CYMRU
Ym mlwyddyn cyhoeddi Maniffesto Cymdeithas yr Iaith Gymraeg - dogfen hanesyddol - cafwyd buddugoliaeth yn yr ymgyrch arwyddion, gydag Adroddiad Bowen yn argymell eu codi'n ddwyieithog. Dechreuodd dwy ymgyrch arall - yn erbyn tai haf a'r ymgyrch bysgota, yn erbyn perchnogaeth 'estron' o hawliau pysgota.
Roedd yr Urdd yn dathlu ei Jiwbilî yn 50 oed - codwyd cerflun o O.M. Edwards a Syr Ifan ab Owen Edwards yn Llanwuchllyn ac roedd Eisteddfod y Jiwbilî yn y Bala.
Ym mis Ebrill, cafwyd yr ola' mewn cyfres o isetholiadau mawr yn y Cymoedd, gyda Ted Rowlands (Llafur) yn curo Emrys Roberts (Plaid Cymru) o fwy na 3,500 o bleidleisiau ym Merthyr Tudful.
Bu rhaid chwalu 80 o dai yng Ngodre'r Graig, Cwm Tawe, ym mis Mawrth oherwydd peryg fod mynydd yn llithro.
Cafwyd ymgyrch i achub ysgol Llanaelhaearn ym Mhen LlÅ·n, dan arweiniad y meddyg lleol, Carl Clowes. O hyn y tyfodd Antur Aelhaearn a Chanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn (ac, erbyn diwedd y flwyddyn, daeth y Nant ar werth).
Dechreuwyd adeiladu ysbyty newydd ym Modelwyddan - Ysbyty Glan Clwyd.
Ddechrau'r flwyddyn, roedd streic gan y glowyr wedi arwain at golli trydan a chau ysgolion ac adeiladau cyhoeddus eraill yng Nghymru... yn ddiweddarach, torrwyd yr wythnos waith i dridiau er mwyn arbed ynni. Bu streic gan actorion hefyd am fod rhaglenni teledu Cymraeg yn cael eu symud i Birmingham.
Agorwyd maes awyr Cymru-Caerdydd, atomfa'r Wylfa a chronfeydd Llyn Brianne, yn y mynyddoedd rhwng Tregaron a Llanymddyfri, a Llysyfran yn Sir Benfro.
Protest fawr y flwyddyn oedd honno yn erbyn yr Arglwydd Ganghellor, yr Arglwydd Hailsham, ym Mangor ar ôl iddo ymosod ar Gymdeithas yr Iaith. Roedd posteri'n gwneud defnydd eang o enw iawn yr Arglwydd, Quintin Hogg.
Wrth i Idi Amin yrru Asiaid o Uganda, daeth 1,500 o'r ffoaduriaid i wersyll Tonfannau ger Tywyn.
Y BYD
Parhaodd y trais yng Ngogledd Iwerddon a chafwyd un o'r digwyddiadau enwoca' - Bloody Sunday yn Derry, pan laddwyd 13 o bobol gan filwyr, yn ystod gorymdaith. Cafwyd Bloody Friday hefyd, pan laddwyd naw o bobol mewn ffrwydradau gan yr IRA.
Ddechrau'r flwyddyn, arwyddodd y Prif Weinidog, Edward Heath, y cytundeb i fynd â'r Deyrnas Unedig i mewn i'r Farchnad Gyffredin. Byddai refferendwm yn dilyn yn 1973.
Mae llawer o sôn am y dynion cyntaf ar y lleuad - yn 1972 y glaniodd y dynion ola' yno, wrth i raglen Apollo ddod i ben gydag Apollo 17.
Achos llygredd - John Poulson o Swydd Efrog yn cyfaddef ei fod wedi rhoi symiau mawr o arian i Aelodau Seneddol. Ymchwiliad heddlu'n arwain at ymddiswyddiad un ohonyn nhw, yr Ysgrifennydd Cartref, Reginald Maudling.
Cafwyd streic gan ddocwyr, a streiciau answyddogol a gaeodd y prif bapurau newydd ar ôl i bum dociwr gael eu carcharu am 'flacio' cwmni yn Llundain.
Cafwyd damwain awyren waetha' gwledydd Prydain hyd hynny pan laddwyd 118 ger Heathrow. Ym mis Hydref, cafwyd y ddamwain waetha' yn y byd, pan laddwyd 176 ar awyren o Rwsia.
Ym mis Medi, roedd y Gêmau Olympaidd yn y penawdau - nid oherwydd chwaraeon ond am fod 11 o athletwyr Iddewig wedi eu cipio a'u lladd gan derfysgwyr Palestinaidd, y Black September. Cyn hynny, roedd 32 o wledydd Affrica wedi bygwth tynnu'n ôl o'r gêmau os oedd Rhodesia'n cael cystadlu.
Agorwyd dau adeilad tala'r byd ar y pryd - dau dŵr Canolfan Fasnach y Byd yn Efrog Newydd. Gwnaed nhw gyda sylfeini mwy na 70 troedfedd ond heb bileri y tu mewn.
Cafwyd damwain awyren a arswydodd (a chyffroi chwilfrydedd) - bu raid i rai o'r goroeswyr yn y ddamwain ym mynyddoedd yr Andes yn Ne America fwyta cyrff rhai a fu farw, er mwyn cadw'n fyw.
Daeth un o gymeriadau mawr gwleidyddiaeth Prydain i'r amlwg, wrth i'r anferth Cyril Smith ennill isetholiad i'r Rhyddfrydwyr yn Rochdale. Cyn iddo ennill, y jôc oedd fod holl ASau'r Rhyddfrydwyr yn ffitio i un tacsi, ond ar ôl iddo ennill, fod
CERDDORIAETH
Un o ganeuon y flwyddyn oedd D'yn ni ddim yn mynd i Birmingham, gan y Tebot Piws, yn dathlu'r gwrthwynebiad i recordio rhaglenni teledu Cymraeg dros y ffin.
Aeth dau gerddor ifanc, Dafydd Meirion, ac Alun 'Sbardun' Hughes, ati i sefydlu cylchgrawn pop newydd, Sŵn - llai parchus nag Asbri.
Tony ac Aloma yn chwalu - Aloma'n ymuno â'r Henesseys - a'r Tebot Piws yn dod i ben.
Cyhoeddodd Meic Stevens ei record hir gyntaf', Gwymon, a daeth yn glasur, gyda chaneuon fel Merch o'r Ffatri Wlân, Gwely Gwag a Ddaeth Neb yn ôl.
Deg Uchaf Y Cymro: Rhagfyr 21 1972
1. Deg o ganeuon - Hogia'r Wyddfa
2. Yma mae Nghân - Dafydd Iwan
3. Tecel - Hogia'r Wyddfa
4. Gorau Cymro Cymro Oddi Cartref - Dafydd Iwan
5. O Iesu Mawr - Perlau Taf.
6. Mae Pawb yn Chwarae Gitar - Hogia'r Wyddfa
7. O na le - Max Boyce
8. Cadwaladr - Galwad y Mynydd
9. Gwymon - Meic Stevens
10. Lliwiau - Sidan
Yn Saesneg, daeth bandiau i'r arddegau yn boblogaidd, er enghraifft T. Rex a Slade. O America, daeth David Cassidy (seren y rhaglen deledu The Partridge Family). The Jackson Five a The Osmonds (sydd, mae'n debyg, o dras Cymreig).
Paul McCartney yn ffurfio Wings, efo'i wraig Linda ar yr allweddellau. Ond siomedig oedd yr ymateb.
Rhifau Un y flwyddyn yn Saesneg oedd:
Ernie (The Fastest Milkman in the West) - Benny Hill
I'd Like to Teach the World to Sing - New Seekers
Telegram Sam - T. Rex
Son of my Father - Chicory Tip
Without You - Nilsson (wedi ei sgrifennu'n rhannol gan Gymro o'r enw Pete Ham o Abertawe)
Amazing Grace - Royal Scots Dragoon Guards Band (efo bagbibau)
Metal Guru - T. Rex
Vincent - Don McLean (i Van Gogh)
Puppy Love - Donny Osmond
School's Out - Alice Cooper
You Wear it Well - Rod Stewart
Mama Weer All Crazee Now - Slade
The Children of the Revolution - T. Rex
How Can I be Sure? - David Cassidy
Mouldy Old Dough - Lieutenant Pigeon (cân offerynnol)
Clair - Gilbert O'Sullivan
My Ding-a-Ling - Chuck Berry (denu cwynion gan yr ymgyrchwraig tros 'barchusrwydd', Mary Whitehouse)
Jimmy Osmond - Long Haired Lover From Liverpool
CELFYDDYDAU
Sefydlu Gwasg Gwynedd yn hen ysgol Nant Peris, gan Alwyn Elis a Gerallt Lloyd Owen. Cyn hynny, roedd Gerallt hefyd wedi cyhoeddi ei ail gyfrol o farddoniaeth - Cerddi'r Cywilydd.
Yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar faes awyr Llwynhelyg yn Hwlffordd, cafwyd pabell i'r dysgwyr am y tro cyntaf'. A gwnaeth Dafydd Rowlands y dwbwl, trwy ennill y Goron a'r Fedal Ryddiaith.
Daeth Elaine Morgan o Bontypridd yn enwog am ei llyfr, The Descent of Woman, yn rhoi lle mwy amlwg i ferched yn hanes esblygiad y ddynoliaeth. Roedd eisoes wedi sgrifennu sgriptiau i gyfresi teledu fel Maigret a Dr Finlay's Casebook.
Un o'r llyfrau Saesneg mwya' poblogaidd - Odessa File gan Frederick Forsyth. Marguerite Patten oedd Jamie Oliver ei dydd gydag International Cookery in Colour.
Arddangosfa fawr y flwyddyn oedd un Tutankhamun yn Llundain - i gofio 50 mlwyddiant ers canfod y trysorau yn yr Aifft.
TELEDU
Oddi ar y sgrîn yr oedd digwyddiadau mwya' dramatig teledu Cymraeg, gydag actorion yn streicio yn erbyn y bwriad i recordio rhaglenni teledu Cymraeg yn Pebble Mill, Birmingham. Cafodd cynulleidfaoedd eu bysio yno o Aberystwyth ar gyfer ail gyfres Fo a Fe.
Cyhoeddi y byddai gorsaf radio fasnachol leol gyntaf Cymru'n dod i Abertawe - Swansea Sound (Sain Abertawe).
Y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cyhoeddi eu bod am ddatblygu system teletestun - Ceefax yn ddiweddarach.
Y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cynnwys ail ddarllenydd newyddion ar y Nine O'Clock News - dechrau ffasiwn newydd, am gyfnod.
Ymhlith enillwyr gwobrau teledu'r flwyddyn, roedd Upstairs, Downstairs (am foneddigion a'u gweision), The Benny Hill Show, The Two Ronnies a The Rivals of Sherlock Holmes.
FFILMIAU
Roedd Under Milkwood, gyda Richard Burton, yn y sinemâu.
Ond ffilmiau antur caled oedd amlyca', gyda The French Connection, Dirty Harry (gyda Clint Eastwood) a'r ffilm fwya' llwyddiannus erioed hyd hynny, The Godfather, wedi'i seilio ar nofel Mario Puzo am y maffia. Gwnaeth $100 miliwn mewn 18 wythnos yn yr Unol Daleithiau.
Roedd yna gwyno am y trais yn A Clockwork Orange, fersiwn Stanley Kubrick o nofel Anthony Burgess
Ffilmiau rhad yn codi o gyfresi teledu oedd cyfraniad gwledydd Prydain, gyda Steptoe and Son yn fwy poblogaidd nag Up Pompeii, Dad's Army, And Now for Something Completely Different (Monty Python).
Dwy newydd mewn sioeau cerddorol - Twiggy yn The Boy Friend a Liza Minnelli, merch Judy Garland, oedd Sally Bowles yn Cabaret.
CHWARAEON
Daeth sioc i'r byd rygbi wrth i'r 'Brenin', y maswr, Barry John, gyhoeddi ei fod yn ymddeol. Ddiwedd y flwyddyn, cafodd y pêl droediwr George Best y sac o Manchester United.
Llwyddodd Llanelli gael buddugoliaeth enwog trwy guro'r Crysau Duon o 9-3, gyda chais gan y canolwr, Roy Bergiers. Enillodd Cymru'r bencampwriaeth, ond doedd dim gêmau yn erbyn Iwerddon oherwydd helyntion y Gogledd.
Billie Jean King yn ennill Wimbledon eto trwy guro ffefryn newydd, yr Awstraliad brodorol, Evonne Goolagong. Colli wnaeth y Rwmaniad tanllyd, Ilie Nastase, yn ffeinal y dynion, a hynny i'r cyn-filwr Americanaidd, Stan Smith.
Yn y Gêmau Olympaidd, roedd saith medal aur am nofio i Mark Spitz o'r Unol Daleithiau, medalau aur yn y 5,000 a'r 10,000 metr i'r rhedwr o'r Ffindir, Laase Viren, dwy aur yn y gymnasteg i'r ferch 15 oed o'r Undeb Sofietaidd, Olga Korbut, aur yn y pentathlon i Mary Peters o Ogledd Iwerddon ac aur yn y marchogaeth ceffylau i'r Cymro, Richard Meade.
Daeth dau aderyn drycin i'r amlwg - Alex Higgins yn ennill Pencampwriaeth Snwcer y Byd a'r rheolwr pêl-droed Brian Clough yn helpu Derby County i fuddugoliaeth annisgwyl yn y cynghrair pêl-droed.
GWYDDONIAETH
Dyfeisiwyd y prosesydd geiriau cynta' - a'r gêm fideo gyntaf hefyd; ei henw oedd Pong.
Awyren yr Airbus yn gwneud ei thaith gyntaf o faes awyr Blagnac, Toulouse.
Yn America, dyfeisiwyd system belydr X i'w defnyddio mewn meysydd awyr i edrych ar beth sydd mewn cesys - ymateb oedd hyn i'r bygythiad newydd o heijacio.
Roedd ofn troseddu hefyd yn sbarduno gwyddoniaeth; yn ystod y flwyddyn, dyfeisiwyd gwydr amhosib-ei-dorri, larwm personol rhag mygio, a system larwm uwch-sŵn i warchod adeiladau.
Roedd y Swyddfa Bost yn arbrofi gyda 3,000 o ffoniau botwm - gyda theipio rhifau yn lle defnyddio deial.
FFORDD O FYW
Erbyn dechrau'r flwyddyn, roedd bron chwarter y ceir a oedd yn cael eu gwerthu yng ngwledydd Prydain yn geir tramor. Ac fe gododd prisiau yn ofnadwy yn ystod y flwyddyn e.e. Morris 1100, £877 ddechrau'r flwyddyn i £943 erbyn ei diwedd.
Ymhlith y ceir newydd: y Vauxhall Victor, Triumph Dolomite a char cyflym gan Jensen-Healey. Ond daeth dau enw enwog - y Ford Zephyr a'r Ford Zodiac - i ben. Llwyddodd y Volkswagen Beetle i basio'r Model-T o ran gwerthiant ac ennill teitl y car mwya' poblogaidd erioed.
Cafwyd rhagor o drenau a math newydd o orsaf ar y lein reilffordd o dde Cymru i Lundain - agorwyd Bristol Parkway, gorsaf i arbed pobol rhag gorfod mynd i ganol y ddinas. Ond caeodd gorsaf Caernarfon a'r lein rhyngddi hi a Bangor.
Ffasiwn: Hir, llawn ffrils a benywaidd. Yr un peth mawr oedd y smoc - dros ffrogiau byr neu hir. Yn anffodus roedd topiau tanc di-lewys yn parhau'n ffasiynol i ddynion a merched. Yn waeth byth, daeth sgidiau platfform a chlocsiau di-gefn! A dechreuodd trowsusau dynion ledu i droi'n 'bags' gyda gwaelodion hyd at 28 modfedd.
Agorwyd Spaghetti Junction, y gyffordd draffyrdd fwya' yn Ewrop - a'r fwya' cymhleth hefyd.
Talwyd y pris ucha' erioed am lun gan y Cymro, Richard Wilson - £47,250 mewn arwerthiant gan Christie's.
Awgrymodd Comisiwn Cefn Gwlad Prydain y dylid troi mynyddoedd Cambria yn Barc Cenedlaethol - o afon Dyfi i ardal Llanfair ym Muallt. Roedd ffermwyr yn gwrthwynebu a chafodd y syniad ddim ei gadarnhau gan Ysgrifennydd Cymru. Ond agorwyd rhodfa geir trwy goedwig Cwmcarn yn Sir Fynwy - roedd gyrwyr yn talu 30c y car.
Cyhoeddodd y Bwrdd Cynhyrchu Trydan eu bod am adeiladu gorsaf drydan dŵr yn hen chwarel Dinorwig, Llanberis, yng nghrombil mynydd Elidir Fawr.
Roedd y Gêmau Olympaidd yn Munich yn costio £256 miliwn - pum gwaith yn fwy nag yn Rhufain yn 1960.
Cyhoeddodd yr Arglwydd Longford a'i gomisiwn adroddiad ar bornograffiaeth yn argymell cyfreithiau newydd.. Ymddiswyddodd rhai aelodau gan gynnwys dyn o'r enw Syr Robert Lusty.
MARWOLAETHAU
S.O. Davies y cyn-AS Llafur a safodd fel Llafur annibynnol ym Merthyr yn 1970 a churo'i hen blaid.
Bu farw'r canwr opera o Gymru, David Hughes, ar ddiwedd perfformiad o Madame Butterfly. Roedd wedi troi o fod yn ganwr pop i denor clasurol, Ac yntau'n ddim ond 43 oed, roedd ganddo yrfa addawol iawn.
Dug Windsor - Tywysog Cymru ac Edward VIII yn y 30au - yn marw ym Mharis. Ef oedd yr unig frenin modern i roi'r gorau i'r orsedd, tros ei briodas gyda divorcee, Wallis Simpson.
Ymhlith marwolaethau eraill y flwyddyn, roedd:
Maurice Chevalier, y canwr Ffrengig
Sir Francis Chichister, y cyntaf i hwylio ar ei ben ei hun o amgylch y byd
Henry Truman, cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau a'r un a benderfynodd ollwng y bomiau atomig ar Japan
J. Edgar Hoover, cyn -bennaeth enwoca'r FBI.
Y bardd Americanaidd, Ezra Pound
Yr actores, Margaret Rutherford
Charles Atlas, y dyn cryf chwedlonol
William Boyd - "Hoopalong Cassidy"
Chi-Chi, Y Panda Mawr, yn Sw Llundain.
 |
 |
 |
 |
|


[an error occurred while processing this directive]
[an error occurred while processing this directive]
[an error occurred while processing this directive]
|