John Hardy, 1973
Beth yw eich atgofion chi o 1973? Cyfrannwch i'r dudalen hon drwy anfon eich atgofion atom - ewch i waelod y dudalen
Bore Sadwrn yr ail o Ebrill, 1973 ro'n ni yn bwcis Bob Jones ym Mangor. Roedd hi'n ddiwrnod y Grand National ac fe aeth y deg punt ar geffyl mawr o Awstralia o'r enw Crisp. 9-1 oedd i bris, can punt yn ôl pebai'n digwydd ennill ond fy nhyb i wedi pori drwy'r "Sporting Life" doedd dim amheuaeth. Dim ond un bygythiad oedd, Red Rum, ceffyl lleol a oedd wrth i fodd efo cwrs Aintree ac yn rhedeg yn y Grand National am y tro cyntaf. Milltir i fynd roedd Crisp ar y blaen o bum llath ar hugain, ar y glwyd olaf roedd o dal ugain llath ar y blaen a'r can punt eisioes wedi'i wario. Yn sydyn reit fe redodd Crisp allan o betrol, roedd Red Rum yn agosau a'r llinell derfyn yn rhy bell i Crisp druan. Can llath i fynd roedd Crisp yn cerdded a Red Rum yn nes, hanner can llath o'r diwedd fe lamodd Red Rum heibio Crisp i ennill un o rasus enwoca' Aintree ac fe gadwodd Bob Jones y bwci fy neg punt. John Hardy, Bangor
 |