ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cofio...?
Red Rum yn ennill y Grand National Dyma 1973
Y penawdau, y pethau, y bobl...
Red Rum yn y Grand National

Clicwch ar bwnc:

Cymru
Y Byd
Cerddoriaeth
Celfyddydau
Ffilmiau
Teledu
Chwaraeon
Gwyddoniaeth
Ffordd o Fyw
Marwolaethau

CYMRU

  • Agor ysgol uwchradd Gymraeg Penweddig ar ôl brwydro ffyrnig yn lleol - Gerald Morgan yn brifathro cyntaf. Agor Theatr y Werin yn Aberystwyth a Choleg Amaethyddol Cymru (WAC)... a Llyn Brianne, yr argae ger y Rhandirmwyn.

  • Adroddiad Kilbrandon yn argymell datganoli i'r Alban a Chymru.

  • Y Cwrs Wlpan cyntaf - Chris Rees, Y Barri, yn ei gynnal.

  • Ffatri Sony, Penybont yn agor - y ffatri fawr gyntaf o Japan.

  • Caeodd gwaith dur East Moors yng Nghaerdydd, gan golli 4,000 o swyddi. Cadwyd Glofa Gresffordd lle bu un o'r damweiniau gwaetha' mewn pyllau glo yng Nghymru. Roedd ymgyrch hefyd i achub gwaith dur Shotton.

  • Dechrau drilio am olew a nwy oddi ar arfordir Cymru.

  • Roedd hi'n flwyddyn o brotestiadau yn erbyn tai haf, gyda sawl achos o feddiannu tai. Canolwyd sylw ar bentre' Rhyd ger Porthmadog (lle gadawodd y teulu ola' o Gymry a phob tÅ· bron yn dÅ· haf) ac yn Derwen Gam, ger Aberaeron, lle'r oedd rhan helaeth o'r pentre' ar werth.

  • Ffurfio TUC Cymru - George Wright yn Ysgrifennydd cyntaf. Arweinwyr y T&G yng Nghymru (e.e. Tom Jones, Shotton) yn flaenllaw wrth ei ffurfio.

  • Brian Josephson o Gaerdydd yn ennill y Wobr Nobel am Ffiseg - y Cymro cyntaf i wneud hynny. Ei faes oedd ffiseg cwantwm.

  • Cyhoeddwyd cynllun i droi Nant Gwrtheyrn yn Ganolfan Iaith (gan bobol Llanaelhaearn) a ffurfiwyd Cyngor Iaith i roi cyngor i'r llywodraeth.

  • Ym mis Mawrth, Y Frenhines yn agor canolfan gymuned gwerth £350,000 yn Aberfan er cof am y bobl a fu farw yno ym 1966.

    Y BYD

  • Ym mis Ionawr, daeth un o benodau mwya' gwaedlyd hanes diweddar i ben wrth i'r Unol Daleithiau arwyddo cytundeb heddwch Fietnam.

  • Ond roedd amser caled o flaen arlywydd yr UDA, Richard 'Tricky Dicky' Nixon, ar ôl i ddau newyddiadurwr gael gafael ar dapiau oedd yn dangos ei fod wedi defnyddio triciau budr yn erbyn gwrthwynebwyr. Arweiniodd hynny at achos uchelgyhuddo Watergate, ac ymddiswyddiad Nixon.

  • Ym mis Chwefror, yng ngwledydd Prydain, bu gweision sifil, athrawon a gyrwyr trenau i gyd ar streic gan achosi anhrefn. Roedd gweithwyr yn erbyn polisïau rheoli cyflogau'r Llywodraeth a chafodd chwe adeiladwr eu carcharu mewn streic yn yr Amwythig (yn eu plith, Eric Tomlinson o Wrecsam, a ddaeth yn enwog wedyn fel Ricky Tomlinson, actor The Royle Family ar y teledu).

  • Dechreuodd 'rhyfel' o fath gwahanol iawn ym mis Mawrth - Rhyfel y Penfras. Roedd gwledydd Prydain wedi gwrthdaro gyda Gwlad yr Iâ, tros hawliau pysgota o amgylch yr ynys. Gwlad yr Iâ a enillodd.

  • Ym mis Awst, dinistriwyd gwersyll gwyliau 'Summerland' yn Ynys Manaw gan dân a lladdwyd 49. Sigaret yn cael ei rhannu rhwng tri pherson ifanc oedd yr achos. Bu tân yng nghanolfan Butlin's, Pwllheli, hefyd, gyda 4 yn cael eu hanafu.

  • Daeth helyntion Gogledd Iwerddon i dir mawr Prydain gyda nifer o fomiau yn Llundain ym mis Awst, Medi a Rhagfyr. Difrodwyd adeiladau cyhoeddus a masnachol ac anafwyd degau o bobol.

  • Daeth Treth ar Werth i mewn am y tro cyntaf a chyd-darodd hynny gyda chodiadau prisiau mewn llawer iawn o nwyddau cyffredin.

  • Daeth arbrawf sosialaidd i ben yn Chile, gyda lladd yr Arlywydd Salvador Allende a lladd a phoenydio miloedd, gan gynnwys y canwr Victor Jara mewn stadiwm pêl-droed yn Santiago. Daeth yr arweinydd milwrol Augusto Pinochet i rym.

  • Daeth y flwyddyn i ben yng ngwledydd Prydain gyda phrinder olew'n achosi prinder ynni'n gyffredinol - roedd rhaid ciwio am betrol, roedd cyfyngiad cyflymder o 50 milltir yr awr, cyfyngiad gwres, cyfyngiadau ar ddefnydd o drydan mewn siopau etc. Erbyn diwedd y flwyddyn, roedd pris galwyn wedi codi i 42c.

  • Un o'r rhesymau am y problemau olew oedd y sefyllfa yn y Dwyrain Canol - yn ystod y flwyddyn, bu Rhyfel Yom Kippur, rhwng yr Aifft a Syria, ar un llaw, ac Israel ar y llall.

    CERDDORIAETH

  • Hogia'r Wyddfa yn ymddeol (am y tro cyntaf').

  • Edward H Dafis yn cael ei ffurfio ac yn canu am y tro cyntaf yng nghyngerdd Tafodau Tân ym Mhafiliwn Corwen adeg Eisteddfod Rhuthun. Huw Ceredig yn eu cyflwyno, yntau'n un o'u cefnogwyr ariannol.

  • Hergest yn dechrau gyda Delwyn Sion yn un o'r aelodau.

  • Endaf Emlyn yn cyhoeddi ei record hir gyntaf, Hiraeth.

  • Huw Jones yn cael llwyddiant mawr efo Dw Isho Bod yn Sais'.

  • Deg Uchaf Y Cymro
    Rhagfyr 18 1973

    1. Dwi isho bod yn Sais- Huw Jones
    2. Tua'r Gorllewin - Ac Eraill
    3. Nadolig - Parti'r Ffynnon
    4. Blas ar y Diliau
    5. Noson Lawen
    6. Chemins de Terre - Alan Stivell
    7. Triawd y Coleg
    8. Rhyddid yn ein cân
    9. Storiau a Chaneuon i Blant
    10. Llais Swynol Leah Owen

  • Yn y siartiau, roedd hi'n flwyddyn i ganeuon pop, gyda grwpiau sioe a sêr pert yn hawlio'r nifer mwya' o rifau 1:

    Long Haired Lover From Liverpool - Little Jimmy Osmond
    The Jean Genie - David Bowie
    Cum on Feel the Noize - Slade
    The Twelfth of Never - Donny Osmond
    Tie a Yellow Ribbon - Dawn
    See My Baby Jive - Wizzard
    Can the Can - Suzi Quatro
    Skweeze Me Pleeze Me - Slade
    I'm the Leader of the Gang (I Am) - Gary Glitter
    Dancin' On a Saturday Night - Barry Blue
    Eye Level - Simon Park Orchestra
    Daydreamer/The Puppy Song - David Cassidy
    I Love You Love Me Love - Gary Glitter

    Ond roedd recordiau hir yn gynyddol bwysig hefyd ac, ymhlith y gwerthwyr gorau, roedd dwy gan Slade (y band o'r Potteries), Don't Shoot Me I'm Only The Piano Player gan Elton John, dwy gan David Bowie, Goat's Head Soup y Rolling Stones a chasgliad o The Beatles, rhwng 1967 ac 1970.

    CELFYDDYDAU

  • Leo Abse, yr AS lliwgar o Bontypwl, yn cyhoeddi llyfr, Private Member, yn dadansoddi seicoleg cyd-aelodau. Llyfrau gwleidyddol eraill oedd Wales Can Win gan yr AS di-waith, Gwynfor Evans ac, yn ei ffordd, What is a Welshman?, pamffled o gerddi gwleidyddol gan R.S. Thomas.

  • Alan Llwyd yn ennill y gadair a'r goron yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Clwyd yn Rhuthun - y person cyntaf i wneud hynny ers T.H. Parry-Williams yn 1912 ac 1915.

  • Bu helynt mwya'r flwyddyn yn Gymraeg tros lyfr Englynion Coch a gyhoeddwyd gan Y Lolfa. Roedd rhai o'r englynion, yn ôl y sôn, gan feirdd enwog iawn, ond bu cwyno amdanyn nhw.

  • Hunangofiant y flwyddyn oedd Afal Drwg Adda gan Caradog Prichard - hunangofiant methiant oedd yr is-deitl. Cofiant y flwyddyn oedd Cofiant T. Gwynn Jones gan David Jenkins a llyfr plant y flwyddyn oedd Barti Ddu gan T.Llew Jones.

  • Cyhoeddi'r papur bro cyntaf - Y Dinesydd, Caerdydd.

  • Agorwyd un o adeiladau enwoca'r byd - TÅ· Opera Sydney.

    TELEDU

  • Daeth ail nofel Marion Eames am y Crynwyr, Y Rhandir Mwyn, i'r sgrîn fach gyda'r actores Christine Pritchard yn un o'r prif rannau.

  • Rhoddodd Wil Sam a Guto Roberts, Rhoslan, gynnig ar gomedi deledu o'r enw Y Garej.

  • Os nad oedd honno'n llwyddiant ysgubol, roedd hi'n oes aur i gomedi ar deledu Saesneg - dyma rai oedd i'w gweld: Benny Hill, Morecambe a Wise, On the Buses, Monty Python's Flying Circus, Mike and Bernie Winters, Here's Lucy, Whatever Happened to the Likely Lads ... a Ryan a Ronnie yn Gymraeg.

  • I blant, roedd rhaglenni fel Telewele, Cadi Ha a Miri Mawr yn eu bri ac, yn Saesneg, fe ddaeth y Wombles i Gomin Wimbledon.

  • Un o gyfresi mawr y flwyddyn oedd Colditz, am y gwersyll carchar yn yr Almaen, ond bu'r ffys mwya' tros ddrama am Lloyd George yn y gyfres The Edwardians. Ymunodd gwleidyddion fel Cledwyn Hughes, cyn-Ysgrifennydd Cymru, i gondemnio'r rhaglen am ddangos ochr bechadurus y gwladweinydd mawr.

    FFILMIAU

  • Dangosodd y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg ei arlwy cyntaf yn yr Eisteddfod, gan gynnwys Yr Hen Dynnwr Lluniau, ffilm gan Wil Aaron, drama ddogfen am y ffotograffydd cynnar, John Thomas.

  • Bu helynt tros ffilmiau hefyd - bu protestiadau yn erbyn Last Tango in Paris gyda Marlon Brando, Maria Schneider a hanner pwys o fenyn.

  • Ymhlith ffilmiau mawr eraill y flwyddyn, roedd
    Pat Garrett and Billy the Kid gan Sam Peckinpah
    Al Pacino a Gene Hackman yn Scarecrow
    Y Bond diweddara', Live and Let Die
    Lady Sings The Blues biopic am Billie Holliday
    A dwy ffilm gan Woody Allen - Play it Again, Sam a Everything You Always Wanted to Know About Sex But Were Afraid to Ask.

    CHWARAEON

  • Y Barbariaid yn trechu Seland Newydd a Gareth Edwards yn sgorio un o'r ceisiadau gorau erioed yn y Stadiwm Cenedlaethol yng Nghaerdydd. Japan yn chwarae eu gêm rygbi gyntaf yn Ewrop - ym Mhenygraig, Y Rhondda. Rhannwyd pencampwriaeth y pum gwlad ... rhwng pum gwlad.

  • Red Rum yn ennill y Grand National am y tro cyntaf - hwn, mae'n debyg, fyddai'r ceffyl enwoca' erioed, wrth iddo ennill y ras deirgwaith i gyd a chael cerflun ohono yn Aintree.

  • Lloegr yn cael gêm gyfartal 1-1 gyda Gwlad Pwyl yn Wembley ac, oherwydd hyn, yn methu â chyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn 1974. Golgeidwad Gwlad Pwyl - "clown" yn ôl yr arbenigwr, Brian Clough - yn chwarae'n arwrol i'w rhwystro.

  • Bobby Charlton yn ymddeol o chwarae pêl-droed.

  • David Bedford yn torri record y byd am redeg 10,000 metr, efo'i fwstash nodweddiadol.

    GWYDDONIAETH

  • Dyfeisiwyd offer i atal pobol rhag dwyn o siopau - roedd yn gallu sganio labeli a osodwyd ar y nwyddau.

  • Arwydd arall o'r amserau oedd dyfeisio offeryn i ddarganfod bomiau plastig.

  • Cafodd y 'Telehoist' ei ddyfeisio i symud ceir oedd wedi parcio mewn llefydd anghywir.

  • Cafodd 'Frosty 2' ei eni - y llo oedd yr anifail mawr cyntaf i gael ei ddatblygu o embryo oedd wedi ei rewi ac o wyau a oedd wedi eu gosod mewn buwch.

  • Dyfais bwysig arall oedd y 'Beltup', larwm a fyddai'n canu os nad oeddech chi wedi gwisgo eich gwregys diogelwch yn y car.

    FFORDD O FYW

  • Helmedau yn dod yn orfodol i farchogion motobeics.

  • Ffasiwn - oes aur Laura Ashley efo ffrogiau Fictoraidd, blodeuog. Hefyd jîns denim gyda haul, blodau neu goed wedi eu gwnïo arnyn nhw ac esgidiau platform. Dynion - jîns wedi ffadio, trowsusau llydan iawn, cordyroi.

  • Diwedd yr 1100 a'r 1300 - yr Austin Allegro yn dod yn eu lle. Hefyd, cyflwynwyd y Volkswagen Passat (math newydd o gar i'r cwmni o'r Almaen) a'r Citroen GS.

  • Cafodd car Babs Parry-Thomas ei yrru eto ar ôl i Owen Wyn Owen ei godi o'r tywod ym Mhendein, a'i adfer.

  • Cafodd 424 o bobol eu lladd mewn damweiniau ffyrdd yng Nghymru - record.

  • Cyhoeddwyd cynlluniau ac arwyddwyd cytundeb i gael twnnel o dan y sianel rhwng Lloegr a Ffrainc.

  • Byddai llofruddiaethau dychrynllyd yn 1973 yn rhan o ddatblygiad gwyddonol pwysig 29 o flynyddoedd yn ddiweddarach. Tan 2002, doedd neb yn gwybod pwy lofruddiodd y merched ifanc, Sandra Newton, Geraldine Hughes a Pauline Floyd ger Llandarsi. Yna, defnyddiwyd technoleg DNA a chodwyd corff dyn o'r enw Joe Kapper i brofi mai ef oedd y llofrudd. Roedd wedi marw yn 1990 yn 49 oed.

  • Ton wres yn bwrw Prydain. Arth Wen o'r enw Sam yn Zoo Regent's Park yn ei gweld hi'n galed. Ym mis Awst, cafwyd y diwrnod poethaf ers 20 mlynedd yn Llundain - tymheredd o 31 gradd Celsiws.

  • Gwnaed Ionawr 1 yn Wyl Banc swyddogol.

  • Prisiau - dau blot adeiladu yn Abersoch am £34,000 yr un, roedd clert/teipydd yng Ngheredigion yn gallu ennill rhwng £936 a £1530 y flwyddyn, gallech gael set deledu ddu a gwyn 24" am £59.75 yn Rumbelows. Cododd pris galwadau ffôn i 2 geiniog am dri munud (lleol) a 2 geiniog am 15 eiliad (pell) a chododd siopau Fine Fare bris ffowlyn i 20c y pwys.

    MARWOLAETHAU 1973

  • Marwolaethau

  • Y nofelydd, Elena Puw Morgan - awdur Y Graith ac Y Wisg Sidan, sydd bellach wedi eu troi'n gyfresi teledu.

  • Syr David Hughes Parry, arweinydd y pwyllgor a wnaeth yr adroddiad am Statws yr Iaith Gymraeg.

  • Melville Richards, Prifysgol Bangor, yr arbenigwr ar enwau llefydd.

  • J.O. Williams - un o gyd-awduron Llyfr Mawr y Plant.

  • Donald Peers, y canwr o Gymru.

  • Yr arlunydd, Picasso.

  • Lyndon Johnson, cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau.

  • David Ben-Gurion, Prif Weinidog cyntaf Israel.

  • Pablo Casals, y soddgrythydd.

  • Jimmy Clitheroe - y Clitheroe Kidd. Roedd yn 4'2" ac yn actio plentyn.

  • Betty Grable, y ddawnswraig a'r actores gyda'r coesau miliwn doler.

  • Yr awdures boblogaidd, Nancy Mitford.

  • Jack Hawkins, yr actor.

  • Edward G. Robinson - actor gangster.

  • Wilfred Rhodes, y cricedwr.

  • JRR Tolkien, awdur Lord of the Rings.

  • Y dramodydd, Noel Coward.


  • Cofio...

    [an error occurred while processing this directive] [an error occurred while processing this directive] [an error occurred while processing this directive]


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý