John Hardy, 1974
Beth yw eich atgofion chi o 1974? Cyfrannwch i'r dudalen hon drwy anfon eich atgofion atom - ewch i waelod y dudalen
1974 oedd y flwyddyn ges i saib. Mi synnais bawb, gan gynnwys fy hun, drwy gael 10 lefel O ym 1973 ac ennill y fraint o gael mynychu'r Chweched Dosbarth. "Mwynha' dy flwyddyn gyntaf" medd fy Nhad heb feddwl y buasai ei fab cweit mor swrth. Ges i ganolbwyntio ar win, mwg a merched drwg gydag ambell i bwt o chwaraeon yn sicrhau nad o'n i'n pesgi gormod. Nes i fwynhau 1974 ond mi dalais yn drud. '73 synnu pawb, '75 synnu neb drwy drychineb y lefel "A" a 1974 oedd ar fai.
John Hardy, Bangor
 |