 |
 |
 |
Dyma 1975 Y penawdau, y pethau, y bobl... |
 |
 |
 |
Max Boyce
Clicwch ar bwnc:
Cymru Y Byd Cerddoriaeth Celfyddydau Ffilmiau Teledu a Radio Chwaraeon Gwyddoniaeth Ffordd o Fyw Marwolaethau
CYMRU
Roedd yna ddau adroddiad pwysig - un Siberry am batrwm sianel deledu Gymraeg ac un cyntaf Cyngor yr Iaith yn argymell addysg feithrin Gymraeg i bob plentyn. Cafwyd dwy fuddugoliaeth bwysig i'r iaith, gyda Swyddfa'r Post a'r Rheilffyrdd Prydeinig yn mabwysiadu polisi dwyieithog. A chafwyd dwy brotest drawiadol - meddiannu pentre' Rhyd oherwydd tai haf a'r rali arwyddion fwya' erioed yn Llanelltyd.
Roedd yna helynt mewn sawl ardal wrth i'r ffilm rywiol, Emmanuelle, gael ei gwahardd mewn ambell dref, fel Bae Colwyn.
Fe fu helynt dros Goron Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi 1976 - roedd mudiadau fel Cymdeithas yr Iaith yn gwrthwynebu'r bwriad i dderbyn coron gan sefydliad milwrol RAE Aberporth. Yn y diwedd tynnwyd y cynnig yn ôl ac ymddiswyddodd Saunders Lewis o fod yn Llywydd Anrhydeddus y Gymdeithas.
Am y trydydd tro cafwyd pleidlais tros agor neu gau tafarndai ar y Sul. Aeth tri dosbarth arall yn wlyb ac arhosodd chwech yn sych.
Trosglwyddwyd grym tros ddiwydiant o Lundain i'r Swyddfa Gymreig a chyflwynwyd mesur yn y Senedd i greu Awdurdod Datblygu Cymru. Sefydlwyd Cyngor Defnyddwyr Cymru i warchod buddiannau cwsmeriaid ac Awdurdod Tir Cymru.
Caewyd Ysgol Dr Williams yn Nolgellau oherwydd diffyg arian. Hi oedd un o ysgolion bonedd enwoca' Cymru - i ferched yn unig. Yn ddiweddarach fe sefydlwyd Coleg Meirion Dwyfor yn yr adeiladau yma.
Ymddiswyddodd sylfaenydd Merched y Wawr o'r mudiad tros ei bolisi ar grefydd a chynnal gwasanaethau crefyddol. Roedd Zonia Bowen yn hiwmanydd ac am i'r mudiad fod yn ddi-grefydd.
Agorwyd Pont Cleddau rhwng Doc Penfro a thref Aberdaugleddau - 150 troedfedd uwch y môr. Ond roedd hynny hefyd yn golygu diwedd ar yr hen fferi rhwng y ddwy lan.
Gwrthododd Ysgrifennydd Cymru, John Morris, â gwahardd rhoi fflworeid yn y dŵr yn Ynys Môn. Roedd dadlau am y pwnc ers blynyddoedd (ac am flynyddoedd i ddod). Rhai'n dadlau ei fod yn lles i ddannedd plant, eraill ei fod yn fygythiad i iechyd ac yn groes i hawliau dynol.
Cadwyd dwy orsaf bŵer draddodiadol yng Nghymru - Llynfi a Tir John, Abertawe - gan golli 300 o swyddi.
Y BYD
Wedi marwolaeth yr unben Franco, ail-sefydlwyd y Frenhiniaeth a democratiaeth yn Sbaen gyda Juan Carlos ar yr Orsedd.
Ddechrau'r flwyddyn, crëwyd arswyd wrth i aeres o'r enw Lesley Whittle o Swydd Amwythig gael ei chipio gan ddyn a gafodd yr enw Y Panther Du. Yn ddiweddarach cafwyd ei chorff mewn hen bwll glo. Cafodd y Panther, Donald Nielsen, garchar am oes am ei llofruddiaeth hi a llofruddiaethau eraill, gyda gorchymyn na ddylai gael ei ryddhau cyn 2006. Ac ar Hydref 29, llofruddiwyd Wilma McCann yn Swydd Efrog... doedd neb yn gwybod ar y pryd mai dyma lofruddiaeth gynta'r Yorkshire Ripper.
Daeth Margaret Thatcher yn arweinydd y Ceidwadwyr ar ôl curo'r cyn-Brif Weinidog, Ted Heath, yn annisgwyl mewn pleidlais o Aelodau Seneddol y blaid. Hi oedd y fenyw gyntaf i arwain prif blaid wleidyddol.
Roedd yna ddwy ddeddf bwysig o ran merched hefyd - y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Rhyw a'r Ddeddf Cyflog Cyfartal. Roedd y gyntaf yn gwahardd gwahaniaethu yn erbyn merched mewn nifer o feysydd, gan gynnwys gwaith a gwasanaethau.
Lladdwyd 43 o bobl mewn damwain ar y tiwb yn Llundain, yng ngorsaf Moorgate - y ddamwain waetha' o'i bath hyd hynny. A lladdwyd 32 o bensiynwyr mewn damwain fws yn Wharfedale.
Er nad oedd mwyafrif ASau Llafur o blaid, pleidleisiodd pobol gwledydd Prydain o fwy na 2-1 i aros yn y Farchnad Gyffredin. Yng Nghymru, roedd 65% o'r rhai a bleidleisiodd o blaid.
Daeth rhyfel Fietnam i ben yn llwyr wrth i gomiwnyddion y Gogledd gipio prifddinas y De, Saigon, a'i throi yn Ddinas Ho Chi Minh. Daeth Pol Pot i rym yng Nhgambodia a dechrau ar gyfnod o arswyd.
Chwalwyd Libanus a'i phrifddinas, Beirut, gan ryfel cartref, rhwng Cristnogion a Mwslemiaid. Ond agorodd camlas Suez am y tro cynta' ers wyth mlynedd - i longau pawb ond Israel.
Yn ystod y flwyddyn, cyrhaeddodd chwyddiant lefel o 25% - yr ucha' erioed. Cododd diweithdra i 1.25 miliwn erbyn mis Awst (ac i gyfradd o 7.2% yng Nghymru erbyn Rhagfyr).
Daeth nifer o wledydd yn rhydd - Papua Guinea Newydd (o Ymerodraeth Prydain) Mozambique ac Angola (dwy o drefedigaethau Portiwgal). Roedd yn ddechrau ar gyfnod gwaedlyd a helbulus i'r ddwy wlad yn Affrica. Gwlad arall a ddaeth yn rhydd oddi wrth Bortiwgal oedd Timor a chafodd ei goresgyn gan Indonesia wythnos yn ddiweddarach.
CERDDORIAETH
Un o gynhyrchiadau teledu ac albwms y flwyddyn oedd yr opera roc, Melltith ar y Nyth, wedi ei sgrifennu gan Endaf Emlyn. Robin Griffith oedd Bendigeidfran, Gillian Elisa Thomas oedd Branwen a Dafydd Hywel yn Efnisien.
Cynhaliwyd y Twrw Tanllyd cyntaf ym Mhontrhydfendigaid, yn un o gyfres o wyliau pop anferth gan Gymdeithas yr Iaith. Roedd Edward H. Dafis, Chwys, Hergest a Mynediad am Ddim ymhlith y perfformwyr.
Agorwyd stiwdio newydd Sain yn Llandwrog, i ddechrau gosod safonau newydd ac i osgoi mynd i lefydd fel Rockfield i recordio caneuon Cymraeg.
Cyhoeddwyd record hir gan fudiad Adfer, Lleisiau.
Ymddangosodd ail record fawr lwyddiannus Max Boyce, We All Had Doctors' Papers - roedd yn anterth ei boblogrwydd yn 1975.
Deg Ucha'r Cymro
Mis Rhagfyr 1975
1. Record Eisteddfod yr Urdd 1976
2. Wa MacSbredar - Mynediad am Ddim
3. Ganwyd Crist i'r Byd - Ysgol Glan Clwyd
4. Glanceri - Hergest
5. Fuoch Chi Rioed yn Morio - Dafydd Iwan ac Edward
6. Rhwng Gwyl a Gwaith
7. Hogia Ni - Hogia Llandegai
8. Nia Ben Aur
9. Ave Maria - Trebor Edwards
10.Tyrd am Dro - Elwen Pritchard
Cafwyd y fideo pop cyntaf ar Top of the Pops - i fynd gyda Bohemian Rhapsody gan Queen.
Er ei fod wedi cyhoeddi dwy albwm cyn hyn, daeth Bruce Springsteen yn enwog am y tro cyntaf.
Cafwyd cyngerdd roc mawr yn yr awyr iach yng Nghastell Caerdydd, gyda Thin Lizzy a 10CC.
Pete Ham o Abertawe (cyd-awdur o rif 1 Harry Nilsson, Without You) yn lladd ei hun. Roedd yn aelod o'r band Badfinger.
Yr hit annisgwyl i Gymro oedd Whispering Grass gan Windsor Davies (y cyn-fyfyriwr yn y Coleg Normal) a Don Estelle. Roedd hi'n codi o'r gyfres deledu, It Ain't 'Alf Hot Mum.
Rhifau 1 - Saesneg:
Lonely this Christmas - Mud
Down Down - Status Quo
Ms Grace - Tymes
January - Pilot
Make Me Smile - Steve Harley/Cockney Rebel
If - Telly Savalas
Bye Bye Baby - Bay City Rollers
Oh Boy - Mud
Stand By Your Man - Tammy Wynette
Whispering Grass - Windsor Davies a Don estelle
I'm Not in Love - 10CC.
Tears on My Pillow - Johny Nash
Give a Little Love - Bay City Rollers
Barbados - Typically Tropical
I Can't Give You Anything (But my Love) - Stylistics
Sailing - Rod Stewart
Hold Me Close - David Essex
I Only Have Eyes for You - Art Garfunkel
Space Oddity - David Bowie
D.I.V.O.R.C.E. - Billy Connolly
Bohemian Rhapsody - Queen
Ambell gân arall boblogaidd:
That's the Way I Like It - KC and the Sunshine Band
Rhinestone Cowboy - Glen Cambpell
Jive Talkin'Talkin' - Bee Gees
Lovin' You - Minnie Ripperton
Please Mr Postman - Carpenters
Funky Gibbon - The Goodies
Send in the Clowns - Judy Collins
Wide Eyed and Legless - Andy Fairweather-Low, y Cymro o Gaerdydd a chyn-ganwr Amen Corner
CELFYDDYDAU
Roedd hi'n flwyddyn anodd i Eisteddfod yr Urdd, Llanelli. Bu raid dileu canlyniad pob un o'r tair prif gystadleuaeth lenyddol. Ataliwyd y Gadair ar ôl i'r enillydd, Euros Jones, gydnabod nad ef oedd wedi ysgrifennu'r gerdd fuddugol. Bu raid i Tom Jones o Gwm Nant yr Eira ildio'r Goron a'r Fedal ar ôl camgymeriad tros oedran a dyddiad cau. Rhoddwyd y Goron i'r ddarpar ferch dywydd, Siân Lloyd.
Wrth i Gerallt Lloyd Owen ennill y Gadair genedlaethol am y tro cyntaf, gydag awdl Yr Afon, rhoddwyd y Fedal Ddrama i William R. Lewis - er fod y beirniad, John Gwilym Jones, yn dweud bod ei ddrama'n "rhy aflednais" i gynulleidfa Gymraeg.
Galwodd Syr Thomas Parry ac Ernest Roberts, un o gyn-swyddogion y Brifwyl, am newid sylfaenol yng ngweinyddiaeth yr Eisteddfod Genedlaethol - roedd hynny'n cynnwys trefn ganolog gryfach.
Daeth Gwyn Erfyl yn olygydd y cylchgrawn Barn ac, ar ôl 14 o flynyddoedd o waith, cyhoeddwyd y cyfieithiad newydd o'r Testament Cymraeg mewn seremoni yn Llanrwst. Ymhlith llyfrau Cymraeg eraill nodedig y flwyddyn roedd Catrin o Ferain, y nofel hanesyddol gan R. Cyril Hughes; I'r Gad, nofel gyntaf Meg Elis, a gyhoeddwyd pan oedd hi yn y carchar; Gwylanod ar y Mynydd gan Marged Pritchard a Y Syrcas a Cherddi Eraill gan Gwilym R. Jones.
Seren annisgwyl y byd cyhoeddi Saesneg oedd y milfeddyg, James Herriott, o Swydd Efrog. Ar un adeg, roedd ganddo dri llyfr clawr papur ac un llyfr clawr caled yn y siartiau, a'r cyfan wedi eu seilio ar ei brofiadau yng nghefn gwlad.
TELEDU A RADIO
Cafwyd rhaglen Gymraeg newydd i blant - Bili Dowcar gyda Hywel Gwynfryn a Marged Esli.
Roedd HTV yn honni mai eu cyfres ddrama nhw Y Gwrthwynebwyr am brotestwyr a merthyron Cymreig oedd y ddrama deledu Gymraeg fwya' uchelgeisiol erioed.
Roedd HTV hefyd yn torri tir newydd trwy gael rheithgor o bobl go iawn ar eu rhaglen ddrama llys, Ar Brawf. Actorion oedd wedi bod cyn hynny.
Gwnaed apêl ar raglen gylchgrawn brynhawn HTV, Hamdden, am lyfrau i'w hanfon i Batagonia adeg codi cofeb i gofio sylfaenu'r Wladfa.
Yn Saesneg, roedd hi'n flwyddyn dda am ddechrau cyfresi enwog - yn 1975 y gwnaed un o ddim ond dwy gyfres o gomedi John Cleese, Fawlty Towers, a dechreuodd The Good Life hefyd, gyda Felicity Kendal, Richard Briers a Penelope Keith. Dechreuodd Jimmy Savile ar rediad hir - bron 20 mlynedd o'r rhaglen gyflawni breuddwydion, Jim'll Fix It. Ychydig yn galetach oedd y gyfres blismyn dreisgar, The Sweeney, gyda John Thaw a Dennis Waterman.
Roedd hi'n flwyddyn fawr i bobol foel. Daeth y gyfres dditectif o America, Kojack, yn wirioneddol boblogaidd gan ddisodli un o gynhyrchiadau mawr y ÃÛÑ¿´«Ã½, Churchill's People, ar nos Lun. A chafodd yr actor, Telly Savalas, hit yn y siartiau gyda'r gân If.
FFILMIAU
Torrwyd y record unwaith eto am y ffilm fwya' llwyddiannus erioed wrth i Jaws ei gwneud hi'n brofiad dychrynllyd i fynd i'r bath.
Daeth un o ychydig enillwyr Oscar Cymru yn ôl i'w hen ardal ar ymweliad. Roedd yr actor, Ray Milland - Reginald Truscott-Jones i'w ffrindiau yng Nghastell Nedd - yn hyrwyddo'i hunangofiant, Wide-eyed in Babylon. Enillodd Oscar yn 1946 am The Lost Weekend.
Roedd mwy o ddrama mewn bywyd go iawn i'r actor o Bontrhydyfen, Richard Burton, wrth iddo ef ac Elizabeth Taylor briodi am yr ail waith, ddwy flynedd ar ôl eu priodas gyntaf.
Ymhlith ffilmiau mawr eraill, roedd One Flew Over The Cuckoo's Nest (o nofel Ken Kesey), The Rocky Horror Picture Show a The Towering Inferno am dân men bloc uchel, a ddechreuodd ar gyfres o ffilmiau dychryn o'r fath.
CHWARAEON
Enillodd Arthur Ashe bencampwriaeth dennis Wimbledon, y dyn croenddu cyntaf i wneud hynny.
Roedd hi'n ddechrau gyrfa ryngwladol i do newydd o sêr rygbi Cymru wrth i dîm ifanc lwyddo i guro Ffrainc yn annisgwyl ym Mharis. Yn eu plith, y prop Graham Price a'r canolwr, Ray Gravel. Cyn hynny, roedd Cymru wedi colli yn yr Alban o flaen torf anferth a oedd rai miloedd yn fwy nag a ddylai fod ym Murrayfield.
Tregwyr yn ennill Pencampwriaeth y Pentrefi (criced) - y pentre' cynta' o Gymru i wneud hynny.
Llwyddodd Muhamad Ali i guro Smokin' Joe Frazier mewn gornest bwysau trwm gofiadwy arall - The Thriller in Manila.
Cynhaliwyd Cwpan Rygbi Cynghrair y Byd am y tro cyntaf a daeth Cymru yn drydydd o bump. Yng Nghwpan Griced gynta'r Byd, enillodd India'r Gorllewin dan gapteiniaeth Clive Lloyd.
Wrth i Niki Lauda ddod yn bencampwr Fformiwla 1 y flwyddyn, roedd gan Gymru ei gobeithion hefyd, wrth i 'Tom' Maldwyn Pryce o'r Rhuthun ennill Râs y Pencampwyr.
Cyhoeddodd amddiffynnwr Cymru, Mike England, yn hollol sydyn ei fod yn ymddeol - yn union cyn gêm i'w glwb Tottenham, gan gerdded allan yn y fan a'r lle. Roedd wedi ei ddadrithio gan safon y clwb.
Llwyddodd menyw o Japan i ddringo Everest - y fenyw gynta' i wneud hynny. Roedd hi'n rhan o dîm o 15 o ferched.
Roedd hi'n flwyddyn od i gôl geidwaid - methodd golwr Cymru, Dai Davies, yr awyren i Luxembourg ar gyfer gêm ryngwladol ar ôl anghofio'i basport a chafodd goli Man Utd., Alex Stepney anaf drwg. Datgysylltodd asgwrn ei ên wrth weiddi ar un o'i gyd-chwaraewyr.
GWYDDONIAETH
Daeth ras y gofod i ben, wrth i Soyuz 19 y Rwsiaid ac Apollo 18 yr Americaniaid ddod at ei gilydd ym mis Gorffennaf, 140 o filltiroedd uwchben y ddaear.
Lansiodd IBM yr argraffydd laser cyflym cyntaf, gan weddnewid byd argraffu ar raddfa fach.
Cyflwynwyd dau ddewis ar gyfer tapiau fideo - VHS a Betamax. Fe fu hi'n frwydr ffyrnig, cyn i'r fideo VHS ennill y dydd.
Roedd hi'n flwyddyn fawr i gyfrifiaduron - cyflwynodd Altair y cyfrifiadur personol cyntaf a dechreuodd Bill Gates ar y gwaith o ffurfio Microsoft ac yntau'n ddim ond 19 oed. Roedd yr enw'n dod o'r ddau air Microcomputer Software.
Llwyddodd dau wyddonydd, Kohler a Milstein, i ddatblygu gwrth-gyrff monoclonaidd (monoclonal antibodies) er mwyn targedu celloedd canser ac afiechydon tebyg. Bydden nhw'n derbyn Gwobr Nobel am eu gwaith.
FFORDD O FYW
Cododd oedran gadael ysgol i 16.
Arwyddion cynnar o newid hinsawdd? Cafwyd eira yn Llundain ym mis Mehefin, am y tro cynta' erioed. Ond dilynwyd y gaeaf tynera' ers canrif gan haf braf. Oregon oedd y dalaith gyntaf yn yr Unol Daleithiau i wahardd chwistrellwyr gyda'r cemegau CFC ynddyn nhw - er mwyn arbed yr haenen osôn. Byddai gweddill y byd yn dilyn.
Tra'r oedd mwy na 6 miliwn o goed llwyfen wedi eu lladd gan afiechyd, roedd planhigion Paul McCartney, y canwr pop, yn fwy llwyddiannus. Cafodd ddirwy am dyfu cannabis.
Daeth ychydig o eiriau newydd i mewn i'r iaith Saesneg - punk rocker, am y canu egr newydd; Sloane Ranger, am y merched cyfoethog, pwdr yn ardaloedd mwya' swanc Llundain; a microchip am y sglodyn cyfrifiadurol.
Roedd hi'n flwyddyn cyflwyno dau gar cyflym - y Golf GTI a'r Triumph TR7.
Teganau'r flwyddyn oedd modelau o'r Wombles, y cymeriadau teledu a'r sêr pop.
Roedd hi'n flwyddyn drychinebus o ran ffasiwn gwallt - helpodd pêl-droedwyr fel Kevin Keegan i wneud y perm yn boblogaidd i ddynion. Roedden nhw hefyd wedi dechrau gwisgo hylif shafio fel Brut ac Old Spice. Ac roedd esgidiau platfform yn mynd yn uwch ac uwch.
Am y tro cyntaf erioed dangoswyd llawdriniaeth trawsblannu arennau ar y teledu a chymerwyd patent ar sbectols i gŵn.
Daeth chwyldro i fyd y bwyd cyflym - cyflwynodd McDonalds eu bocs cragen polystyrene cyntaf, i ddisodli'r hen gardbord.
Am y tro cyntaf, dechreuodd pobl boeni am fwydydd proses - cyhoeddodd y Dr Dennis Burkitt adroddiad yn eu cysylltu nhw â chanser y coluddyn, gan awgrymu mai diffyg ffibr oedd yn gyfrifol.
MARWOLAETHAU 1974
T.H. Parry-Williams, llenor ac ysgolhaig, sy'n cael ei ystyried yn un o feirdd gorau Cymru. Yr un flwyddyn penderfynwyd gwneud canolfan addysgol yn ei hen gartre', TÅ·'r Ysgol yn Rhyd-ddu.
Y dramodydd Huw Lloyd Edwards, awdur dramâu fel Pros Kairon a Llyffantod.
James Griffiths, y cyn-lowr ac Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru.
Alun Jones - Alun Cilie. Ef oedd yr ola' o genhedlaeth o feirdd Bois y Cilie a fagwyd ar y fferm ger Llangrannog.
A.H. Dodd, yr hanesydd o Wrecsam.
Roedd Dafydd Prys (mab Gwynfor Evans) yn angladd Eamonn de Valera, Arlywydd cyntaf Iwerddon. Roedd de Valera yn ymwelydd cyson a'u cartre'.
Lladdwyd un o grewyr y Guinness Book of Records, Ross McWhirter, gan yr IRA ar ôl iddo gynnig arian am wybodaeth amdanyn nhw.
John Ellis Williams, dramodydd, dychanwr ac awdur rhai o'r nofelau ditectif gorau yn Gymraeg
P.G. Wodehouse, yr awdur, creawdwr Jeeves a Blandings.
Graham Hill, y gyrrwr ceir Fformiwla 1
Dmitri Shostakovitch, y cyfansoddwr o Rwsia
Aristotle Onassis, y perchennog llongau ac ail ŵr Jacqueline Kennedy, gweddw arlywydd yr UDA.
Gustav Ludvig Hertz, y gwyddonydd a roddodd ei enw i'r ... Hertz.
Cannonball Adderley, y sacsoffonydd.
William Hartnell, y Dr Who gwreiddiol.
Haile Selassie, cyn-bennaeth Ethiopia.
Y brenin Faisal o Sawdi, a lofruddiwyd gan aelod o'i deulu.
 |
 |
 |
 |
|


[an error occurred while processing this directive]
[an error occurred while processing this directive]
[an error occurred while processing this directive]
|