John Hardy, Ynys Skye yn 1976
Beth yw eich atgofion chi o 1976? Cyfrannwch i'r dudalen hon drwy anfon eich atgofion atom - ewch i waelod y dudalen
Ym 1976 y symudis i i'r de mewn Saab gwyn, 'column change', a thyngu llw na fuaswn i'n treulio mwy na dwy flynedd ym Mhontypridd. Mi brynis i dŷ ym 1978 am £10,000 ac fe drodd y ddwy flynedd yn ddeg ar hugain. Roedd strydoedd Ponty yn dew o lwch yng nghanol haf tanbaid '76 - toedd o ddim ar ei orau, wedi dweud hynny tydio ddim gystal yn y glaw chwaith.
John Hardy, Bangor
 |