 |
 |
 |
Dyma 1976 Y penawdau, y pethau, y bobl... |
 |
 |
 |
How Green was my Valley
Clicwch ar bwnc:
Cymru Y Byd Cerddoriaeth Celfyddydau Ffilmiau Teledu a Radio Chwaraeon Gwyddoniaeth Ffordd o Fyw Marwolaethau
CYMRU
Rhyddhawyd John Jenkins ar ôl chwe blynedd o garchar am ymgyrch fomio Mudiad Amddiffyn Cymru yn ystod y 60au. Cyfrannodd enwogion at gronfa i baratoi tŷ iddd
Daeth Aelod Seneddol De Caerdydd, James 'Sunny Jim' Callaghan yn Brif Weinidog ar ôl i Harold Wilson ymddeol yn sydyn. Cafodd dair blynedd anodd iawn ynghanol argyfwng ariannol, gan geisio cynnal llywodraeth heb fwyafrif clir.
A daeth George Thomas, cyn-Ysgrifennydd Cymru, yn Llefarydd TÅ·'r Cyffredin a, gyda darllediadau radio'n dechrau yno yn ystod ei gyfnod, ef oedd y Llefarydd enwoca' ers canrifoedd.
Llwyddodd Plaid Cymru i greu sioc arall yn y Cymoedd, wrth gipio Cyngor Merthyr Tudful, dan arweiniad y cyn-ymgeisydd seneddol, Emrys Roberts. Dyma'u cyngor cynta', ond byddai'r criw dibrofiad yn cael amser caled.
Cafwyd un o'r hafau sycha' erioed, gyda thai yn dod i'r golwg mewn argaeau a llwch dychrynllyd ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.
Sefydlwyd Awdurdod Datblygu Cymru i hyrwyddo'r economi a diwydiant. Ond daeth pennod ddiwydiannol arall i ben wrth i'r pwll mwyn haearn ola' gau yng Nghymru, yn Llanhari ym Morgannwg.
Daeth argoel o ddyfodol du y diwydiant llaeth, wrth i Hufenfa Meirion gau yn Rhydymain.
Yn sgîl datgeliadau gan y cylchgrawn Rebecca a rhaglenni teledu, cafwyd achosion llys am lygredd yn erbyn arweinwyr llywodraeth leol ym Morgannwg.
Agorodd y Comisiwn Ewropeaidd ei swyddfa gynta' yng Nghaerdydd.
Ogof Ffynnon Ddu, Powys, oedd yr ogof gynta' yn y DU i gael ei gwneud yn warchodfa natur.
Y BYD
Cafwyd sawl daeargryn mawr - roedd y gwaetha' yn China, pan laddwyd 240,000 o bobl.
Yn Efrog Newydd, rhoddodd dyn ei law mewn bag papur a thynnu gwn ohono i lofruddio person diniwed - dyna ddechrau cyfres o lofruddiaethau a chyfnod o arswyd gan y 'Son of Sam'.
Pleidleisiodd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig o blaid rhoi lle yn y CU i Fudiad Rhyddid Palesteina (y PLO) dan arweiniad Yasser Arafat. Roedd yn benderfyniad dadleuol ac arwyddocaol.
Cafwyd coup milwrol yn yr Ariannin, wrth i'r fyddin ddisodli Isabel Peron, gweddw'r cyn-arlywydd.
Dechreuodd terfysgoedd Soweto yn un o brif dreflannau De Affrica, a dyma ddechrau'r diwedd i gyfundrefn apartheid yn y wlad.
Y Dwyrain Canol - Bu raid symud cannoedd o ymwelwyr gorllewinol o Beirut yn Libanus ar ôl llofruddiaeth llysgennad yr Unol Daleithiau yn y wlad. A chafwyd digwyddiad dramatig ym maes awyr Entebbe, Uganda, wrth i gomandos Israelaidd achub awyren Air France oedd wedi cael ei herwgipio gan derfysgwyr Palesteinaidd - roedd mwy na 250 o bobl arni.
Ar ôl blynyddoedd o ymladd, unwyd Gogledd a De Fietnam i greu gwlad Sosialaidd Gomiwnyddol.
Rhoddwyd carchar am saith mlynedd i'r cyn-AS John Stonehouse a ffugiodd ei farwolaeth ei hun.
Yng Ngogledd Iwerddon, wrth i'r trais barhau ac i Lundain ddechrau llywodraethu'n uniongyrchol eto, dechreuodd protestiadau heddwch gan ferched - gorymdeithiodd 10,000 trwy'r strydoedd ar Awst 14.
Llwyddodd y Democrat Jimmy Carter, y ffermwr cnau mwnci o'r de, i guro Gerald Ford am Arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau - y cynta' o daleithiau'r De i ennill y swydd ers y Rhyfel Cartref.
Ac un fach arall... Distawyd y 'Bong' - oherwydd nam bu raid stopio'r cloc ar Big Ben am naw mis er mwyn ei atgyweirio.
CERDDORIAETH
Cynhaliwyd cyngerdd anferth i ffarwelio ag Edward H. - roedden nhw hefyd wedi creu noson gofiadwy yn Eisteddfod yr Urdd. Ym mis Medi, cyhoeddwyd fod siwpyrgrwp newydd yn cael ei ffurfio, o'r enw Injaroc, gyda rhai o gyn-aelodau Edward H a Sidan, ynghyd â Geraint Griffiths, Myfyr Isaac ac Endaf Emlyn.
Darllediad ac albwm arall o bwys oedd Gorffennwyd - fersiwn Hefin Elis o stori'r Pasg. Emyr Wyn oedd Iesu a Dewi Pws yn Jiwdas.
Cyhoeddodd gŵr a gwraig albwm yr un - Gobaith Mawr y Ganrif, albwm cynta' Geraint Jarman a dechrau ar ei gyfnod yn brif ganwr roc Cymru, a Jiawl gan Heather Jones, albwm llawer mwy caled na'i recordiau cynharach.
Cyhoeddodd Dafydd Iwan ei ail albwm, Mae'r Darnau yn Disgyn i'w Lle ac, yn ddigon addas, Diwedd y Gân oedd unig albwm, ac albwm ola', Ac Eraill.
Daeth yr albwm Ffrindiau Bore Oes â phoblogrwydd newydd i'r grŵp Hergest, gyda chaneuon Beach Boysaidd fel Dinas Dinlle a chyn-aelodau o Josgin, Rhys Evans a Gareth Thomas, ar y bas a'r drymiau.
Dyma flwyddyn siwtiau gwyn (tri rhif 1 i Abba o Sweden), geiriau amheus (y Wurzels a'u cân i'r Combine Harvester), dyn mawr gyda llais uchel mewn coban (Demis Roussos) ac Elton John (a gafodd help Kiki Dee i gael ei rif 1 cynta'). A daeth y band pync, Sex Pistols, yn enwog, gan ddweud "D'yn ni ddim yn ymwneud â cherddoriaeth, r'yn ni'n ymwneud ag anrhefn".
Doedd Y Cymro ddim yn cyhoeddi ei Ddeg Uchaf yn ystod 1976 ond dyma'r caneuon a fu'n rhif 1 yn y siartiau Saesneg:
Bohemian Rhapsody - Queen
Mamma Mia - Abba
Forever and Ever - Slik
December '63 (Oh, What a Night) - Four Seasons
I Love to Love - Tina Charles
Save Your Kisses for Me - Brotherhood of Man
Fernando - Abba
No Charge - JJ Barrie
Combine Harvester - Wurzels
You to me are Everything - Real Thing
The Roussos Phenomenon - Demis Roussos
Don't Go Breaking My Heart - Elton John & Kiki Dee
Dancing Queen - Abba
Mississippi - Pussycat
If You Leave Me Now - Chicago
Under the Moon of Love - Showaddywaddy
When a Child is Born - Johnny Mathis
CELFYDDYDAU
Roedd yna helynt anferth yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi ar ôl i Dic Jones ennill y Gadair a chael ei ddiarddel - oherwydd ei fod ar un o bwyllgorau'r Eisteddfod. Cafodd Alan Llwyd y gadair yn ei le, gan gyflawni'r Dwbl am yr ail waith, a chyhoeddwyd y ddwy awdl yn y cyfansoddiadau.
Ym Mhorthaethwy yr oedd Eisteddfod yr Urdd. Aeth y Gadair i'r darpar-brifardd Sion Aled a'r Goron i Gwyneth Williams o Lanbed.
Lansio Cyfres y Llewod gan Dafydd Parri a'r Lolfa. Roedd hon ar batrwm rhai o lyfrau Enid Blyton ac roedd clwb ac anrhegion i ddarllenwyr.
Ffurfiwyd Barddas, y Gymdeithas Gerdd Dafod, er mwyn hyrwyddo canu caeth a gwarchod safonau'r gynghanedd. T. Llew Jones oedd y Llywydd ac Alan Llwyd yn un o'r sylfaenwyr. A ffurfiwyd Cymdeithas Bob Owen hefyd i hynafiaethwyr, gyda'i gylchgrawn yntau Y Casglwr.
Cyhoeddwyd llyfr gwleidyddol pwysig am y frwydr tros yr iaith Gymraeg - Culture in Crisis gan y newyddiadurwr, Clive Betts.
Ar yr un pryd, Adfer a'r Fro Gymraeg, gan Emyr Llywelyn oedd y datganiad cliria' eto o athroniaeth mudiad Adfer.
Perfformiwyd y ddrama Ac Eto Nid Myfi gan John Gwilym Jones am y tro cynta', gan griw o fyfyrwyr, dan ei gyfarwyddyd ef. Yn eu plith, John Roberts (ÃÛÑ¿´«Ã½), Dewi Jones (prifathro) a Sioned Mair.
Daeth un o theatrau bach Cymru i ben - roedd Theatr y Gegin, Criccieth, wedi llwyfannu sawl un o ddramâu Wil Sam.
Yn ogystal â'i albwm cynta', cyhoeddodd Geraint Jarman ei ail gyfrol o farddoniaeth, Cerddi Alfred Street.
Gwrthododd rhai capeli ac ysgolion â dosbarthu papur bro Caerdydd, Y Dinesydd, oherwydd colofn Y Dyn Dwad - cofnodion dychmygol dyn o Gaernarfon a oedd wedi symud i'r ddinas. Golygydd y papur oedd Siân Edwards a Dafydd Huws oedd yr awdur.
TELEDU A RADIO
Roedd fersiwn o nofel Richard Llewellyn am Dde Cymru, How Green Was My Valley, ar y ÃÛÑ¿´«Ã½, gyda Stanley Baker yn un o'r prif rannau ac yntau eisoes yn wael gyda chanser.
Roedd cyfres arall o Am Hwyl i Blant ar y sgrîn, gyda Jennie Ogwen ac Elinor Jones.
Roedd cyfres deledu Saesneg, Twm Sion Cati, yn cael ei ffilmio yn ardal Ystrad Fflur, gyda John Ogwen yn y brif ran a Jane Asher efo fo. Hawkmoor oedd enw'r gyfres.
Daeth band pync y Sex Pistols yn enwog ar ôl rhegi fel trwpars ar raglen deledu fyw Bill Grundy. A chafodd Grundy ei atal o'i waith gyda Thames TV am eu hannog.
Yn ôl yr amcangyfrifon, bu 1 biliwn o bobl yn gwylio'r Gêmau Olympaidd o Montreal yng Nghanada - y mwya' erioed.
Ymhlith rhaglenni mwya' poblogaidd y flwyddyn, roedd y Muppets, y ddau dditectif Americanaidd, Starsky and Hutch, a daeth Noel Edmonds a'i siwmperi i sylw trwy'r Multicoloured Swapshop.
FFILMIAU
Chwalwyd llwch yr actor enwog, Stanley Baker, ar fynydd Llanwonno uwch Cwm Rhondda, ei ardal enedigol.
Dechreuwyd y gwaith o ffilmio Star Wars gyda George Lucas yn cymryd $500,000 yn llai am gyfarwyddo er mwyn cael siâr o'r hawliau masnachol. Roedd y pwer 'dag e.
Dechreuodd cyfres enwog arall, gyda Sylvester 'Sly' Stallone yn actio paffiwr yn Rocky.
Gwnaed ffilm o un o sgandalau mawr gwleidyddiaeth America - All the President's Men - gyda Robert Redford a Dustin Hoffman yn actio'r ddau newyddiadurwr a ddatgelodd dwyll yr Arlywydd Richard Nixon.
Enillodd Taxi Driver, gyda Robert de Niro, wobr y Balmwydden Aur yn Cannes ac mae llawer yn credu mai The Outlaw Josey Wales yw un o ffilmiau gorau Clint Eastwood.
Ffilmiau eraill - Carrie, am ferch gyda grymoedd goruwchnaturiol dychrynllyd; Bugsy Malone, gyda phlant yn actio gangsters; King Kong, gyda Jessica Lange a Jeff Bridges; Monty Python and the Holy Grail; The Pink Panther Strikes Again, un o gyfres gomedi Peter Sellers.
CHWARAEON
Daeth diwedd gyrfa'r wythwr rygbi a chapten Cymru, Mervyn Davies, wrth iddo gael gwaedlif ar yr ymennydd yn ystod gêm. Yn ôl llawer roedd wedi gweddnewid y ffordd o chwarae yn y safle hwnnw.
Roedd canlyniad annisgwyl ym Mhencampwriaeth Bêl-droed Ewrop wrth i Tsiecoslofacia guro Gorllewin yr Almaen yn y rownd derfynol, o 5-3 ar giciau cosb.
Cafwyd un o ganlyniadau mwya' annisgwyl y Cwpan FA hefyd wrth i Southampton o'r Ail Adran guro Man Utd trwy gôl gan Bobby Stokes. Diflannodd y cwpan wedyn ar ôl i un o chwaraewyr Southampton, Peter Osgood, fynd ag ef i'r dafarn i ddangos i'w ffrindiau.
Enillodd y Sais, James Hunt, bencampwriaeth Fformiwla 1 y byd, trwy guro Niki Lauda o bwynt. Ond roedd Lauda wedi cael dihangfa wyrthiol (a llosgiadau difrifol) mewn damwain ynghynt yn y tymor.
Yn y Gêmau Olympaidd ym Montreal, roedd boicot gan lawer o wledydd Affrica oherwydd presenoldeb Seland Newydd (a fu'n chwarae rygbi yn erbyn De Affrica). Y gymnast o Romania, Nadia Comaneci, oedd y seren yn cael saith marc llawn a thair medal aur. Enwau mawr eraill - Juantorena o Ciwba yn cipio'r 400m a'r 800m a Viren o'r Ffindir y 5,000m a'r 10,000m. Y Dywysoges Anne o dîm marchogaeth y DU oedd yr unig gystadleuydd i osgoi cymryd prawf rhyw.
Enillodd Bjorn Borg y cynta' o'i bum teitl yn Wimbledon - a hynny o'r bron.
Cafodd Ras yr Wyddfa ei rhedeg am y tro cynta'.
Enillodd dau Gymro brif bencampwriaethau snwcer y byd - Doug Mountjoy yn cipio'r un amatur a Ray Reardon yn curo Alex 'Hurricane' Higgins yn rownd derfynol yr un broffesiynol. Reardon hefyd oedd y cynta' i gael ei gyhoeddi yn rhif un o ddetholion y byd.
GWYDDONIAETH
Cafwyd yr achos cynta' erioed o glefyd y llengfilwyr, wrth i 29 gael eu lladd yng nghynhadledd yr American Legion yn Philadelphia.
Llwyddodd y llong ofod Viking 2 i lanio ar y blaned Mawrth a chymryd y lluniau lliw agos cynta' o wyneb y blaned goch.
Lansiwyd yr argraffydd laser cynta' gan IBM; cafwyd argraffydd chwistrell-inc hefyd a datblygwyd Cray-1, yr archgyfrifiadur cynta'.
Ehedodd y wennol ofod, Enterprise, am y tro cynta' gan ddechrau ar gyfnod newydd o waith yn y gofod.
Llyfr o wyddoniaeth boblogaidd oedd un o lwyddiannau cyhoeddi'r flwyddyn - The Selfish Gene gan Richard Dawkins.
FFORDD O FYW
Dyfeisiwyd y cymeriad Mr Urdd ar gyfer y mudiad, gan un o'i swyddogion, Wynne Melville Jones.
Roedd dau o geir newydd y flwyddyn yn dangos dylanwad cynyddol cwmnïau tramor - yr Audi 100 ac, yn fwy arwyddocaol, y Datsun Sunny o Japan.
Erbyn hyn, roedd gohebydd i ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru ym Mangor yn dechrau ar gyflog o £4,665 y flwyddyn, gyda chostau'n ychwanegol.
Dechreuodd brwydr y fideos - gyda Matsushita'n cyflwyno'r VHS i gystadlu yn erbyn system Betamax Sony. Y VHS enillodd ac roedd ffortiwn yn y fantol.
Cafwyd y daith fasnachol gynta' gan yr awyren siwpyrsonig, Concorde - tros y blynyddoedd nesa' byddai ei sŵn yn torri'r terfyn sain yn cael ei glywed yn achlysurol uwch gorllewin Cymru.
Ffurfiwyd cwmni cyfrifiadurol Apple gan ddau Americanwr o'r enw Steve Jobs a Steve Wozniak. A gyda llaw, cofrestrwyd cwmni bach Americanaidd arall yn swyddogol - ein enw oedd Microsoft.
Cafwyd daeargryn ym myd gwin - wrth i arbenigwyr osod gwinoedd o lefydd fel Awstralia yn uwch nag enwau mawr Ffrainc, a hynny mewn gŵyl flasu ym Mharis!
Codwyd Tŵr CN yn Toronto, Canada - ar y pryd dyma'r adeilad unigol ucha' yn y byd.
Arwydd o bethau i ddod - rhoddwyd y wobr Nobel am economeg i ddyn o'r enw Milton Friedman. Hwn oedd guru Margaret Thatcher ac archoffeiriad monetariaeth - y gred fod angen cadw gafael tynn ar lif arian gwlad.
Ffasiwn pync oedd y stori fawr - gwallt fel cocatŵ, dillad duon tyllog, a seffti pins ym mhob twll a chornel.
Sefydlwyd y Body Shop - gan greu ffasiwn newydd o ran deunyddiau naturiol a siopa gyda chydwybod.
MARWOLAETHAU 1976
Meirion Williams, cyfansoddwr caneuon fel Berwyn ac Aros Mae'r Mynyddau Mawr.
Humphrey 'Wmffra' Roberts oedd y dyn sy'n cael y clod am helpu Plaid Cymru i ennill yng Nghaernarfon - ef oedd yr asiant a threfnydd ymgyrchoedd Dafydd Wigley.
Roedd yna alar arbennig yng Nghymru wrth glywed am farwolaeth y canwr croenddu, Paul Robeson - roedd wedi ffilmio yng Nghymru a chreu cysylltiadau clos iawn gyda'r glowyr.
Stanley Baker, yr actor o'r Rhondda a seren y ffilm Zulu, a fu farw yn ddim ond 49 oed o ganser yr ysgyfaint.
Cymro o dras hefyd oedd Howard Hughes, y miliwnydd a'r dyn awyrennau. Roedd wedi byw fel meudwy ers blynyddoedd.
Bu farw dwy actores lwyfan o'r hen steil - Sybil Thorndike ac Edith Evans.
Zhou Enlai, Prif Weinidog China.
Mao Zedong, sylfaenydd Gweriniaeth China.
Agatha Christie, awdures nofelau ditectif.
Ulrike Meinhof, y derfysgwraig o'r Almaen, a roddodd ei enw i gang enwog Baader-Meinhof, ac a fu ar gyrchoedd dwyn a bomio rhwng 1970-2. Crogodd ei hun yn y carchar.
Benjamin Britten, y cyfansoddwr Seisnig.
 |
 |
 |
 |
|


[an error occurred while processing this directive]
[an error occurred while processing this directive]
[an error occurred while processing this directive]
|