John Hardy (chwith), 1977
Beth yw eich atgofion chi o 1977? Cyfrannwch i'r dudalen hon drwy anfon eich atgofion atom - ewch i waelod y dudalen
1977 nes i ymuno â Chlwb Pêl-droed y Cymric yng Nghaerdydd a sicrhau o leia' bymtheg o ffrindiau. Roeddwn i bellach yn byw yn Sblott ar ymweliad byr â'r brifddinas, roedd ginni swydd aruchel hefyd fel cyw cyfrifydd yn ennill £1,200 y flwyddyn. Roedd angen bod yn gyfrifydd da i gadw dau ben llinyn ynghyd. Cyfrifydd gwael o'n i.
John Hardy, Bangor
 |