Bois Ffostrasol
Beth yw eich atgofion chi o 1978? Cyfrannwch i'r dudalen hon drwy anfon eich atgofion atom - ewch i waelod y dudalen
Ar y 1af o Ebrill 1978, nes i briodi. Roedd rhaid newid eglwys ar fyr rybudd, fe ddilynodd fy narpar wraig angladd i'r seremoni, fe anghofiodd fy mrawd bres y ficer ac yn ddiarwybod o ran trefn Eglwysig (capel dwi) nes i wagio'r cwpan cymun cyn i neb arall gael blasu'r gwin. Aeth y gyrrwr ar goll rhwng yr Eglwys a'r brecwast ac heblaw am y ffaith i mi anghofio i gadarnhau gwesty'r mis mêl a rhedeg allan o bres o fewn tridiau aeth popeth yn berffaith.
John Hardy, Bangor
 |