 |
 |
 |
Dyma 1978 Y penawdau, y pethau, y bobl... |
 |
 |
 |
Gareth Edwards yn ymddeol
Clicwch ar bwnc:
Cymru Y Byd Cerddoriaeth Celfyddydau Ffilmiau Teledu a Radio Chwaraeon Gwyddoniaeth Ffordd o Fyw Marwolaethau
CYMRU
Cafodd 17 o bobl gyfanswm o 120 o flynyddoedd o garchar am eu rhan mewn cylch cyffuriau yn ardal Llanbed a Thregaron. Roedd cyrch yr heddlu, Operation Julie, wedi chwalu'r system oedd yn cyflenwi hanner LSD y byd.
Am y tro cynta', cafodd Undeb Amaethwyr Cymru ei gydnabod gan y Llywodraeth, er gwaetha' gwrthwynebiad yr NFU - o hynny ymlaen byddai'n cael ei gynnwys mewn trafodaethau. Ysgrifennydd Cymru, John Morris, oedd un o swyddogion cynta'
Cynhaliwyd achos llys Blaenplwyf - gyda chyhuddiad o gynllwyn yn erbyn Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith ac arweinydd y Grŵp Darlledu. Cafodd ef, Rhodri Williams, ei 'herwgipio' gan 66 o bobl amlwg cyn dechrau'r achos a bu raid cynnal ail achos ar ôl i'r rheithgor cynta' fethu â chytuno.
Ond, cyn diwedd y flwyddyn, o'r diwedd, heb ragor o oedi, cafwyd addewid pendant, pendant, pendant y byddai yna Sianel Gymraeg ... ond roedd rhagor i ddod cyn sefydlu S4C.
Cafwyd bygythiad i draethau Cymru gyda llongddrylliad y Christos Betas ger Aberdaugleddau. Yn y diwedd, gwacawyd y llong a chafodd ei hanfon i waelod y môr yr ochr draw i Iwerddon. (Roedd pryder rhyngwladol hefyd pan suddodd yr Amoco Cadiz ger glannau Llydaw).
Wrth i'r llywodraeth Lafur frwydro i ddal ati, heb fwyafrif, a heb gytundeb gyda'r Rhyddfrydwyr, llwyddodd ASau Plaid Cymru i ennill mesur i roi iawndal i chwarelwyr oedd yn diodde' o glefyd y llwch.
Roedd hi'n flwyddyn dechrau nifer o bethau ... Cymdeithas Edward Llwyd, i naturiaethwyr Cymraeg ... Cymorth i Fenywod yng Nghymru i warchod merched rhag trais yn y cartref ... ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru/Wales yn rhanbarth cenedlaethol o fewn y ÃÛÑ¿´«Ã½ ... dechreuodd Cyfarwyddwr cynta'r Eisteddfod Genedlaethol ar ei waith ... prynwyd Nant Gwrtheyrn i droi'r pentre'n ganolfan iaith.
Bu protestio i achub cerrig - Cerrig Cromlech enwog Bwlch Llanberis. Roedd Cyngor Gwynedd eisiau torri rhan ohonyn nhw er mwyn lledu'r ffordd.
Aeth darpar arweinydd y Blaid Lafur, Neil Kinnock, i drafferth ar ôl condemnio polisi iaith ac ysgolion Cyngor Sir Gwynedd. Yn benodol, fe awgrymodd - yn anghywir - fod athrawon ym Môn yn gwrthod gadael i blant fynd i'r tŷ bach os oedden nhw'n gofyn yn Saesneg.
Am ychydig, fe fu dychryn yn ardal Machynlleth wrth i'r heddlu ddatgelu eu bod yn chwilio yno wrth geisio datrys achos llofruddiaeth a fachodd y penawdau - llofruddiaeth y ferch fach Genette Tate o Ddyfnaint.
Y BYD
O'r diwedd, ar ôl blynyddoedd o ymrafael, cafwyd cytundeb i roi annibyniaeth i Rhodesia yn 1980 ... dan yr enw newydd, Zimbabwe.
Dechreuodd y flwyddyn gyda streic dynion tân - bu raid defnyddio hen beiriannau tân y fyddin, y green goddesses, i lenwi'r bwlch.
Hon oedd blwyddyn y tri Phab - bu farw Pawl I ac, o fewn misoedd, ei olynydd, Ioan Pawl I. Y trydydd oedd Karol Wojtyla, Ioan Pawl II, a fu yn y Fatican hyd 2005.
Dechreuodd y protestiadau budr yng Ngharchar y Maze yng Ngogledd Iwerddon, pan oedd carcharorion yr IRA yn gwisgo dim ond blancedi ac yn taenu carthion hyd waliau eu celloedd.
Aeth y wobr Nobel am Heddwch i arweinwyr yr Aifft ac Israel, Anwar Sadat a Menachem Begin, oherwydd eu cytundeb heddwch.
Gorffennodd y flwyddyn gyda thrychineb ryfedd yn Jonestown, Guyana, pan weithredodd mwy na 900 o aelodau o sect grefyddol gyda'i gilydd i gyflawni hunanladdiad.
Cafwyd trychinebau mawr, gyda 25,000 yn marw mewn daeargryn yn Iran, a 377 mewn tân sinema yn yr un wlad. Lladdwyd 170 pan ffrwydrodd lorri'n llawn o nwy hylif yn Sbaen.
Daeth papur newydd y Daily Star i'r strydoedd, ond diflannodd y Times a'r Sunday Times am fisoedd, oherwydd anghydfod diwydiannol.
Daeth y flwyddyn i ben gyda streiciau'r Winter of Discontent, pan gafwyd cyfyngiadau ar fara, hyd yn oed, oherwydd prinder - gwnaeth y Prif Weinidog, James Callaghan, gamgymeriad anferth trwy beidio â galw etholiad yn hydref 1978, er fod y cytundeb â'r Rhyddfrydwyr wedi dod i ben.
CERDDORIAETH
Ar ôl lot o ddyfalu a phwysau gan y ffans, cyhoeddodd y band Edward H. Dafis eu bod nhw'n ail-ddechrau ... a dyna a ddigwyddodd i roi dwy flynedd arall o rocio.
Cyhoeddwyd un o albwms gorau'r iaith - Hen Wlad fy Nhadau, gan Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr. Ond, ddiwedd y flwyddyn, cyhoeddodd y gitarydd, Tich Gwilym, ei fod yn ymuno â'r band Saesneg amlwg, Racing Cars.
Roedd Y Trwynau Coch yn dal i ddenu sylw, trwy gyfuniad o ganeuon da a marchnata clyfar. Daeth eu sengl Merched Dan Bymtheg allan, gyda llun merch mewn sgert fer (iawn) ar y clawr.
Ffurfiodd dau fand blaengar - Eliffant, gyda Geraint Griffiths yn canu a Jîp, dan ysbrydoliaeth John Gwyn (Brân gynt) a'r canwr, Endaf Emlyn.
Cafwyd opera roc Dic Penderyn yn y theatrau, gyda Dyfed Tomos yn y brif ran. Roedd y geiriau gan Rhydwen Williams a'r gerddoriaeth gan Meic Stevens.
Ymhlith y recordiau cofiadwy eraill:
Amser Cau - Hergest
Wodw! - Shwn
Potel Fach o Win - Traed Wadin
Dôf yn ôl - Tecwyn Ifan
Torth o Fara - Mynediad am Ddim
Gwrach y Nos - Brân
Mynd i arall fyd - Beca
Rosalind a Myrddin - Rosalind a Myrddin
Yn Saesneg ...
Daeth y Sex Pistols i ben i bob pwrpas ar ôl i Johnny Rotten adael. Yn ddiweddarach, ceisiodd Sid Vicious ladd ei hunan.
Daeth Bob Geldof i'r amlwg am y tro cynta' gyda'r Boomtown Rats.
Er nad aeth i rif 1, mae'r unawd sax ar Baker Street gan Gerry Rafferty yn un o synau mwya' cofiadwy'r flwyddyn.
Arhosodd Mull of Kintyre a'i bagbibau yn rhif 1 trwy gydol mis Ionawr. Rhifau 1 eraill y flwyddyn oedd:
Uptown Top Ranking - Althia a Donna
Figaro - Brotherhood of Man
Take a Chance on Me - Abba
Wuthering Heights - Kate Bush
Matchstalk Men and Matchstalk Cats and Dogs - Brian/Michael
Night Fever - Bee Gees
Rivers of Babylon - Boney M
You're the One That I Want - Travolta/Newton-John
Three Times a Lady - Commodores
Dreadlock Holiday - 10cc
Summer Nights - Travolta/Newton-John
Rat Trap - Boomtown Rats
Do Ya Think I'm Sexy - Rod Stewart
Mary's Boy Child - Boney M
CELFYDDYDAU
Roedd hi'n flwyddyn y cylchgronau yng Nghymru:
Lansiwyd Pais gan Gyhoeddiadau Mei yn gylchgrawn i ferched.
Ymddangosodd y rhifyn cynta' o'r cylchgrawn pop, Sgrech.
Aeth y newyddiadurwr Hefin Wyn ati i gyhoeddi cylchgrawn amrywiol, Curiad.
Ond daeth y comic plant, Hebog, i ben, oherwydd diffyg arian. Y bardd a'r arlunydd, Gerallt Lloyd Owen, oedd y tu cefn iddo.
Eto, ym myd y cylchgronau, daeth Jennie Eirian yn Olygydd Y Faner, gan anelu at fywiogi'r hen gylchgrawn a meithrin cyfranwyr newydd.
Roedd mudiad Adfer yn boicotio Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, oherwydd ei bod i y tu allan i'r Fro Gymraeg.
Doedd dim Cadeirio yn yr Eisteddfod honno, ond camodd y canwr opera, Geraint Evans, i'r bwlch a chael cymeradwyaeth fyddarol ar ôl canu Y Marchog. Aeth y Goron i Sion Eirian, un o'r enillwyr ieuenga' erioed, a'r Fedal Ryddiaith i Harri Williams am nofel Y Ddaeargryn Fawr.
Yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd, aeth y Gadair i'r darpar brifardd, Robin Llwyd ab Owain, y Goron i Cathryn Gwynn (a oedd yn dilyn ei mam trwy gyflawni'r gamp) a'r Fedal i Gwyneth Lewis am yr ail flwyddyn yn olynol.
Doedd yr un gerdd o gwbl yn llyfr barddoniaeth y flwyddyn - roedd yr athro cynganeddol, Roy Stephens, wedi defnyddio cyfrifiadur i lunio rhestrau o eiriau sy'n odli ar gyfer Yr Odliadur. Bellach, does yr un bardd yn mentro i Ymryson hebddo.
Llyfr cerddi'r flwyddyn oedd Storom Awst, ail gyfrol y Prifardd Dic Jones, cafodd y nofelydd Jane Edwards wobr Tir na n'Og am lyfr i blant, Miriam, ac ymhlith llyfrau cofiadwy eraill y flwyddyn roedd Beibl y Plant Mewn Lliw, Dyddiadur Dyn Dwad,
I Hela Cnau (nofel Marion Eames am ardal Lerpwl), Tician, Tician, John Rowlands (perffaith i chwarae gêm o geisio adnabod pobol go iawn), nofel hanesyddol J.G. Williams, Betws Hirfaen, a champwaith hanesyddol Gwyn Alf Williams, The Merthyr Rising.
Dwy ddrama'r flwyddyn oedd Y Tŵr gan Gwenlyn Parry, gyda'r pâr priod, John Ogwen a Maureen Rhys yn actio pâr priod, a Y Cadfridog, drama ddadleuol gan Meic Povey gydag awgrym o gariad gwrywgydiol.
Ar ôl bwlch o 18 mis, cyhoeddwyd y byddai'r cylchgrawn amharchus Lol yn ymddangos erbyn y Nadolig, gyda'r bwriad o'i gyhoeddi dair gwaith y flwyddyn.
TELEDU
Dechreuodd HTV ddybio ffilmiau enwog i'r Gymraeg, gan gynnwys un o ffilmiau Dracula, Peter Cushing, a'r ffilm gowboi, Shane. Yn anffodus, roedd llais Shane yn eiddo i Robin Gruffydd, yr actor oedd hefyd yn actio dyn merchetaidd yn y gomedi Glas y Dorlan.
Bu rhaid gohirio un rhaglen o'r gyfres bop Twndish oherwydd fod yr iaith yn rhy gry' ar gyfer nos Sul. Y perfformiwr pync, Dr Hywel Ffiaidd (Dyfed Tomos) oedd ar fai.
Roedd Hawkmoor ar ÃÛÑ¿´«Ã½ 1, gyda John Ogwen yn actio rhan y lleidr da, Twm Sion Cati. Jane Asher oedd y 'diddordeb benywaidd'.
Gwnaed arolwg o wylwyr teledu Cymraeg - roedd ...
68% o siaradwyr Cymraeg yn gwylio rhaglen newyddion HTV, Y Dydd
61% yn gwylio rhaglen gylchgrawn newyddion y ÃÛÑ¿´«Ã½, Heddiw
57% yn gwylio'r ddrama wythnosol, Pobol y Cwm
... ac erbyn hyn, roedd 77% yn berchen ar radio VHF ac, felly, yn gallu clywed rhaglenni Cymraeg.
Yn Saesneg, dechreuodd yr opera sebon i bobol ifanc, Grange Hill - y dyfeisydd oedd Phil Redmond, a fyddai hefyd yn creu Hollyoaks a Brookside. Ond sioe fwya' llwyddiannus y flwyddyn oedd Wonderwoman, gyda Linda Hamilton, y cyn-Miss USA.
FFILMIAU
Daeth yr actor Cymraeg, Ian Saynor, yn enwog wrth actio gyferbyn â seren Hollywood, Katherine Hepburn, yn yr ail fersiwn ffilm o The Corn is Green, drama Emlyn Williams am fygythiad i foddi pentre' yng Nghymru. Cafodd ei ffilmio yn ardal Betws y Coed yn 1978 a'i rhyddhau yn 1979. Roedd Bryn Fôn hefyd yn y cast.
Un o ffilmiau mwya' dirdynnol y flwyddyn oedd Midnight Express am hanes Sais ifanc a gafodd ei garcharu yn Nhwrci am smyglo cyffuriau.
Crês y flwyddyn oedd Grease, gyda John Travolta ac Olivia Newton John yn mynd yn ôl i'r 1950au yn America am stori garu a chaneuon anodd eu hanghofio.
Y prif enillydd yn seremoni'r Oscars oedd The Deer Hunter, astudiaeth o effaith rhyfel Fietnam ar dre' fechan, gyda Robert de Niro a Meryl Streep.
Gwnaeth Marlon Brando ymddangosiad prin yn Superman, gyda Christopher Reeve yn y brif ran.
CHWARAEON
Coron Driphlyg driphlyg - Enillodd Cymru y Gamp Lawn am y tro ola' tan 2005, gan gipio'r Goron Driphlyg hefyd am y trydydd tro o'r bron. Ond cyhoeddodd dau o'r sêr mwya', Gareth Edwards a Gerald Davies, eu bod yn ymddeol.
Llwyddodd Berwyn Price i gipio medal aur yng Ngemau'r Gymanwlad yn y 110 metr dros y clwydi. Daeth aur arall i John Burns yn y codi pwysau.
Johnny Owen, y bocsiwr main o Ferthyr, oedd Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn yng Nghymru ar ôl iddo ennill teitl bantam y Gymanwlad a theitl gwledydd Prydain y flwyddyn gynt.
Anghofiwch gân Lloegr yng Nghwpan y Byd, record bêl-droed fawr y flwyddyn oedd "I Mewn i'r Gôl" i ddathlu llwyddiant clwb Wrecsam. Roedd wedi ei sgrifennu gan deulu lleol ar gyfer cystadleuaeth gan siop Gymraeg y dre'.
Roedd yna anrhydedd wahanol i'r gôl geidwad Dai Davies, a oedd erbyn hynny yn helpu Wrecsam yn eu hoes aur. Cafodd Wisg Wen yr Orsedd.
Llwyddodd Muhamad Ali i golli ac ennill teitl pwysau trwm y byd yn yr un flwyddyn trwy golli i Leon Spinks, ac wedyn ei guro.
Yr Ariannin a enillodd Gwpan y Byd, gyda dau chwaraewr, Osvaldo Ardiles a Ricardo Villa, yn chwarae i Spurs yn Lloegr. Yn ôl rhai, dyma ddechrau'r mewnlifiad mawr o chwaraewyr tramor i'r Cynghrair.
Ond dau dîm llai ffasiynol a enillodd brif wobrau pêl-droed Lloegr - Nottingham Forest yn ennill y Bencampwriaeth dan Brian Clough ac Ipswich Town yn cipio Cwpan yr FA, a chadwodd Lerpwl Gwpan Ewrop.
Enillodd y Cymro, Ray Reardon, bencampwriaeth snwcer y byd am y chweched tro, a'r tro ola'. Ar yr un pryd, enillodd Cliff Wilson o Dredegar y teitl amatur er ei fod tros ei 40 oed ac yn diodde' problemau gyda'i olwg.
Enillodd Martina Navratilova deitl merched Wimbledon am y tro cynta' - yn ôl rhai hi yw'r gorau erioed.
GWYDDONIAETH A THECHNOLEG
Geni Louise Brown, y babi test tiwb cynta' ar Orffennaf 25. Er bod rhai gwyddonwyr wedi hawlio llwyddiant cyn hyn, dyma'r achos sicr cynta'. Aeth hi i weithio i'r post yn ddiweddarach.
Dyfeisiwyd calon artiffisial a'i henwi ar ôl y gwyddonydd Jarvik.
Dyfais bwysig arall, sydd wedi achub oriau ac oriau i lawer o weithwyr swyddfa, oedd y VisCalc, y rhaglen gynta' i drafod cyfrifon yn gyflym - spreadsheet.
Ym maes cyfrifiaduron hefyd, cafwyd y bwrdd bwletin cyfrifiadurol cynta'.
Daethpwyd o hyd i dwll du newydd yn y gofod- medden nhw. Hanfod y rhain yw na fedr neb eu gweld nhw - gweddillion sêr anferth ydyn nhw sydd mor ddwys a thrwchus fel na fedr golau ddianc o afael eu disgyrchiant. Medden nhw.
FFORDD O FYW
Daeth Calan Mai yn Å´yl Banc swyddogol - dyma ddiwrnod rhyngwladol y gweithwyr.
Roedd dylanwad sinema a theledu'n amlwg ar ffasiwn, gyda'r ffilm Grease yn atgyfodi dillad yr 1950au a llwyddiant y gyfres Wonderwoman yn gwneud i ferched feddwl fod bwts gwirion yn dda.
Yn waeth byth, daeth loncian yn ffasiynol iawn a hynny'n gwneud i bobl na ddylai wneud hynny wisgo mewn lycra tynn.
Tegan y flwyddyn yn ôl y gwneuthurwyr oedd model o Combine Harvester.
Ond roedd yn well gan lawer o bobl ifanc chwarae gyda'u Atari newydd - offer gêmau fideo a agorodd y ffordd i gameboys yn ddiweddarach. Roedd wedi ei ddyfeisio yn 1977, ond yn 1978 y daeth yn boblogaidd ... a thros y môr yn Japan, roedd yna ddyfais arall yn barod i'n goresgyn - gêm fideo y Space Invaders.
Roedd cwmni Cymraeg yn ceisio manteisio ar ddatblygiad arall - sefydlwyd EOS i gyhoeddi fideos trwy gyfrwng y Gymraeg. Y dyn teledu, Euryn Ogwen, oedd un o'r sylfaenwyr.
Roedd hi'n flwyddyn am dorri recordiau - aeth balŵn ar draws yr Iwerydd am y tro cynta', gan gymryd 138 o oriau, a llwyddodd y Prydeiniwr Eddie Kidd i dorri record Evel Knievel trwy lamu tros 14 o fysiau dybl-decyr ar feic modur... heb sôn am y boi o swydd Hertford a gyflawnodd 120 naid parashiwt mewn 11 awr a 10 munud.
Roedd swydd hollol newydd Golygydd Radio Cymru'n cael ei hysbysebu ... a'r cyflog rhwng £7,980 a £10,500.
Roedd hi'n ddiwedd cyfnod a ffordd o fyw yn ardal Cwm Tydu, wrth i Dylan adael fferm y Cilie a thorri cysylltiad y lle gyda'r teulu rhyfeddol o feirdd gwlad.
Roedd yna newid ffasiwn ym myd recordiau hefyd - daeth senglau 12" yn fwy poblogaidd na'r rhai bach mwy cyffredin.
MARWOLAETHAU 1978
Bu farw Clough Williams-Ellis, y pensaer a'r cadwriaethwr, a chynllunydd pentre' Eidalaidd Portmeirion.
Bardd a gollwyd oedd J.M. Edwards, prifardd a ddaeth yn wreiddiol o ardal y Mynydd Bach, Ceredigion.
Roedd y gwleidydd Selwyn Lloyd o dras Gymreig hefyd. Bu'n llefarydd TÅ·'r Cyffredin.
David Williams oedd un o haneswyr mawr Cymru, yn enwedig oherwydd ei waith ar derfysgoedd Rebecca a'i lyfr am hanes modern y wlad.
Marwolaeth o fath arall - priodas Tony Armstrong Jones (o Bontnewydd) a'r Dywysoges Margaret.
Ymhlith marwolaethau eraill, roedd:
Harold Abrahams, y rhedwr a enillodd anfarwoldeb trwy'r ffilm Chariots of Fire.
Joe Davis, y chwaraewr biliards a snwcer
Hugh MacDiarmid, y bardd, y comiwnydd a'r cenedlaetholwr Albanaidd (ei enw iawn oedd Christopher Murray Grieve)
Dau arweinydd gwleidyddol - Golda Meir (Israel) a Jomo Kenyatta (Kenya)
Willy Messerschmitt, y dyfeisydd awyrennau o'r Almaen
Keith Moon, drymiwr gwyllt The Who.
Aldo Moro, cyn brifweinidog yr Eidal - ei gipio a'i lofruddio gan y Frigâd Goch.
Georgi Markov, y llenor o Fwlgaria a ddihangodd rhag Comiwnyddiaeth a chael ei lofruddio yn Llundain gydag ymabarél wenwynig.
 |
 |
 |
 |
|


[an error occurred while processing this directive]
[an error occurred while processing this directive]
[an error occurred while processing this directive]
|