ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cofio...?
Terry Griffiths Dyma 1979
Y penawdau, y pethau, y bobl...
Terry Griffiths - pencampwr y byd yn '79

Clicwch ar bwnc:

Cymru
Y Byd
Cerddoriaeth
Celfyddydau
Ffilmiau
Teledu a Radio
Chwaraeon
Gwyddoniaeth
Ffordd o Fyw
Marwolaethau

CYMRU

  • Refferendwm Gŵyl Ddewi - colli wnaeth yr ymgyrch tros ddatganoli, o fwyafrif o 4-1, gyda hyd yn oed Gwynedd yn pleidleisio yn erbyn. Roedd gwrthryfelwyr Llafur, dan arweiniad Neil Kinnock, wedi chwalu'r ymgyrch o blaid. Rhyw fath o wobr gysur i ddatganolwyr oedd sefydlu'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn NhÅ·'r Cyffredin, gyda'r gwaith o gadw llygad ar y Swyddfa Gymreig a llunio argymhellion polisi.

  • Yn yr Etholiad Cyffredinol yng Nghymru, cafodd y Ceidwadwyr eu canlyniad gorau ers achau, gan gipio 11 sedd. Roedd yna sawl sioc, wrth i'r Ceidwadwr o Brighton, Keith Best, guro Elystan Morgan i gipio hen sedd Cledwyn Hughes ym Môn a Cheidwadwr arall, Delwyn Williams, yn dwyn Maldwyn oddi ar y Rhyddfrydwyr. Safodd y Blaid Werdd yng Nghymru am y tro cynta'.

  • Gwobr gysur i Lafur oedd ennill cyngor Merthyr Tudful yn ôl oddi ar Blaid Cymru a daeth y Cynghorydd Annie Powell yn Faer y Rhondda, yr unig Gomiwnydd i gael swydd o'r fath trwy wledydd Prydain erioed.

  • Yn Etholiadau Ewrop, enillodd dwy fenyw - y ddwy gynta' i fod yn ASEau o Gymru. Ond roedden nhw ar ddau begwn gwahanol y drefn wleidyddol - Llafur oedd Ann Clwyd yn y Gogledd a'r Gorllewin, a Cheidwadwraig ronc oedd Beata Brookes yn y Gogledd.

  • Ar ôl blynyddoedd o gythrwfl tros ddiffyg Cymreictod a chynlluniau i ehangu'r coleg, aeth pethau yn waeth nag erioed yng Ngholeg Prifysgol Bangor wrth i bum myfyriwr gael eu gwahardd (roedd tri wedi eu gwahardd eisoes). Roedd un, Ifan Rhisiart Roberts, wedi'i wahardd am byth... er i'r cyfan gael mynd yn ôl yn y pen draw.

  • Aeth 15,000 o swyddi dur yng Nglyn Ebwy, Port Talbot, Llanwern a Shotton (gyda'r gweithwyr yno yn derbyn yn y diwedd y byddai'r gwaith yn cau)

  • Ym mis Ebrill, pleidleisiodd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol yn gry' o blaid cael safle parhaol, erbyn 1982. Ond yn yr Eisteddfod ym mis Awst, gwrthodwyd y syniad yn llwyr gan Lys y Brifwyl.

  • Dechreuodd y Llywodraeth chwilio am safleoedd i gladdu gwastraff niwclear yng nghanolbarth Cymru. Bu protestiadau yn erbyn.

  • Gwnaeth y Llywodraeth dro pedol tros sianel Gymraeg, gan newid eu meddwl a cheisio cadw rhaglenni Cymraeg ar fwy nag un sianel. Roedd yna brotestio mawr, gyda pharchusion fel Meredydd Evans, Ned Thomas a'r Athro Pennar Davies yn torri i mewn i fast Pencarreg ger Llanbed.

  • Ym mis Rhagfyr, dechreuodd yr ymgyrch losgi tai haf. Cafodd pedwar eu llosgi yr un pryd ar Ragfyr 12 a dilynodd pedwar arall cyn diwedd y mis.

    Y BYD

  • Cafodd yr aelod seneddol, Airey Neave, ei ladd gan fom mudiad gweriniaethol yr Irish National Liberation Army yn NhÅ·'r Cyffredin. Yn ddiweddarach, llofruddiwyd ewythr Dug Caeredin, Iarll Mountbatten, gan fom yn Warrenpoint, Gogledd Iwerddon.

  • Daeth camweddau Pol Pot i'r amlwg yng Nghambodia ar ôl i fyddin Fietnam oresgyn y wlad a chanfod fod 3 miliwn wedi eu lladd.

  • Ar ôl i Jim Callaghan golli pleidlais o ddiffyg hyder (o un) a galw Etholiad Cyffredinol, Margaret Thatcher oedd y wraig gynta' i ddod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig. Enillodd hi a'r Ceidwadwyr o fwyafrif sylweddol, gyda'r slogan "Labour Isn't Working" a llun o giw dôl anferth.

  • Disodlwyd Idi Amin, yr unben, yn Uganda a dienyddiwyd Bhutto, cyn-brif weinidog Pacistan.

  • Roedd gwrthryfel mwy arwyddocaol fyth yn Iran, ble cafodd y Shah ei ddiorseddu a daeth yr arweinydd crefyddol, yr Ayatollah Khomeini i rym, gan sefydlu gweriniaeth Islamaidd. Yn ddiweddarach, byddai creisis i'r Unol Daleithiau wrth i brotestwyr Islamaidd gadw 90 o wystlon yn gaeth yn ei llysgenhadaeth yn Tehran.

  • Yn Rhodesia (Zimbabwe wedyn) daeth yr arweinydd croenddu Abel Muzorewa yn arlywydd y wlad, ac yn Nicaragua daeth y Sandinistiaid Marcsaidd i rym.

  • Etholwyd y Prif Weinidog democrataidd cynta' yn Sbaen ers 40 mlynedd a chafodd cenhedloedd fel y Catalaniaid a'r Basgiaid fesur o hunanlywodraeth.

  • Bu un o'r damweiniau niwclear mwya' - yn Three Mile Island yn yr Unol Daleithiau.

  • Aeth byddin yr Undeb Sofietaidd i mewn i Affganistan i geisio achub y gyfundrefn gomiwnyddol yno rhag ffwndamentalwyr Islamaidd. O fewn dim, rodd yr Unol Daleithiau wedi anfon arian yn ddirgel i gefnogi gwrthwynebwyr y Sofietiaid. Roedd yn ddechrau ar gyfnod o gythrwfl a barodd am ddegawdau.

  • Enillodd y Fam Theresa o Galcutta y Wobr Nobel am Heddwch am ei gwaith yn helpu tlodion ar strydoedd y ddinas.

    CERDDORIAETH

    Yn Gymraeg ...

  • Cafwyd gŵyl roc newydd fyrhoedlog yn Llanberis - dan y teitl Padarn Roc - yn y gynta' o ddwy, Edward H Dafis oedd yn arwain, gyda Crysbas, Maggs, Hebog, Cyffro, Trydan a Disco'r Llais. Roedd tocyn yn costio £2.

  • Chwalodd y band Hergest, gan gyhoeddi hynny ar y rhaglen Sosban ar Radio Cymru ym mis Ionawr. Roedd eu cyngerdd ola' yn Nhalybont ddiwedd y mis.

  • Ffurfiodd Rhiannon Tomos a'r Band, gyda'r gantores yn cael ei chymharu i Janis Joplin - enillodd hi dlws Prif Gantores Unigol yn Noswaith Gwobrau Sgrech yn hwyrach. Ac yn y maes gwerin, ffurfiodd y band Cilmeri.

  • Un o EPs y flwyddyn oedd ail record Crysbas gyda Iesu! Mae 'di Bwrw a Blŵs TÅ· Golchi. Ond y ddisg fwya' anarferol oedd EP12" Y Trwynau Coch, Un sip arall... Roedd hi ar feinyl coch.

  • Un o LPs y flwyddyn oedd Gwesty Cymru gan Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr - nhw enillodd Wobr Arbennig Sgrech.

  • Enillydd gwobr y Prif Grŵp oedd Eliffant, a gyhoeddodd eu halbwm cynta' M.O.M. gyda chaneuon fel W, Capten. Y Grŵp Addawol oedd Chwarter i Un, ac un o'r prif leisiau oedd Gwyn Elfyn (Denzil, Pobol y Cwm). Ym 1980 gafodd y seremoni wobrwyo ei chynnal.

  • Plethyn, gyda Linda Griffiths (Healy wedyn) yn brif lais, oedd enillydd gwobr Sgrech am y Grŵp Gwerin gorau ac fe gyhoeddon nhw eu record gynta', Blas y Pridd, yn 1979. A'r Prif Ganwr Unigol oedd Tecwyn Ifan, ym mlwyddyn cyhoeddi ei albwm Goleuni yn yr Hwyr.

  • Oherwydd prinder digwyddiadau i bobol ifanc, aeth criw lleol - gan gynnwys Cymdeithas yr Iaith - ati i sefydlu maes adloniant yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon... Cae Saeson yng nghân Geraint Jarman.

  • A dechreuodd Gŵyl Werin Dolgellau, mam (neu nain) y Sesiwn Fawr yn ddiweddarach.

    ac yn Saesneg...

  • Daeth mudiad yr YMCA ag achos llys yn erbyn y band Village People am eu cân o'r un enw - roedd honno'n llawn awgrymiadau gwrywgydiol.

  • Bu farw Sid Vicious, cyn-gitarydd bas y Sex Pistols, o or-ddos o gyffuriau. Roedd yn 21 oed ac wedi ei gyhuddo o lofruddio ei gariad, Nancy Spungen.

  • Daeth y band Madness i fod mewn gig yn Camden Town. Eu henw tan y funud ola' oedd Morris and the Minors. Dyma ddechrau ar boblogrwydd cerddoriaeth Ska a Two Tone.

  • Priododd Eric Clapton a Patti Boyd. Bu'r priodfab yn perfformio yn y brecwast... gyda Paul McCartney, George Harrison, Ringo Starr a Mick Jagger.

  • Cyhoeddwyd un o'r ffilmiau roc enwoca' - Quadrophenia gan The Who.

  • Dyma rifau 1 y flwyddyn:
    Y.M.C.A. - Village People
    Hit Me With Your Rhythm Stick - Ian Dury and the Blockheads
    Heart of Glass - Blondie
    Tragedy - BeeGees
    I Will Survive - Gloria Gaynor
    Bright Eyes - Art Garfunkel
    Sunday Girl - Blondie
    Ring My Bell - Anita Ward
    Are "Friends" Electric? - Tubeway Army
    I Don't Like Mondays - Boomtown Rats
    We Don't Talk Anymore - Cliff Richard
    Cars - Gary Numan
    Message in a Bottle - Police
    Video Killed the Radio Star - Buggles
    One Day at a Time - Lena Martell
    When You're in Love With a Beautiful Woman - Dr Hook
    Walking on the Moon - Police
    Another Brick in the Wall - Pink Floyd

  • Cafodd y gantores o Gymru, Iris Williams, hefyd lwyddiant yn y siartiau gyda'i chân He Was So Beautiful.

    CELFYDDYDAU

  • Rhai o lyfrau'r flwyddyn: Bob yn y Ddinas, nofel gan Sion Eirian; Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr, nofel gynta' Alun Jones; Cerddi Caradog Prichard - casgliad o'i holl gerddi.

  • Roedd yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon ond, am yr ail flwyddyn yn olynol, bu raid atal y Gadair. Aeth y Goron i Meirion Evans... ond ar ôl helynt. Roedd cerddi gan yr Americanwr, John Dressel, wedi eu trosi gan T. James Jones, wedi'u dyfarnu'n fuddugol i ddechrau ond fe gawson nhw'u diarddel am gystadlu ar y cyd, dan yr enw Ianws (y duw dau ben). Enillydd y Fedal Ryddiaith oedd R. Gerallt Jones.

  • Ym Maesteg yr oedd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a'r tro yma y Goron a gafodd ei hatal. Aeth y Gadair i Peredur Lynch o Garrog.

  • Cafodd cwmni theatr Bara Caws grant am y tro cynta', gan ganiatáu iddyn nhw weithio'n llawn amser... y cynnyrch newydd oedd Bargen, y sioe am y chwareli, a osododd y safon ar gyfer theatr gymunedol Gymraeg.

  • Dechreuodd cwlt yn Saesneg gyda chyhoeddi Hitchhiker's Guide to the Galaxy gan Douglas Adams.

  • Cynhyrchiad mawr y flwyddyn gan Theatr Cymru oedd Esther, drama Saunders Lewis, gyda'r gŵr a'r gwraig, John Ogwen a Maureen Rhys, mewn dau o'r prif rannau.

  • Roedd yna ddadlau am gynhyrchiad arall, Cofiant y Cymro Olaf, gan Meic Povey a Dyfed Thomas. Protestiodd Euros Lewis o Theatr Felin-fach yn gyhoeddus ar ddiwedd un perfformiad, gan ei gondemnio am fod yn negyddol.

  • Daeth y cylchgrawn ymosodol Rebecca i ben ar ôl cyfres o lwyddiannau yn datgelu twyll a llygredd yn y byd cyhoeddus yng Nghymru. Ond byddai'r golygydd, Gwyddel o'r enw Paddy French, yn llwyddo i'w atgyfodi cyn bo hir...

  • Newidiodd golwg Caernarfon, wrth i'r arlunydd Ed Povey wneud clamp o furlun yn dangos rhai o gymeriadau'r dre' a pheth o'i hanes.

    TELEDU A RADIO

  • Cyn diwedd y flwyddyn, ehangodd darpariaeth Radio Cymru i gynnig rhagor o oriau Cymraeg.

  • Daeth Caryl Parry Jones i ymuno efo Emyr Wyn a Naomi Jones yn cyflwyno'r rhaglen blant Bilidowcar.

  • Bu'r cylchgrawn pop Sgrech yn ymosod yn ffyrnig ar raglen bop y ÃÛÑ¿´«Ã½, Twndish, oherwydd ei bod yn cynnwys cerddoriaeth Saesneg. Gyda'i ffraethineb arferol, roedd y cylchgrawn wedi ail-enwi'r rhaglen yn Twnsh**. Gwrthododd rhai artistiaid ymddangos arni hefyd.

  • Ond roedd y cylchgrawn yn canmol rhaglen HTV, Seren Wib - rhaglen gylchgrawn gydag elfen gre' o ganu pop.

  • Dechreuodd cyfres gomedi newydd o'r enw Hanner Munud, wedi ei seilio ar gynhyrchiad gan Bara Caws.

  • Ar gylchgrawn newyddion y ÃÛÑ¿´«Ã½, Heddiw, llwyddodd Emyr Daniel i gael cyfweliad gyda Sheik Yamani, y dyn a oedd yng nghanol helyntion olew'r Dwyrain Canol. Ond roedd amheuaeth fod Llundain wedi ymyrryd i rwystro Heddiw rhag darlledu cyfweliad gyda'r cyn-fomiwr, John Jenkins.

  • Cyn diwedd y flwyddyn byddai Emyr Daniel yn ymuno â Radio Cymru i gyflwyno rhaglenni newyddion y bore.

  • Rhoddodd Alun Evans y gorau i gyflwyno Heddiw er mwyn mynd yn bennaeth ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru ym Mangor, a daeth Gwyn Llywelyn yn ei le.

  • Dechreuwyd ar y gwaith o ffilmio'r gyfres deledu The Life and Times of David Lloyd George. Philip Madoc oedd yn y brif ran, John Hefin oedd y cyfarwyddwr a'r Prifardd Tudur Dylan Jones (bachgen ysgol ar y pryd) oedd y Lloyd George ifanc.

  • Ac yn Saesneg yn 1979, roedd yn ail gyfres (a'r ola') o'r gomedi Fawlty Towers; roedd Penelope Keith yn actio yn To The Manor Born a daeth nifer o gymeriadau newydd yn enwog - y bargyfreithiwr yn Rumpole of the Bailey, y ddau rapsgaliwn (George Cole a Denis Waterman) yn Minder a'r cyn-Ddr Who, Jon Pertwee, yn troi'n fwgan brain yn Worzel Gummidge.

    FFILMIAU

    Roedd hi'n flwyddyn dwy ffilm yn y byd Cymraeg:

  • Newid Gêr - ffilm gan Alan Clayton am berthynas gweddw a ffrind ei gŵr a oedd wedi ei ladd mewn damwain gar. Roedd y sgript gan Euryn Ogwen.

  • Teisennau Mair - ffilm arswyd a rhamant gan Gareth Wynn Jones, gyda sgript gan Iwan Meical Jones a Marged Esli a Cefin Roberts yn y prif rannau.

  • Yn Saesneg, blwyddyn Kramer v Kramer oedd hi - ffilm am ysgariad, a enillodd Oscar iddi hi ei hun ac i'r prif actorion, Dustin Hoffman a Meryl Streep.

  • Roedd yna helynt mewn sawl tre' yng Nghymru hefyd gyda galwadau am wahardd ffilm Monty Python, The Life of Brian, oherwydd ei bod hi'n portreadu rhywun tebyg iawn i Iesu Grist.

    Roedd yna ffilmiau mawr eraill hefyd:

  • Apocalypse Now - ffilm ddychrynllyd am ryfel Cambodia a Fietnam, gyda Marlon Brando ymhlith y cast

  • Alien - y ddiweddara' o'r ffilmiau codi ofn arallfydol

  • All That Jazz, gyda'i cherddoriaeth gofiadwy

  • Manhattan, un arall mewn cyfres lwyddiannus gan Woody Allen

  • Caligula - ffilm ddadleuol llawn noethni am yr ymerawdr Rhufeinig

  • Star Trek - The Motion Picture

    CHWARAEON

  • Terry Griffiths yn bencampwr snwcer proffesiynol y byd ar y cynnig cynta' a thîm Cymru yn ennill Cwpan y Byd yn y gamp.

  • Tîm rygbi Cymru'n ennill y Goron Driphlyg am y pedwerydd tro o'r bron - record. Ond dyma ddiwedd yr Oes Aur a chafodd rhai fel Ray Gravell eu gollwng o'r tîm am gyfnod.

  • Sefydlwyd Clwb Mynydda Cymru a Bwrdd Coets Cymru hefyd.

  • Llwyddodd Gerry Breen o Grughywel i dorri record y byd, trwy hedfan 202 o filltiroedd o Dredegar i Norwich - mewn gleidar grog gyda pheiriant.

  • Paffio - daeth Pat Thomas o Gaerdydd yn bencampwr pwysau canol ysgafn gwledydd Prydain.

  • Daeth seren newydd siriol i ffurfafen y byd golff, wrth i'r Sbaenwr, Seve Ballesteros ennill Pencampwriaeth Agored Prydain.

  • Cafodd 15 o forwyr eu lladd pan drawyd Ras y Fastnet gan storm annisgwyl.

  • Llwyddodd Tracy Austin i ennill pencampwriaeth tennis agored yr Unol Daleithiau a hithau'n ddim ond 16 oed. Enillodd chwaraewr enwog arall ei deitl mawr cynta' yng nghystadleuaeth y dynion - John McEnroe.

  • Roedd yna enw mawr yn cyrraedd y brig ym myd paffio hefyd, wrth i Sugar Ray Leonard ennill ei deitl byd cynta' yn y pwysau welter.

  • Cafodd clwb pêl-droed Abertawe ddyrchafiad am yr ail flwyddyn o'r bron - i'r Ail Adran. A daeth dau o'i gyn gyd-chwaraewyr yn Lerpwl i ymuno gyda'r rheolwr, John Toshack - Ian Callaghan a Tommy Smith.

    GWYDDONIAETH A THECHNOLEG

  • Am y tro cynta', llwyddodd seryddwyr i weld fod cylchoedd gan y blaned fwya', Iau (Jupiter).

  • Dyfeisiwyd Wordstar, y rhaglen gyfrifiadurol fasnachol gynta' ar gyfer prosesu geiriau.

  • Roedd bywydau pawb ar fin newid, ond doedd fawr neb yn gwybod ar y pryd. Cyflwynwyd y ffôn symudol cynta', gan ddechrau chwyldro mewn cyfathrebu.

  • Llwyddodd llong ofod y Pioneer 11 i gyrraedd y blaned Sadwrn.

  • Roedd pobl ifanc yn dueddol o gerdded o gwmpas y lle heb gymryd sylw o neb a gan siarad yn uchel - daeth y Sony Walkman cynta', y peiriant casét symudol, ar y farchnad.

    FFORDD O FYW

  • Daeth jîns designer i'r amlwg, gyda sefydlu label Calvin Klein.

  • Roedd yna esmwythyd newydd i ferched gyda choesau blewog - lansiwyd y Remington Shaver yn arbennig ar eu cyfer.

  • Dim cysylltiad, wrth gwrs, gyda'r ffaith fod y traeth noethlymunwyr swyddogol cynta' yn y DU wedi ei agor yn Brighton.

  • Ydych chi'n gwybod pa gêm a gafodd ei lansio yn 1979? Trivial Pursuit, wrth reswm.

  • Roedd pobol ifanc unwaith eto'n gwibio o gwmpas y lle ar ddyfais newydd - llafnau rholio (roller skates), a ddyfeisiwyd gan ddyn o'r enw Scott Olson.

  • Cododd pris llaeth/llefrith i 15c y peint ac, ar ôl prynu brys oherwydd prinder, cododd pris petrol i £1.22.

  • Ymhlith y swyddi, roedd Clerc yn Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd yn gallu ennill £2556 y flwyddyn, tra bod gofalwyr yn y Llyfrgell Genedlaethol yn cael £58.27 yr wythnos.

  • Gwnaeth Y Bala ymgais i gystadlu gyda Loch Ness, wrth i dri o bobol leol ddweud yn bendant eu bod wedi gweld anghenfil yn y llyn.

  • Cafodd ffotograffydd Y Cymro, Tegwyn Roberts, sgŵp wrth dynnu llun car anarferol yn Llanfyllin. Daeth yn amlwg mai model arbrofol oedd hwn o'r Mini Metro a fyddai'n cael ei lansio yn 1980.

  • Arwydd o newid hinsawdd - fe fu hi'n bwrw eira am hanner awr yn anialwch y Sahara.

    MARWOLAETHAU 1979

    Roedd yna nifer o golledion i'r byd Cymraeg a Chymreig:

  • Dilys Cadwaladr, y wraig gynta' i ennill y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
  • Nansi Richards, Brenhines y Delyn Deires, a chymeriad mawr.
  • Jennie Thomas, cyd-awdur Llyfr Mawr y Plant.
  • Dilys Davies, yr actores a bortreadodd y Metron yn Pobol y Cwm.
  • Hugh Bevan, y darlithydd a'r beirniad llenyddol.
  • Goronwy Rees, cyn-Brifathro dadleuol Coleg Prifysgol Aberystwyth, a gyfaddefodd ei fod wedi ysbïo tros yr Undeb Sofietaidd.
  • Charles Tunnicliffe, y Sais a ddaeth i Ynys Môn a phaentio miloedd o luniau o adar.
  • Jean Rhys (Ella Gwendolen Rees Williams), yr awdures o'r Caribî gyda'r tad o Gymro.

  • A bu farw Llanarth Braint, y cob Cymreig a oedd yn cael y clod am ail-boblogeiddio'r bryd. Roedd "Tad y Cob Cymreig" dros ei 30 oed.

  • Yn y byd Saesneg, bu farw dwy o'r diddanwyr mawr - yn gantorion, actoresau a digrifwragedd: Gracie Fields a Joyce Grenfell.

    Ymhlith marwolaethau eraill, roedd:

  • Charles Mingus, un o fawrion y byd jazz.
  • John Wayne (Marion Morrison), yr actor cowbois nad oedd byth yn marw mewn ffilm.
  • Mary Pickford, yr actores gynnar.
  • Josef Mengele, meddyg arbrofol y Natsiaid - boddodd yn Brasil, lle'r oedd yn cuddio.
  • Norman Hartnell, y cynllunydd dillad.
  • Richard Rodgers, un hanner o bartneriaeth sioeau cerdd Rodgers and Hammerstein.
  • Minnie Riperton, y gantores bop gyda llais pum octef - bu farw'n ifanc o ganser.
  • Richard Beckinsale, yr actor o Porridge, yn ddim ond 31 oed.


  • Cofio...

    [an error occurred while processing this directive] [an error occurred while processing this directive] [an error occurred while processing this directive]


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý