Y bocsiwr Johnny Owen
Beth yw eich atgofion chi o 1980? Cyfrannwch i'r dudalen hon drwy anfon eich atgofion atom - ewch i waelod y dudalen
"Yn ystod 1980 fe ddaeth fy nghyfnod prawf fel ymchwilydd yn Adran Chwaraeon y ÃÛÑ¿´«Ã½ i ben a ges i gynnig cytundeb go iawn, heb godiad cyflog wrth gwrs. Yn ystod fy nghyfnod cynnar yn y swydd mi gefais y fraint ar sawl achlysur nid yn unig i weld Johnny Owen yn bocsio, ond cael mynd draw i'w dÅ· i'w holi. Toeddwn i ddim yr holwr gorau, roedd o'n hynod o swil ond rhywsut mi ddaetho ni i ben.
"Y cysylltiad arall oedd gen i efo'r dyn hynaws yma o Ferthyr oedd mai fi oedd yn cyflwyno'r bwletin chwaraeon ar y diwrnod y bu farw. Roedd Johnny Owen yn focsiwr campus ond yn ddyn gwell."
John Hardy, Tonteg
 |