 |
 |
 |
Dyma 1983 Y penawdau, y pethau, y bobl... |
 |
 |
 |
Cabbage Patch Doll
Clicwch ar bwnc:
Cymru Y Byd Cerddoriaeth Celfyddydau Ffilmiau Teledu a Radio Chwaraeon Gwyddoniaeth Ffordd o Fyw Marwolaethau
CYMRU
Dechreuodd y flwyddyn gyda streic gan weithwyr dŵr, a barhaodd am bum wythnos. Ar un adeg, roedd tua 800,000 o bobol yng Nghymru'n gorfod berwi dŵr cyn ei ddefnyddio ac fe fu problemau hefyd gyda charthffosiaeth.
Cafodd y Ceidwadwyr eu canlyniad gorau mewn Etholiad Cyffredinol yng Nghymru yn y cyfnod modern, gydag 14 o seddi. Er hynny, llwyddodd y Rhyddfrydwyr i ennill Maldwyn yn ôl trwy Alex Carlile. A llwyddodd Llafur i ennill yr holl seddi lle'r oedd ASau wedi troi at blaid newydd yr SDP. AS Llafur newydd Wrecsam, John Marek, oedd yr unig un yn Nhŷ'r Cyffredin oedd yn gallu siarad Tsiec.
Daeth Neil Kinnock, aelod seneddol Islwyn, yn arweinydd y Blaid Lafur ar ôl eu canlyniadau gwael yn Etholiad Cyffredinol 1983. Er bod ASau o etholaethau Cymreig, fel ei ddau ragflaenydd, Jim Callaghan a Michael Foot, wedi arwain y blaid o'r blaen, ef oedd y Cymro cynta' i wneud hynny.
Roedd yna gwyno am fod Bwrdd Croeso Cymru wedi penodi 1983 yn Flwyddyn y Cestyll - ym marn rhai, roedd hynny fel pe bai'n dathlu goresgyniad Cymru gan y Normaniaid.
Cafodd 'pedwar dirgel' Penyberth eu henwi mewn cyfrol am hanes Plaid Cymru. Nhw oedd wedi helpu Saunders Lewis, D.J. Williams a Lewis Valentine i losgi'r Ysgol Fomio yn 1936. Yn eu plith, roedd un o gynghorwyr Gwynedd, O.M. Roberts.
Cynhaliwyd achos llys yn erbyn carfan o bobol a oedd wedi eu cyhuddo o osod bomiau mewn adeiladau yng Nghymru a Lloegr yn enw Workers' Army of the Welsh Republic. Dim ond un a gafwyd yn euog - cafodd Dafydd Ladd naw mlynedd o garchar - ond diflannodd un arall i Iwerddon am gyfnod.
Roedd yna ofn ar hyd a lled y Gymru wledig wrth i heddlu chwilio am gyn-garcharor o'r enw Richard Gambrel, ar ôl llofruddio ffermwr mewn bynglo diarffordd yng Nghwm Brefi. Roedd y ffermwr, John Williams Brynambor, yn Ysgrifennydd Capel Soar y Mynydd.
Bu raid i ohebydd teledu Cymraeg, Russell Isaac, ffoi o'i westy ym Mhatagonia ar ôl i'r criw gael eu bygwth gan dorf. Roedd llywodraeth talaith Chubut wedi condemnio'r ymweliad ar y radio, gan eu cyhuddo o ysbïo.
Roedd Sir Benfro yn y newyddion, wrth i gylch smyglo anferth gael ei ddal yno, yn defnyddio ogofâu a siambrau cudd i guddio'r deunydd, ac wedyn wrth i 160 o ddiffoddwyr ymladd tân anferth ym mhurfa Amoco ger Aberdaugleddau.
Dyrchafiad arall i Gymro? Daeth Raul Alfonsin yn Arlywydd yr Ariannin - mae'n debyg ei fod yn ddisgynnydd i un o Gymry Patagonia - ei daid oedd Richard Foulkes a ymfudodd yno yn 1890.
Y BYD
Cyrhaeddodd taflegrau Cruise Gomin Greenham a chryfhaodd y protestio yno, gyda llawer o ferched o Gymru yn dal i fod yn rhan o'r gwersyll heddwch.
Cyhoeddodd Arlywydd yr UDA, Ronald Reagan, ei fod am ledu'r ras arfau i'r gofod, gyda system i atal taflegrau'r gelyn. Yr enw ar hyn yn y wasg oedd 'Star Wars'... bythefnos ynghynt, roedd Reagan wedi galw'r Undeb Sofietaidd yn "ymerodraeth ddrwg".
Cafodd Margaret Thatcher fwyafrif anferth o 144 dros Lafur ond surwyd y fuddugoliaeth pan ddatgelwyd fod un o'i chefnogwyr amlyca', Cecil Parkinson, yr Ysgrifennydd Diwydiant a Masnach, yn dad i blentyn ei ysgrifenyddes. Bu raid iddo ymddiswyddo.
Cafodd llysgenhadaeth America ei bomio yn Beirut gan ladd 63 o bobol... yn ddiweddarach lladdwyd 241 o filwyr Americanaidd gan fom hunanladdwyr yn Beirut.
Bu terfysg gwrth-Tamil yn Sri Lanka, pan laddwyd 3,000 ohonyn nhw a dinistriwyd gwerth miliynau o bunnoedd o'u heiddo. Roedd yn ddechrau ar flynyddoedd o wrthdaro gwaedlyd.
Cafwyd dihangfa ryfeddol o garchar y Maze yng Ngogledd Iwerddon - llwyddodd 38 o garcharorion yr IRA i ddwyn lorri a chwalu un o'r pyrth. Cafodd un gwarchodwr ei ladd.
Dechreuodd brwydr wleidyddol fawr wrth i'r Llywodraeth gyhoeddi eu bod am ddileu Cyngor Llundain, lle'r oedd Ken Livingstone a'i gynghorwyr asgell chwith yn teyrnasu.
Ymosododd yr Unol Daleithiau ar ynys Grenada ym môr y Caribî ar ôl i'r Arlywydd gael ei ladd mewn coup milwrol gan griw asgell chwith.
Digwyddodd un o'r lladradau mwya' erioed (hyd hynny) wrth i ladron ddwyn 6,800 bar o aur (gwerth £26 miliwn) o sêff Brinks Mat ym maes awyr Heathrow. Ychydig iawn o'r aur a gafwyd yn ôl a dim ond dau ddyn a garcharwyd am y digwyddiad.
Cafodd chwech o bobol eu lladd pan ffrwydrodd bom y tu allan i siop Harrods yn Llundain. Roedd wedi ei gosod gan yr IRA a chafodd 90 o bobol eu hanafu.
CERDDORIAETH
Yn Gymraeg ...
Daeth band dylanwadol iawn i'r amlwg am y tro cynta' - wrth i'r Brodyr gyhoeddi casét pedair cân o'r enw Syched. Er y byddai ysbrydoliaeth y grŵp, Huw Huws, yn marw mewn tân ymhen dwy flynedd, mae rhai'n dal i ddweud mai dyma'r band Cymraeg gorau erioed.
Enw newydd arall oedd Louis a'r Rocyrs, gyda'u roc trwm a chyhoeddodd Omega eu hunig record hir.
Ceisiodd Dafydd Iwan ymddeol a methu'n llwyr. Efallai mai dyna pam y cyhoeddodd un o'i ganeuon gorau, Yma o Hyd.
Dechreuodd Meic Stevens ar oes aur arall, gyda chyhoeddi Gitâr yn y Twll Dan Star, y gynta' o recordiau hir cofiadwy.
Noson wobrwyo Sgrech (a gynhaliwyd ym mis Ionawr i gyflwyno gwobrau 1982) oedd y fwya' llwyddiannus eto, gyda tua 1,000 o bobol yno. Ond prif enillwyr '83 oedd:
Maffia Mr Huws - Prif grŵp roc
Bwchadanas - Prif grŵp gwerin
Meic Stevens - Prif ganwr (eto)
Gyda Maffia'n arwain, roedd Bethesda'n datblygu'n ganolfan bwysig a chynhaliwyd yr ŵyl Pesda Roc am y tro cynta' erioed. Gael ei hatgyfodi yn 2003.
ac yn Saesneg...
Roedd yna ddwy hit fawr i Gymru... ail gyfle ar rif 1 i Bonnie Tyler o Abertawe gyda Total Eclipse of the Heart a'r rhif 1 Nadolig annisgwyl gan The Flying Pickets, gyda'r actor Brian Hibberd yn un ohonyn nhw.
Yr un a ddisodlwyd gan Bonnie Tyler oedd Michael Jackson a oedd yn torri tir newydd gyda'i albwm Thriller a'i ddefnydd o fideo i'w hyrwyddo.
Bu farw Tom Evans, gitarydd Badfinger gynt, y band o Abertawe a oedd yn cael eu hystyried ar un adeg yn olynwyr i'r Beatles. Crogodd ei hun yn ei ardd, yn union fel Peter Ham, canwr y band flynyddoedd ynghynt.
Cyhoeddwyd sengl gan un o grwpiau mawr y dyfodol - The Smiths. Roedd eu canwr, Morrissey, yn ffan mawr i Sandie Shaw. Ond chwalu a wnaeth un o enwau mawr y gorffennol - The Who.
Cyhoeddodd Jean-Michel Jarre albym newydd - ond dim ond un copi a wnaed. Cafodd hwnnw ei werthu am 69,000 ffranc.
Rhifau 1 y flwyddyn oedd:
Save Your Love - Renee a Renato
You Can't Hurry Love - Phil Collins
Down Under - Men at Work
Too Shy - Katagoogoo
Billie Jean - Michael Jackson
Total Eclipse of the Heart - Bonnie Tyler
Is There Something I Should Know - Duran Duran
Let's Dance - David Bowie
True - Spandau Ballet
Candy Girl - New Edition
Every Breath You Take - Police
Baby Jane - Rod Stewart
Wherever I Lay My Hat - Paul Young
Give it Up - KC and the Sunshine Band
Red Red Wine - UB40
Karma Chameleon - Culture Club
Billy Joel - Uptown Girl
Only You - Flying Pickets
CELFYDDYDAU
Embaras mawr y flwyddyn oedd Dyddiaduron Hitler - dogfennau ffug a gafodd eu llyncu'n llwyr gan y Sunday Times a gan yr hanesydd pwysig, Hugh Trevor Roper.
Roedd hi'n flwyddyn dda i blant oedd yn hoffi darllen:
Sefydlwyd Clwb Sbondonics gan y Cyngor Llyfrau Cymraeg ac, erbyn diwedd y flwyddyn, roedd mwy na 5,000 o aelodau.
Dechreuodd Angharad Tomos ar un o'r cyfresi llyfrau plant mwya' poblogaidd erioed - straeon Rwdlan a Rala Rwdins o Wlad y Rwla.
Cyhoeddwyd llyfrau bychain Superted i fynd gyda'r gyfres gartwnau a oedd, erbyn hynny, yn dechrau cael llwyddiant rhyngwladol.
I oedolion, un o lyfrau pwysica'r flwyddyn oedd The Taliesin Tradition gan y nofelydd Emyr Humphreys - roedd yn olwg eang ar ddiwylliant a hanes Cymru.
Roedd yna stori drist y tu cefn i fuddugoliaeth Einion Evans o Sir y Fflint, wrth iddo ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llangefni. Roedd ei awdl Yr Ynys er cof am ei ferch, Ennis, oedd yn awdures ifanc addawol. Aeth y Goron am yr ail dro i Eluned Phillips, gyda T. Wilson Evans, un arall o feibion Sir y Fflint, yn cipio'r Fedal Ryddiaith.
Doedd yna ddim Coroni yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Aberafan, ond aeth y Gadair i gyw o frîd - Sioned Lewis Roberts, merch y nofelydd Eigra Lewis Roberts.
Digwyddiad nodedig arall yn yr Eisteddfod honno oedd sefydlu cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn.
Cwmni Theatr Cymru oedd yn gyfrifol am ddrama fwya'r flwyddyn - gyda dadlau a thaflu bai yn sgîl trafferthion ariannol dychrynllyd.
Roedd yna eironi wrth i'r dramodydd Saunders Lewis dderbyn doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Cymru am ei gyfraniad i wleidyddiaeth, crefydd, y celfyddydau ac addysg. Roedd y Brifysgol wedi ei daflu o swydd darlithydd ar ôl iddo fod yn rhan o losgi'r Ysgol Fomio yn 1936.
Cynhaliwyd cystadleuaeth Canwr y Byd am y tro cynta' yng Nghaerdydd ac roedd y gantores Gymreig, Gwyneth Jones, ymhlith cast ar record glasurol a enillodd wobr Grammy yn yr Unol Daleithiau. Roedd hi'n canu yn Y Cylch gan Wagner.
Roedd yna ddwy nofel dditectif ymhlith llyfrau pwysica'r flwyddyn, ond dwy nofel dditectif eitha' gwahanol - un hanesyddol, athronyddol Umberto Eco, The Name of the Rose, a chyfrol hynod Gabriel Garcia Marquez, Chronicle of a Death Foretold. A'r Sais, William Golding, a enillodd y Wobr Nobel am Lenyddiaeth - ei lyfr enwoca' oedd Lord of the Flies.
TELEDU A RADIO
Cafodd S4C un o'u llwyddiannau mawr cynta', gyda chyfres ddrama o'r enw Minafon, wedi ei gosod ym mhentre' Trefor a'i seilio ar nofel gan Eigra Lewis Roberts. Roedd Gwen Tomos gan Daniel Owen ar y bocs hefyd, gyda Cefin Roberts yn actio'r prif gymeriad, Rheinallt.
Dechreuodd un o'r partneriaethau mwya' llwyddiannus yn hanes teledu Cymraeg, wrth i'r canwr Dai Jones Llanilar ddod yn gyflwynydd ar y gyfres Cefn Gwlad.
Am Gymru yr oedd un o'r cyfresi Saesneg mwya' llwyddiannus hefyd - roedd The Citadel yn addasiad o nofel A.J.Cronin am fywyd a chaledi yn y Cymoedd rhwng y ddau ryfel. Ond roedd yna ddadlau ar ôl i ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru ddangos ffilm am hanes y bomiwr John Jenkins, The Extremist.
Dechreuodd tair cyfres enwog yn Saesneg:
Auf Wiedersehen Pet - cyfres galed a digri am griw o adeiladwyr o Newcastle yn mentro i'r Almaen i weithio.
Blackadder - comedi Ben Elton yn dilyn Blackadder a'i ddisgynyddion trwy rai o gyfnodau mawr hanes - Rowan Atkinson oedd pob Blackadder.
Cheers - y gynta' o nifer o gomedïau Americanaidd poblogaidd iawn.
Ond daeth dwy raglen i ben hefyd:
Sioe Nadolig 1983 oedd un ola' Morecambe and Wise.
Daeth Nationwide, rhaglen gylchgrawn newyddion y ÃÛÑ¿´«Ã½ i ben hefyd.
Roedd yna gystadleuaeth ym myd teledu wrth i deledu brecwast ddechrau. Lansiodd y ÃÛÑ¿´«Ã½ eu Breakfastime, ychydig cyn i TVam ddechrau.
A radio... roedd yna gystadleuaeth mewn dwy ardal, wrth i'r ÃÛÑ¿´«Ã½ lansio gorsafoedd lleol Clwyd a Gwent, yn union cyn i ddwy orsaf annibynnol gael eu sefydlu yno.
FFILMIAU
Enillydd mawr y flwyddyn yn yr Oscars oedd Terms of Endearment, gyda Shirley MacLaine yn ennill un o'r gwobrau am fod yn actores orau. Roedd y ffilm am berthynas mam a merch.
Difa arall a enillodd Oscar oedd Cher, am gefnogi Meryl Streep yn Silkwood, stori wir am ferch a gafodd ei llofruddio rhag iddi ddatgelu cyfrinachau am beryglon mewn gwaith niwclear.
Ffilm arbrofol y flwyddyn oedd Zelig, gyda Woody Allen yn landio ynghanol darnau ffilm go iawn o ddigwyddiadau hanesyddol, gan gynnwys un o ralïau Hitler.
Roedd Educating Rita yn nodweddiadol o fath o ffilm Seisnig, gyda Julie Walters yn actio merch gyffredin oedd am wella'i haddysg dan adain darlithydd (Michael Caine).
Roedd yna ffilmiau mawr eraill fel Star Wars: Return of the Jedi, Flashdance (math o Billy Elliott Americanaidd) a Trading Places (pan oedd Eddie Murphy tlawd yn cyfnewid lle gyda Dan Aykroyd cyfoethog). Ond llwyddiant annisgwyl y flwyddyn oedd Local Hero, ffilm Bill Forsyth am feudwy ym mhellteroedd yr Alban yn ennill tros gwmni olew o America.
CHWARAEON
Ymddeolodd un o oreuon y byd yn ei faes... nid chwaraewr ond refferî. Roedd llawer yn credu mai Clive Thomas oedd dyfarnwr pêl-droed gorau'r byd ac roedd hefyd yn barod ei farn.
Daeth y paffiwr Colin Jones o Gorseinon o fewn dim i ennill pencampwriaeth welter y byd. Cafodd ornest gyfartal yn erbyn Milton McCrory o'r Unol Daleithiau, cyn colli yn yr ail ornest.
Philip Parker oedd yr ail Gymro i ennill Pencampwriaeth Golff Amatur Prydain.
Collodd Don Bradman un o'i records, wrth i Sunil Gavaskar o India lwyddo i sgorio ei 30fed cant mewn gêmau prawf. Ond roedd yr Awstraliad wedi cyflawni'r gamp mewn llai o gêmau.
Ymddeolodd y chwaraewr tennis Bjorn Borg, y dyn cyntaf i ennill Wimbledon bum gwaith yn olynol.
Llwyddodd y chwaraewr snwcer Cliff Thorburn i sgorio'r 147 llawn cynta' erioed ar deledu. Ac enillodd y Cymro Doug Mountjoy Bencampwriaeth Agored Prydain.
Torrodd Awstralia record ryfeddach fyth trwy ennill Cwpan hwylio'r America's. Dyna'r wobr chwaraeon hyna' yn y byd ac roedd yr Unol Daleithiau wedi ei hennill bob tro cyn hynny - 132 o weithiau.
Roedd Cwpan yr FA yn ddramatig wrth i Man Utd guro Brighton, a oedd newydd gwympo o'r Adran Gyntaf. Ond roedd angen dwy gêm - 2-2 ac yna 4-0.
Roedd hi'n llawer haws i Lerpwl, wrth iddyn nhw gipio'r bencampwriaeth unwaith eto, ym mlwyddyn ola' y rheolwr, Bob Paisley.
Dim cystal lwc i Abertawe, a ddisgynnodd o'r Adran Gyntaf, ac i Wrecsam, a aeth i lawr o'r Drydedd i'r Bedwaredd.
GWYDDONIAETH A THECHNOLEG
Yn 1983 y cafwyd yr adroddiad gwyddonol cynta' yn dweud mai feirws oedd yn achosi'r cyflwr AIDS.
Dechreuodd byd y cyfrifiaduron personol go iawn gyda'r Lisa gan Apple, yr un a ddaeth â phethau fel copïo a phastio a llygoden i'r byd. Ond roedd yn costio bron i $10,000 hyd yn oed bryd hynny.
Digwyddiad pwysig arall ym maes cyfrifiaduron oedd y defnydd o ddau air am y tro cynta' - virtual reality.
Datblygwyd lensus llygaid deuffocws meddal.
Daeth ffonau symudol i'r Unol Daleithiau am y tro cynta' ar ôl dechrau yn Japan ac wedyn Scandinafia.
FFORDD O FYW
Clync clic. Daeth gwregysau diogelwch yn orfodol i yrwyr a theithwyr sedd flaen mewn ceir. Y nod oedd torri ar nifer y marwolaethau a'r anafiadau difrifol mewn damweiniau.
Ac roedd yna newyddion drwg i yrwyr yn Llundain - dechreuodd yr heddlu yno ddefnyddiau clampiau olwyn ar geir oedd yn parcio'n anghyfreithlon.
Dechreuodd cwmni Swatch werthu ei watsys cynta' - roedd yn ymgais i foderneiddio'r diwydiant clociau yn y Swistir.
Cododd pris stamp dosbarth cynta' i 16½c ond roedd hi'n bosib cael gwyliau llawn o daith bws 12 diwrnod yn yr Eidal am £159. Ac os oeddech chi am dalu, gallech wneud hynny gyda darnau punt arbennig i Gymru.
Doedd neb yn siŵr beth oedd y pwynt, ond cyflawnodd chwe dyn gamp anhygoel trwy gerdded 90km o dan y dŵr ar draws harbwr Sydney yn Awstralia. Cymerodd y tro 48 awr.
Roedd yna newyddion da i Donna Griffiths o Pershore yn Lloegr. Stopiodd disian ar ôl gwneud hynny'n ddi-stop am 978 diwrnod.
Rhywsut neu'i gilydd, llwyddodd y byd ffasiwn i gofleidio dillad llac iawn a dillad tynn iawn... ond nid yr un pryd.
Roedd Tachwedd 30 yn ddyddiad pwysig i weithwyr swyddfa... a bron pawb arall yn ddiweddarach. Dyna pryd y lansiodd Microsoft eu rhaglen Word.
Cyflwynodd McDonald's eu McNugget cynta'.
Teganau cwlt y flwyddyn oedd y Cabbage Patch Dolls, a ddaeth yn boblogaidd iawn gyda chymorth cyfres deledu. Roedden nhw'n feddal, yn dew, ac yn ciwt.
MARWOLAETHAU
Sioc fawr oedd marwolaeth yr hyfforddwr rygbi, Carwyn James, mewn gwesty yn Amsterdam ac yntau'n ddim ond 51 oed. Roedd yn ddyn o ddiwylliant mawr hefyd.
Wrth i Rwdlan ymddangos am y tro cynta', bu farw mam y cymeriad llyfrau plant mwya' poblogaidd erioed yn Gymraeg - Mary Vaughan Jones, awdures Sali Mali.
Bu farw Cymro nad oedd yn Gymro - Richard Llewellyn, awdur y nofel lo enwoca' i gyd, How Green Was My Valley. Roedd wedi honni iddo gael ei eni yn Nhyddewi, ond Llundain oedd y fan mewn gwirionedd. Er hynny, roedd ganddo waed Cymreig.
Roedd yna dristwch mawr ym marwolaeth Karen Carpenter, cantores band y Carpenters. Roedd hi wedi diodde' ers tro o glefyd anorexia, a dyna a laddodd hi.
Ymhlith y colledion eraill, roedd:
Tennessee Williams, y dramodydd Americanaidd.
McKinley Morganfield - neu Muddy Waters i ffans y blŵs.
Dick Emery, y digrifwr oedd yn dweud "You are awful, but I like you".
Violet Carson, actores Ena Sharples yn Coronation Street.
John Le Mesurier, y sarjiant bonheddig yn Dad's Army.
Adrian Boult, yr arweinydd cerddorfa.
William Walton, y cyfansoddwr clasurol.
David Niven, yr actor.
Gloria Swanson, actores y ffilmiau tawel a ddaeth yn ôl i wneud Sunset Boulevard.
Hergé, y cartwnydd o wlad Belg a greodd Tintin.
Benigno Aquino, arweinydd y gwrthbleidiau yn y Ffilipîns - cafodd ei lofruddio.
Joan Miró, yr arlunydd o Gatalunya.
 |
 |
 |
 |
|


[an error occurred while processing this directive]
[an error occurred while processing this directive]
[an error occurred while processing this directive]
|