Eric Morecambe
Beth yw eich atgofion chi o 1984? Cyfrannwch i'r dudalen hon drwy anfon eich atgofion atom - ewch i waelod y dudalen
"Bu Eric Morecambe farw yn 1984, a hynny'n dod â'r bartneriaeth lwyddiannus rhyngddo fo ag Ernie Wise i ben. Mae'n beth od ynglŷn a pherfformwyr, gofynnwch chi i unrhyw un ohonyn nhw sut fysa nhw'n licio ateb galw y dyn lan lofft ac fe fydd 99% ohonyn nhw yn dymuno marw yn y tresi, wrth eu gwaith.
Roedd fy Nhaid yn un o hoelion wyth y Methodistiaid ac fe fu farw yn y pulpud, yn y set fawr i fod yn fanwl gywir ond mi gafodd o orffen ei bregeth, fysa mynd heb orffen 'di bod yn dân ar ei groen.
Ym 1984 fe fu farw Tommy Cooper yn y tresi hefyd, ar lwyfan o flaen miliynau o bobol ar y teledu, ac fel sa chi'n disgwyl gan ddigrifwr fel Tommy Cooper roedd y rhan fwyaf o'r gwylwyr yn meddwl bod y trawiad yn rhan o'r sioe. Toedd o ddim wrth reswm ac ar y 15fed o Ebrill 1984 fe fu farw Tommy Cooper o Gaerffili yn 63 mlwydd oed ac yn gweithio hyd y diwedd."
John Hardy, Pontypridd
 |