ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cofio...?
Arthur Scargill Dyma 1984
Y penawdau, y pethau, y bobl...
Arthur Scargill

Clicwch ar bwnc:

Cymru
Y Byd
Cerddoriaeth
Celfyddydau
Ffilmiau
Teledu a Radio
Chwaraeon
Gwyddoniaeth
Ffordd o Fyw
Marwolaethau

CYMRU

  • Roedd Streic y Glowyr yn gysgod tros y flwyddyn gyfan. Dechreuodd ym mis Mawrth a pharhau i mewn i 1985, er bod pyllau Cymru i ddechrau wedi pleidleisio yn erbyn. Roedd golygfeydd dramatig wrth i'r streicwyr geisio rhwystro eraill rhag torri'r streic (126 erbyn diwedd y flwyddyn yn y De a gweithlu'r Parlwr Du yn y Gogledd). Roedd rhengoedd bygythiol o lorïau'n rhuthro i lawr yr M4. Datblygodd grwpiau cefnogi ar draws Cymru ac, yn arbennig, ymhlith gwragedd y glowyr. Yng ngolwg y streicwyr roedd hi'n frwydr i'r pen am ddyfodol pyllau a chymunedau.

  • Yn niwedd y flwyddyn y daeth y digwyddiad gwaetha' o'r cyfan, pan gafodd gyrrwr tacsi o'r enw David Wilkie ei ladd wrth yrru glöwr i'w waith. Roedd dau streiciwr o Gwm Rhymni, Dean Hancock a Russell Shankland, wedi taflu postyn concrit at y car o bont oedd yn croesi'r ffordd. Fe fydden nhw'n wynebu achos o lofruddiaeth yn 1985...

  • Roedd yna helynt ac anghydfod yn y byd amaeth hefyd wrth i'r Undeb Ewropeaidd gyflwyno cwotâu llaeth. Roedd hynny'n taro'n arbennig o galed yn Nyfed lle'r oedd 4,000 o gynhyrchwyr llaeth. Bu protestiadau chwyrn.

  • Ar ôl protestio hir gan weithwyr fel Dr Carl Clowes a Menna Jones ac ar ôl ympryd gan aelodau Cymdeithas yr Iaith, cyhoeddodd Awdurdod Iechyd Gwynedd bolisi iaith.

  • Agorwyd pwerdy trydan Dinorwig - gyda'i dwneli a'i bibellau wedi eu cloddio i grombil mynydd Elidir Fawr o dan rwbel Chwarel Dinorwig yn Llanberis.

  • Trodd ffrindiau a chyfeillion allan ar hyd strydoedd Borth, Ceredigion, i groesawu'n ôl Hywel Lloyd ar ôl iddo fod yn wystl yn nwylo rhengoedd UNITA am 3 mis yn Angola.

  • Dafydd Wigley yn ymddiswyddo fel Llywydd Plaid Cymru. Rhwyg o fewn Plaid Cymru wrth ddewis olynydd a Dafydd Elis Thomas (chwith) yn curo Dafydd Iwan (o'r adain fwy traddodiadol).

  • Ar ôl marwolaeth yr AS Ioan Evans, daeth Ann Clwyd yn aelod Llafur tros Gwm Cynon mewn isetholiad. Hi oedd yr unig AS benywaidd yng Nghymru ar y pryd.

  • Cafwyd daeargryn ym Mhen LlÅ·n ac Arfon yn mesur 5.5 ar y raddfa Richter - y mwya' yng Nghymru yn ystod y ganrif.

  • Yn Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan crëwyd CYD (Cyngor y Dysgwyr) i ddod â dysgwyr a siaradwyr Cymraeg at ei gilydd. Yr ysbrydoliaeth oedd erthygl gan yr Athro Bobi Jones.

    Y BYD

  • Streic y glowyr oedd prif ddigwyddiad y byd gwleidyddol trwy wledydd Prydain hefyd. Cafwyd gwrthdaro arbennig o ffyrnig mewn llefydd fel Orgreave yn Swydd Efrog. Ar un ochr, roedd Margaret Thatcher ac Ian McGregor, Cadeirydd y Bwrdd Glo; ar y llall, arweinydd y glowyr, Arthur Scargill. Ond creodd glowyr Swydd Nottingham undeb newydd a pharhau i weithio.

  • Saethwyd plismones o'r enw Yvonne Fletcher yn farw gan ergyd a daniwyd o Lysgynhadaeth Libya yn Llundain. Bu'r heddlu'n cynnal gwarchae ar yr adeilad am 11 niwrnod, nes ei ruthro.

  • Prif Weinidog India, Indira Gandhi yn cael ei llofruddio gan ddau warchodwr heddwch Sikh. Roedd hi wedi gorchymyn ymosod ar Deml Aur Amritsar, un o lecynnau mwya' sanctaidd y Sikhiaid. Bu terfysgoedd mawr yn New Delhi gan achosi marwolaeth 2,700 o Sikhiaid diniwed.

  • Bu farw Yuri Andropov, Arlywydd yr Undeb Sofietaidd a daeth Konstantin Chernenko yn ei le. Ond ail-etholwyd Ronald Reagan yn yr Unol Daleithiau o fwyafrif mawr.

  • Cytundeb yn cael ei arwyddo rhwng Prydain a China yn Beijing yn sicrhau fod Hong Kong yn cael ei drosglwyddo gan Brydain yn ôl i China erbyn 1997.

  • Iran yn cyhuddo Irac o ddefnyddio arfau cemegol yn y rhyfel rhwng y ddwy wlad.

  • Ym mis Hydref, mentrodd yr IRA ar eu cyrch mwya' beiddgar eto wrth geisio lladd y Prif Weinidog ac aelodau o'i chabinet yn y Grand Hotel yn Brighton adeg Cynhadledd y Ceidwadwyr. Lladdwyd pedwar a pharlyswyd gwraig un o brif gefnogwyr Margaret Thatcher, Norman Tebbit.

  • Cafwyd cam arall tuag at greu cyfranddaliadau i'r werin wrth i gwmni ffôns BT gael ei breifateiddio.

  • Tynnwyd sylw at newyn yn Ethiopia, lle'r oedd tua 5.8 miliwn o bobol mewn peryg o farw o newyn. Arweiniodd hyn at ymgyrch godi arian gan enwogion pop, o dan yr enw Band Aid.

  • Enillwyd y Wobr Nobel am Heddwch gan yr Archesgob Tutu, ymgyrchydd tros hawliau i bobol groenddu yn Ne Affrica.

    CERDDORIAETH

    Yn Gymraeg ...

  • Penderfynodd Hefin Huws sef prif leisydd y band Maffia Mr. Huws adael, ond roedd y grŵp yn parhau.

  • Nid felly'r band Doctor a ddaeth i ben ar ôl tua phum mlynedd.

  • Roedd yna gasetiau cynta' gan ddau fand dylanwadol - Steve Eaves a'i Driawd a Y Brodyr. Roedd Steve Eaves hefyd wedi golygu llyfr o eiriau caneuon pop Cymraeg, Y Trên Olaf Adref.

  • Daeth Gŵyl Werin Dolgellau i ben am y tro oherwydd "diffyg brwdfrydedd" aelodau'r pwyllgor.

  • Dyma rai o enillwyr Gwobrau Sgrech:
    Prif Grŵp - Maffia Mr Huws
    Prif Grŵp Gwerin - Bwchadanas
    Prif Ganwr - Meic Stevens
    Caset/sengl gorau - Y Brodyr
    Record hir - Dal i Gredu gan Y Ficar

    ac yn Saesneg...

  • Tu allan i Gymru, roedd y grŵp Frankie Goes To Hollywood yn hynod o lwyddiannus gan gyrraedd rhif 1 yn y siartiau gyda'u tair record cynta'. Arhosodd Relax yn y 40 ucha' am 42 wythnos.

  • Bob Geldof a'r ymgyrch Band Aid yn cyhoeddi sengl Do They Know it's Christmas er mwyn codi arian i helpu lleddfu'r newyn yn Ethiopia.

  • Daeth Madonna yn enwog am y tro cynta' - yn enwedig ar ôl cyhoeddi Like a Virgin.

  • Collodd Rick Allen, drymiwr y band Def Leppard ei fraich mewn damwain car. Ond fe gariodd ymlaen i ddrymio gyda'r llall.

  • Yr Herreys o Sweden yn ennill Cystadleuaeth yr Eurovision gyda'r gân Diggi-loo diggi-ley. Gyda'ch gilydd nawr ...

  • Dyma rifau 1 y flwyddyn:
    Pipes Of Peace - Paul McCartney
    Relax - Frankie Goes To Hollywood
    99 Red Balloons - Nena
    Hello - Lionel Richie
    The Reflex - Duran Duran
    Wake Me Up Before You Go Go - Wham!
    Two Tribes - Frankie Goes To Hollywood
    Careless Whisper - George Michael
    I Just Called To Say I Love You - Stevie Wonder
    Freedom - Wham!
    I Feel For You - Chaka Khan
    I Should Have Known Better - Jim Diamond
    The Power Of Love- Frankie Goes Tro Hollywood
    Do They Know it's Christmas - Band Aid

    CELFYDDYDAU

  • Cafodd Gŵyl Jazz Aberhonddu ei chynnal am y tro cynta'. Ei nodwedd amlyca' oedd digwyddiadau ar y stryd a chyngherddau o dan doeon cynfas.

  • Roedd yna broblemau ariannol mawr yng Nghwmni Theatr Cymru, gyda'r actorion yn galw ar i'r penaethiaid ymddiswyddo.

  • Ymddeolodd y canwr opera Syr Geraint Evans o ganu yn Covent Garden ar ôl 36 o flynyddoedd. Ef oedd prif faritôn y cwmni.

  • Cafodd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanbedr Pont Steffan Babell Lên newydd a chafodd honno groesawu enillwyr y prif wobrau - Aled Rhys Wiliam (Y Gadair), John Roderick Rees (Y Goron) a John Idris Owen (Y Fedal Ryddiaith).

  • R. Cyril Hughes oedd enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen gyda'i drydedd nofel am Gatrin o Ferain, Castell Cyfaddawd. Ond roedd un beirniad o blaid gwobrwyo Wiliam Owen Roberts am ei nofel fwy beiddgar, Bingo!

  • Enillwyd y Goron yn Eisteddfod yr Urdd yr Wyddgrug gan Angharad Jones, awdur y nofel Y Dylluan Wen wedi hynny. Doedd dim cadeirio.

  • Cafodd cartwnau Snoopy a Charlie Brown eu cyfieithu i'r Gymraeg gan Roger Boore, a'u cyhoeddi gan ei wasg, Gwasg y Dref Wen.

    TELEDU A RADIO

  • Dangoswyd nifer o gartŵnau Prydeinig ar sianeli cêbl yn America, gan gynnwys arwr S4C, Superted. Cafodd cartŵn cwmni Siriol fedal arian hefyd mewn gŵyl yn Efrog Newydd.

  • Siân Lloyd, 25, y ddarpar-ferch dywydd, yn cael swydd prif gyflwynwraig newydd S4C. Gyda llaw, roedd cyflog Ysgrifennydd yno rhwng £5,000 a £6,500.

  • Gwrthododd criw ffilmio barhau gyda rhaglen ym Mhlasty Nanteos ger Aberystwyth ar ôl honni fod ysbrydion yno.

  • Carreg filltir i Pobol y Cwm - pennod gynta' y gyfres newydd oedd y 300fed. Dyma'r gyfres hiraf o'i bath i'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn Gymraeg neu Saesneg.

  • Daeth cyfnod i ben i deledu plant yn Saesneg, gyda diwedd y gyfres Crackerjack - roedd rhai fel Eamon Andrews, Leslie Crowther, Ed Stewart a Michael Aspel wedi ei chyflwyno.

  • Ond roedd rhaglenni newydd fel yr A-Team o America (gyda'r cawr Mr T yn un o'r prif gymeriadau), Friends (y gynta' o nifer o gomedïau llwyddiannus o America), Crimewatch UK (yn rhoi sylw i droseddau, er mwyn ceisio'u datrys) a'r rhaglen natur, Living Planet.

    FFILMIAU

  • Y ffilm Gymraeg, Aderyn Papur, yn ennill y brif wobr, Ysbryd yr Å´yl, yn yr Å´yl Ffilm a Theledu Geltaidd. Stephen Bayley oedd y cyfarwyddwr.

  • Yr actores Gymraeg Siân Phillips, a oedd yn enwog am ei gwaith teledu fel I,Claudius a Tinker, Tailor, Soldier, Spy yn actio yn y ffilm gwlt wyddonol, Dune.

  • Dyma'r flwyddyn y clywyd Arnold Schwarzenegger yn dweud y geiriau "I'll be baaack" yn y ffilm hynod o lwyddiannus, Terminator. Roedd yn actio android.

  • Comedi fwya' llwyddiannus y flwyddyn oedd Beverly Hills Cop, gydag Eddie Murphy. Ond heb unrhyw amheuaeth ffilm fwya' llwyddiannus y flwyddyn oedd Ghostbusters am griw o ymladdwyr ysbrydion.

  • Rhai o'r ffilmiau eraill ddaeth i'r amlwg yn 1984 oedd Amadeus (am y cerddor Mozart). Hi enillodd Oscar am y ffilm orau. Roedd yna ffilmiau masnachol iawn eraill hefyd, fel Gremlins, The Karate Kid a'r cynta' yn y gyfres gomedi Police Academy.

    CHWARAEON

  • Enillodd Ian Rush 'Esgid Aur' Ewrop am sgorio'r nifer mwya' o goliau yn un o'r prif gynghreiriau - yr unig Gymro i wneud hynny erioed. Torrodd record goliau ei glwb, Lerpwl, ar yr un pryd. Daeth hefyd yn Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn yng Nghymru.

  • Llwyddodd Lerpwl i ennill Cwpan Ewrop unwaith eto trwy guro Roma yn y rownd derfynol.

  • Cymdeithasau pêl-droed Lloegr a'r Alban yn penderfynu rhoi terfyn ar Bencampwriaeth Pêl-Droed Gwledydd Prydain. Hyn yn ergyd fawr ariannol i Gymdeithas Pêl-Droed Cymru. Yn eironig, Gogledd Iwerddon a enillodd y Bencampwriaeth olaf.

  • Cymru yn bowlio'r Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth Bowlio gwledydd Prydain.

  • Gareth Brown o Gaerdydd yn creu hanes ym myd athletau yng Nghymru trwy fod y Cymro cynta' i redeg milltir mewn llai na 4 munud ar dir Cymru.

  • Y Cymro Neil Doughty yn ennill y Grand National ar gefn Hallo Dandy.

  • Yr un dau a enillodd brif wobrau tennis Wimbledon ag yn 1983 - John McEnroe a Martina Navratilova.

  • Doedd yr Undeb Sofietaidd nac 13 o wledydd Comiwnyddol eraill ddim yn cymryd rhan yn y Gêmau Olympaidd yn Los Angeles. Carl Lewis o'r Unol Daleithiau oedd yr arwr gyda phedair medal aur yn y rasys byr a'r naid hir. Roedd yna fedalau aur i dri enw mawr o Loegr - Sebastian Coe (1500 metr), Daley Thompson (Decathlon) a Tessa Sanderson (y bicell).

  • Daeth Jayne Torvill a Christopher Dean yn enwog yn Olympics y Gaeaf yn Sarajevo wrth gael marciau llawn gan rai beirniaid am eu perfformiad o'r Bolero yn y gystadleuaeth ddawnsio ar rew.

  • Ffrainc a enillodd bencampwriaeth bêl-droed Ewrop gan guro'r Eidal yn y rownd derfynol.

    GWYDDONIAETH A THECHNOLEG

  • Roedd ymchwilwyr o Gaerdydd wedi cyfrannu at ddatblygu dull o drin distroffi'r cyhyrau.

  • Erbyn diwedd y flwyddyn, cyhoeddwyd fod 184 o bobol yng ngwledydd Prydain yn diodde' o'r clefyd newydd AIDS.

  • Roedd cemegau'n stori wleidyddol, gydag Iran yn cyhuddo Irac o ddefnyddio arfau cemegol yn ei herbyn a ffrwydrad ffatri gemegau Bhopal yn yr India yn lladd 2,000 yn syth a 6,000 wedyn.

  • Llwyddodd dau ofodwr o'r Unol Daleithiau i gerdded yn rhydd yn y gofod am y tro cynta'.

  • Daeth yr Apple Mac ar werth - y cyfrifiadur personol cynta' i ddefnyddio llygoden.

    FFORDD O FYW

  • 1984 oedd y flwyddyn ola' i bobol Prydain ddefnyddio'r darn arian hanner ceiniog a phapur £1.

  • Daeth sgidiau rolio yn boblogaidd unwaith eto, yn sgîl ffilm o'r enw Rollerboogie. Tuedd newydd oedd discos rolio.

  • Ddechreuodd pawb brynu 'Filofax', sef y dyddiadur bach cyfleus i storio pob math o ffeithiau. Roedden nhw'n cael eu defnyddio gan un arall o ffenomenâu y cyfnod Thatcheraidd, yr yuppie - ifanc ac ar y ffordd lan.

  • Gyda phrotestiadau CND ac ati yn y gwynt, tarodd y dylunydd Katherine Hammett ar y syniad o roi sloganau ar grysau-T, a dyna ffasiwn newydd wedi dechrau.

  • Teganau mawr y flwyddyn oedd y Care Bears oedd yn byw yng ngwlad Care-A-Lot. Ooooo. I'r bechgyn (yn benna'), fe ddaeth beiciau BMX.

  • Roedd y gêm gyfrifiadur ddiweddara' yn llawer llai heddychlon - roedd Dungeons and Dragons yn ffordd o fyw i rai ac yn ddirgelwch i bawb arall.

  • Roedd chwyldro ar droed yn Nyffryn Teifi, wrth i gwmni cyfieithu Trosol ddefnyddio peiriannau ffacsimili i dderbyn gwaith o Goleg y Brifysgol, Llanbed. Roedd y peiriant ffacs wedi cyrraedd.

  • Dechreuodd awyrennau Virgin Atlantic hedfan ar draws yr Iwerydd, yn sialens i'r cwmnïau awyrennau mawr.

  • Cafwyd y newid mwya' i'r system arholiadau yng ngwledydd Prydain ers blynyddoedd. Aeth yr hen Lefel-O a'r CSE a daeth y TGAU sydd gyda ni heddiw.

  • Daeth peryglon y mathau newydd cryf o lud i'r amlwg wrth i Stuart Williams fynd i'r tÅ· bach yng Nghaerffili. Roedd rhywun wedi rhoi superglue ar y sedd, a bu raid iddo fynd i'r ysbyty i gael ei rhyddhau.

    MARWOLAETHAU

  • Yr enw mwya' i farw yn 1984 oedd yr actor o Bontrhydyfen, Richard Burton. Yn ôl rhai, dyma'r actor Cymreig gorau erioed ond, yn ôl eraill, doedd e ddim wedi cyflawni'i botensial.

  • Roedd y pianydd jazz Dill Jones yn enwocach yn yr Unol Daleithiau nag yn ei hen gartre' yng Ngheredigion. Cyn marw, roedd wedi recordio cyfres o ganeuon gyda'r clarinetydd, Wyn Lodwick.

  • Cymro arall oedd Tommy Cooper, a anwyd yng Nghaerffili ac a ddaeth yn enwog am ei driciau hud a lledrith comig, y fez coch ar ei ben a'i ddywediad, "Jus' like that".

  • Fe fu farw un o ddigrifwyr enwoca' Lloegr hefyd - Eric Morecambe. Cafodd drawiad ar y galon yn union ar ôl gorffen gwneud sioe fyw yn Tewkesbury. Gadawodd ei bartner comedi, Ernie Wise.

  • Ymhlith y marwolaethau eraill, roedd:
  • Y bardd Gerallt Jones, tad Dafydd Iwan ac un o feibion Bois y Cilie.
  • T.G. Walker, yr arbenigwr adar.
  • Marvyn Gaye, y cerddor Soul ac R&B, canwr Through the Grapevine.
  • J.B Priestley, yr awdur a'r dramodydd.
  • Johnny Weissmuller, y nofiwr a ddaeth i actio Tarzan.
  • Luke Kelly, y cerddor o Wyddel, un o'r Dubliners.
  • Count Basie, un o gewri'r byd jazz.
  • John Betjeman, Bardd y Frenhines, ac un o hoff feirdd Middle England.
  • Leonard Rossiter, actor Rising Damp a The Rise and Fall of Reginald Perrin.
  • Sam Peckinpah, y cyfarwyddwr ffilmiau.


  • Cofio...

    [an error occurred while processing this directive] [an error occurred while processing this directive] [an error occurred while processing this directive]


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý