Roland Rat a Kevin
Beth yw eich atgofion chi o 1985? Cyfrannwch i'r dudalen hon drwy anfon eich atgofion atom - ewch i waelod y dudalen
"Roedd 1985 yn flwyddyn fawr yn ty ni. Dyma'r flwyddyn nes i ddathlu'r deg ar hugain, ac ar y 5ed o Chwefror, fe anwyd Bych i fod yn frawd i Daniel a chwbwlhau'r teulu Hardy.
Roedd Geraint Wyn Hardy dair wythnos o flaen i amser - a dyna'r tro cyntaf mae o 'di bod yn gynnar yn 'i oes!
Yn y byd peldroed yn '85, gwelwyd y gêm yn Heysel rhwng Lerpwl a Juventus gyda thrais cefnogwyr Lerpwl yn benna gyfrifol am farwolaeth cefnogwyr Juventus. Dw i'n cofio Ian Rush yn dweud wrtha fi bod o yn yr ystafell wisgo yn gwybod yn union beth oedd yn mynd ymlaen a hefyd yn ymwybodol ei fod yn symud o Lerpwl i Juventus yn ystod yr Haf, ac yn poeni sut groeso y cai yn yr Eidal.
O ran Bradford, r'on ni 'di bod yna ychydig wythnosau ynghynt ac yng nghanol dryswch bwrlwm diwedd tymor, roedd fy ngwraig yn meddwl 'mod i yno yn y tân. Trwy lwc, yn Wimbledon r'on i - dihangfa arall o drychineb."
John Hardy, Pontypridd
 |