 |
 |
 |
Dyma 1985 Y penawdau, y pethau, y bobl... |
 |
 |
 |
Neil Kinnock
Clicwch ar bwnc:
Cymru Y Byd Cerddoriaeth Celfyddydau Ffilmiau Teledu a Radio Chwaraeon Gwyddoniaeth Ffordd o Fyw Marwolaethau
CYMRU
Ar ôl blwyddyn ond wythnos, daeth Streic y Glowyr i ben ac aeth y Bwrdd Glo ati cyn diwedd y flwyddyn i gau 11 o byllau yng Nghymru a diswyddo chwarter y gweithwyr. Yr olygfa fwya' urddasol a dirdynnol oedd glowyr y Maerdy yn y Rhondda yn cerdded yn ôl y tu cefn i'w baner a'u band.
Bu protestiadau ar ôl i'r ddau streiciwr o Gwm Rhymni, Dean Hancock a Russell Shankland gael carchar am oes am lofruddio'r gyrrwr tacsi, David Wilkie. Yn y diwedd newidiwyd y dyfarniad i ddynladdiad a'r ddedfryd i wyth mlynedd o garchar.
Lansiwyd corff newydd i greu cysylltiadau rhwng Cymru a gwlad fechan annibynnol yng nghanol De Affrica, o'r enw Lesotho. Nod Dolen Cymru Lesotho, a ysbrydolwyd gan y Dr Carl Clowes, oedd hybu cysylltiadau agos a chyfeillgar rhwng y ddwy wlad.
Bu tân mawr yn swyddfeydd a gwaith argraffu papurau'r Herald yng Nghaernarfon a daeth ar draddodiad y papurau newydd yn y dref. Yn yr un flwyddyn, cyhoeddodd y perchnogion fod y papurau wedi gwneud colled o £90,000 y flwyddyn gynt.
Sefydlwyd mudiad newydd o'r enw Cefn i ymladd tros hawliau dynol siaradwyr Cymraeg. Y sylfaenydd oedd Eleri Carrog.
Ym mis Awst, dechreuodd streic arall wrth i chwarelwyr tair chwarel ym Mlaenau Ffestiniog gerdded allan mewn anghydfod tros dorri taliadau bonws. Bu'r rhan fwya' o'r 53 ar streic am saith mis a chafodd 18 eu diswyddo.
Bu farw Aelod Seneddol Ceidwadol Brycheiniog a Maesyfed, Tom Hooson, a chafwyd isetholiad. Enillwyd y sedd gan Richard Livsey ar ran Cynghrair y Rhyddfrydwyr a'r SDP.
Roedd Cyngor Gwynedd yn wynebu sialens i'w bolisïau iaith ar ôl i ddwy wraig ennill achos tribiwnlys, gan honni eu bod wedi methu â chael swydd gyda'r adran wasanaethau cymdeithasol oherwydd eu diffyg Cymraeg. Aeth y Cyngor ati i ymladd yr achos ymhellach.
Lai na blwyddyn wedi ei agor roedd rhaid gwneud gwaith atgyweirio sylweddol ar Ysbyty Gwynedd ym Mangor ac arweiniodd hynny at ddadlau gwleidyddol a chyfreithiol.
Cododd diweithdra yng Nghymru i'r lefel ucha' ers yr Ail Ryfel Byd, gydag 187,563 ar y clwt - 17.6% o'r gweithlu. Y ffigwr trwy wledydd Prydain yr un mis oedd 3,346,198. Yn eu plith, roedd 1,100 o weithwyr ffatrïoedd Courtaulds yng Nghlwyd.
Y BYD
Ym mis Mai yn Stadiwm Heysel ym Mrwsel, Gwlad Belg lladdwyd 41 o bobl wedi i gefnogwyr Lerpwl ymosod ar gefnogwyr Juventus cyn gêm derfynol Cwpan Ewrop. O ganlyniad gwaharddwyd clybiau Lloegr o Ewrop am dair blynedd.
Bu trychineb pêl-droed arall yr un mis gyda thân mewn hen eisteddle pren yn stadiwm Valley Parade, Bradford. Lladdwyd 56 o gefnogwyr a dechreuwyd ar y gwaith o godi safonau diogelwch mewn meysydd pêl-droed.
Arwyddwyd cytundeb heddwch rhwng llywodraethau Prydain ac Iwerddon. Roedd yn rhoi llais i Ddulyn ym materion Gogledd Iwerddon am y tro cynta' a chreodd wrthwynebiad mawr ymhlith Unoliaethwyr Ulster.
Yn Seland Newydd, suddwyd y llong 'Rainbow Warrior' sef llong oedd yn eiddo i'r mudiad gwrth-niwclear Greenpeace, a osodwyd gan heddlu cudd o Ffrainc.
Daeth Mikhail Gorbachov yn arweinydd yr Undeb Sofietaidd o fewn pedair awr i farwolaeth ei ragflaenydd, Konstantin Chernenko. Roedd yn arddel y slogan Glasnost a dechreuodd ar broses o ddiwygio a arweiniodd yn y pen draw at ddymchwel y Llen Haearn.
Llwyddodd y cyngerdd Live Aid yn Wembley i godi £40 miliwn lleddfu newyn yn Affrica. Y prif drefnydd oedd y canwr roc, Bob Geldof, ac roedd yn ddechrau ar duedd o godi arian gan enwogion y byd adloniant.
Llofruddiwyd plismon o'r enw Keith Blakelock wedi terfysgoedd ar stad Broadwater Farm yn Tottenham, Llundain. Roedd pobol leol yn amau fod yr heddlu wedi cyfrannu at farwolaeth gwraig groenddu leol.
Gwnaeth y Cymro, Neil Kinnock, un o'r areithiau mwya' dramatig erioed mewn Cynhadledd Lafur wrth gondemnio Cyngor Llafur Lerpwl am ddiswyddo gweithwyr. Roedd yn rhan o'i frwydr yn erbyn eithafwyr Militant o fewn y blaid. Cerddodd yr AS lleol, Eric Heffer, oddi ar y llwyfan wrth iddo siarad.
Daeargryn yn Dinas Mecsico yn mesur 8.1 ar y raddfa Richter yn dinistrio rhan fwyaf o'r ddinas gan ladd dros 9,000, anafu 30,000 arall a 95,000 yn cael eu gwneud yn ddigartref.
Ym Môr yr Iwerydd ger Newfoundland, daethpwyd o hyd i weddillion llong y Titanic a suddodd yn 1912. Yn Ynys Môn, roedd deifwyr yn ceisio cyrraedd llongddrylliad y Royal Charter
CERDDORIAETH
Yn Gymraeg ...
Noson Wobrwyo Sgrech yn symud i'r De am y tro cynta' ers dechrau ei chynnal yn 1979. Cafodd 1,000 o docynnau eu gwerthu yng Nghaerfyrddin.
Ddeufis yn ddiweddarach daeth y cylchgrawn Sgrech i ben. Bu sawl ymgais i gael cylchgronau eraill tebyg a daeth ffansîns yn boblogaidd yn y maes pop a thrwy Gymdeithas yr Iaith. Roedd y rhain yn fwy anffurfiol.
Yn dilyn llwyddiant Band Aid yn Saesneg, recordiwyd Dwylo Dros y Môr yn Gymraeg i godi arian at leddfu'r newyn yn Ethiopia. Cafwyd cyngerdd mawr hefyd adeg yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Rhyl.
Cafwyd y diweddara' o albyms clasurol Meic Stevens - Lapis Lazuli.
Y Cyrff yn cyhoeddi eu record gyntaf - Ar Goll Yn Fy Mywyd Fy Hun. Rhai o aelodau'r grŵp fyddai asgwrn cefn Catatonia yn nes ymlaen.
Lleisiau newydd eraill oedd Pryd Ma' Te, band o ferched, yn cynnwys un neu ddau o enwau adnabyddus, fel Siân Wheway a'r actores Mair 'Harlech'.
ac yn Saesneg...
Pob Gorsaf Radio yn Ne Affrica yn gwahardd unrhyw ganeuon gan Stevie Wonder wedi iddo ddiolch a dymuno'n dda i Nelson Mandela mewn seremoni wobrwyo.
Michael Jackson yn prynu'r hawliau i holl ganeuon y Beatles am $47 miliwn, er chwithdod Paul McCartney, George Harrison a Ringo Starr.
Cafodd yr Unol Daleithiau ei fersiwn ei hun o Band Aid gyda Harry Belafonte yn tynnu llwyth o artistiaid at ei gilydd i ganu We Are The World.
Dyma Rifau 1 y flwyddyn:
I Want To Know What Love Is - Foreigner
I Know Him So Well - Elaine Page a Barbra Dickson
You Spin Me Around (Like A Record) - Dead Or Alive
Easy Lover - Philip Bailey a Phil Collins
We Are The World - USA for Africa
19 - Paul Hardcastle
You'll Never Walk Alone - The Crowd
Frankie - Sister Sledge
There Must Be An Angel(Playing With My Heart) - Eurythmics
Into The Groove - Madonna
I Got You Babe - UB40
Dancing In The Street - David Bowie a Mick Jagger
The Power Of Love - Jennifer Rush
A Good Heart - Feargal Sharkey
I'm Your Man - Wham!
Saving All My Life For You - Whitney Houston
Merry Christmas Everyone - Shakin' Stevens
CELFYDDYDAU
Am y tro cynta' erioed llwyddodd dysgwr i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol - roedd Robat Powell yn dod yn wreiddiol o Lyn Ebwy. Am yr ail flwyddyn yn olynol, aeth y Goron i John Roderick Rees o Benuwch ger Tregaron. Enillydd y Fedal Ryddiaith oedd Marged Dafydd.
Yn yr Eisteddfod yn y Rhyl y cafwyd un o'r protestiadau ffyrnica' yn erbyn y Swyddfa Gymreig. Aeth aelodau o Gymdeithas yr Iaith ati i chwalu'r arddangosfa - yn ddiweddarach cyhoeddodd y Gweinidog, Wyn Roberts, na fydden nhw'n mynd i'r Eisteddfod y flwyddyn ganlynol.
Bu raid i Bethan ' Gwanas' Evans gymryd amser o'i gwaith i dderbyn Coron Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd. Ei gwaith oedd dysgu Saesneg i blant yn Nigeria. Aeth y Gadair i Meirion Davies.
Cwmni drama Whare Teg yn teithio am y tro cynta' a thri chwmni theatr yn dod at ei gilydd i lenwi'r bwlch a adawyd ar ôl methiant Cwmni Theatr Cymru - bwriad Theatr Gymraeg Gwynedd oedd gwneud cais am arian i'r Cyngor Celfyddydau.
Erbyn diwedd y flwyddyn roedd cynlluniau i lansio gorsaf radio gymunedol i wasanaethu Ceredigion, dan yr enw 'Radio Ceredigion'.
Enillodd y delynores, Elinor Bennett Wigley, ysgoloriaeth i fynd i Awstralia i astudio technegau arloesol oedd yn defnyddio cerddoriaeth fel therapi i bobl gydag anawsterau dysgu.
Agorwyd canolfan Uwchefrydiau Cymraeg a Cheltaidd ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Y nod oedd cynhyrchu gwaith ymchwil o safon uchel, yn arbennig i'r Gymraeg a'i hanes.
Cyhoeddodd Gwyn Alf Williams ei lyfr pryfoclyd ar hanes Cymru, When Was Wales?
Llyfrau amlwg eraill oedd:
Cario'r Ddraig - hunangofiant y reslwr Orig 'El Bandito' Williams, gol. Myrddin ap Dafydd
Yma O Hyd - Angharad Tomos, ei nofel gynta' am fywyd yn y carchar.
Lloyd George Was My Father - hunangofiant Olwen Carey Evans
TELEDU A RADIO
Y gyfres deledu Cymraeg Dinas yn dechrau ar S4C - y ddruta' a'r fwya' uchelgeisiol eto i S4c, gyda nifer o wynebau newydd. Cyfres newydd arall oedd y rhaglen o sgetshis dychan a dynwared, Y Cleciwr, gyda rhai fel Dyfan Roberts, Bryn Fôn a Siwan Jones.
Tra oedd teledu Saesneg yn llawn o sioeau heddlu a ditectif o America - Cagney and Lacey, Hill Street Blues, Miami Vice - roedd S4C yn gwirioni ar gêmau panel o'r un gerddorol, Cythraul Canu, i'r un hen bethau, Taro Bargen -gydag Elinor Jones - a fersiwn o'r sioe radio, Penigamp.
Cyhoeddodd Douglas Hurd, yr Ysgrifennydd Cartref, fod S4C yn saff - roedd ar brawf am ei thair blynedd cynta'. Daeth John Howard Davies yn Gadeirydd ar yr Awdurdod, i ddilyn Syr Goronwy Daniel.
Roedd yna ddramâu sylweddol hefyd - fel Brad a Tywyll Heno - wrth i'r sianel gofio am Saunders Lewis a Kate Roberts a fu farw yn ystod y flwyddyn.
Roedd yna ddau frawd yn cyflwyno rhaglenni Week In Week Out ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Wales - John Humphreys, cyflwynydd Today erbyn hyn, a'i frawd bach, Bob.
Dechreuodd yr opera sebon Eastenders ym mis Chwefror ac mae'n dal i fynd. Ond siomedig oedd yr ymateb i ddechrau - yn ôl rhai roedd y straeon yn rhy drist a'r cymeriadau'n rhy oeraidd.
Dechreuodd ffenomenon arall, wrth i Cilla Black gael lorra lorra hwyl yn cyflwyno Blind Date - pan oedd bechgyn a merched yn cystadlu i wneud argraff ac ennill gwyliau gyda'i gilydd.
Ar lefel arall, fe fu dadl wleidyddol fawr tros un o raglenni'r ÃÛÑ¿´«Ã½. Roedd Edge of the Union yn dangos bywydau dau ffigwr amlwg ar ddwy ochr yr ymrafael yng Ngogledd Iwerddon. Un oedd Martin McGuinness, un o gyn-arweinwyr yr IRA. Fe ymyrrodd y llywodraeth ac, am ychydig, ildiodd Llywodraethwyr y ÃÛÑ¿´«Ã½ i'r pwysau.
FFILMIAU
Enillodd ffilm deledu Cymraeg drydedd wobr cwmni Pye am y rhaglen ranbarthol orau yng ngwledydd Prydain. Roedd Penyberth, gan William Jones, yn adrodd hanes y tân yn Llŷn.
Heb unrhyw amheuaeth, y ffilm fwya' i ddod allan yn 1985 oedd y clasur Back To The Future am fachgen gyda char DeLorean oedd yn gallu teithio i'r gorffennol. A sicrhaodd ddyfodol yr actor Michael J. Fox.
Roedd 1985 yn flwyddyn lwyddiannus i Sylvester Stalone hefyd wrth i ddwy o'i ffilmiau gyrraedd y 5 ucha' yn siartiau 'Box Office' America. Roedd Stalone yn brif gymeriad yn Rambo: First Blood part II ac yn y bedwaredd yng nghyfres Rocky.
Os oedd Rocky IV allan, rhyddhawyd y bedwaredd ffilm ar ddeg yng nghyfres James Bond. Roger Moore oedd Bond yn A View To A Kill.
Gwnaeth arlunydd Monty Python ffilm o'r enw Brazil - yn ôl rhai, roedd creadigaeth Terry Gilliam hanner ffordd rhwng Python a George Orwell. Un o'r sêr oedd yr actor o Dreffynnon, Jonathan Pryce.
CHWARAEON
Enillodd y joci Hywel Davies o Aberteifi y Grand National ar Last Suspect. Dim ond ar y funud ola' y llwyddodd i berswadio'r perchennog, Duges Westminster, y dylai'r ceffyl redeg.
Llwyddodd Bangor City i gyrraedd ail rownd Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop cyn colli'n anrhydeddus i Atletico Madrid. Doedd dim timau o Loegr yn y gystadleuaeth oherwydd y gwaharddiad a ddilynodd drychineb Heysel.
Enillodd Terry Griffiths Bencampwriaeth Snwcer Agored Cymru drwy guro Doug Mountjoy o 9 ffrâm i 4.
Roedd poblogrwydd snwcer ar ei anterth a chafwyd gêm derfynol gofiadwy ym Mhencampwriaeth Y Byd wrth i'r Gwyddel Dennis Taylor drechu Steve Davies yn y ffrâm ola' ar y bêl ddu ola'. Roed 18.5 miliwn yn gwylio'r gêm ar y teledu yng ngwledydd Prydain.
Daeth gyrfa'r paffiwr Colin Jones i ben wrth iddo fethu â churo Don Curry i ennill pencampwriaeth welter y byd.
Daeth diwedd ar yrfa fawr arall hefyd wrth i'r joci Lester Piggott roi'r gorau iddi ar ôl ennill 4,349 o rasys.
Y Cymro Steve Jones a enillodd Farathon Llundain gan dorri'r record trwy redeg y 26 milltir mewn 2awr.8mun.16eiliad.
Camp fwy arwrol fyth oedd taith y morwr David Sinnett-Jones a hwyliodd o Aberaeron ar daith o amgylch y byd mewn cwch yr oedd ef ei hun wedi'i hadeiladu. Daeth yn ôl bron dair blynedd yn ddiweddarach. Yr hyn oedd yn fwy hynod fyth oedd bod David Sinnett-Jones yn hanner dall ac wedi colli un ysgyfaint a rhan o'i galon trwy ganser.
Kevin Moran o Manchester United oedd y chwaraewr cynta' erioed i gael ei ddanfon o'r cae yng ngêm derfynol Cwpan yr FA. Ond llwyddodd ei dîm i guro Everton o 1-0.
Juventus a enillodd Cwpan Ewrop gan guro Lerpwl 1-0 ond roedd y chwarae'n ddibwys o gofio am yr helyntion a laddodd 41.
GWYDDONIAETH A THECHNOLEG
Cafodd yr awdurdodau eu beirniadu am fethu â defnyddio golchyddion i ddelio ag olew a lifodd o longddrylliad tancer y Bridgeness ger glannau Sir Benfro. Lladdwyd 2,000 o adar y môr.
Yr enw '.com' yn cael ei ddefnyddio am y tro cyntaf gan y busnes cyfrifiaduron 'Symbolics'.
Ym mis Tachwedd, ddwy flynedd yn hwyrach na'r disgwyl, cyhoeddodd cwmni cyfrifiaduron Microsoft ei fersiwn cynta' o Windows.
FFORDD O FYW
Y ffasiwn fwya' yn 1985 oedd y menig heb fysedd - diolch i sêr pop fel Madonna. Ond roedd dillad gor-grand 'Dallasty' yn boblogaidd hefyd (gan rai) - diolch i'r ddwy ddrama Americanaidd, Dallas a Dynasty.
Roedd teclyn mwy ymarferol yn boblogaidd gan ffermwyr - roed 'Welly Warmers' yn fendith ar ddiwrnod oer.
Dyma'r flwyddyn hefyd pan ddaeth ffasiwn 'Goths' yn amlwg iawn, dan ddylanwad bandiau newydd fel Siouxie and the Banshees, The Cure a Sisters of Mercy. Roedd pobol ifanc yn siomi eu rhieni a dychryn yr henoed wrth liwio'u gwalltiau'n ddu, peintio'u hwynebau'n wyn a gwisgo lot o ledr.
Roedd yna ddiwedd cyfnod i sefydliad Prydeinig wrth i'r dyn busnes o'r Aifft, Mohammed Al-Fayed, brynu siop enwog Harrods ar Oxford Street, Llundain.
Roedd yna wahoddiad i bobol uchelgeisiol gynnig am swydd Cyfrifydd y Grŵp gyda chwmni bach "uchelgeisiol" yn y gogledd-ddwyrain. Roedd y cyflog yn £16,000. Redrow bellach yw un o gwmnïau adeiladu mwya' gwledydd Prydain.
Methiant mawr y flwyddyn oedd car/feic trydan y dyfeisiwr Clive Sinclair. Roedd y C5 yn cael ei wneud ym Merthyr ond aeth pethau'n fflat yn gyflym, a chollodd Sinclair filiynau. Y methiant arall oedd New Coke, ymgais cwmni Coca Cola i greu blas newydd. Ond doedd y pyntars ddim yn ei hoffi.
Haf 1985 oedd un o'r hafau gwlypa' wedi stormydd cyson. Roedd ffermwyr yn cael amser anodd wrth drin y tir a'u hanifeiliaid.
Daeth plasty enwog ar werth ger Pwllheli a dod yn enwocach fyth. Pris Bodegroes oedd £95,000 ac mae bellach yn un o fwytai enwoca' Cymru. Ac efallai y byddai rhai wedi talu £72,000 am hen ffermdy a deg erw yn Sir Ddinbych, er mwyn yr enw'n unig - Tan y Garreg, Bryn Rhyd yr Arian.
Daeth Cymru'n enwog am ei chynnyrch enwoca' - dŵr. Un o'r cwmnïau newydd oedd Tŷ Nant o Bethania ger Llanbed. Daethpwyd o hyd i'r ffynnon pan benderfynodd Geoff a Gwenllian Lockwood adnewyddu hen d177 ar y mynydd. Cyn bo hir, roedd y poteli glas yn enwog ar draws y byd.
Tegan y flwyddyn i fechgyn oedd Transformers - car neu gwch oedd yn gallu cael ei drawsffurfio (trwy lot o 'stumio a throi a phlygu) i fod yn robot. I ferched, roedd Pound Puppies yn dod gyda stori am y cŵn bach a thystysgrif i ddweud fod pob un yn unigryw.
MARWOLAETHAU
Bu farw dau o lenorion mwya' Cymru o fewn misoedd i'w gilydd - a dau hefyd a fu'n llythyru'n gyson â'i gilydd. Kate Roberts oedd 'Brenhines Ein Llên', yn awdur nofelau a straeon byrion, fel Traed Mewn Cyffion a Te yn y Grug. Saunders Lewis oedd dramodydd mwya' Cymru ac wedi ei enwebu am Wobr Nobel. Roedd hefyd yn genedlaetholwr amlwg ac yn un o sylfaenwyr Plaid Cymru.
Bu farw nifer o lenorion eraill hefyd, gan gynnwys:
Thomas Parry, bardd ac ysgolhaig a phrif hanesydd llenyddiaeth Gymraeg
Harri Gwynn, y bardd y storïwr a'r darlledwr
John Eilian, y bardd a'r newyddiadurwr
W.D.Williams, y cynganeddwr, athro beirdd ac awdur yr englyn "O Dad yn deulu dedwydd ..."
Cwymp i lawr y grisiau yn ei chartre' a laddodd Laura Ashley, y cynllunydd dillad o Ferthyr a ddaeth yn enwog am ei steil blodeuog, gan sefydlu busnes llwyddiannus iawn yng Ngharno yn Sir Drefaldwyn. Roedd newydd agor ffatri arall yng Nghaernarfon.
Yn y byd Saesneg, bu farw dau actor mawr - Orson Welles, a ddychrynodd America gyda'i ddarllediad radio o War of the Worlds a'i gwefreiddio gyda ffilm Citizen Kane, a Yul Brunner, arwr penfoel The King and I a The Magnificent Seven.
Ymhlith y marwolaethau eraill, roedd:
Clifford Evans - actor o Gymru a ymddangosodd mewn ffilmiau fel The Curse of the Werewolf a The Kiss of a Vampire. Evans oedd yn chwarae rhan Number Two yn y rhaglen gwlt The Prisoner.
Dewi Prys Thomas - pensaer a greodd arddull Gymreig a chynllunio adeiladau Cyngor Sir Gwynedd.
Marc Chagall - yr arlunydd o Rwsia
Italo Calvino - yr awdur dylanwadol o'r Eidal
Robert Graves - y bardd a'r awdur a gymerodd ddiddordeb mawr mewn chwedloniaeth, gan gynnwys chwedloniaeth Geltaidd a Chymreig.
Rock Hudson - yr actor enwog cynta' i farw o ganlyniad i AIDS.
 |
 |
 |
 |
|


[an error occurred while processing this directive]
[an error occurred while processing this directive]
[an error occurred while processing this directive]
|