Anneka Rice
Beth yw eich atgofion chi o 1987? Cyfrannwch i'r dudalen hon drwy anfon eich atgofion atom - ewch i waelod y dudalen
"Ym 1987, ges i dorr-calon ynghyd â nifer o gefnogwyr tîm pêl droed Cymru, gyda dwy gêm ar ôl yng ngemau rhagbrofol Pencampwriaeth Ewrop roedd Cymru angen un pwynt i gyrraedd y rowndiau terfynol. Fe gollon nhw'r cyntaf o gôl i ddim yn Denmark, Jan Molby yn trawsnewid y gêm wedi iddo ddod ymlaen fel eilydd yn yr ail hanner ac yna wedi i Ian Rush fethu dau gyfle gymharol hawdd, fe gollwyd y gêm olaf yn erbyn Czechoslovakia ac fe gollodd y rheolwr Mike England ei swydd o fewn tri mis. Wedi'r gêm yn Prague fe logodd Bayern Munich awyren breifat i hedfan Mark Hughes i'r Almaen i chware ail hanner gêm glwb. Pan ddechreuodd gêm Bayern, roedd Mark Hughes dal yn yr awyr - roeddwn i a sawl un arall mewn pydew o anobaith."
John Hardy, Caerdydd
 |