ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cofio...?
Protestiadau Sgwâr Tiannamen, Tsieina Dyma 1989
Y penawdau, y pethau, y bobl...
Protestiadau Sgwâr Tiannamen, Tsieina

Clicwch ar bwnc:

Cymru
Y Byd
Cerddoriaeth
Celfyddydau
Ffilmiau
Teledu a Radio
Chwaraeon
Gwyddoniaeth
Ffordd o Fyw
Marwolaethau

CYMRU

  • Dechreuwyd un o ymgyrchoedd mwya' Cymdeithas Yr Iaith yn erbyn y farchnad dai yng Nghymru - Nid yw Cymru ar Werth.

  • Daeth pennod yn hanes glo Cymru i ben ar Awst 23, pan gaewyd Glofa Oakdale, y pwll ola' yng Ngwent. Ar un adeg roedd yn cyflogi mwy na 2,000, ond 200 oedd yno ar y diwedd.

  • Cafodd naw dyn eu harestio a'u rhyddhau ar ôl gwisgo lifrai Parti Lliw Meibion Glyndŵr i orymdeithio yn y Rali Goffa i Ferthyron Abergele - 20 mlynedd wedi iddyn nhw farw adeg yr Arwisgiad. Yn ddiweddarach, gosododd yr heddlu offer bygio dan gar un o'r naw, William Murphy o Benygroes.

  • Yr iaith Gymraeg yn cael ei defnyddio am y tro cynta' mewn sawl sefyllfa wahanol - ar gwrs Prifysgol Agored, yn NhÅ·'r Arglwyddi ac i dyngu Llw Hipocrataidd y doctoriaid.

  • Ar ôl refferendwm, Dwyfor ym Mhen LlÅ·n oedd yr unig ran o Gymru i aros yn sych ar y Sul. Roedd hi'n agos yng Ngheredigion hefyd - penderfynwyd agor y tafarndai o 10,961 i 10,133 bleidlais.

  • Roedd ffatri Rechem ym Mhont-y-Pŵl yn cael sylw mawr yn ystod 1989 wedi i bobol yr ardal ddysgu am beryglon cemegau PCB oedd yn cael eu gollwng i'r awyr yno. Yn y diwedd, caewyd y ffatri.

  • Yn annisgwyl, AS o Gymru oedd dechrau'r diwedd i Margaret Thatcher. Penderfynodd y bonheddwr Syr Anthony Meyer (Gorllewin Clwyd) ei herio hi am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol. Er iddo golli'n rhacs, roedd y ddynes haearn wedi ei tholcio.

  • Roedd yna ddwy lofruddiaeth fawr yn y newyddion: Saethwyd dau ymwelydd, Peter a Gwenda Dixon, ar lwybr yr arfordir ger Little Haven yn Sir Benfro. Amheuwyd yr IRA neu smyglwyr cyffuriau, ond mae'r achos heb ei ddatrys o hyd.

  • Llofruddiwyd yr actores Elinor Wyn Roberts yn ei chartre' yn Y Felinheli. Yn 1990, cafwyd ei phartner, Clive Roberts (un o sêr y rhaglen gomedi sefyllfa Fo a Fe) yn euog o'i llofruddio. Er bod eu perthynas yn stormus iawn, syfrdanwyd byd y theatr Gymraeg.

  • Daeth yr arweinydd ysbrydol, y Dalai Lama, i Gymru i bledio achos Tibet. Gwnaeth argraff fawr gyda'i hynawsedd a'i dangnefedd ... a chafodd dynnu ei lun yn chwarae croquet ym Mro Morgannwg.

  • Roedd pysgotwyr Cymru yn ddig wrth weld dieithriaid yn prynu hawliau pysgota ar afonydd Cymru a chlybiau lleol yn methu â chystadlu.

    Y BYD

  • Un dyn yn sefyll o flaen tanc - dyna'r llun cofiadwy o brotestio mawr yn Sgwâr Tiannamen, Beijing wrth i fyfyrwyr ac ysgolheigion a gwrthdystwyr gwleidyddol fynd i'r strydoedd. Yn ôl llywodraeth China, lladdwyd rhwng 200 a 300 o brotestwyr - mewn gwirioned roedd y rhif rhwng 2,000 a 3,000.

  • Bu farw arweinydd Iran, Ayatollah Khomeini. Roedd wedi cyhoeddi ffatwa - dedfryd o farwolaeth yn erbyn yr awdur Salman Rushdie oherwydd y cabledd honedig yn erbyn Islam yn ei lyfr The Satanic Verses.

  • Daeth Wal Berlin i lawr ar ôl i'r mannau croesi gael eu hagor, enillodd Solidarnosc etholiad Gwlad Pwyl, agorwyd ffiniau Hwngari, daeth y dramodydd Vaclav Havel yn arlywydd Tsiecoslofacia trwy'r 'Chwyldro Melfed', dienyddwyd unben Romania, Nicolae Ceaucescu, ddydd Nadolig ond roedd pobol y Baltig yn dal i brotestio - creodd 2 filiwn o drigolion Lithwania, Latfia ac Estonia gadwyn ddynol 600km i alw am ryddid.

  • Cafwyd un o drychinebau olew gwaetha'r byd pan gollodd llong yr Exxon Valdez 240,000 casgen neu 11 miliwn galwyn o olew yn Alaska, gan ddifrodi'r amgylchedd gwerthfawr yno.

  • Cafwyd trychineb Kegworth pan laddwyd 44 o bobol ar un o awyrennau Boeing 747 British Midland wrth iddi geisio glanio ym Maes Awyr Canolbarth Lloegr.

  • Lladdwyd 11 o aelodau o fand milwrol pan osododd yr IRA fom ym Marics Deal.

  • Yn Llys Apêl Llundain, rhyddhawyd 'Pedwar Guildford', y pedwar gŵr o Iwerddon a garcharwyd ar gam yn 1975 ar gyhuddiad o osod bom yn Guildford dros yr IRA. Dyma un o gyfres o achosion o'r fath.

  • Daeth Kurt Waldheim yn Arlywydd Awstria, er gwaetha' honiadau ei fod wedi cydweithio gyda'r Natsïaid.

  • Gyrrodd tanc ola'r Undeb Sofietaidd allan o Kabul, prif ddinas Affganistan, naw mlynedd wedi mynd i mewn. Roedden nhw wedi colli.

  • Lladdwyd 51 pan aeth cwch hamdden y Marchioness yn erbyn cwch nwyddau ar afon Tafwys ger Pont Southwark, Llundain.

    CERDDORIAETH

    Yn Gymraeg ...

  • Noson Wobrwyo gynta' Y Sgrin Roc, bum mlynedd wedi diwedd nosweithiau Sgrech. Jess yn brif fand, Y Gwefrau (dwy ferch o Gaerdydd) oedd y band mwya' addawol.

  • Gwnaeth y cymeriad teledu Jabas record, wrth i Owain Gwilym ganu gyda'r band Mojo yn gyfeiliant iddo.

  • Cyhoeddodd Sobin a'r Smaeliaid eu casét cynta' gyda chlasuron fel Y Trên i Afon Wen a Dw i ddim yn Licio a dechreuodd The Alarm, band enwog Mike Peters, ganu yn Gymraeg.

  • Ar Log V - pumed albwm y grŵp gwerin yn dathlu eu degfed pen-blwydd.

  • Pwy sy'n cofio rhai o'r enwau oedd yn siartiau Cytgord: Terry Waite ar Asid, Harri Go Ffes, Arfer Anfad, Cedwyn Aled, Bili Clin, Y Jecsyn Ffeif, Letus Seicedelig ac un a oedd ar y brig am wythnosau ... EV?

    ac yn Saesneg...

  • Kylie Minogue (yr hanner Cymraes) a'i chyd-seren sebon o Awstralia, Jason Donovan, yn dal yn ffefrynnau mawr.

  • Cyhoeddodd Paul McCartney sengl Back In The U.S.S.R yn Rwsia yn unig. Roedd copïau yn cael eu gwerthu yn America am fwy na $1,000.

  • Nifer o bobl yn galw am wahardd fideo Madonna, Like A Prayer, oherwydd y ffordd roedd yn cyfleu y ffydd Gatholig.

  • Gyda bandiau fel y Stone Roses, daeth Manceinion yn brifddinas roc gwledydd Prydain.

  • Dyma rifau 1 y flwyddyn:
    Especially For You - Kylie Minogue a Jason Donovan
    Something's Gotta Hold on my Heart - Marc Almond a Gene Pitney
    Belfast Child - Simple Minds
    Too Many Broken Hearts - Jason Donovan
    Like A Prayer - Madonna
    Eternal Flame - The Bangles
    Ferry 'Cross The Mersey - The Christians, Paul McCartney a mwy...
    Sealed With a Kiss - Jason Donovan
    Back To Life (However Do You Want Me) - Soul II Soul a Caron Wheeler
    You'll Never Stop Me From Loving You - Sonia
    Swing The Mood - Jive Bunny and The Mastermixers
    Ride On Time - Black Box
    All Around The World - Lisa Stansfield
    You Got It (The Right Stuff) - New Kids On The Block
    Do They Know It's Christmas - Band Aid II

    CELFYDDYDAU

  • Un o lyfrau'r flwyddyn oedd Wyt Ti'n Cofio?, crynodeb Gwilym Tudur o hanes Cymdeithas yr Iaith, trwy gyfrwng toriadau papur newydd, llyfrau ac atgofion.

  • Wrth gyhoeddi Gwaedd y Bechgyn, casgliad o farddoniaeth Gymraeg o'r Rhyfel Byd Cyntaf, daeth Alan Llwyd ac Elwyn Edwards o hyd i sawl bardd a oedd wedi eu hanghofio.

  • Un o berfformiadau theatrig gorau'r flwyddyn oedd Val - cyflwyniad un dyn o ddyddiaduron rhyfel Lewis Valentine, gan Dyfan Roberts.;

  • Cyhoeddwyd gwyddoniadur Cymraeg i blant dan yr enw Chwilota - roedd yn dod mewn saith cyfrol.

  • A chyhoeddodd y bardd, Dic Jones, ei hunangofiant, dan y teitl, Os Hoffech Wybod ...

  • Yn Nyffryn Conwy yr oedd yr Eisteddfod Genedlaethol gydag Idris Reynolds yn ennill y Gadair, yr Archdderwydd presennol, Selwyn Griffiths, yn cael y Goron. Irma Chilton a enillodd y Fedal Ryddiaith am nofel i bobol ifanc, Y Mochyn Gwydr.

  • Roedd Eisteddfod yr Urdd Cwm Gwendraeth yn un gofiadwy ... y ddruta' erioed, y gynta' i fod yn chwe diwrnod ... ac yn berchen ar gymeriad hyrwyddo o'r enwo Glöyn. Enillwyd y Goron gan Mared Wyn Hughes, gan efelychu ei mam 25 mlynedd ynghynt, y Gadair gan Nia Owen Hughes a'r Fedal Lenyddiaeth gan Esyllt Penri.

  • Ar ôl blynyddoedd o ddadlau, penderfynodd Cyngor Môn o un bleidlais i beidio â chodi oriel i gadw lluniau adar Charles Tunnicliffe.

  • Daeth un o artistiaid mwya' Cymru i'r amlwg am y tro cynta', wrth i Shani Rhys James o Langadfan ennill y brif wobr yn Arddangosfa Agored Cymru.

  • Enillodd y bariton Bryn Terfel wobr y Lieder yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd yng Nghaerdydd.

    TELEDU A RADIO

  • Roedd yna helynt a chwyno ymhlith Clybiau Ffermwyr Ifanc ar ôl i ffilm Smithfield awgrymu fod tripiau ffermwyr i'r ffair gig yn Llundain yn esgus am yfed a hanci panci.

  • Roedd y digrifwr Gari Williams mewn cyfres arall o'r rhaglenni chwarae triciau ar bobol, Rargian Fawr, ac Ifan Gruffydd yn ffilmio Ma' Ifan 'Ma o flaen cynulleidfaoedd byw.

  • Ond cwynodd darlithrwaig o Fanceinion, Catrin Roberts, fod rhaglenni fel Sam Tân, Superted a Wil Cwac Cwac yn secsist oherwydd bod yr arwyr yn ddynion i gyd, a'r merched yn stereoteipiau.

  • Daeth Geraint Stanley Jones yn Brif Weithredwr S4Cl, i ddilyn Owen Edwards.

  • Bu newid mawr yn rhaglenni bore Radio Cymru - aeth Helo Bobol a daeth Vaughan Hughes a Russell Isaac i gyflwyno rhaglen newyddion galetach, a llai llwyddiannus. Enw'r rhaglen oedd 'Heddiw'.

  • Dechreuodd cwmni Sky gynnig amrywiaeth o sianeli ar deledu lloeren a dechreuodd dysglau ymddangos ar ochr tai.

  • Dechreuwyd dangos dadleuon TÅ·'r Cyffredin yn fyw ar y teledu am y tro cynta'. Cafodd llawer eu synnu o weld pa mor wag oedd y siambr y rhan fwya' o'r amser.

  • Dechreuodd un o gyfresi cwlt y teledu yn yr Unol Daleithiau - gyda rhifyn cynta' rhaglen gartŵn o'r enw The Simpsons. O America hefyd daeth y gomedi Seinfeld a'r rhaglen groen-a-thywod Baywatch.

  • Aeth Michael Palin, Monty Python gynt, ar ei daith fawr gynta' yn Around the World in Eighty Days a chafodd pen-ôl enwog Anneka Rice sioe newydd gyda Challenge Anneka.

  • Wrth i yrfa John Craven ddod i ben yn gyflwynydd Newsround, daeth Jeremy Paxman yn gyflwynydd ar Newsnight am y tro cynta'.

    FFILMIAU

  • Lansiwyd Gŵyl Ffilm Aberystwyth (Gŵyl Ffilm Ryngwladol Cymru wedi hynny) oedd yn arddangos ffilmiau o bob rhan o'r byd e.e Little Vera o'r Undeb Sofietaidd a Salaam Bombay o'r India, a hefyd nifer o ffilmiau Cymraeg.

  • Yn yr un flwyddyn agorwyd Archif Ffilm Genedlaethol yn Aberystwyth i gadw cofnod o holl gynnyrch ffilm Cymru..

  • Gwnaeth When Harry Met Sally fyd o les i gaffis oherwydd golygfa enwog pan oedd Meg Ryan yn esgus cael orgasm cyhoeddus. Billy Crystal oedd Harry.

  • Dyma'r flwyddyn gynta' i ni weld Batman yn achub Dinas Gotham ar y sgrin fawr. Tim Burton oedd y cyfarwyddwr a Michael Keaton oedd y dyn yn y teits.

  • Rhai o'r ffilmiau eraill poblogaidd oedd Ghostbusters II, Back To The Future II, Look Who's Talking, The Little Mermaid (i'r plant) ... a Shirley Valentine, gyda Pauline Collins, yn cael hwyl yn yr haul oedd y ffilm Brydeinig fwya' llwyddiannus.

    CHWARAEON

  • Lladdwyd 95 o gefnogwyr Clwb Pêl-Droed Lerpwl mewn gwasgfa yn stadiwm Hillsborough yn Sheffield yn gêm gynderfynol cwpan yr FA yn erbyn Nottingham Forest. Cafodd yr heddlu eu beio wrth i ormod o bobol geisio rhuthro i mewn ar y funud ola' a llifo o'r teras i'r cae.

  • Mae rhai o bobol Lerpwl yn dal yn ffyrnig yn erbyn papur newydd y Sun oherwydd ei ymosodiad ar y Sgowsars, yn awgrymu'n annheg eu bod wedi difwyno cyrff yn eu meddwdod.

  • Er hynny, aeth Lerpwl yn eu blaenau i ennill y Cwpan trwy guro'r hen elyn, Everton, o 3-2 yn y rownd derfynol.

  • Cynyddu wnaeth y dadlau tros dalu i chwaraewyr rygbi - roedden nhw'n galw am fwy o gostau a thaliadau bonws. Aeth sêr fel Jonathan Davies i chwarae Rygbi'r Gynghrair yng ngogledd Lloegr.

  • Cymru yn erbyn Gorllewin yr Almaen oedd y gêm bêl droed gynta' yng ngwledydd Prydain i gael ei chwarae mewn stadiwm â seddau yn unig, yn hy Stadiwm Cenedlaethol yng Nghaerdydd.

  • Stephen Dodd yn ennill pencampwriaeth golff amatur Prydain ac yn dod yn Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn yng Nghymru.

  • Llwyddodd Cymro arall, o'r enw Brian Cairns i ennill pencampwriaeth amatur y byd mewn dartiau.

  • Ac, i gwblhau'r hatric, Jonathan Jones o Landudoch yn ennill Pencampwriaeth Fformiwla 1 Cychod Pŵer y Byd am yr ail waith.

  • Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru'n cael ei hagor yng Nghaerdydd, gyda rhai o'r enwau yn cynnwys John Charles, Ivor Allchurch, Dewi Bebb a Billy Meredith.

  • Wnaeth y paffiwr Frank Bruno o Loegr ddim llawer o sioe yn erbyn pencampwr pwysau trwm y byd, Mike Tyson, ond cafodd llawer o sylw ... gwbod be dw i'n feddwl, Harry. (Roedd bron pob ateb i gwestiynau'r sylwebydd Harry Carpenter yn gorffen fel yna).

    GWYDDONIAETH A THECHNOLEG

  • Cafodd asteroid ei henwi ar ôl Cymro - roedd Asteroid Iwan yn deyrnged i'r Athro Iwan Prys Williams, o Gyffylliog ger Rhuthun.

  • Anfonwyd y lloeren GPS gynta' i'r gofod. Mae 24 erbyn hyn a'r System Leoli Fydeang (Global Positioning System) oedd dechrau chwyldro'r sat nav a Google Earth a'u tebyg.

  • Cytunodd gwledydd yr Undeb Ewropeaidd fod angen gwahardd chlorofluorocarbons (CFCs) oherwydd eu heffaith ar yr haen osôn. Roedd y nwyon hyn mewn llawer o gyfarpar cyffredin fel oergelloedd a chwistrellwyr persawr ac yn y blaen.

  • Yng nghynhadledd y G7 - saith gwlad gyfoethoca'r byd - galwyd am dorri'n ôl ar ollwng nwyon i'r amgylchedd.

  • Yn yr Unol Daleithiau, cafwyd y dyn cynta' yn euog o greu feirws i heintio cyfrifiaduron.

    FFORDD O FYW

  • Ar y 5ed o Fawrth lansiwyd papur newydd i'r Sul gan y Western Mail dan yr enw Wales On Sunday. Dechreuodd yn weddol drwm, cyn troi yn bapur tabloid ysgafn yn 1991.

  • Yn Japan, dechreuodd Nintendo werthu Gameboy, gan chwyldroi maes gêmau cyfrifiadurol.

  • Daeth trowsus llac iawn yn ôl, gyda rhai mor llydan â 21 modfedd. A daeth dilledyn o'r enw yr 'hoodie' i gadw cwmni iddyn nhw.

  • Mwy dychrynllyd fyth oedd y Body, siwt leicra a ddylai fod mewn gym ond oedd yn cael eu gwisgo ar nosweithiau mas hefyd.

  • Yna daeth y Lambada - merched yn gwisgo sgertiau ra-ra byr a dynion mewn chinos tynn, a chrysau lliwgar gyda llawer o'r botymau ar agor.

  • Fe ddathlodd y ddoli Barbie ei phen-blwydd yn 30, gyda model yn gwisgo dillad designer gan Paco Robanne, Chloe ac Hanae Mori.

  • Yn 1989 y cafwyd yr ha' poetha' ers 1976 - a than eleni.

  • Car y flwyddyn oedd y Fiat Tipo gyda'r Vauxhall Cavalier yn ail a'r Volkswagen Passat yn drydydd.

  • Ymddangosodd yr hysbysebion cynta' am ffonau symudol yn y papurau newydd yng Nghymru.

  • Cafwyd enghraifft wirion o allu'r dechnoleg newydd, gyda blodau oedd yn dawnsio. Roedd sglodyn wrth fôn y blodau plastig yn ymateb i gerddoriaeth a gwneud iddyn nhw symud.

    MARWOLAETHAU

  • Bu farw Emrys James, yr actor Cymraeg o Fachynlleth a oedd yn enwog am actio Shakespeare. Bu yn y rhaglen deledu Z Cars hefyd ac ef oedd tad Anne Frank yn The Diary of Anne Frank.

  • Roedd W. Leslie Richards yn enwog am delynegion a cherddi ysgafn.

  • Roedd William Squire hefyd yn actor llwyddiannus o Gymru i actio mewn nifer o ddramâu a rhaglenni teledu Prydeinig. Cafodd ran yn gwneud llais Gandalf mewn fersiwn cartŵn o Lord Of The Rings a bu mewn rhifynnau o Doctor Who.

  • Bu farw'r cyn-Arglwydd Ganghellor, Elwyn Jones. Cafodd yrfa lwyddiannus iawn dan Harold Wilson a James Callaghan ac ef oedd yn arwain yr erlyniad yn yr achos llys yn erbyn Myra Hindley ac Ian Brady.

  • Dyma rai enwogion eraill a fu farw yn 1989:-
  • Hirohito, Ymerawdwr Japan
  • Salvador Dali, yr arlunydd swreal, mwstashiog o Gatalunya
  • Laurence Olivier, yr actor clasurol Saesneg
  • Graham Chapman, un o aelodau tîm Monty Python
  • Bette Davis, yr actores
  • Lucille Ball, y ddigrifwraig o'r Unol Daleithiau
  • Sergio Leone, cyfarwyddwr y ffilmiau spaghetti
  • Herbert von Karajan, yr arweinydd cerddorfeydd
  • Samuel Beckett, y dramodydd Gwyddelig o Baris


  • Cofio...

    [an error occurred while processing this directive] [an error occurred while processing this directive] [an error occurred while processing this directive]


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý