Last of the Summer Wine
Beth yw eich atgofion chi o 1991? Cyfrannwch i'r dudalen hon drwy anfon eich atgofion atom - ewch i waelod y dudalen
"Ar y pumed o Ragfyr 1991 fe fu farw un o ddramodwyr mawr ein cenedl. Ma gin i ddyled bersonol iddo oherwydd pryd roedd fy nhad mewn cyfyng gyngor ynglŷn â pha Ysgol Uwchradd ddylswn ni fynychu, fe drodd at y gwron arbennig yma am gyngor.
"Gyrra fo i Ysgol Dyffryn Ogwen," oedd yr ateb parod, a dyna lle fues i am saith mlynedd hapus, os dilewyrch iawn.
Ges i'r cyfle i ddiolch i Gwenlyn Parry sawl gwaith tra roedd y ddau ohona ni yn cydweithio yn y ÃÛÑ¿´«Ã½ a dyma fi'n cael cyfle i ddiolch iddo eto am ei gwmni a'i gyngor parod dros y blynyddoedd. Fel nifer o dalentau mawr arall, fe fu farw yn llawer rhy ifanc."
John Hardy, Caerdydd
 |