ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cofio...?
Milwyr yn yr anialwch yn ystod Rhyfel y Gwlff 1991 Dyma 1991
Y penawdau, y pethau, y bobl...
Martin Bell yn cyfweld milwyr yn ystod Rhyfel y Gwlff, 1991

Clicwch ar bwnc:

Cymru
Y Byd
Cerddoriaeth
Celfyddydau
Ffilmiau
Teledu a Radio
Chwaraeon
Gwyddoniaeth
Ffordd o Fyw
Marwolaethau

CYMRU

  • Ym mis Ionawr cafwyd trychineb ger glannau Ynys Môn wrth i dancer o Falta suddo gan foddi 10 aelod o'r criw.

  • Lladdwyd dau filwr o Gymru yn ystod Rhyfel y Gwlff, gan gynnwys y milwr Prydeinig cynta' i farw yno, ddau ddiwrnod cyn i'r ymladd ar y tir ddechrau. Y ddau oedd y Corporal David Denbury o Bont-hir, Gwent a'r Rhingyll Vincent Phillips.

  • Cyhoeddodd y Llywodraeth na fyddai'n adeiladu gorsaf radar ar y cyd â'r Unol Daleithiau ar faes awyrennau ger Tyddewi, Sir Benfro wedi'r cyfan. Roedd hyn yn fuddugoliaeth fawr i drigolion.

  • Achoswyd sioc i aelodau Plaid Cymru pan gyhoeddodd Dafydd Elis-Thomas ei fod yn rhoi'r gorau i fod yn AS Meirionnydd Nantconwy. Cyfreithiwr lleol, Elfyn Llwyd, a ddewiswyd i sefyll yn ei le yn yr etholiad nesa'.

  • Rhwng 30 o Awst ac 2 Medi cafwyd terfysgoedd yn ardal Elái o ddinas Caerdydd, gyda bomiau petrol a cherrig yn cael eu taflu at yr heddlu. Problemau cymdeithasol a thywydd chwilboeth oedd yn cael y bai er mai ffrae rhwng dau siopwr oedd y sbardun. Roedd terfysgoedd mewn dinasoedd yn Lloegr hefyd.

  • Manteisiodd llywodraethwyr a rhieni Ysgol Cwm-carn, Gwent ar ddeddfwriaeth newydd i adael gofal yr awdurdod addysg leol. Hon oedd yr ysgol uwchradd gynta' yng Nghymru i dderbyn statws grant uniongyrchol.

  • Roedd yna drafferthion ariannol mawr i Ganolfan Iaith Nant Gwrtheyrn ar ôl iddyn nhw brynu hen Blas y Nant gyda'r syniad o sefydlu canolfan hyfforddi twristiaeth. Cynigiodd y Cadeirydd brynu'r lle oddi arni.

  • Yr Eisteddfod Genedlaethol yn gwrthod deiseb gan o leia' 2,000 o bobol yn gofyn am ddileu'r gair 'Brenhinol' o deitl swyddogol yr ŵyl.

  • Esgob Llanelwy, Alwyn Rice Jones, yn cael ei wneud yn Archesgob Cymru, Y Cymro Eric Jones, oedd un o'r tîm o bedwar a ehedodd mewn balŵn tros gopa Everest - y rhai cynta' erioed i gyflawni'r gamp.

  • Dangosodd y Cyfrifiad fod nifer y siaradwyr Cymraeg dros 45 oed yn lleihau yn sylweddol. Ond roedd nifer y plant oedd yn medru'r Gymraeg wedi cynyddu'n sylweddol oherwydd addysg Gymraeg.

    Y BYD

  • Dechreuodd Rhyfel y Gwlff i geisio rhyddhau Kuwait o afael lluoedd Irac. Lladdwyd 27 o filwyr o wledydd Prydain yn ystod 'Desert Storm', dan arweiniad yr Unol Daleithiau. Daeth y rhyfel ar y tir i ben ar ôl dim ond 100 awr. Ar ôl hynny, sathrodd unben Irac, Saddam Hussein, yn ffyrnig ar wrthryfelwyr o fewn ei wlad ei hun.

  • Yn Llundain, taniodd yr IRA fom morter i mewn i ardd rhif 10 Stryd Downing tra oedd y Cabinet yn cwrdd. Chafodd neb ei anafu.

  • Ym Moscow methodd ymgais gan yr hen gomiwnyddion i gipio grym, yn rhannol oherwydd safiad cyhoeddus yn eu herbyn gan Boris Yeltsin, a ddaeth wedyn yn arlywydd Rwsia.

  • Cafwyd corwynt anferth ym Mangladesh, gan ladd 138,000 o bobl ac achosi llifogydd a gadwodd y wlad o dan ddŵr am fisoedd.

  • Bu farw perchennog papurau'r Daily Mirrorr, Robert Maxwell, ar ôl syrthio oddi ar ei gwch ger ynys Tenerife. Daeth i'r amlwg wedyn ei fod wedi bod yn mynd ag arian o gronfa bensiwn ei gwmni ei hun.

  • Cyhoeddodd Croatia a Slovenia eu hannibyniaeth oddi wrth Iwgoslafia. Dyma ddechrau ar gyfnod o wrthdaro gwaedlyd yn ardal y Balcan.

  • Rhyddhawyd 'Chwech Birmingham' - y Gwyddelod a garcharwyd ar gam am achosi ffrwydradau yn y ddinas. Roedden nhw wedi bod yn y carchar am 16 mlynedd ond daeth yn glir fod yr heddlu wedi ffugio tystiolaeth.

  • Daeth treth y pen i ben - a hynny ar ôl protestio ffyrnig a chwymp y cyn-Brif Weinidog, Margaret Thatcher. Yn Libanus, rhyddhawyd y carcharor Terry Waite, bum mlynedd ar ôl iddo gael ei herwgipio.

  • Suddodd fferi'r Salem Express yn y Môr Coch gan ladd 450 o bobl, y rhan fwya' ar eu gwyliau yn yr Aifft.

  • Erbyn diwedd y flwyddyn daeth yr Undeb Sofietaidd i ben yn swyddogol ar ôl i nifer fawr o wledydd bleidleisio tros annibyniaeth. Ddechrau'r flwyddyn yn Lithwania, roedd 14 wedi eu lladd pan ymosododd tanciau Sofietaidd ar brotestwyr rhyddid ger tŵr teledu'r brifddinas Vilnius.

    CERDDORIAETH

    Yn Gymraeg...

  • Y grŵp cwlt, Datblygu, yn cyhoeddi record hir newydd o'r enw Blwch Tymer Tymor.

  • Sgrifennodd Steve Eaves ganeuon i fynd gyda chynhyrchiad gan Theatr Bara Caws am bobl ifanc ddigartre' - dyma'r albym, Plant Pobl Eraill.

  • Y Cyrff yn cyhoeddi un o'u halbyms gorau, Llawenydd Heb Ddiwedd.

  • Bu'r Anhrefn ar daith yn yr Almaen.

  • Y Gân i Gymry oedd 'Yr Un Hen Le' gan y cyfreithiwr o Lanbed, Richard Marks gyda Martin Beatty yn canu.

  • Dau enw newydd i wneud marc ar y byd pop Cymraeg oedd Hanner Pei o Gaerdydd ac Aros Mae, gyda phlant yr AS, Dafydd Wigley, yn aelodau ohono.

    ac yn Saesneg...

  • Ymhlith y caneuon anarferol, roedd llwyddiant y cymeriad cartŵn Bart Simpson gyda Do The Bartman.

  • Torrwyd y record am wythnosau yn Rhif 1 gan Bryan Adams - roedd y gân (Everything I Do) I Do It For You ar y brig am 16 wythnos.

  • Un arall oedd The Stonk gan y ddeuawd gomedi Hale & Pace (cofio'r rheiny?) ar gyfer Diwrnod y Trwynau Coch.

    Dyma rifau 1 y flwyddyn:
    Bring Your Daughter...To The Slaughter - Iron Maiden
    Sadness (Part 1) - Enigma
    3AM Eternal - The KLF gyda The Children of the Revolution
    Do The Bartman - The Simpsons
    Should I Stay Or Should I Go - The Clash
    The One And Only - Chesney Hawkes
    The Shoop Shoop Song (It's In His Kiss) - Cher
    I Wanna Sex You Up - Color Me Badd
    (Everything I Do) I Do It For You - Bryan Adams
    The Fly - U2
    Dizzy - Vic Reeves a Wonder Stuff
    Black or White - Michael Jackson
    Don't Let The Sun Go Down On Me - George Michael ac Elton John
    Bohemian Rhapsody/These Are The Days Of Our Lives - Queen

    CELFYDDYDAU

  • Gwynfor Evans yn cyhoeddi ei lyfr diweddara' yn Saesneg, 'Fighting For Wales', gan roi ei farn ar rai o brif ddigwyddiadau'r 20 fed ganrif.

  • Emyr Humphreys yn cyhoeddi nofel, 'Bonds Of Attatchment', gan ddweud ei fod am ganolbwyntio ar sgriptio rhaglenni teledu Cymraeg o hynny ymlaen.

  • Roedd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd gael yn yr Eisteddfod Genedlaethol am y tro cynta' yn yr Wyddgrug. Enillydd y Gadair oedd Robin Llwyd ab Owain, aeth y Goron i Einir Jones a'r Fedal Ryddiaith i Angharad Tomos am nofel, Si Hei Lwli.

  • Yn Eisteddfod yr Urdd yn Nhonyrefail, y daprar actor Shakespearaidd, Daniel Evans, oedd enillydd y Gadair. Aeth o Goron a'r Fedal Lenyddiaeth i ddwy James - Anwen a Meleri Wyn.

  • Roedd gan un o arlunwyr mwya' poblogaidd Cymru arddangosfa yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth - 'Iaith Gyntaf', gan Mary Lloyd Jones.

  • Peintiwyd un o'r darnau enwoca' o gelf gyhoeddus hefyd wrth i Ruth Jên Evans greu murlun ar adeilad gwasg Y Lolfa yn Nhalybont. Roedd yn dangos cymeriadau llyfrau fel Rwdlan ac yn amlwg i bawb oedd yn teithio o Aberystwyth i'r Gogledd.

  • Aeth dwy wobr lên i awdur newydd, a'r mwya' profiadol o'r cyfan - Tir Na Nog i Gareth F Williams am nofel i bobol ifanc a Gwobr Mary Vaughan Jones i T. Llew Jones.

  • Cyhoeddodd Alan Llwyd gasgliad o'i holl gerddi hyd hynny, 'Y Casgliad Cyflawn'. Ond roedd hefyd yn gyfrifol am fywgraffiad o Hedd Wyn, a sgript ffilm amdano. Llyfr barddoniaeth mawr arall y flwyddyn oedd 'Cilmeri a Cherddi Eraill' gan Gerallt Lloyd Owen.

  • Cafwyd un o gynyrchiadau mwya' beiddgar y cwmni drama, Brith Gof, gydag angylion yn hongian o'r nenfwd yn y sioe 'Pax'. Roedd dawnswyr gydag anableddau hefyd yn cymryd rhan.

  • Roedd yna ddau hunangofiant gwahanol iawn - 'Cae Marged' gan y newyddiadurwr a'r darlledwr Lyn Ebenezer a 'Y Rebel Mwyaf' ymosodol gan yr arch-Geidwadwr, Elwyn Jones.

    TELEDU A RADIO

  • Un o gyfresi mawr newydd S4C oedd 'Bacha Hi O 'Ma' - gêm garu 'Blind Date-aidd' gydag Alwyn Siôn yn ceisio cael bechgyn a merched i ennill gwyliau gyda'i gilydd.

  • Cafwyd ymateb anhygoel i gyfres newydd HTV ar gyfer dysgwyr, gyda 1,200 o ysgolion yn gofyn am ddeunydd.

  • Daeth y rhaglenni animeiddio 'Joshua Jones' i'r sgrin, yn Gymraeg a Saesneg.

  • Tri Jones oedd yn cyflwyno rhaglen amaeth S4C, Ar y Tir - Handel, Euryn ac Andrew.

  • Cafwyd priodas anferth ar Pobol y Cwm, wrth i Denzil fynd ag Eileen at yr allor. Nhw oedd dau o gymeriadau mwya' poblogaidd y gyfres.

  • Cafodd yr actores Beryl Williams ganmoliaeth uchel iawn am ei phortread o hen wraig yn 'Nel', drama deledu gan Meic Povey.

  • Cafodd nofel Kate Roberts, 'Traed Mewn Cyffion', ei ffilmio yn Arfon, gyda golygfeydd o dre' Caernarfon yn cael eu gwneud ym mhlas Y Faenol.

  • Daeth merch bert o Abertawe yn enwog iawn. Catherine Zeta-Jones oedd Gwnaeth yr actores byd-enwog Catherine Zeta-Jones oedd Mariette yn y gyfres ysgafn, 'The Darling Buds of May', gyda David Jason. Cyflwynwyd math newydd o gomedi pan ddaeth 'Vic Reeves' Big Night Out' i'r sgrin gyda Vic Reeves a Bob Mortimer a llawer o wiriondeb.

  • Roedd mwy o wiriondeb gyda Noel Edmonds a'i 'House Party' - yn ogystal â gêmau gwirion, roedd yna gymeriad mawr pinc o'r enw Mr Blobby.

    FFILMIAU

  • Cafodd nofel fawr Caradog Pritchard, 'Un Nos Ola Leuad', ei ffilmio a'i gweld gynta' yn ei hardal yn Nyffryn Ogwen.

  • Ffilm Gymraeg fawr arall 1991 oedd 'Elenya' am ferch hanner Eidaleg sydd yn byw yng Nghymru sydd yn dod yn ffrindiau gyda pheilot Almaenig wedi i'w awyren ddisgyn i'r cae ger ei thÅ·. Cymro oedd seren un o ffilmiau gorau'r flwyddyn - Anthony Hopkins yn rhan y seiciatrydd seicopathig, Hannibal 'the Cannibal' Lecter, yn 'Silence of the Lambs'.

  • Un o nifer bychan o gyfresi o ffilmiau sydd â'r ail gystal neu'n well na'r gynta' oedd 'Terminator 2'. Roedd Arnie Schwarzenegger yn ôl i achub y byd, gyda dywediad bach newydd - "Hasta la Vista, Baby!".

  • Rhai ffilmiau eraill a wnaeth yn dda oedd 'Robin Hood: Prince of Thieves', 'The Addams Family' a 'Father of the Bride'.

    CHWARAEON

  • Daeth Ieuan Evans yn gapten ar dîm rygbi Cymru ond fe gawson nhw eu chwalu gan Loegr. Castell-nedd oedd clwb gorau'r flwyddyn.

  • Enillodd Neil Jenkins ei gap cynta' i Gymru yn 19 mlwydd oed. Jenkins oedd y chwaraewr cynta' i sgorio dros 1,000 o bwyntiau dros ei wlad gan gael 1,049 mewn 87 gêm ryngwladol. Mae hyn yn record hyd heddiw.

  • Dangosodd tîm rygbi 13 Cymru sut i ennill trwy guro Papua Guinea Newydd o 68-0 a thorri eu record sgorio. Roedd y tîm yn cynnwys nifer o sêr y gêm amatur megis Jonathan Davies, Paul Moriarty, John Deveraux a Roland Phillips.

  • Cafodd pêl-droedwyr Cymru un o'u buddugoliaethau mawr trwy guro pencampwyr y byd, yr Almaen, o 1-0 gyda gôl gan Ian Rush.

  • Y Cymro, Eric Jones, yn un o dîm o bedwar i hedfan tros Everest mewn balŵn - y rhai cynta' erioed i wneud hynny.

  • Arhosodd miloedd o Gymry o flaen y teledu tan hanner nos ar y 14eg o Ebrill er mwyn gweld Ian Woosnam yn ennill Pencampwriaeth Meistri'r Unol Daleithiau. Woosnam o Lanymynech, Maldwyn, oedd y Cymro cynta' i ennill un o brif gystadlaethau golff y byd.

  • Daeth Robbie Regan o Coed-ddu yn bencampwr paffio pwysau pry' Prydain yng Nghaerdydd.

  • Gafodd Diego Maradonna ei wahardd rhag chwarae pêl-droed am 15 mis wedi i ddoctoriaid ddarganfod cocên yn ei gorff.

  • Daeth clybiau Lloegr yn ôl i gystadlaethau pêl-droed Ewrop wedi gwaharddiad Heysel ond Red Star Belgrade oedd enillwyr Cwpan Ewrop.

  • Parhaodd Tottenham Hotspur gyda record ryfeddol trwy ennill Cwpan yr F.A. Roedd yn golygu eu bod wedi ennill yn 1901, '21, '61, '81 a '91.

    GWYDDONIAETH A THECHNOLEG

  • Y peiriant gofod Galileo oedd y cynta' i gyrraedd asteroid.

  • Daeth y we fyd-eang i fod, yn benna' oherwydd y dyfeisiwr Prydeinig, Tim Berners-Lee.

  • Cwympodd mast radio Warsaw, yr adeilad ucha' i gael ei godi erioed

  • Am y tro cynta' erioed llwyddodd lloerennau i ddilyn storm drofannol anarferol ger glannau Angola.

  • Ond lladdwyd 43 o wyddonwyr a newyddiadurwyr pan ffrwydrodd mynydd tân Mount Unzen.

    FFORDD O FYW

  • Roedd edrych fel y 'Michelin Man' yn boblogaidd ar ddechrau'r '90au wrth i ddynion a menwod wisgo siacedi Puffa.

  • Rhan arall o ffasiwn y cyfnod oedd gwisgo fel petaech wedi cael eich dillad o sgip. 'Grunge' oedd yr enw a merched yn gwisgo pethau fel ffrogiau byr a sgidiau Doc Martens.

  • Tegan y flwyddyn oedd y cymeriad cyfrifiadur, Sonic the Hedgehog, a hwnnw'n sicrhau gwerthiant anferth i'r Sega Megadrive.

  • Wedi BMX yn yr 80au roedd pobl ifanc dros Gymru a Phrydain gyfan yn dechrau defnyddio Inline Skates, fersiwn newydd a mwy eithafol o'r llafnau rowlio.

  • Un o hysbysebion mwya' poblogaidd y flwyddyn oedd yr un a ddaeth ag enw mawr newydd i fyd hufen iâ - Haagen Dazs.

  • Dirgelwch y flwyddyn oedd y cylchoedd a'r siapiau rhyfedd a ymddangosai mewn caeau Å·d. Roedd pob math o esboniadau amdanyn nhw - o dywydd anarferol i greaduriaid o'r gofod.

  • Daeth criw o ddynion seimllyd yn boblogaidd iawn ymhlith y rhyw deg. Roedd The Chippendales yn gorchuddio'u cyrff gydag olew babi a'u dangos i lond neuaddau o ferched.

  • Os oeddech chi eisiau set deledu 26", roedd rhaid i chi dalu £630. Byddai camera fideo wedi costio £800 arall.

  • Roedd trenyrs yn ffasiynol iawn a byddai'n rhaid talu £19.99 am bâr da o rai Adidas.

  • Roedd yna bate anarferol ar werth ym Mhenarlâg, gyda myshrwms seicedelig yno. Fuodd tost erioed yr un peth.

    MARWOLAETHAU

  • Wythnos cyn Eisteddfod yr Urdd, bu farw un o'r awduron plant gorau, Gwnno Hywyn. Roedd ei chreadigath, Delyth Haf, ar y teledu yn y gyfres 'Tydi Bywyd yn Boen'.

  • Bu farw'r actor Donald Houston, seren ffilmiau fel 'The Blue Lagoon', 'Run For Your Money' a'r gyfres ffilmiau 'Carry On'. Cafodd ei eni yn Nhonypandy yn frawd hyn i'r actor Glyn Houston.

  • Cafodd Edward George Bowen ei eni ger Abertawe yn 1911 ac aeth ymlaen i fod yn CBE am ei waith ym maes ffiseg, yn arbennig ei gyfraniad at ddarganfod radar yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

  • Bu farw canwr y grŵp roc Queen, Freddy Mercury o AIDS ym mis Tachwedd 1991, gan godi ymwybyddiaeth o'r afiechyd.

  • Fe gafodd gyn-Brif Weinidog India, a mab yr enwog Indira Gandhi, Rajiv Gandhi ei lofruddio yn 1991 wrth iddo gynnig am swydd y Prif Weinidog.

  • Ymhlith marwolaethau eraill y flwyddyn, roedd:
  • Steve Clark - gitarydd Def Leppard
  • Peggy Ashcroft - actores nodweddiadol Seisnig
  • Miles Davis - y trwmpedwr jazz 'cŵl'
  • Graham Greene - awdur Saesneg ac enillydd y Wobr Nobel
  • Isaac Bashevis Singer - enillydd Nobel arall a nofelydd Iddewig.


  • Cofio...

    [an error occurred while processing this directive] [an error occurred while processing this directive] [an error occurred while processing this directive]


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý