Chris Evans
Beth yw eich atgofion chi o 1992? Cyfrannwch i'r dudalen hon drwy anfon eich atgofion atom - ewch i waelod y dudalen
"Ym 1992 mi gefais i'r cyfle i fynd i Sweden ar gyfer pencampwriaeth pel-droed Ewrop yn ogystal a'r gemau Olympaidd yn Barcelona - un o fisoedd hapusaf fy ngyrfa.
Ar nodyn trist dyma flwyddyn colli Alun Williams - un arall oedd yn croesi'r ffordd i gyfarch rhywun yn hytrach nag anwybyddu neu smalio peidio a'ch gweld. Un tro ym Malta - o bobman, roedd Alun yn diddanu ar fordaith, a minnau ar wyliau teuluol ond mi "welai" Williams ei bobol lle bynnag yr oedd! Roedd o'n tybio y medrai d'wllu unrhyw dafarn yng Nghymru ac y byddai rhywun yn ei adnabod - welais i m'ohono'n cael ei siomi erioed.
Dyma flwyddyn cyhoeddi unig gaset y band "Tips Wyn Gruffydd" - roedd Dylan Ebenezer yn aelod. Mi oni'n digwydd nabod y dyn tu ol i enw'r band. Es i efo fo i Ascot unwaith, teithio yno mewn siwt mwnci ond Wyn yn ei ddillad gwaith. Parcio ynghanol yr hampyrs a'r byddigions yn sipian siampen a dyma Wyn yn penderfynu diosg ei ddillad yn y fan a'r lle. Ond mi waethygodd pethau wrth iddo newid i fest a long johns oedd wedi gweld dyddiau gwell cyn mynd i grwydro ymysg y dyrfa. Ond doedd neb fawr dicach - toedda'n nhw i gyd yn nabod Wyn! Roedd o'n gyfaill i Sheiks y Dwyrain Canol a phrif gymeriadau'r byd rasio ac os oedd Wyn Gruffydd isio crwydro o gwmpas yn ei long johns - yna pam ddim!
John Hardy, Caerdydd
 |