ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cofio...?
Edina a Patsy o'r gyfres boblogiadd Absolutely Fabulous ar ÃÛÑ¿´«Ã½1 Dyma 1992
Y penawdau, y pethau, y bobl...
Dwy o brif gymeriadau'r gyfres boblogaidd Absolutely Fabulous ar ÃÛÑ¿´«Ã½1

Clicwch ar bwnc:

Cymru
Y Byd
Cerddoriaeth
Celfyddydau
Ffilmiau
Teledu a Radio
Chwaraeon
Gwyddoniaeth
Ffordd o Fyw
Marwolaethau

CYMRU

  • Sioc fwya'r etholiad cyffredinol yng Nghymru oedd fod Geraint Howells wedi colli yng Ngheredigion a Cynog Dafis yn dod o'r pedwerydd lle i ennill tros glymblaid o Blaid Cymru a'r Blaid Werdd - yr aelod gwyrdd swyddogol cynta' yn NhÅ·'r Cyffredin.

  • Corff o'r enw Chwarae Teg yn cael ei sefydlu gyda'r bwriad o greu gwell cyfleoedd gwaith i ferched.

  • Swyddfa'r Pasport yn cymryd ceisiadau am basport yn y Gymraeg am y tro cynta'.

  • Daeth cylchgrawn Y Faner i ben ar Ebrill 14, ar ôl cael ei gyhoeddi bob wythnos ers 1859 - Baner ac Amserau Cymru oedd ei hen enw. Hafina Clwyd oedd y golygydd ola'.

  • Wedi bod yng ngharchar am chwe blynedd, rhyddhawyd y ddau frawd o ardal Gastell Nedd, Paul a Wayne Darvell a oedd wedi cael eu cyhuddo ar gam o o ladd perchennog siop ryw, Sandra Phillips, yng nghanol ddinas Abertawe.

  • Denwyd tua 2 filiwn o bobl i Lyn Ebwy i Å´yl Gerddi Cymru 1992 - ymgais i weddnewid hen safle gwaith dur. Roedd yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau o'r fath trwy wledydd Prydain. Costiodd £50 miliwn. Mae canolfan siopa yno erbyn hyn.

  • Sefydlwyd gorsaf radio ddwyieithog gymunedol gynta' Cymru wrth i Radio Ceredigion ddechrau darlledu o'r Hen Ysgol Gymraeg yn Aberystwyth. Roedd yr orsaf yn dibynnu ar wirfoddolwyr. Dilynwyd hi gan Radio Maldwyn yn Y Drenewydd.

  • Ar ôl ymgyrchu hir, dechreuwyd adeiladu ail bont tros aber afon Hafren.

  • Sefydlwyd cangen o Merched y Wawr yn Nolafon, Patagonia.

  • Ar ôl sychder yn yr haf, cafwyd llifogydd gwael ar draws Cymru ym mis Rhagfyr. Boddodd un dyn yn afon Ogwen ger Bethesda.

    Y BYD

  • Y Ceidwadwyr yn ennill yr etholiad cyffredinol gyda John Major yn Brif Weinidog. Y Cymro Neil Kinnock, yn ymddiswyddo o fod yn arweinydd y Blaid Lafur ar ôl colli am yr ail dro.

  • Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, daeth dechrau'r diwedd i'r Ceidwadwyr hefyd. Wnaethon nhw ddim adfer eu poblogrwydd ar ôl i'r bunt gael ei thaflu allan o'r drefn ariannol Ewropeaidd, gan achosi chwyddiant mawr am gyfnod.

  • Cafodd y Frenhines "annus horribilis" gyda chwalfa priodas ei mab, Charles, a'r Dywysoges Diana a gyda thân mawr yng Nghastell Windsor.

  • Chwalodd yr hen Iwgoslafia yn derfynol, gyda nifer o weriniaethau bychain yn cyhoeddi eu hannibyniaeth - a dyma ddechrau helynt a rhyfel ethnig a greodd anhrefn yn yr ardal am weddill y ganrif.

  • Roedd hadau rhyfel arall wedi'u plannu yn Affganistan wrth i luoedd Moslemaidd gipio'r brifddinas, Kabul, gan arwain y ffordd at lywodraeth eithafol Y Taliban.

  • Daeth y rhyfel cartref yn El Salvador i ben gydag arwyddo cytundeb heddwch yn Ninas Mexico. Roedd wedi para 12 mlynedd a lladd o leia' 75,000.

  • Arwyddwyd cytundeb Maastricht a greodd yr Undeb Ewropeaidd fel y mae heddiw a dechreuodd blynyddoedd o gecru mewnol o fewn y Blaid Geidwadol.

  • Cafwyd terfysg mewn dinasoedd ar draws yr Unol Daleithiau ar ôl cael plismyn gwyn yn ddieuog o gam-drin dyn croenddu o'r enw Rodney King yn Los Angeles - er eu bod wedi cael eu ffilmio yn gwneud hynny.

  • Penderfynodd Eglwys Lloegr ganiatáu i fenywod gael eu hurddo'n offeiriaid. Byddai'r Eglwys yng Nghymru'n dilyn ym mhen hir a hwyr.

  • Ddiwedd y flwyddyn, etholwyd Bill Clinton yn Arlwydd yr Unol Daleithiau gan ddisodli George Bush. Hynny mewn blwyddyn pan oedd Bush wedi taflu i fyny tros Ymerawdr Japan a'i ddirprwy Dan Quayle wedi dweud wrth blant ysgol fod 'e' ar ddiwedd 'potato'.

    CERDDORIAETH

    Yn Gymraeg ...

  • Cyhoeddodd band Y Cyrff eu record orau eto - yn ôl y beirniaid - a chyhoeddi eu bod yn dod i ben. Un o'r caneuon oedd Cymru Lloegr a Llanrwst.

  • Y band o Gaerdydd, Hanner Pei, yn cyhoeddi eu 3ydd caset - Vibroslap. Matthew Glyn yn brif leisydd. Un o enwau newydd eraill y flwyddyn oedd Tips Wyn Gruffydd, gyda Dylan Ebenezer yn un o'r aelodau.

  • Cafodd Hogia Llandegai ail fywyd, gyda'u record Mw Mw Molly Lloyd ar frig siartiau Cytgord.

  • Atgyfodwyd gŵyl werin Dolgellau dan yr enw Sesiwn Fawr a chyrhaeddodd Gŵyl y Cnapan ei hanterth gydag ymddangosiad y Wolfe Tones ... ond roedd dirywiad ar y ffordd wrth i'r pwyllgor benderfynu ceisio prynu safle a symud yr ŵyl o ganol pentre' Ffostrasol.

    Yn Saesneg ...

  • Rhyddhawyd albym cynta'r band roc o Went, y Manic Street Preachers.

  • Y sengl November Rain gan Guns n' Roses yw'r gân hiraf i gyrraedd y 'Top 20' wrth bara 8 munud a 57 eiliad. Y fideo i'r gân yn costio mwy na $1miliwn i'w wneud - y druta' erioed.

  • Dechrau gyrfa cerdorol pobl a bandiau dylanwadol iawn dros yr 20 mlynedd diwethaf megis- Snoop Doggy Dogg, Weezer, Blink 182, Korn ac un o'r bandiau mwya' oll, Oasis.

  • Ar lefel wahanol, daeth Take That a Robbie Williams i'r amlwg hefyd ac aeth Madonna heibio i'r Beatles am nifer ei recordiau llwyddiannus. Gwerthodd ei halbwm Erotica 2 filiwn o gopïau - roedd y ffaith ei bod hi wedi ymddangos yn noeth mewn llyfr o'r enw Sex hefyd yn help.

    Dyma rifau 1 y flwyddyn:

    Rhifau 1
    Goodnight Girl - Wet Wet Wet
    Stay - Shakespear's Sister
    Deeply Dippy - Right Said Fred
    Please Don't Go - K.W.S
    Abba-esque - Erasure
    Ain't No Doubt - Jimmy Nail
    Rhythm Is A Dancer - Snap!
    Ebeneezer Goode - The Shamen
    Sleeping Seattle - Tamsin Archer
    End Of The Road - Boyz II Men
    Would I Lie To You - Charles and Eddie
    I Will Always Love You - Whitney Houston

    CELFYDDYDAU

  • Y darpar brifardd - Ceri Wyn Jones - a enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd yn Rhuthun. Aeth y Goron i Sian Wyn Jones a'r Fedal Lenyddiaeth i Huw Lloyd Powell Davies. Cyflwynwyd gwobr goffa John a Ceridwen Hughes am y tro cynta' i weithiwr ieuenctid.

  • Yn Aberystwyth yr oedd yr Eisteddfod Genedlaethol, ar dir gyda chysylltiadau â Dafydd ap Gwilym. Aeth y Gadair i Idris Reynolds am yr ail dro, y Goron i Cyril Jones a'r Fedal Ddrama i ddysgwraig o'r enw Pam Palmer. Ond yr uchafbwynt llenyddol - a'r un a greodd fwya' o drafod - oedd Robin Llywelyn, Portmeirion, yn ennill y Fedal Ryddiaith gyda nofel Seren Wen ar Gefndir Gwyn.

  • Yn yr un Eisteddfod, aeth y prif wobrwyon celf i ddau enw a fyddai'n dod yn adnabyddus iawn, y crefftwr tecstilau Cefyn Burgess a'r arlunydd Shani Rhys James. Byddech wedi gallu prynu ei lluniau hi am gannoedd; maen nhw bellach yn costio cymaint â £30,000.

  • Roedd yna ddwy ddrama ddadleuol - perfformiad o Exelcsior gan Saunders Lewis (a oedd wedi arwain at achos enllib yn yr 1960au) a fersiwn fodern Gareth Miles o chwedl Branwen, Dyrnod Branwen.

  • Daeth y boicot celfyddydol yn erbyn De Affrica i ben ac un o'r cynta' i fynd yno oedd y canwr, Paul Simon.

  • Ymhlith llyfrau'r flwyddyn yn Saesneg roedd y gyfrol ddylanwadol am berthynas y rhywiau - Men Are from Mars, Women Are from Venus gan John Gray a Diana: The Real Story, y gyfrol gan Andrew Morton a ddadlennodd faint y rhwyg rhwng y Tywysog Charles a'i wraig.

  • Enillydd y wobr Nobel am Lenyddiaeth oedd y bardd o'r Caribï, Derek Walcott. Roedd wedi bod am gyfnod preswyl yng Nghymru a llyfr amdano wedi'i sgrifennu gan y darlithydd Saesneg, Ned Thomas.

  • Roedd drama'r Mousetrap gan Agatha Christie yn dathlu 40 mlynedd di-dor yn un o theatrau'r West End yn Llundain.

    TELEDU A RADIO

  • Ffilm deledu'r flwyddyn yn Gymraeg oedd Y Beicar, gyda Bryn Fôn yn brif gymeriad.

  • Dathlodd Pobol y Cwm ei 1,000fed rhifyn.

  • Roedd dwy gyfres glasurol Gymraeg yn cael eu ffilmio - Lleifior, o nofelau poblogaidd Islwyn Ffowc Elis a fersiwn o William Jones gan T. Rowland Hughes.

  • Roedd hi'n flwyddyn fawr i'r gyflwynwraig Angharad Mair wrth iddi redeg marathon Berlin mewn llai na thair awr a chadarnhau ei gyrfa newydd ym myd y rasys rhedeg pell.

  • A'r ferch dywydd o Gastell-nedd, Sian Lloyd, a ddewisiwyd yn ferch dywydd orau'r byd o blith 50 o wledydd.

  • Cafwyd cyfres ddrama newydd, Glan Hafren, ar S4C, yn ceisio manteisio ar boblogrwydd cyfresi ysbyty.

  • Daeth un o gomedïauu mwya' llwyddiannus a nodweddiadol y 90au i'r sgrîn yn Saesneg - Absolutely Fabulous, gan Jennifer Saunders, a hithau a Joanna Lumley yn actio dwy wraig ganol oed falch a gwastraffus.

  • Daeth y cyflwynydd pengoch, Chris Evans, yn enwog hefyd gyda'i sioe fore fanic, Big Breakfast.

  • Ond methiant mawr oedd ymdrech ddiweddara'r ÃÛÑ¿´«Ã½ at opera sebon - daeth Eldorado i ben ar ôl ychydig fisoedd, er ei bod hi wedi ei ffilmio ar set foethus yn Sbaen.

    FFILMIAU

  • Cyhoeddwyd y ffilm Hedd Wyn, a fyddai wedyn yn cael ei henwebu am Oscar. Huw Garmon oedd yn y brif ran.

  • Anthony Hopkins yn ennill Oscar am ei ran yn actio'r seicopath Hannibal 'The Cannibal' Lecter yn y ffilm Silence of the Lambs.

  • Dyma'r flwyddyn y daeth miliynau o bobol ifanc i siarad yn 'cool' wrth ddynwared y ddau gymeriad gwallgo, Wayne a Garth, arwyr y ffilm Wayne's World.

  • Ffilm gwlt arall oedd Reservoir Dogs a roddodd enwogrwydd anferth i'r cyfarwyddwr Quentin Tarentino gyda'i thrais digyfaddawd. Roedd wedi ei gwneud mewn pum wythnos ar gyllideb o ddim ond $1.5 miliwn.

  • Ffilm y plant oedd ÃÛÑ¿´«Ã½ Alone 2 a'r ffilm wleidyddol oedd Malcolm X gan Spike Lee am yr ymgyrchydd hawliau dynol.

    CHWARAEON

  • Roedd siom i'r rhedwr 110m tros y clwydi, Colin Jackson, yn y Gemau Olympaidd ym Marcelona - er mai'r Cymro oedd y ffefryn a deiliad record y byd,daeth yn seithfed ar ôl taro clwyd yn y ras 110m tros y clwydi uchel. Ond llwyddodd Tanni Grey Thompson i ennill mwy o fedalau na'r un Cymro neu Gymraes erioed gan ennill aur yn y 100 medr, 200 medr, 400 medr a 500 medr i gadeiriau olwyn.

  • Er mai joci ail-ddewis oedd Carl Llewellyn ar gyfer râs geffylau y Grand National, enillodd y joci o Sir Benfro ar Party Politics.

  • Roedd morwr o Bwllheli, Richard Tudor, yn gapten ar un o'r cychod hwylio mewn ras 28,000 o filltiroedd rownd y byd.

  • Dim ond am fod Iwgoslafia wedi chwalu y cafodd Denmarc le yn rowndiau terfynol Pencampwriaeth Ewrop yn Sweden - ond nhw enillodd yn y diwedd.

  • Roedd 1992 yn flwyddyn mawr i glwb pêl-droed Wrecsam wrth iddynt guro Pencampwyr y Adran Gyntaf, Arsenal yn nrhydedd rownd Cwpan yr FA o 2-1 er fod y clwb yn dioddef yn y 4edd Adran. Mickey Thomas sgoriodd y gynta' ac yntau'n 37 oed. Ond cyhoeddodd hen arwr arall, Joey Jones, ei fod yn ymddeol.

  • Cafwyd y gêm rygbi ryngwladol gynta' erioed rhwng menywod Cymru a menywod Lloegr yn y Stadiwm Cenedlaethol.

  • Daeth yr Uwch Gynghrair pêl-droed i fod, wrth i'r prif glybiau fynnu rhagor o arian a sylw.

  • Ffurfiwyd Cynghrair Pêl-droed Cenedlaethol i Gymru ar gyfer y rhan fwya' o'r prif dimau - ond roedd rhai, gan gynnwys clybiau cynghrair Lloegr - yn mynnu dal i chwarae dros y ffin.

  • Cafodd y paffiwr pwysau trwm Mike Tyson garchar am chwe blynedd am dreisio brenhines harddwch o'r enw Desiree Washington.

  • Roedd yna fuddugoliaethau i Gymru wrth i Robbie Regan o'r Coed Duon ddod yn bencampwr paffio pwysau plu Ewrop ac wrth i Steve Cousins ennill pencampwriaeth sglefrio ar ia gwledydd Prydain. Roedd y Saeson wrth eu bodd hefyd - enillodd Nick Faldo Bencampwriaeth Golff Agored Prydain tra'r aeth Nigel Mansell â hi yn y Bencampwriaeth Fformiwla 1.

  • Andre Agassi a enillodd bencampwriaeth y dynion yn Wimbledon - aeth teitl y merched i Stefi Graf. Yn ddiweddarach, priododd y ddau.

    GWYDDONIAETH A THECHNOLEG

  • Cadarnhaodd Cymru ei lle yn un o brif gynhyrchwyr peiriannau ceir y byd - gan gynhyrchu peiriannau ar gyfer y Toyota Carina, y Ford Fiesta XR2 a'r RS.

  • Lawnsiodd NASA y rhaglen SETI (Search for Extraterrestial Intelligence)

  • Y llong ofod Endeavour yn glanio'n saff ar ol taith gynta' lwyddiannus.

  • Meteorite yn pwyso 13 kilogram yn glanio ger tÅ· teulu o'r enw Knapp yn Peekskill, Efrog Newydd gan ddinistrio eu car Chevrolet Malibu 1980.

  • Ymddangosodd y rhaglen gyfrifiadurol Cysill am y tro cynta' i gywiro camgymeriadau iaith a sillafu yn Gymraeg.

    FFORDD O FYW

  • Roedd arwyddion o ddiwedd cyfnod yn y byd pop, gyda Woolworth's, Boots a Smiths yn rhoi'r gorau i werthu recordiau feinyl a'r nifer isa' o senglau'n cael eu gwerthu ers dechrau'r siartiau go iawn.

  • Yn ogystal â chael hawl i fod yn offeiriaid, cafodd menywod fuddugoliaeth arall wrth i Betty Boothroyd, y gyn-ddawnswraig, ddod yn Llefarydd benywaidd cynta' TÅ·'r Cyffredin.

  • Roedd hi'n ddiwedd cyfnod yn y Gogledd, wrth i'r pwll glo ola' gau yno. Gyda diwedd Y Parlwr Du ger Ffynnongroyw, dim ond Pwll y Tŵr oedd ar ôl o holl byllau dyfnion Cymru.

  • Ffasiwn y cyfnod oedd dangos dillad isa' o dan drowsus isel iawn - hysbyseb gan Calvin Klein a greodd y chwiw i ddechrau, ond mae'n parhau hyd heddiw.

  • Roedd sandalau Birkenstock wedi bod yn boblogaidd iawn yn yr 1970au ac, am ryw reswm, fe ddaethon nhw'n ôl.

  • Cas ffasiwn y mamau oedd 'dreadlocks' i bobol wyn - yn enwedig gan mai'r gred oedd fod angen gadael y gwallt heb ei olchi.

  • Rhagor o arwyddion o gynhesu bydeang - cafwyd y sychder mwya' ers 1745, ar roedd yna hefyd bla o bili palas!

  • Teganau'r flwyddyn oedd doliau Gladiator (oherwydd y gyfres gemau teledu), a modelau'r gyfres gartŵn fytholwyrdd, Thunderbirds. Cafodd y rhaglen blant Blue Peter ei llwyddiant mwya' erioed wrth ddangos sut i wneud fersiwn cartre'.

  • Agorwyd Eurodisney gerllaw Paris, i ddynwared llwyddiant Disneyworld yn Fflorida.

  • Aeth y condoms Cymraeg cynta' ar werth yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gyda'r slogan 'Rhyw Saff, Rhyw Ddydd' a 'Gwnewch bopeth yn Gymraeg!'

    MARWOLAETHAU

  • Bu farw Syr Geraint Evans, bariton opera mwya'i ddydd. Roedd yn dod o Gilfynydd ger Merthyr Tudful.

  • Cerddor arall a fu farw oedd y cyfansoddwr William Matthias sydd bellach â chanolfan gerdd yng Nghaernarfon wedi'i enwi ar ei ôl.

  • Collwyd un o ddiddanwyr enwoca' Cymru hefyd wrth i'r darlledwr, Alun Williams, farw ar daith long yn y Môr Canoldir.

  • Yn annisgwyl iawn, ac yntau'n ddyn cymharol ifanc, bu farw Athro Cymraeg Bangor, Bedwyr Lewis Jones, yr arbenigwr ar enwau llefydd a llenyddiaeth.

  • Ymhlith marwolaethau eraill, roedd:
  • Stephen J. Williams, yr arbenigwr ar ramadeg y Gymraeg.
  • Elizabeth David, brenhines y llyfrau coginio
  • Isaac Asimov, yr awdur sci-fi.
  • Alex Haley, awdur llyfrau poblogaidd o America.
  • Benny Hill, digrifwr mawr y jôcs amheus.
  • Marlene Dietrich, yr actores o'r Almaen.
  • Francis Bacon, yr arlunydd o Iwerddon.
  • Willy Brandt, cyn-ganghellor yr Almaen ac enillydd y Wobr Nobel am Heddwch.


  • Cofio...

    [an error occurred while processing this directive] [an error occurred while processing this directive] [an error occurred while processing this directive]


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý