 |
 |
 |
Dyma 1993 Y Penawdau, y pethau, y bobl... |
 |
 |
 |
Martin Bell yn adrodd ar y diweddara o'r brwydro yn y Balcans, 1993
Clicwch ar bwnc:
Cymru Y Byd Cerddoriaeth Celfyddydau Ffilmiau Teledu a Radio Chwaraeon Gwyddoniaeth Ffordd o Fyw Marwolaethau
CYMRU
Cafodd Siôn Aubrey Roberts, 21 oed o Langefni, ei garcharu am 12 mlynedd am feddu ar ffrwydron a danfon dyfeisiadau ffrwydrol trwy'r post fel rhan o ymgyrch losgi Meibion Glyndŵr. Cafwyd dau ddiffynnydd arall, Dewi Prysor Williams a David Gareth Davies, yn ddieuog yn Llys y Goron Caernarfon.
Pasiwyd Deddf yr Iaith Gymraeg yn rhoi statws cyfartal i'r Gymraeg a'r Saesneg, yn sefydlu Bwrdd Iaith statudol ac yn rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i lunio cynlluniau iaith. Cadeirydd newydd Bwrdd yr Iaith oedd y cyn-As, Dafydd Elis Thomas, a ddaeth yn Arglwydd hefyd.
Daeth AS asgell dde Woking, John Redwood, yn Ysgrifennydd Cymru a chythruddo pobol trwy wneud smonach llwyr o geisio canu Hen Wlad Fy Nhadau yng nghynhadledd Gymreig y Torïaid. Yn y cyfamser, addawodd yr arweinydd Llafur newydd, John Smith, y byddai Cymru'n cael senedd.
Tref Llandudno a'r cyffiniau yn dioddef o lifogydd erchyll. Aeth 500 o dai dan ddŵr a bu raid i 2,500 o bobl adael eu cartrefi.
Childline Cymru yn cael ei sefydlu saith mlynedd wedi sefydlu'r elusen Brydeinig i amddiffyn plant rhag cam-drin.
Arweinydd ysbrydol alltud Tibet, y Dalai Lama, yn ymweld â Chymru am y tro cynta' erioed.
Cafodd wyth o bobol eu harestio yn Llantrisant ar ôl dwyn gwerth £3 miliwn o bunnoedd o ddarnau 10 ceiniog o fanc yn Llundain ddeuddydd yn gynharach.
Agorwyd fferm wynt fwya' Ewrop hyd hynny yn Llandinam, Powys. Cafwyd adroddiad yn argymell 140 o safleoedd posib eraill. Ar yr un pryd, cyhoeddwyd fod Atomfa Trawsfynydd yn cau.
Daeth cwmni awyrennau British Airways a'u prif waith trwsio awyrennau i faes awyr Cymru Caerdydd.
Wayne Edwards, o Gefn Mawr, ger Wrecsam oedd y milwr Prydeinig cynta' i gael ei ladd yn yr ymladd yn Bosnia.
Y BYD
Dechreuodd y flwyddyn gyda dwy wlad newydd yn Ewrop - rhannodd Tsiecoslofacia yn Weriniaeth Tsiec a Slofacia.
Roedd arswyd a dicter mawr ar ôl i blentyn dwy oed, James Bulger, gael ei gipio a'i lofruddio'n giaidd gan ddau fachgen 11 oed o Lerpwl - Robert Thompson a John Venables.
Cafwyd llofruddiaeth enwog arall, pan laddwyd llanc croenddu o'r enw Stephen Lawrence yn Llundain. Byddai methiant yr heddlu i erlyn ei lofruddion yn arwain at gyhuddiadau o hiliaeth systematig.
Wyth mlynedd cyn cael eu chwalu gan ymosodiad 9/11 difrodwyd Canolfan Fasnach y Byd (y World Trade Centre) yn Efrog Newydd pan ffrwydrwyd bom mewn maes parcio tan ddaear. Cafodd chwech eu lladd ac anafwyd mwy na 1,000.
Cafwyd cyflafan ryfedd yn Waco, Texas, pan laddwyd 76 o aelodau cwlt y Branch Davidians mewn tân bwriadol. Yn eu plith roedd eu harweinydd, David Koresh.
Yn Ne Affrica, daeth cyfundrefn apartheid i ben pan bleidleisiodd senedd y wlad i fabwysiadu cyfansoddiad newydd dros dro.
Yn Washington, arwyddwyd cytundeb heddwch rhwng Prif Weinidog Israel, Yitzhak Rabin, ac arweinydd y Palestiniaid, Yasser Arafat. Sefydlwyd Awdurdod Cenedlaethol Palestina yn Gaza a'r Lan Orllewinol.
Dioddefodd India ddaeargryn enfawr yn ninas Killari, talaith Maharashtra ym mis Medi. Lladdwyd tua 300,000 o bobl. Ynghynt yn y flwyddyn, roedd 300 o bobol wedi eu lladd gan fomiau yn Bombay.
Daeth Cytundeb Maastricht i rym, gan sefydlu'r Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol.
Ar ddiwedd blwyddyn pan laddwyd dau blentyn gan fom IRA yn Warrington, Swydd Caer, cyhoeddwyd Datganiad Downing Street yn ymrwymo'r Llywodraeth i wneud ei gorau i ddatrys trafferthion Gogledd Iwerddon.
CERDDORIAETH
Yn Gymraeg...
Rhyddhawyd albwm newydd gan Meic Stevens o'r enw 'Er Cof Am Blant y Cwm' ar label Crai a chyhoeddwyd cyfrol o'i ganeuon gyda phytiau'n esbonio'r cefndir.
Cyhoeddodd Huw Chiswell albwm gyda chân i glwb y cyfryngis yng Nghaerdydd, 'Cameo Man'.
Paul Gregory a enillodd gystadleuaeth Cân i Gymru, gyda 'Y Cam Nesa'. Roedd 'Dw i'n Ama Dim' gan Celt hefyd yn y rownd derfynol.
Gorky's Zygotic Mynci yn recordio eu fideo cynta' ac yn cael derbyniad ac adolygiadau gwych yn y Steddfod. A Catatonia yn cyhoeddi eu EP Saesneg cynta', 'For Tinkerbell'.
Roedd yna ddadlau mawr o fewn y sin roc Gymraeg am fandiau oedd yn canu yn Saesneg.
Jamiroquai yn rhyddhau ei albwm cyntaf ac mae'n saethu i rif un yn siartiau albwm Prydain ac yn aros yna am 4 wythnos.
ac yn Saesneg...
Ffurfiodd nifer o fandiau yn 1993 e.e Backstreet Boys. Ond, yn bwysicach fyth, daeth y Spice Girls at ei gilydd am y tro cynta' i drafod ffurfio grŵp.
Dyma rifau 1 y flwyddyn:
No Limit - 2 Unlimited
Oh Carolina - Shaggy
Young At Heart - The Bluebells
Five Live - George Michael, Queen a Lisa Stansfield
All That She Wants - Ace Of Base
(I Can't Help) Falling In Love With You - UB40
Dreams - Gabrielle
Pray - Take That
Living On My Own - Freddy Mercury
Mr. Vain - Culture Beat
Boom! Shake The Room - DJ Jazzy Jeff & The Fresh Prince
Relight My Fire - Take That a Lulu
I'd Do Anything For Love (But I Wont Do That) - Meat Loaf
Mr. Blobby - Mr. Blobby
Babe - Take That
CELFYDDYDAU
Roedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y gogledd, ond fwy i'r de nag Eisteddfod y De y flwyddyn gynt - roedd hi yn Llanelwedd yn 1993, gan ddilyn Aberystwyth.
Doedd yna ddim Medal Ddrama yn y Brifwyl ond aeth y Gadair i Meirion MacIntyre Huws, y Goron i Eirwyn George a'r Fedal Ryddiaith i gyn-ddysgwr o'r enw Mihangel Morgan.
Daeth gof ifanc o ferch, Ann Catrin, yn enwog trwy ennill Medal Grefft yr Eisteddfod a hithau'n ddim ond 26 oed.
Yn Eisteddfod yr Urdd yng Ngorseinon, llwyddodd Damian Walford Davies i rwystro merched rhag cipio'r holl brif wobrau, trwy ennill y Gadair. Ond aeth y Goron i Eirwen Edmund, Y Fedal Lenyddiaeth i Siân Prydderch Huws, a'r Fedal Ddrama i Betsan Williams.
Cyhoeddodd Bryn Terfel ei bedwerydd albwm Cymraeg, gyda chasgliad o ganeuon y cyfansoddwr o Gymru, Meirion Williams. Roedd rhai eisoes yn hawlio mai ef oedd bariton gorau'r byd.
Roedd yna arolwg i ddewis hoff emyn Cymru. 'Pantyfedwen' enillodd, gyda geiriau W. R. Nicholas, "Tydi a wnaeth y wyrth o Grist fab Duw". Yr ail oedd geiriau Lewis Valentine, "Tros Gymru'n gwlad" ar y dôn 'Finlandia' gan Sibelius.
Dechreuodd Gŵyl y Gwyniad yn y Bala yn gyfuniad o lenyddiaeth a cherddoriaeth.
Un o fywgraffiadau pwysica'r flwyddyn oedd 'W.J. Gruffydd' gan yr academydd a ddaeth yn brif fywgraffydd Cymru, Robin Chapman. Ac roedd yna fywgraffiad pwysig yn Saesneg hefyd - am 'Caitlin', gwraig Dylan Thomas, gan Paul Ferris.
Cyhoeddodd y bardd Gwyn Thomas gyfrol o gerddi ar y cyd â ffotograffau natur ei ffrind, Ted Breeze Jones. Y teitl oedd 'Ac Anifeiliaid y Maes Hefyd'.
Llyfr barddoniaeth y flwyddyn yn Saesneg oedd 'The King of Britain's Daughter', gan Gillian Clarke.
TELEDU A RADIO
Yn y flwyddyn y daeth Huw Jones yn Brif Weithredwr newydd S4C, roedd yna ymateb cymysg i gwis newydd y sianel, 'Jacpot'. Roedd ar y bocs bob nos trwy'r ha', gyda Kevin Davies yn y gadair.
'Halen yn y Gwaed' - am longau fferi Sir Benfro - a 'Pris y Farchnad' - am arwerthwyr yng Nghaerfyrddin - oedd cyfresi drama mawr newydd S4C, gyda Dafydd Hywel yn brif gymeriad. Roedd yna hefyd fersiwn o 'William Jones' gan T. Rowland Hughes.
Cafwyd golwg arall ar y prifardd Gerallt Lloyd Owen wrth iddo gystadlu yn y rhaglen saethu, 'Shotolau'.
Tim Vincent oedd y Cymro cynta' i gyflwyno'r rhaglen boblogaidd i blant, 'Blue Peter'.
Daeth rhagor o raglenni Americanaidd yn boblogaidd, gyda'r gyfres 'The X-Files' - gyda'r ddau swyddog FBI, Mulder a Scully - a Frasier, a dyfodd allan o'r gyfres gomedi 'Cheers'.
FFILMIAU
Roedd yr actor 17 oed, Richard Harrington, yn brysur, yn ffilmio 'Gadael Lenin' yn Rwsia ac yn brif gymeriad y ffilm ddadleuol 'Dafydd', am butain wrywaidd yn Amsterdam.
Roedd Gwilym Hughes o Ddolgellau yn dathlu 40 mlynedd o wylio ffilmiau ... a'r ffaith mai ef oedd yn Llyfr Guinness am wylio'r nifer fwya' o ffilmiau erioed.
Yn eu plith, mae'n siŵr, roedd 'Jurassic Park' a 'Schindler's List', dwy ffilm hollol wahanol gan Steven Spielberg - y naill yn llawn effeithiau arbennig wrth greu parc llawn o ddinosoriaid a'r llall yn dilyn stori arwrol dyn a achubodd gannoedd o Iddewon rhag siambrau nwy'r Natsïaid.
Un o ffilmiau ysgafn y flwyddyn oedd 'Mrs Doubtfire' gyda Robin Williams yn actio dyn wedi ysgaru oedd yn esgus bod yn ofalwraig plant bach er mwyn dod yn nes at ei blant ei hun.
Un o ffilmiau clasurol y flwyddyn oedd 'The Piano' gan Jane Campion, gyda Holly Hunter yn actio menyw oedd yn gwrthod siarad.
CHWARAEON
Fe dorrodd Colin Jackson record y byd am y ras glwydi 110 metr. Roedd ei amser o 12.91 eiliad hefyd yn ddigon i ennill y fedal aur ym mhencampwriaeth y byd yn Stuttgart.
Cafodd John Hill, 67 mlwydd oed o Ferthyr Tudful, ei ladd gan fflêr a saethwyd ar draws y Stadiwm Cenedlaethol yn y gêm bêl droed fawr yn erbyn Romania, pan fethodd Cymru gyfle i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd.
Ond roedd gêm hapusach i Gymru ynghynt yn y flwyddyn - sgoriodd Ryan Giggs ei gôl gynta' i'w wlad mewn buddugoliaeth 2-0 yn erbyn Gwlad Belg. Ian Rush a gafodd yr ail a thorri record sgorio Cymru trwy wneud hynny.
Yn ei gêm broffesiynol ola', fe lwyddodd y cricedwr mawr o'r Caribî, Viv Richards, i helpu tîm Morgannwg i fuddugoliaeth anhygoel ac ennill y bencampwriaeth gêmau undydd.
Diawlaid Caerdydd oedd tîm hoci iâ gorau gwledydd Prydain wrth ennill y Gamp Lawn - Pencampwriaeth yr Uwch-Adran, Cwpan y Pencampwyr a Chwpan Benson and Hedges.
Enillodd neb y Grand National. Cafodd y ras ei chanslo ar ôl nifer o gamgymeriadau wrth geisio ei dechrau.
Er mai tymor sâl a gafodd tîm rygbi Cymru, fe lwyddon nhw i guro Lloegr yn Twickenham o 10-9 gyda chais cofiadwy gan Ieuan Evans. Aeth ar ôl cic gan y blaenasgellwr Emyr Lewis a churo Rory Underwood, asgellwr cwsg Lloegr, i gyrraedd y bêl.
Y Cymro, Ieuan Ellis, a enillodd y marathon gynta' erioed i gael ei rhedeg yn Khatamandu.
Steve Cousins o Lannau Dyfrdwy oedd pencampwr sglefrio iâ gwledydd Prydain.
Er mai dim ond deuddydd o rybudd a gafodd cyn ymladd, llwydodd Steve Robinson, y cyn-weithiwr archfarchnad o Gaerdydd, i ennill teitl paffio pwysau plu'r WBO.
GWYDDONIAETH A THECHNOLEG
Cafodd y prosesydd Pentium ei ddyfeisio i gyflymu gwaith cyfrifiaduron.
Llwyddodd dyn yn America i greu firws ac anfon yr un neges i 200 o gyfrifiaduron yr un pryd - a dyna ddechrau 'sbamio'.
Ym mis Ebrill, cyhoeddodd y corff ymchwil niwclear CERN fod y we fyd-eang ar gael am ddim i bawb.
Dechreuodd yr Unol Daleithiau ddefnyddio system a fyddai'n gweddnewid sawl peth - o ymladd i foduro. Mae'r Global Positioning System yn defnyddio lloerennau i gyfeirio cerbydau.
Dechreuwyd y gwaith o chwilio am enynnau oedd yn effeithio ar ymddygiad pobol.
FFORDD O FYW
Ffasiwn mawr y flwyddyn oedd tyllu'r corff a rhoi tlysau ym mhob cornel a thwll.
Daeth dillad chwaraeon eithafol yn boblogaidd - fel syrffio a sglefr-fyrddio - a hefyd sgidiau pêl-fas Converse, sydd yn ôl yn ffasiynol heddiw.
Ffasiwn llai hirhoedlog oedd torri logo neu enw yn y gwallt ar gefn eich pen.
Dechreuodd cwmnïau annog eu swyddogion i saethu ei gilydd er mwyn cryfhau gwaith tîm - saethu paent at ei gilydd oedd hyn, wrth ddynwared gêmau ymladd.
Cafodd cangen Dewis Sant o'r Seiri Rhyddion ym Maesteg ei gwahardd am bum mlynedd am gynnal seremonïau yn Gymraeg.
Aeth cwmni Hoover o Ferthyr Tudful i strach ofnadwy tros gynnig arbennig. Roedd cymaint o bobol eisiau hawlio tocynnau hedfan am ddim gyda'u peiriannau nes costio miliynau i'r cwmni a cholli swyddi nifer o weithwyr.
Wrth i Mr Blobby, ffrind pinc y darlledwr Noel Edmonds, gyrraedd rhif 1 yn y siartiau, roedd teganau ohono yn gwerthu fel slecs.
Roedd pob dyn yn gobeithio na fyddai Lorena Bobbit yn dechrau ffasiwn newydd. Oherwydd ei bod yn anfodlon gyda pherfformiad ei gŵr a'i ymosodiadau arni hi, aeth yr Americanes ati i dorri rhan hanfodol o'i gorff i ffwrdd a'i daflu trwy ffenest ei char. Llwyddodd yr heddlu i ddod o hyd i'r darn a llwyddodd doctoriaid i'w ail-gysylltu â gweddill corff Wayne Bobbit. Ond chwalodd y briodas yn 1995.
Un o geir newydd y flwyddyn oedd y Ford Mondeo, a ddaeth ymhen amser yn symbol o bleidleiswyr dosbarth canol - Mondeo Man.
Newidiodd y Sabath traddodiadol am byth, gyda phasio deddf yn caniatáu i ragor o siopau agor ar y Sul.
MARWOLAETHAU
Er bod Eic Davies wedi marw, roedd ei ddylanwad yn aros llawer mwy na'r rhan fwya' o ddarlledwyr, gan mai ef oedd yn benna' gyfrifol am ddyfeisio geirfa rygbi yn Gymraeg.
Collwyd un o awduron doniola'r Gymraeg hefyd, Dyfed Glyn Jones. Ef oedd 'tad' y cymeriad teledu Jeifin Jenkins.
Cyfansoddwr o Benfro oedd Daniel Jones a oedd fwya' enwog am gydweithio gyda'i ffrind, y bardd Dylan Thomas.
Collodd Merched y Wawr un o'u harweinyddion gyda marwolaeth Rebecca Powell, a fu'n Llywydd ac wedyn yn Olygydd cylchgrawn Y Wawr.
Ymhlith y marwolaethau eraill, roedd:
Francis Jones - awdur, hanesydd a Herald of Arms Extraordinary i'r Frenhines.
Cliff Tucker - gwleidydd o Drefynwy a fu'n AS Llafur yn Llundain.
Audrey Hepburn - actores 'My Fair Lady'.
Bobby Moore - capten pêl-droed Lloegr adeg ennill Cwpan y Byd yn 1966.
Ferruccio Lamborghini - Crëwr y ceir o'r un enw.
Frank Zappa - cerddor pop Americanaidd
William Golding - awdur 'Lord of the Flies' ac enillydd Nobel
Frederico Fellini - y cyfarwyddwr ffilmiau o'r Eidal
Danny Blanchflower - un o sêr pêl-droed Gogledd Iwerddon a thîm 'dwbl' Tottenham Hotspur.
 |
 |
 |
 |
|


[an error occurred while processing this directive]
[an error occurred while processing this directive]
[an error occurred while processing this directive]
|