 |
 |
 |
Dyma 1994 Y penawdau, y pethau, y bobl... |
 |
 |
 |
Rwanda
Cliciwch ar bwnc:
Cymru Y Byd Cerddoriaeth Celfyddydau Ffilmiau Teledu a Radio Chwaraeon Gwyddoniaeth Ffordd o Fyw Marwolaethau
CYMRU
Eddie Browning o Gwm-parc, y Rhondda yn cael ei rhyddhau ar apêl ar ôl 6 blynedd yn y carchar am lofruddiaeth yr M50.
Eluned Morgan, 27 oed o Gaerdydd, oedd aelod ieuenga' Senedd Ewrop ar ôl cael ei hethol dros Orllewin a Chanolbarth Cymru. Daeth Glenys Kinnock gwraig cyn-arweinydd y blaid Lafur, yn ASE i'r De-ddwyrain.
Cyflwynodd yr Eglwys Bresbyteraidd gynllun £10 miliwn i ddymchwel traean o'r 977 capel yr enwad. Y bwriad oedd codi mwy na 6,000 o dai rhad i'r oedrannus.
Dechrau helyntion am gam-drin plant yng Nghymru. Cafwyd pum dyn yn euog o gynnal cylch pedoffilaidd yn Sir Benfro a dechreuodd cyfres o achosion yn erbyn gweithwyr gofal yn y Gogledd, gyda chartre' Bryn Estyn Wrecsam yn ganolog.
Cafwyd deddf i newid system lywodraeth leol Cymru unwaith eto. Roedd yn cael gwared ar yr wyth cyngor sir mawr a rhoi 22 o gynghorau unedol yn eu lle.
Cafodd Tim Morgan, bachgen 9 oed o Gaerdydd, ei ladd mewn damwain yn Ffair Coney, Porthcawl, pan darodd yn erbyn rheilen rydd ar un o'r reids.
Cyhoeddwyd y byddai 700 o swyddi'n cael eu colli yng nghanolfan drwyddedu'r DVLA yn Abertawe oherwydd datblygiadau mewn technoleg fodern.
Collodd Sion Aubrey Roberts ei apêl yn erbyn dedfryd o garchar am 12 mlynedd am anfon bomiau trwy'r post.
Nadolig cynnar i löwyr Glofa'r Tŵr yn Hirwaun wrth iddyn nhw gymryd reolaeth dros y pwll ar Ragfyr 24. Roedd hyn yn dilyn protestiadau yn erbyn cau, gan gynnwys gorymdaith i Lundain a meddiannu'r pwll, pan arhosodd yr AS lleol, Ann Clwyd, dan ddaear tros nos.
Y BYD
Agorwyd Twnnel y Sianel i gysylltu Ffrainc a Lloegr am y tro cynta'. Roedd pobol yn gallu teithio o un wlad i'r llall mewn tua 35 munud.
Yng Ngogledd Iwerddon, wedi 25 mlynedd o derfysg, cyhoeddwyd cadoediad gan yr IRA.
Ym Mhrydain, etholwyd Tony Blair yn arweinydd y Blaid Lafur wedi marwolaeth sydyn John Smith. Roedd Denzil Davies, AS Llanelli, wedi sefyll yn ei erbyn.
Yn y cyfamser, creodd y Prif Weinidog, John Major, fagl iddo'i hun trwy gyhoeddi strategaeth, "Back to Basics", i adfer safonau. O hynny ymlaen, cafwyd un achos ar ôl y llall o lygredd o fewn ei lywodraeth.
Ymosododd lluoedd Rwsia ar Chechnya, y weriniaeth a gyhoeddodd annibyniaeth ar Foscow yn 1991. Mae'r ymladd yn parhau.
Ymosododd lluoedd Rwsia ar Chechnya, y weriniaeth a gyhoeddodd annibyniaeth ar Foscow yn 1991. Mae'r ymladd yn parhau.
Llwyddodd plaid yr ANC i ennill etholiadau De Affrica a daeth Nelson Mandela yn Arlywydd - y dyn croenddu cynta' yn y swydd.
Cafwyd un o'r achosion gwaetha' erioed o lofruddiaeth pan ddechreuodd heddlu gloddio yng ngardd 25 Stryd Cromwell Caerloyw. Lladdodd Frederick West ei hun ar Ionawr 1, 1995, cyn cael ei brofi am lofruddio o leia' 12 dynes, gan gynnwys dwy o'i ferched ei hun. Anfonwyd ei wraig, Rosemary i garchar am oes am ddeg llofruddiaeth.
Cafwyd hil-laddiad dychrynllyd yn Rwnada a Burundi. Erbyn diwedd y gyflafan, lladdwyd rhwng 800,000 ac 1 miliwn o bobol.
Cafwyd un o achosion llys mwya' dramatig America. Cyhuddwyd y seren bêl-droed Americanaidd, O.J. Simpson, o lofruddio'i wraig. Roedd wedi ei arestio ar ôl i heddlu ddilyn ei gar hyd un o draffyrdd Los Angeles. Cafwyd ef yn ddieuog yn yr achos troseddol ond yn euog mewn achos sifil wedyn.
Dechreuodd y Loteri Cenedlaethol, gyda gwobrau gwerth miliynau o bunnoedd. Darlledwyd yr ail seremoni dynnu rhifau o'r Rhondda a chondemniwyd y darlun hen ffasiwn o lowyr a gwisgoedd Cymreig
CERDDORIAETH
Yn Gymraeg ...
Cyhoeddodd Gorky's Zygotic Mynci albwm, Taytay, a chael adolygiadau ardderchog. Cerrig Melys oedd un o lwyddiannau eraill y flwyddyn.
Daeth y gantores Rhiannon Thomas yn swyddog datblygu i'r Cyngor Roc a Gwerin, i geisio hyrwyddo'r sîn. Ond roedd dadlau mawr yn y byd pop hefyd - tros benderfyniad rhai bandiau i ganu yn Saesneg.
Daeth yr arloeswyr tecno, y ddeuawd TÅ· Gwydr, i ben - un rheswm oedd fod Mark Lugg yn dad a Gareth Potter yn rhy brysur gyda'i yrfa radio.
Ym maes canu gwlad, ail-ddechreuodd Dylan Parry o Traed Wadin ar ei yrfa berfformio, gan greu deuawd Dylan a Neil gyda'i fab. A chyhoeddodd Bryn Fôn ei albwm unigol cyntaf', Dyddiau Digymar, efo nifer o ganeuon gan Emyr Huws Jones. O hynny y tyfodd Bryn Fôn a'r Band ...
Yn Saesneg ...
Cyhoeddodd y canwr o Gaerdydd, Shakin' Stevens, ei fod yn rhoi'r gorau i recordio ond y byddai'n dal i wneud ambell i sioe.
Roedd hi'n parhau'n flwyddyn dda i'r bandiau bechgyn, gyda Wet Wet Wet yn cael eu rhif 1 enwoca' gyda hen gân y Troggs, Love is All Around, a Boyzone yn dod i rif dau gyda'u fersiwn o Love Me For A Reason gan yr Osmonds.
Ond dyma ddechrau Britpop hefyd ac Oasis o Fanceinion yn dod yn enwog gyda'u halbwm cynta' Definitely Maybe a aeth yn syth i rif 1
Rhif 1 cynta'r flwyddyn oedd 700fed rhif 1 y siartiau - fersiwn reggae o Twist and Shout gan Chaka Demus a Pliers.
Rhifau 1
Twist and Shout - Chaka Demus and Pliers
Things Can Only Get Better - D:Reams
Without You - Mariah Carey
Doop - Doop
Everything Changes - Take That
The Most Beautiful Girl In The World - Artist Formely Known As Prince
The Real Thing - Tony Di Bart
Inside - Stiltskin
Come On You Reds - Manchester United Football Club
Love Is All Around - Wet Wet Wet
Saturday Night - Whigfield
Sure - Take That
Baby Come Back - Pato Banton
Let Me Be Your Fantasy - Baby D
Stay Another Day - East 17
CELFYDDYDAU
Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghastell-nedd yn 1994, cafodd Emyr Lewis y Gadair am awdl obeithiol am y Cymoedd, Gerwyn Wiliams y Goron a Robin Llywelyn yn cipio'r Fedal Ryddiaith am yr ail waith mewn tair blynedd. Daeth enw newydd i amlygrwydd hefyd wrth i'r ficer Aled Jones Williams ennill y Fedal Ddrama.
Roedd yna arddangosfa bwysig o waith yr artist Iwan Bala, wedi ei ysbrydoli gan gyfnod yn byw yn Affrica.
Cipiwyd pob un o'r prif wobrau yn Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd yn Nolgellau gan ferched: Mererid Puw Davies (Y Gadair), Eurgain Evans (Y Goron) Mari George (Medal Lenyddiaeth), Ilyd Llwyd Jones (Medal Ddrama), Helen Wright (Tlws y Dysgwyr), Non Llywelyn (Tlws Cerdd).
Daeth y cyfansoddwr clasurol o Benclawdd, Karl Jenkins, yn boblogaidd iawn wrth iddo rhyddhau Adiemus: Songs of Sactuary. Roedd rhannau wedi eu defnyddio ar hysbysebion teledu yn ystod y flwyddyn.
Cyhoeddodd y bardd Gwyn Thomas gyfrol o gerddi gyda'i ffrind, y ffotograffydd a'r naturiaethwr Ted Breeze Jones. Roedd Anifeiliaid y Maes Hefyd yn gerddi am anifeiliaid, gyda lluniau perthnasol gyferbyn.
Daeth cwmni drama Hwyl a Fflag i ben ar ôl i Gyngor y Celfyddydau ddiddymu eu grant.
Cyhoeddodd y bardd Alan Llwyd ei hunangofiant, Rhosyn a Rhith.
Cafodd Cwmni Theatr Maldwyn lwyddiant mawr arall gyda sioe gerdd, Heledd, ond methiant oedd sioe fawr yr Eisteddfod, Combrogos, gan Gwmni Theatr Gorllewin Morgannwg. Hwn oedd y Les Mis Cymraeg medden nhw. Le Miss yn nes ati.
Un o lyfrau'r flwyddyn oedd cyfrol Dave Berry am hanes sinema yng Nghymru tros gyfnod o gan mlynedd.
Am y tro cynta', cafwyd llais y tenor David Lloyd ar CD - roedd 50 mlynedd wedi mynd ers cyhoeddi rhai o'i ganeuon ac, felly, doedd dim hawlfraint.
FFILMIAU
Roedd yna siom wrth i'r ffilm Hedd Wyn am y bardd o Drawsfynydd fethu â chipio'r Oscar yng nghategori y Ffilm Orau Mewn Iaith Dramor.
Un o'r ffilmiau pwysica' yn Gymraeg oedd Dyrnod Branwen, fersiwn Ceri Sherlock o ddrama gan Gareth Miles, wedi ei seilio ar y chwedl a'i gosod ym Melffast.
Daeth Hugh Grant yn enwog wrth actio Sais cariadus yn y ffilm hynod o lwyddiannus, Four Weddings and a Funeral. A daeth i Gymru, i ardal Llanrhaeadr ym Mochnant, i wneud The Englishman Who Went up a Hill and Came Down a Mountain.
Roedd gan ail ffilm Quentin Tarentino, Pulp Fiction, fwy o ladd, mwy o waed a golygfeydd mwy ysgytwol na Reservoir Dogs hyd yn oed!
I blant (a phlant mawr) ffilm y flwyddyn oedd The Lion King o stabl Disney, gyda chaneuon gan Elton John.
Rhai ffilmiau eraill ddaeth i'r amlwg yn 1994 - Forrest Gump (Tom Hanks), The Flintstones a Dumb & Dumber (Jim Carrey a Jeff Daniels.
TELEDU A RADIO
Er iddo ddechrau fel cartŵn i blant, daeth y gyfres o Gymru, Gogs, yn boblogaidd iawn. Modelau clai oedden nhw o bobol yn oes y deinosoriaid ac fe lwyddodd i guro Wallace and Gromit am wobr mewn gŵyl yn Hamburg.
Lansiwyd Uned 5 ar gyfer plant, gan anelu am y math o raglenni byw cyffrous oedd yn ffasiynol ar y pryd. A daeth Caffi Sali Mali i'r sgrîn am y tro cynta'.
Roedd clasur Elena Puw Morgan, Y Wisg Sidan, yn cael ei ffilmio, ynghyd â phumed cyfres o'r gomedi C'môn Midffild. A daeth Sioned Mair yn ôl i actio mewn cyfres galed newydd, A55, am gwmni loris yn ardal Llanfairfechan a Phenmaenmawr.
Roedd yna gwyno am y gystadleuaeth Cân i Gymru, gyda honiadau fod y rhifau anghywir wedi eu dangos ar gyfer y pleidleisio ffôn.
Ar y radio, daeth boi o'r enw Dafydd Meredydd yn amlwg wrth gymryd lle Nia Melville yn un o slotiau hwyr y nos Radio Cymru. Mae bellach yn fwy adnabyddus wrth yr enw Dafydd Du.
Gwnaed cyfres deledu yn Gymraeg a Saesneg wedi eu seilio ar gymeriad Yr Heliwr gan Lyn Ebenezer. Philip Madoc oedd y ditectif Noel Bain.
Dechreuwyd dangos Pobol y Cwm ar ÃÛÑ¿´«Ã½ 2, gydag isdeitlau.
Gwrthododd S4C gomisiynu un arall o'r rhaglenni 'Swigs' o'r Eisteddfod ar ôl cwynion am fudreddi a diffyg safon. Ond fe wnaeth hi ddarlledu fersiwn cartŵn o operas clasurol enwog.
Yn Saesneg, daeth y rhaglen Friends ar draws yr Iwerydd a chafwyd dwy gomedi newydd lwyddiannus o Loegr - Knowing Me Knowing You, gyda'r DJ aflwyddiannus Alan Partridge (Steve Coogan) a The Fast Show gyda'r Cymro, Paul Whitehouse yn un o'r sêr.
Ar lefel mwy traddodiadol, daeth Dawn French i lenwi'r sgrîn gyda The Vicar of Dibley, gan ddefnyddio'r posibilrwydd newydd o gael merch yn offeiriad yn yr Eglwys yn Lloegr.
CHWARAEON
Cafwyd un o'r cyfnodau rhyfedda' yn hanes pêl-droed Cymru. Roedd yna gwyno am y ffordd y cafodd Terry Yorath y sac o fod yn rheolwr, yna daeth John Toshack yn ei le, colli yn drychinebus yn erbyn Norwy, a gadael o fewn mis.
Yn rhyfeddach fyth, cafodd Vinnie Jones, ŵyr i gigydd Ruthun, ei ddewis yn gapten tîm cenedlaethol Cymru dan y rheolwr newydd newydd Mike Smith.
Enillodd Clwb Pêl-Droed Abertawe Gwpan Autoglass drwy guro Huddersfield o 3-1 gyda chiciau o'r smotyn.
Llwyddodd tîm rygbi Cymru i synnu pawb trwy gipio'r Pencampwriaeth - ond daeth siom pan adawodd dau o'r sêr, Scott Gibbs a Scott Quinnell, i chwarae rygbi'r gynghrair yng Ngogledd Lloegr.
Enillodd y golffiwr o Lanymynech, Ian Woosnam, un o'r pencampwriaethau mawr - Meistri Prydain.
Ychwanegodd yr athletwr o Gaerdydd, Colin Jackson, at ei restr teitlau trwy gael aur yn y ras 110m tros y clwydi yng Ngêmau'r Gymanwlad a Gêmau Ewrop a theitl 60m a 60m tros y clwydi yng Ngêmau Dan-Do Ewrop.
Yn Grand Prix San Marino lladdwyd y gyrrwr Fformiwla 1 llwyddiannus Ayrton Senna mewn damwain.
Yn Birmingham, fe sgoriodd y cricedwr Brian Lara o India'r Gorllewin 501 o rediadau mewn un batiad, record byd yn y gêm ddosbarth cynta'.
Enillodd Brasil Gwpan y Byd gan guro'r Eidal 3-2 ar giciau o'r smotyn wedi i'r gêm orffen yn 0-0 ar ôl amser ychwanegol. Ond cafodd Andreas Escobar, ei ladd yn Bogota wedi iddo sgorio gôl i'w rwyd ei hunan gan daflu'i wlad, Colombia, allan o'r gystadleuaeth.
GWYDDONIAETH A THECHNOLEG
Roedd yna ddarganfyddiad archeolegol pwysig yng Nghymru - daethpwyd o hyd i enghraifft dda o long Rufeinig wrth gloddio i godi Tesco ym Magwyr yng Ngwent.
Mwy syfrdanol fyth oedd darganfod penglog cyfan dyn cynnar iawn o'r enw Australopithecus Afarensis - un o'r dolennau coll yn hanes esblygiad dynolryw.
Yn y gofod trawyd y blaned Iau gan nifer o ddarnau o gomed ... gan godi ofnau y gallai'r un peth ddigwydd yma rhyw ddydd.
Llwyddodd y llong ofod Magellan i gyrraedd Fenws, ond mae'n debyg iddi losgi'n ddim yn awyrgylch y blaned.
Cyhoeddwyd Netscape Navigator i helpu pobol i ddefnyddio'r We.
FFORDD O FYW
Cyfarchiad y flwyddyn oedd "Helo hogia" ... neu "Hello Boys", slogan yr hysbysebion ar gyfer y Wonderbra. Eva Herzegova oedd enw'r model, duwies y clifej. Roedd hyn i gyd wrth fodd darllenwyr Loaded, y cylchgrawn dynion newydd.
Adeiladwyd rollercoaster ucha'r byd yn ffair bleser Blackpool ac ymatebodd rheolwyr atyniad Alton Towers trwy ddechrau ar un mwy fyth.
Ymddangosodd penillion rhamantus (a rhai anweddus) ar ffrijus ym mhob man wrth i 'farddoniaeth magned' ddod yn boblogaidd - geiriau y gallech chi eu trefnu a'u glynu wrth ddodrefnyn metel.
Lluniau lledrith oedd chwiw arall y flwyddyn - roedd pobol yn treulio oriau'n trio gweld y lluniau 3D cudd mewn tryblith o batrymau.
Dechreuodd ceid Daewoo o Korea gael eu gwerthu yng Nghymru - heb garejus traddodiadol i'w gwerthu. A dechreuodd Ford weithio ar gar dychmygol o'r enw Ka.
Hon oedd blwyddyn fawr Prozac, y tabledi tawelu, Dechreuodd rhai pobol eu llyncu fel losin, bron.
Datblygiad arall pwysig ym maes ceir oedd fod y cwmni Almaenig, BMW, wedi prynu Rover, y cwmni Prydeinig.
Roedd yna newid pwysig mewn ffordd o fyw wrth i bob siop gael yr hawl i agor am rai oriau ar ddydd Sul.
Cyhoeddwyd Beibl mewn Klingon ar gyfer dilynwyr ffilmiau Star Trek. Roedd yn costio £15.
Yn ôl Merched y Wawr, roedd Clybiau Gwawr yn dechrau cydio, i ddenu menywod ifanc. Ac roedd y mudiad yn hysbysebu am drefnydd cenedlaethol newydd ar gyflog o £12,264.
MARWOLAETHAU
Eirwyn Pontsian - y digrifwr naturiol o ardal Talgarreg. Yn enwog am ei straeon a'i benillion a'i syniadau athronyddol gwreiddiol.
Cymeriad arall oedd Harri Webb y bardd-genedlaetholwr o Abertawe a sgrifennodd nifer o gerddi crafog a doniol am gyflwr Cymru. Ef hefyd oedd awdur geiriau'r gân Colli Iaith.
Roedd yr awdur Alun Owen wedi'i eni ym Mhorthaethwy ond yn enwog am ei gysylltiad â Lerpwl.
Roedd Donald Swann hefyd wedi ei eni yn Llanelli i deulu Rwsiaidd, cyn dod yn enwog am sioeau cerddorol ysgafn gyda Michael Flanders.
Ymhlith y marwolaethau eraill, roedd:
Syr Matt Busby - Y rheolwr pêl-droed a roddodd fawredd i Man Utd.
Richard Nixon - Cyn-Arlywydd yr Unol Dalithiau America a dihiryn Watergate.
Jackie Kennedy/Onassis - Gweddw'r Arlywydd John F Kennedy a'r perchennog llongau Aristotle Onassis
Kurt Cobain - Canwr y band trwm Nirvana
John Smith - Arweinydd y Blaid Lafur
 |
 |
 |
 |
|


[an error occurred while processing this directive]
[an error occurred while processing this directive]
[an error occurred while processing this directive]
|