 |
 |
 |
Y Penawdau, y pethau, y bobl... |
 |
 |
 |
Y Dywysgoges Diana yn ymddangos ar y rhaglen Panorama
Clicwch ar bwnc:
Cymru Y Byd Cerddoriaeth Celfyddydau Ffilmiau Teledu a Radio Chwaraeon Gwyddoniaeth Ffordd o Fyw Marwolaethau
CYMRU
Roedd rhaid i John Redwood roi'r gorau i swydd Ysgrifennydd Cymru ar ôl penderfynu herio John Major am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol. Bu'r gwrthbleidiau'n protestio ar ôl i Sais arall, William Hague, gael ei benodi yn ei le.
Yn 1995 y gwnaed y penderfyniad i ganiatáu codi stadiwm rygbi newydd yng Nghaerdydd ... yn hytrach na Thŷ Opera newydd. Y nod oedd cynnal rownd derfynol Cwpan y Byd yno yn 1999. Dechreuodd y gwaith yn 1996.
Lladdwyd deg ac anafwyd dros 30 o bobl wrth i yrrwr bws golli rheolaeth ger cylchdro yn Rhaglan, sir Fynwy. Roedd y bws ar wibdaith o Aberdâr i Stratford-upon-Avon, ac yr oedd y rhan fwyaf o'r teithwyr yn gleifion seiciatryddol.
Cafwyd un o'r camgymeriadau mawr cyfreithiol wrth i ddyn ifanc o'r enw Jonathan Jones gael ei garcharu am oes am lofruddio Harry a Megan Tooze ar fferm ger Llanhari. Ef oedd cariad eu merch, ond cafodd ei ryddhau ar apêl ychydig tros ddwy flynedd wedyn.
Roedd yna bryder mawr yn y Rhondda, wrth i chwe pherson ifanc farw o fewn misoedd i'w gilydd oherwydd camddefnydd cyffuriau.
Caeodd storfa arfau Trecŵn ger Abergwaun. Er mai dim ond llond llaw oedd yn gweithio yno erbyn y diwedd, roedd y gwaith ar un adeg yn cyflogi 3,000. Collwyd 600 o swyddi yn ardal Llantrisant wrth i un o'r cwmnïau Cymreig enwoca', Race Electronics, fynd i'r wal.
Roedd yna ofn yn Llandudno ym mis Gorffennaf ar ôl i Sophie Hook, 7 mlwydd oed, gael ei llofruddio, pan oedd yn gwersylla mewn gardd gyda ffrindiau. Cafodd garddwr di-waith, Howard Hughes, dri thymor o garchar am oes am ei threisio a'i llofruddio.
Roedd tua 100 o ryfelwyr gwyrdd - yr Eco Warriors - yn helpu pobol pen ucha' Cwm Tawe i wrthwynebu safle glo brig. Daeth y digwyddiadau'n adnabyddus dan yr enw 'Brwydr Bryn Henllys'.
Ym mis Medi cafodd cwmni Nuclear Electric ddirwy o £250,000 am fod yn ddiofal adeg damwain yn Atomfa Wylfa, Ynys Môn. Roedd darn o graen wedi syrthio i mewn i adweithydd gan achosi cwmwl o swlffwr ymbelydrol.
Gwnaethpwyd darganfyddiad archeolegol pwysig iawn wrth ddod o hyd i gwch canoloesol yn y llaid ger aber afon Hafren. Roedd yn cael ei ystyried yn esiampl ardderchog ac mae bellach yn rhan o arddangosfa arbennig yng Nghasnewydd.
Y BYD
Ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn, ymunodd tair gwlad arall â'r Undeb Ewropeaidd - Sweden, y Ffindir ac Awstria.
Yn yr Unol Daleithiau, lladdwyd 168 o bobl gan fom a osodwyd gan eithafwyr adain dde yn Adeilad Ffederal Murrah yn Oklahoma.
Dau ddigwyddiad dychrynllyd yn Japan: Dinistriwyd rhannau helaeth o ddinas Kobe a lladdwyd mwy na 6,000 o bobol gan ddaeargryn yn mesur 7.3 ar y raddfa Richter. Lladdwyd 12 o bobol ac anafu cannoedd ar drenau tanddaearol y brifddinas, Tokyo, pan ollyngwyd nwy marwol o'r enw sarin gan aelodau o gwlt crefyddol.
Roedd Mawrth 24 yn ddiwrnod arbennig yng Ngogledd Iwerddon: am y tro cynta' ers 26 o flynyddoedd, doedd dim milwyr Prydeinig yn gwylio strydoedd Belffast.
Daeth pobol Quebec o fewn dim i adael gwladwriaeth Canada. Dim ond o fwyafrif bach iawn y penderfynodd refferendwm yn erbyn annibyniaeth.
Ar ôl herio'i wrthwynebwyr i sefyll yn ei erbyn, llwyddodd John Major i ddal ei afael ar arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol, ac allweddi rhif 10 Downing Street.
Ar Orffennaf 11 y dechreuodd lladdfa Sebrenica, un o ddigwyddiadau mwya' dychrynllyd yr ymladd yng ngwledydd y Balcan. Yn y diwedd, daeth lluoedd arfau NATO yn gyfrifol am gadw'r heddwch ym Mosnia a chafodd dau o arweinwyr y Serbiaid, Karadzic a Mladic, eu cyhuddo o hil-laddiad.
Llofruddiwyd Prif Weinidog Israel, Yitzhak Rabin, gan Iddew a oedd yn gwrthwynebu'r cytundeb heddwch â'r Palestiniaid.
Aeth Barings, cwmni bancio masnachol hynaf Prydain, i'r wal ar ôl i un deliwr, o'r enw Nick Leeson, golli £600 miliwn wrth fentro gormod yn y Dwyrain Pell,.
Condemniwyd Ffrainc am gynnal profion bom niwclear ar ynys Mururoa yn ne'r Môr Tawel, gan dorri cytundebau niwclear a bygwth bywyd gwyllt yr ynys a'r bywyd môr o'i amgylch.
CERDDORIAETH
Yn Gymraeg...
Blwyddyn brysur i Dafydd Iwan - fe fu'n canu yn New Orleans, cyhoeddodd ei ddeuddegfed albwm, Cân Celt, a chafodd ei wneud yn llysgennad ar ran UNICEF yn Slofenia.
Am ran helaeth o'r flwyddyn, fe fu Dafydd Iwan yn cystadlu gyda Gorky's Zygotic Mynci am y prif le yn siartiau Cytgord - dau begwn y byd pop Cymraeg.
Cyhoeddodd Hogiau Llandegai eu bod yn ymddeol go iawn am y tro ola'. Erbyn hyn (2006), dim ond Neville Hughes a Roy Astley sydd ar ôl.
Cymerodd y band Catatonia gam mawr tua'r top trwy arwyddo i'r label recordio Blanco y Negro a chafodd y Super Furry Animals eu bachu gan un o labeli Sony sef Creation Records.
ac yn Saesneg...
Ar Chwefror 1, diflannodd gitarydd a phrif ysbrydoliaeth y band Manic Street Preachers, Richey James Edwards. Daethpwyd o hyd i'w gar ger Pont Hafren bron bythefnos yn ddiweddarach ond mae ei deulu'n dal i fynnu ei fod yn fyw ac mae straeon achlysurol am bobol yn ei weld.
Cyhoeddodd Robbie Williams ei fod yn gadael y band Take That i ddechrau ar yrfa ar ei ben ei hun.
Hit fwya' annisgwyl y flwyddyn oedd Unchained Melody, gan Robson a Jerome, dau o sêr y gyfres deledu Soldier Soldier. Roedden nhw wedi ei chanu yn y rhaglen.
Y gân rap gynta' i werthu mwy na miliwn o gopïau yng ngwledydd Prydain oedd Gangsta's Paradise gan Coolio.
Dyma rifau 1 y flwyddyn:
Cotton Eye Joe - Rednex
Think Twice - Celine Dion
Don't Stop (Wiggle Wiggle) - The Outhere Brothers
Back For Good - Take That
Some Might Say - Oasis
Dreamer - Livin' Joy
Unchained Melody/White Cliffs of Dover - Robson & Jerome
Boom Boom Boom - The Outhere Brothers
Never Forget - Take That
Country House - Blur
You Are Not Alone - Michael Jackson
Boombastic - Shaggy
Fairground - Simply Red
Gangsta's Paradise - Coolio
I Believe/Up On The Roof - Robson & Jerome
Earth Song - Michael Jackson
CELFYDDYDAU
Agorwyd adeilad newydd Tŷ Llên yn Abertawe gan gyn-Arlywydd Unol Daleithiau America, Jimmy Carter. Roedd yn rhan o rôl Abertawe yn ddinas Blwyddyn Lên Prydain. Erbyn heddiw, dyma Ganolfan Dylan Thomas.
Roedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abergele ym Mro Colwyn yn ŵyl deuluol. Cafodd yr Archdderwydd, John Gwilym Jones, Goroni ei frawd, Aled Gwyn, a chadeirio ei fab, Tudur Dylan Jones. Roedd ei frawd arall, T. James Jones, yn cyfarch yn y Cadeirio.
Aeth y Fedal Ryddiaith i Angharad Jones am nofel, Y Dylluan Wen, a gafodd ei throi'n ffilm deledu ac enillydd Tlws y Cerddor, Guto Pryderi Puw, oedd yr ieuenga' erioed..
Eifion Morris, 22, a enillodd y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghrymych yn 1995. Aeth y Goron i Esyllt Roberts o Ben LlÅ·n, y Fedal Ddrama i Paul Griffiths a'r Fedal Lenyddiaeth i Tudur Hallam. Ond roedd rhaid i Ceri Torjussen, enillydd Tlws y Cerddor, deithio 23 awr o'r India i dderbyn ei wobr ef. Roedd yn dysgu cemeg a cherddoriaeth yno.
Daeth Luciano Pavarotti yn ôl i ganu yn Eisteddfod Llangollen, 40 mlynedd ar ôl bod yno gyda chôr o'r Eidal.
Cyhoeddodd Bryn Terfel y gân Hafan Gobaith i godi arian at yr hosbis Tŷ Gobaith a sefydlwyd clwb cefnogwyr iddo, o'r enw Y Terfeliaid.
Cyhoeddwyd un o lyfrau Cymraeg y ganrif - Geiriadur yr Academi gan Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones. Roedd wedi cymryd un rhan o bump o ganrif i'w grynhoi ac roedd yn 1500 o dudalennau.
Daeth arbenigwyr yr Amgueddfa Genedlaethol o hyd i drysor - trwy ddarganfod llun 'newydd' gan yr arlunydd J.M.W. Turner o Landeilo a Chastell Dinefwr. Roedd wedi ei lynu wrth gefn llun arall.
Aeth y Wobr Nobel am Lenyddiaeth i Seamus Heaney, y bardd o'r Iwerddon a chyhoeddodd R.S. Thomas un o'i gyfrolau mawr ola', No Truce With the Furies.
Collodd nifer o gorau Cymreig arian wrth i gynllun ar gyfer Côr y Byd ddod i ben ynghanol colledion a honiadau.
TELEDU A RADIO
Dechreuodd y gyfres ddrama i bobol ifanc, Rownd a Rownd, wedi ei gosod ym Mhorthaethwy. Mae'n dal i fynd ac yn gyson yn 20 Uchaf S4C.
Ym myd operâu sebon oedolion, roedd yna ddrama oddi ar y sgrin ymhlith actorion Pobol y Cwm ar ôl i un ohonyn nhw, Phylip Hughes, ddweud eu bod yn cael gormod o arian am rhy ychydig o waith. Roedd newydd adael y cast.
Ar ôl eu llwyddiant gyda'r rhaglenni animeiddio Gogs, cafodd Michael Mort a Deiniol Morris o gwmni Aaargh! eu dewis i wneud hysbyseb i gwmni jîns Levi.
Roedd yna wynebau newydd ar y bocs, wrth i Dudley Newbery ddechrau ar ei gyfres gynta' o raglenni coginio ac wrth i Rhodri (Ogwen) Williams ddod yn un o gyflwynwyr y sianel fyw newydd Live TV. Daeth Amanda Protheroe Thomas i gyflwyno'r rhaglen bêl-droed, Sgorio.
Roedd yna leisiau newydd ar y radio hefyd wrth i'r Golygydd newydd, Aled Glynne Davies, ailwampio Radio Cymru. Un o'r mwya' dadleuol a mwya' poblogaidd oedd Eifion 'Jonsi' Jones.
Ymhlith y rhaglenni newydd, roedd cyfres ddrama Y Parc wedi ei gosod mewn Parc Cenedlaethol, Pengelli ar stad ddiwydiannol a Y Wisg Sidan, addasiad Eigra Lewis Roberts o nofel glasurol Elena Puw Morgan. Trowyd clasur arall yn rhaglen deledu hefyd - llyfrau Rala Rwdins i blant bach.
Daeth wyth sianel newydd i deledu lloeren yng ngwledydd Prydain: Disney Channel, Euro Business News, Playboy TV, Paramount Comedy, History Channel, Sky Sports Gold a Sci-Fi Channel.
Daeth un o'r addasiadau clasurol enwoca' i'r sgrin gyda Colin Firth yn actio Mr Darcy yn yr addasiad o Pride and Prejudice gan Jane Austen.
Daeth cyfres gomedi newydd yn boblogaidd iawn - roedd Father Ted wedi ei gosod yn Iwerddon ymhlith offeiriaid Pabyddol.
FFILMIAU
Roedd yna gynnwrf ym Mhorthmadog adeg dangos y ffilm The First Knight am y tro cynta'. Roedd hi wedi ei ffilmio'n rhannol yn yr ardal ac roedd nifer o bobol leol yn ecstras ynddi, ochr yn ochr â sêr fel Julia Ormond, Sean Connery a Richard Gere.
Dyma flwyddyn Braveheart hefyd gyda'r Awstraliad Mel Gibson yn actio'r arwr Albanaidd, William Wallace, yn ei frwydr yn erbyn y Saeson.
Un o ffilmiau Cymraeg gorau'r flwyddyn oedd Yn Gymysg Oll i Gyd ... gan grëwr Pam Fi Duw, John Owen. Roedd yn adrodd stori wir yr hanesydd, Elin Jones, a'i gŵr, a laddodd ei hun pan oedd yn diodde' o sgitsoffrenia.
Ffilm y Nadolig ar S4C oedd Breuddwyd Roc a Rôl yn mynd yn ôl i'r 1960 mynd yn ôl i'r 1960au.
Fflop fwya'r flwyddyn oedd Waterworld, gan Kevin Costner, gan gostio miliynau o bunnoedd a gwneud fawr ddim ar docynnau.
Llawer mwy llwyddiannus, oedd Toy Story, y ffilm fawr gynta' i ddibynnu'n llwyr ar animeiddio cyfrifiadurol.
CHWARAEON
Wedi blynyddoedd o ffug-amaturiaeth trodd rygbi'r undeb yn gêm broffesiynol. O ganlyniad, dychwelodd un o chwaraewyr gorau Cymru erioed, Jonathan Davies, i chwarae i Gaerdydd wedi blynyddoedd yng ngogledd Lloegr. Ond roedd yn ddechrau ar gyfnod cythryblus i'r gêm Gymreig.
Kevin Bowring oedd hyfforddwr llawn amser cynta' Cymru, yn dilyn cyfnod byr trychinebus dan yr Awstraliad, Alex Evans.
Yn y cyfamser, daeth tîm rygbi'r gynghrair Cymru yn bencampwyr Ewrop a chafodd y Cymro o dras, Iestyn Harris, ei ddewis yn Chwaraewr Rhyngwladol y Flwyddyn.
De Affrica a enillodd Gwpan Rygbi'r Byd drwy guro Teirw Duon Seland Newydd yn y gêm derfynol. Cyflwynwyd Cwpan Webb Ellis i gapten De Affrica Francois Pienaar gan Arlywydd y wlad, Nelson Mandela. Roedd yn gwisgo crys De Affrica.
Roedd yna sioc i gefnogwyr rygbi Wrecsam pan gyhoeddodd asgellwr anferth Seland Newydd, Jonah Lomu, ei fod am chwarae gêm neu ddwy i'r clwb. Roedd ganddo gysylltiad agos gyda'r hyfforddwr.
Cafodd seren Manchester Utd. Eric Cantona, un o'r gwaharddiadau hira' erioed ar ôl rhoi cic Kung Fu i gefnogwr a fu'n ei wawdio yn ystod gêm yn erbyn Crystal Palace. Cafodd waharddiad am 10 mis a dedfryd o 120 awr o wasanaeth cymunedol gan lys barn.
Roedd mwy o anlwc i'w dîm - fe gollodd Man. U. ar gyfle i ennill y dwbwl wrth golli'r Gynghrair i Blackburn Rovers ar y diwrnod ola', a chael eu curo 1- 0 gan Everton yn rownd derfynol Cwpan yr FA.
Y Cymro, John Hartson, oedd y chwaraewr druta' erioed dan 20 oed wrth gael ei drosglwyddo o Luton i Arsenal am £2.5 miliwn.
Y gôl-geidwad, Neville Southall, o Everton, oedd Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn yng Nghymru.
Penderfynodd y Llys Ewropeaidd y byddai chwaraewyr pêl-droed yn gallu symud yn rhydd o glwb i glwb o fewn yr Undeb Ewropeaidd pan oedd eu cytundebau ar ben. Byddai'r rheol yma - Rheol Bosman - yn gweddnewid y gêm a rhoi llawer mwy o rym i chwaraewyr.
Enillodd y paffiwr Joe Calzaghe ei deitl cynta' trwy ennill Pencampwriaeth Pwysau Canol 'Super' Gwledydd Prydain. Ac enillodd Robbie Regan o'r Coed Duon un o deitlau Pwysau Plu y byd.
Caradoc Jones o Bontrhydfendigaid oedd y Cymro Cymraeg cynta' i goncro Everest ... yn eironig bu farw Charles Evans, y Cymro Cymraeg, a ddaeth o fewn dim i wneud hynny yn 1953.
GWYDDONIAETH A THECHNOLEG
Ar ôl sylw mawr a phrotestiadau rhyngwladol, newidiodd y cwmni olew, Shell, eu meddyliau a phenderfynu peidio â chladdu rig olew'r Brent Spar yn y môr.
Cyhoeddwyd fod math newydd o ddisg wedi ei greu i gadw lluniau a ffilm - dyma enedigaeth y DVD.
Yn y cyfamser, daeth peiriannau i recordio ar CDs yn gyfarwydd yn y siopau.
Lladdwyd 244 o bobol yn Zaire gan feirws o'r enw Ebola, a oedd wedi ymddangos gynta' 20 mlynedd ynghynt.
Torrwyd record y byd wrth i'r cosmonot Valeri Polyakov ddod yn ôl i'r ddaear ar ôl treulio 438 diwrnod yn y gofod.
FFORDD O FYW
Er bod y we fyd-eang ar gael cyn hyn, cyhoeddi'r rhaglen Windows 95 a ddechreuodd y chwyldro o ddifri'. A chafodd yr eisteddfod gyfrifiadurol gynta' ei chynnal gan griw o'r enw Cymdeithas CyberSant. Ac fe lansiwyd CySill 2.0 y rhaglen i gywiro sillafu Cymraeg.
Dyma ddechrau'r peiriant gêmau cyfrifiadurol mwya' llwyddiannus hefyd - gyda fersiynau newydd o Playstation yn dal i ymddangos.
Dyma Flwyddyn yr Hwch .... yr enw llafar ar Hooch, maeth newydd o ddiod o'r enw alcopop, oedd yn blasu fel diod feddal ac wedi ei anelu at bobol ifanc iawn.
Roedd Power Rangers yn deganau poblogaidd ond fe rybuddiodd arbenigwr o Gaerdydd, Delwyn Tattum, eu bod nhw'n annog plant i fwlian.
Roedd tai yn llawn o ddodrefn gwynt - o gadeiriau i fyrddau a fframiau lluniau.
Y ffasiwn i ddynion a menywod yn 1995 oedd dillad milwrol - gyda chrysau camouflage a sgidiau mawr du.
Un o ofnau mwya'r cyfnod oedd cipio babis o ysbytai, a chafwyd achos o'r fath yn Ysbyty Glan Clwyd. O ganlyniad i nifer o ddigwyddiadau, cafwyd rheolau diogelwch newydd ar draws y Gwasanaeth Iechyd.
Roedd yna gynnwrf ym Moncath a Phontrhydfendigaid gydag adroddiadau am gathod mawr gwyllt yn crwydro'r lle. Daeth 'Bwystfil Boncath' a 'Bwystfil y Bont' yn enwog.
Roedd pobol Abertawe ar drywydd troseddwyr go iawn. Daeth yn un o'r llefydd cynta' yng Nghymru i ddefnyddio camerâu cylch cyfyng i gadw trefn.
Byddai prentisiaeth yn y fyddin yn talu £100 yr wythnos i rywun 17 oed a £125 i rai hŷn.
MARWOLAETHAU
Gwyn Alf Williams oedd hanesydd mwya' afieithus ei gyfnod, yn enwog am ei raglenni teledu a'i atal-dweud dramatig, yn ogystal â'i lyfrau. Roedd hefyd yn aelod amlwg o Blaid Cymru.
Bu farw'r actores o Gaerwys, Myfanwy Talog, ar ôl brwydr hir yn erbyn canser. Roedd wedi dod yn enwog am actio gyda Ryan a Ronnie a hi oedd partner y digrifwr Saesneg, David Jason.
Rachel Thomas oedd 'y fam Gymreig' ar raglenni teledu a ffilmiau. Bu yn The Proud Valley gyda Paul Robeson, mewn fersiwn teledu o How Green Was My Valley ac, wrth gwrs, hi oedd yr hen wraig flin Bella ar Pobol y Cwm.
Dave Bowen oedd yr unig Gymro erioed i arwain tîm pêl droed y wlad yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd, yn 1958. Yn ddiweddarach bu'n rheolwr ar Gymru hefyd.
Yn y byd rygbi, roedd Alun Pask yn un o gewri'r 60au, gan chwarae yn rhif 8 i'w wlad 26 o weithiau.
Marie James oedd un o gymeriadau mawr y Gymru Gymraeg, yn weithgar yn ardal Llangeitho ac yn enwog am ei ffraethineb trwy raglenni radio fel Penigamp.
Glyn Jones oedd un o'r ychydig lenorion i bontio rhwng y byd Cymraeg a'r Saesneg ac ef oedd awdur The Dragon Has Two Tongues, un o'r llyfrau pwysica' am lenyddiaeth Eingl-Gymreig.
Meirion Roberts oedd yr arlunydd a greodd luniau cartwnaidd i ddathlu rhai o ddigwyddiadau pwysica' Cymru.
Roedd Selyf Roberts yn nofelydd a enillodd y Fedal Ryddiaith yn 1955.
Emlyn Williams oedd wedi arwain glowyr De Cymru trwy'r Streic Fawr yn 1984-5.
Ymhlith y marwolaethau eraill, roedd:
Peter Cook - actor comedi a dychan.
Leah Betts - merch ifanc a fu farw o effeithiau'r cyffur ecstasi, gan ysbrydoli ymgyrch yn ei erbyn.
Fred Perry - pencampwr tennis o Loegr.
Dean Martin - yr actor Americanaidd.
Ginger Rogers - yr actores a'r ddawnswraig.
Harold Wilson - y cyn-Brif Weinidog Llafur.
 |
 |
 |
 |
|


[an error occurred while processing this directive]
[an error occurred while processing this directive]
[an error occurred while processing this directive]
|