Beth yw eich atgofion chi o 1996? Cyfrannwch i'r dudalen hon drwy anfon eich atgofion atom - ewch i waelod y dudalen
"Yn 1996, yn ogystal a chyrraedd y deugain oed - a oedd yn ddigon o ergyd ynddo fo'i hun - mi ges i fy nhaith waetha' erioed dramor. Mae cwyno am daith i'r Gemau Olympaidd yn swnio ronyn yn anniolchgar, ond wir i chi doedd Gemau Atlanta ddim patch ar rhai Barcelona. Dau begwn, un yn glasurol a chwaethus a'r llall yn ddi-chwaeth ac ariangar, oes angen dweud pa'r un oedd p'run?
Ar ben hynny i gyd, mi fues o fewn deg munud i gael fy chwythu fyny! Newydd basio drwy'r sgwâr Olympaidd r'on i pryd ffrwydrodd na fom. Roedd pwll nofio yn fy ngwesty yn wyrdd golau ar ddechrau'r gemau ac wedi troi yn wyrdd las erbyn y diwedd ac yn addas ar gyfer rhaglen naturiaethiol gan Iolo Williams.
Roedd o'n westy graenus, ac wythnos cyn gadael nes i benderfynnu gofyn i'r dderbynfa drefnu olchi fy nhillad. Ges i nhw nôl wrth ymadael yn yr un bag, yn dal mor fudur a llawn mor addas a'r pwll nofio i dalentau Iolo.
Un o wendidau'r Americanwyr yn fy marn i yw Daearyddiaeth. Mi dreulias oriau lawer yn egluro ble roedd Cymru, hyd i mi ganfod rhywun yn y maes awyr ar y ffordd adref a oedd yn argoeddiedig ei fod yn gwybod yn union lle roedd Cymru: "It's a lovely country," medda fo "and it must have been very difficult for you under the Soviet Regime." Be wnewch chi dwch?
John Hardy, Caerdydd
 |