Logo newydd y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn 1997
Beth yw eich atgofion chi o 1997? Cyfrannwch i'r dudalen hon drwy anfon eich atgofion atom - ewch i waelod y dudalen
"Yn ogystal â'r Dywysoges Diana, collwyd nifer o'n mawrion ni eto yn 1997. Un ohonyn nhw oedd Ronnie Williams, ail hanner 'Ryan a Ronnie', ar ddiwedd y flwyddyn. Er bod llawer o bobol yn credu mai Ryan oedd yr hanner mwya' talentog o'r bartneriaeth, gwnaeth Ronnie gyfraniad mawr fel sgriptiwr nifer o waith gorau'r ddau. Roedd Ronnie wedi dechrau actio yn y 'Wednesday Play' yn 1966 ac yn 1970 dechreuodd weithio gyda Ryan. Parodd y bartneriaeth bron tan farwolaeth Ryan yn sydyn yn 1977 ac wedyn bu'r gweithio mewn nifer o brosiectau actio - un o'r ola' iddo gyflawni oedd yn y ffilm 'Twin Town' a rhyddhawyd yn 1997.
Roedd Ted Breeze yn un o brif naturiaethwyr ac adarwyr Cymru, roedd yn aelod ffyddlon o banel Byd Natur Radio Cymru ac mae yna gymdeithas i'w goffau dan lywyddiaeth adarwr arall Iolo Williams. Un arall a fu farw oedd Gwilym R Tilsley yn gyn Archdderwydd ac enillydd y gadair ddwywaith. Fe gollwyd nhw i gyd yn ystod 1997 yn ogystal â'r Fam Theresa, John Denver, Jaques Cousteau, Stephan Grappeli a'r cynllunydd Gianni Versace."
John Hardy, Caerdydd
 |