 |
 |
 |
Y Penawdau, y pethau, y bobl... |
 |
 |
 |
David Dimbleby yn sylwebu ar angladd Y Dywysoges Diana ym 1997
Clicwch ar bwnc:
Cymru Y Byd Cerddoriaeth Celfyddydau Ffilmiau Teledu a Radio Chwaraeon Gwyddoniaeth Ffordd o Fyw Marwolaethau
CYMRU
Ron Davies yn dod yn Ysgrifennydd Cymru yn y llywodraeth Lafur. Y Ceidwadwyr heb AS yn y wlad am y tro cynta' ers 1906. Y fuddugoliaeth fwya' annisgwyl oedd Gareth Thomas, Llafur, yn curo Rod Richards, Ceidwadwyr, yng Ngorllewin Clwyd.
Ar Fedi 18, pleidleisiodd pobol Cymru o blaid datganoli, ond dim ond gyda 6,721 o fwyafrif. Cafodd y canlyniad ei drefnu fel bod y cyfan yn dibynnu ar y bleidlais ola' i'w chyhoeddi, yn Sir Gaerfyrddin.
Cafwyd y Parchedig Clifford Williams o Benllech yn euog, gan lys eglwysig yng Nghaernarfon, o gael perthynas odinebus ag un o'i blwyfolion. Ym mis Tachwedd cafodd ei ddiswyddo a'i amddifadu o Urddau Eglwysig.
Cynhaliodd ffermwyr da byw warchae ym mhorthladdoedd Caergybi ac Abergwaun wrth i brisiau cig eidion ostwng. Cafodd saith eu harestio am ddwyn llwyth o fyrgyrs o Iwerddon a'u taflu i'r môr.
Cymro oedd Trevor Rees-Jones o Lanfyllin, gwarchodwr cariad y Dywysoges Diana, a'r unig un i oroesi o'r ddamwain a'i lladdodd hi ym Mharis. Roedd yntau wedi ei anafu'n ddifrifol iawn.
Parc yr Arfau Caerdydd yn cael ei ddymchwel er mwyn gwneud lle i Stadiwm y Mileniwm.
Roedd yna bartïon ar hyd a lled y wlad wrth i'r Urdd ddathlu ei ben-blwydd yn 75 oed, a chafwyd y newidiadau mwya' ers blynyddoedd yn nhrefn y mudiad.
Cafodd y merched cynta' eu hordeinio'n offeiriaid llawn yn yr Eglwys yng Nghymru.
Enillodd pobol New Inn ger Pencader frwydr 18 mis i rwystro cynlluniau i godi llosgydd yn y pentre'. Ond roedd protestiadau'n parhau yn y Rhondda, yn erbyn tomen sbwriel Nant y Gwyddon, gyda phobol leol yn dweud ei bod yn effeithio ar iechyd y trigolion.
Roedd yna newyddion drwg i swyddi yn y Gogledd a'r Canolbarth wrth i gwmni Laura Ashley gau ffatrïoedd yng Nghaernarfon a Machynlleth. A chafodd gweithwyr eu diswyddo yng Nghanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn wrth i honno wynebu argyfwng.
Y BYD
Lladdwyd 14 o wrthryfelwyr ar ôl cynnal gwarchae am 126 o ddyddiau yn llysgenhadaeth Japan ym Mheriw.
Tony Blair yn dod yn Brif Weinidog Prydain ym mis Mai gyda mwyafrif mawr, gan dorri gafael y Ceidwadwyr ar ôl 18 mlynedd. Un o weithredoedd cynta'r Canghellor newydd, Gordon Brown, oedd ildio penderfyniadau ar chwyddiant i ddwylo Banc Lloegr.
Daeth Swampy yn enwog - ef oedd yr amlyca' o'r Eco-ryfelwyr a fu'n tyllu o dan ddaear i rwystro datblygiadau newydd fel llain ychwanegol ym maes awyr Manceinion.
Ar ôl ymddiswyddiad y cyn-Brif Weinidog, John Major, daeth William Hague yn arweinydd y Blaid Geidwadol a chyhoeddodd ef a'r Gymraes, Ffion Jenkins, eu bod am briodi.
Cafwyd golygfeydd rhyfeddol wedi marwolaeth y Dywysoges Diana mewn damwain ffordd ym Mharis. Daeth y rhan fwya' o fywyd gwledydd Prydain i stop ar ddiwrnod yr angladd ac roedd tunelli o flodau wedi eu gadael ger y palasau brenhinol yng nghanol Llundain.
Wythnos cyn y refferendwm yng Nghymru, pleidleisiodd pobol yr Alban o fwyafrif clir o blaid senedd gyda'r hawl i godi trethi.
Ar ôl 15 mlynedd o drafod a bargeinio, rhoddwyd Hong Kong yn ôl i China, yn unol â'r les oedd wedi rhoi'r drefedigaeth i wledydd Prydain yn 1898.
Roedd yna ddadlau a thrafod ar ddwy ochr Môr Iwerydd ar ôl i nani ifanc o Loegr, Louise Woodward, gael ei chyhuddo o lofruddio plentyn naw mis oed yn ei gofal. Yn y diwedd cafodd ei rhyddhau ar ôl ei chael yn euog am ddynladdiad, ond roedd pryder hefyd am driniaeth au pairs yn yr Unol Daleithiau.
Bu raid clirio pobol o Montserrat ar ôl i fynydd tân ffrwydro a chafwyd cymylau anferth o fwg oherwydd tanau mewn fforestydd yn Indonesia.
Ffrwydriad a thân mewn gwaith trin gwastraff niwclear oedd y broblem yn Japan.
CERDDORIAETH
Yn Gymraeg...
Roedd y ddeuawd, Tony ac Aloma, yn dathlu 30 mlynedd o ganu a 30 mlynedd ers y Maes B gwreiddiol yn Eisteddfod y Bala, daeth maes ieuenctid yn rhan swyddogol o weithgaredd y Brifwyl.
O'r diwedd, cafodd Cymru ei girl band enwog - hon oedd blwyddyn CD gynta' Eden, ar roedd merched bach (ac ambell ddyn) yn gwirioni.
Daeth y Cyngor Roc a Gwerin i ben oherwydd diffyg arian.
ac yn Saesneg...
Cyhoeddodd Gorky's Zygotic Mynci un o'u halbyms gorau, Barafundle.
Roedd yna ddau o Gymru yn y band diweddara' i gipio dychymyg plant - Steps. Roedd 'H' yn dod o'r Rhondda a Lisa Scott-Lee o'r Rhyl.
Roedd gan ddau o Gymru ran yn llwyddiant y gyn-actores Natalie Imbruglia o Neighbours hefyd - roedd y brodyr Peredur a Rheinallt ap Gwynedd o Sir Benfro yn chwarae yn ei band.
Cyhoeddodd y band Radiohead un o'u halbyms pwysica', OK Computer.
Am y tro cynta' ers achau, llwyddodd Y Deyrnas Unedig i ennill cystadleuaeth yr Eurovision. Love Shine a Light gan Katrina and the Waves oedd un o'r mwya' llwyddiannus erioed.
Ail-gyhoeddodd Elton John ei gân, Candle in the Wind, a'i haddasu i siwtio Diana yn hytrach na Marilyn Monroe.
Dyma rifau 1 y flwyddyn ...
Tori Amos - Professional Widow (It's Got To Be Big)
White Town - Your Woman
Blur - Beetlebum
LL Cool J - Ain't Nobody
U2 - Discotheque
No Doubt - Don't Speak
Spice Girls - Mama/Who Do You Think You Are?
Chemical Brothers - Block Rockin' Beats
R Kelly - I Believe I Can Fly
Michael Jackson - Blood On The Dancefloor
Gary Barlow - Love Won't Wait
Olive - You're Not Alone
Eternal featuring Bebe Winans - I Wanna Be The One
Hanson - Mmmbop
Puff Daddy & Faith Evans - I'll Be Missing You
Oasis - D'you Know What I Mean
Will Smith - Men In Black
Verve - The Drugs Don't Work
Elton John - Candle in the Wind 97/Something About The Way You Look
Spice Girls - Spice Up Your Life
Aqua - Barbie Girl
Various Artists - Perfect Day
Teletubbies - Teletubbies Say Eh-oh!
Spice Girls - Too Much
CELFYDDYDAU
Yn Eisteddfod Genedlaethol Meirionnydd yn y Bala, dywedwyd mai awdl Ceri Wyn Jones wrth ennill y Gadair oedd un o rai gorau'r ganrif. Aeth y Goron i Cen Williams o Ynys Môn a'r Fedal Ryddiaith i Angharad Tomos am yr ail waith.
Eisteddfod yr Urdd ym Mro Islwyn oedd yr ola' i'r trefnydd, Elvey MacDonald. Cyflawnodd Paul Griffiths gamp trwy ennill y Fedal Ddrama am y trydydd tro; roedd yna ail Fedal Gerddoriaeth i Ceiri Torjussen a merched a aeth â'r Gadair a'r Goron - Nia Môn a Mari Stevens.
Yno hefyd y dangoswyd y llun eiconig, Salem, yng Nghymru am y tro cynta' ers blynyddoedd. Roedd ar fenthyg o Port Sunlight ger Lerpwl.
Arddangosfa arall o bwys oedd un yr arlunydd Mary Lloyd Jones, yn tynnu ar ei phrofiadau yn India.
Cafwyd un o'r arddangosfeydd ffotograffiaeth pwysica' ers blynyddoedd gyda Dark Odyssey yn edrych yn ôl ar yrfa Philip Jones Griffiths, y Cymro Cymraeg o Ruddlan a oedd yn enwog am bortreadu rhyfel Fietnam.
Cafodd y llyfr cyntaf yn y gyfres 'Harry Potter' ei gyhoeddi gan ddechrau ar ffenomenon gyhoeddi ryfeddol a throi ei awdur di-waith J.K.Rowling yn filiwnydd tros nos.
Un o lyfrau eraill y flwyddyn oedd The God of Small Things gan Arundhati Roy.
Yn Gymraeg, roedd yna nofel boblogaidd - Amdani! gan Bethan Gwanas am dîm o ferched yn chwarae rygbi - a hunangofiant poblogaidd iawn - Fi Dai Sy' 'Ma gan Dai Jones, Llanilar. Llyfr ffeithiol mawr y flwyddyn oedd The Revolt of Owain Glyn Dŵr gan yr Athro Rees Davies.
Un o'r dramâu mwya' hwyliog oedd Yr Aduniad gan Delyth Jones, am gyn ffrindiau ysgol yn cyfarfod unwaith eto.
Canodd y bariton Bryn Terfel yn La Scala am y tro cynta' a llwyddodd y tenor o Fôn Gwyn Hughes Jones i ennill ei rownd o gystadleuaeth Canwr y Byd a chyrraedd yr ornest derfynol.
TELEDU A RADIO
Un o gyfresi drama mwya' llwyddiannus S4C oedd Y Tair Chwaer gyda Llio Millward, Donna Edwards a Ruth Lloyd yn actio tair cantores canu gwlad.
Daeth iaith fratiog ysgolion Cymraeg y De yn cŵl wrth i Pam Fi Duw? ddod i'r sgrin, dan gyfarwyddyd yr awdur John Owen.
Yn y cyfamser, roedd rhaglen am ryw o'r enw W Y Misus wedi creu cythrwfl mawr, a llinellau Stondin Sulwyn yn chwilboeth.
Ym maes radio, gadawodd Geraint Lloyd orsaf leol Radio Ceredigion ac ymuno gyda Radio Cymru.
Yn Saesneg, daeth Tinci-winci a'i ffrindiau yn enwog wrth i'r Teletubbies ddatblygu'n un o'r rhaglenni plant bach mwya' llwyddiannus erioed.
Y cynnyrch diweddara' o America oedd Ally McBeal am gyfreithwraig ifanc.
Cymro Cymraeg o'r enw Dafydd Hobson o Gaernarfon oedd y prif ddyn camera ar un o gyfresi mawr drama'r flwyddyn - The Lakes gan Jimmy McGovern.
Llwyddodd y chwaraewraig rygbi Non Evans i siglo pethau pan ymddangosodd ar y sioe gêm Gladiators. Cymerodd y mater o ddifri a rhoi llygad ddu i un o'r 'sêr'.
FFILMIAU
Cameleon oedd un o ffilmiau Cymraeg y flwyddyn, yn delio gydag effaith rhyfel ar filwr.
Roedd yna stori dda y tu cefn i ffilm ryfel arall, Pum Cynnig i Gymru. Daeth dyn o wlad Pwyl i gysylltiad â'r cynhyrchwyr i ddweud mai ei fam ef oedd un o'r cymeriadau go iawn yn y ffilm.
Cafodd Tylluan Wen ei ffilmio, yn dilyn llwyddiant y nofel yn ennill Y Fedal Ryddiaith ddwy flynedd ynghynt. Y gantores, Siân James, oedd yn y brif rôl.
Llwyddodd Yn Gymysg Oll i Gyd o 1996 i ennill tair gwobr BAFTA Cymru, gan gynnwys y ddrama orau.
Titanic oedd ffilm fawr y flwyddyn, gyda Leonardo di Caprio a Kate Winslet, cân fawr gan Celine Dion ac ymddangosiad byr gan Gymro o'r enw Ioan Gruffudd.
Ffilm o Gymru, o Abertawe, oedd Twin Town, gyda'r ddau frawd Rhys a LlÅ·r Ifans yn actio'r efeilliaid.
Cafodd y digrifwr Billy Connolly rôl ddifrifol o bwys wrth actio cariad cudd y Frenhines Victoria yn Mrs Brown.
Y ddwy ffilm gwlt oedd The Full Monty, am griw o lowyr yn creu band stripio, ac Austin Powers, sbwff Americanaidd ar ffilmiau James Bond.
CHWARAEON
Am y trydydd tro yn eu hanes, llwyddodd tîm criced Morgannwg i ennill Pencampwriaeth y Siroedd, gyda chwaraewyr disglair fel Matthew Maynard, Hugh Morris a Robert Croft.
Chwaraeodd y maswr, Jonathan Davies, ei gêm ola' i Gymru ac anafwyd capten Cymru, Gwyn Jones yn ddifrifol iawn yn ystod gêm gynghrair rhwng Caerdydd ac Abertawe. Dyna ddiwedd ar ei yrfa ond roedd yn lwcus i fyw.
Y Cymro, Mark Hughes, oedd y chwaraewr cynta' i ennill pedair medal enillydd yng Nghwpan yr FA, wrth i Chelsea ennill. Roedd y tair arall wedi dod gyda Man Utd.
Llwyddodd Barry Town i ennill tair prif gystadleuaeth pêl-droed Cymru a chafodd un o'u chwaraewyr, Garry Lloyd, sioc wrth gael ei alw i sgwad genedlaethol Cymru, ac yntau'n disgwyl chwarae yn i'w glwb yn erbyn Porthmadog.
Bu raid gohirio ras y Grand National am ddeuddydd ar ôl bygythiad fod bom ar y cwrs.
Llwyddodd y paffiwr Joe Calzaghe o Drecelyn i guro'r Sais Chris Eubank am deitl pwysau uwch ganol y byd a chadw'i record ddiguro.
Martina Hingis oedd yr ieuenga' ers 1887 i ennill teitl y merched yn Wimbledon, a hithau'n 16 oed.
Llwyddodd car jet o'r enw Thrust i dorri record cyflymder tir y byd trwy yrru ar tua 760 milltir yr awr - y cerbyd tir cynta' i dorri'r barrier sŵn.
Gwyn Jones, capten rygbi Cymru, yn cael anaf dychrynllyd ar ei gefn a'i wddw a gorfod rhoi'r gorau i'r gêm.
GWYDDONIAETH A THECHNOLEG
Daeth y gomed Hale-Bopp yn ddigon agos at y ddaear i gael ei gweld yn hawdd â'r llygad noeth. Lladdodd 39 aelod o gwlt eu hunain yn yr Unol Daleithiau - roedd dilynwyr Heaven's Gate yn credu fod y gomed yn arwydd fod llong ofod ar ei ffordd i fynd â nhw i fyd arall.
Cafwyd y cynhebrwng cynta' yn y gofod wrth i weddillion 24 o bobol gael eu rhoi mewn roced i gylchdroi'r ddaear.
Glaniodd y 'Mars Pathfinder' ar wyneb y blaned Mawrth gan anfon lluniau manwl yn ôl am y tro cynta' ac aeth roced arall, Galileo, yn agos iawn at y blaned Iau.
Cyflwynodd Phillips beiriant i recordio CD o un peiriant i'r llall.
Llwyddodd cyfrifiadur IBM Deep Blue i guro'r meistr Garry Kasparov mewn gêm o wyddbwyll - y tro cynta' i beiriant guro chwaraewr o'r fath safon.
FFORDD O FYW
Dyfeisiwyd y gair 'weblog' i ddisgrifio'r arfer o roi dyddiadur a sylwadau ar y rhyngrwyd.
Roedd doliau Spice Girls yn boblogaidd ond yn ddim o'i gymharu â'r tamagotchi, yr 'anifail anwes' electronig o Japan.
Arwydd arall o 'girl power' oedd bod Cymru wedi ethol pedwar aelod seneddol benywaidd - cymaint â'r cyfanswm cyn hynny.
Cyhoeddodd y prifardd Robin Llwyd ab Owain gyfrol o farddoniaeth - ond ar y we, ac nid mewn llyfr.
Pryd bwyd rhyfedda'r flwyddyn oedd y wledd a ddarparodd y gogyddes deledu Ena Thomas i godi arian at Eisteddfod Genedlaethol 1998. Roedd yn cael ei weini yng Ngharchar y Parc, cyn i hwnnw agor.
Daeth criwiau o figilantes i'r penawdau, fel arfer yn erlid pedoffiliaid. Ac arweiniodd un achos at reiats ar ddwy nos Sadwrn yn olynol, ym Mryngwran o bob man.
Daeth problem fawr arall i'r amlwg, gyda sawl achos o nwyon petrol yn achosi trafferth. Roedd yr achos gwaetha' yn y Bontddu ger Dolgellau lle cafwyd ffrwydrad ac roedd rhaid i bobol leol symud o'u tai am fisoedd.
Ym mis Tachwedd yn Carlisle, Iowa, cafodd Bobbi McCaughey enedigaeth i 'septuplets'. Hwn oedd yr ail dro erioed i saith babi gael eu geni'n fyw.
Ym myd ffasiwn, roedd sachau ar y cefn yn boblogaidd - rhai bychain, twt - a sbectols gydag ymyl du, trwchus.
Y Prius gan Toyota oedd y car hybrid cynta' o ddifri - yn cyfuno injan betrol a pheiriant trydan.
MARWOLAETHAU
Pennar Davies oedd un o'r cenedlaetholwyr mwya' dylanwadol, yn agos iawn at gyn-Lywydd Plaid Cymru, Gwynfor Evans. Roedd hefyd yn fardd, nofelydd a diwinydd.
Marw'n drasig a wnaeth yr asgellwr rygbi rhyngwladol, Carwyn Davies. Penderfynodd cwest ei fod wedi ei ladd ei hun.
Eddie Thomas oedd un o focswyr gorau Cymru ac, ar ôl hynny, yr hyfforddwr mwya' llwyddiannus yn ei hanes, gyda rhai fel Howard Winstone a Colin Jones yn ei stabl.
Ivor Allchurch o Abertawe oedd un o chwaraewyr pêl-droed gorau Cymru erioed ac un o sêr y tîm a gyrhaeddodd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn 1958.
Ted Breeze Jones oedd un o brif naturiaethwyr ac adarwyr Cymru a ffotograffydd ardderchog.
Roedd Gwilym R. Tilsley wedi ennill y Gadair ddwywaith ac wedi bod yn Archdderwydd.
Roedd yna gerddi gwawd yn ogystal â cherddi clod pan fu farw George Thomas, Is-iarll Tonypandy - cyn-Ysgrifennydd Cymru a chyn Lefarydd Tŷ'r Cyffredin.
Alexander Cordell oedd nofelydd y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru, gyda nofelau fel The Fire People yn gwerthu wrth y miloedd.
Ymhlith y marwolaethau eraill, roedd:
Ymhlith y marwolaethau eraill, roedd:
Richard Hughes - yr adroddwr a roddodd lais i'r Co Bach o Gaernarfon.
JBG Thomas - gohebydd rygbi enwog ac unllygeidiog y Western Mail.
Dody Al-Fayed, dyn busnes o'r Aifft, a fu farw yn yr un ddamwain â Diana, Tywysoges Cymru.
Y cynlluniwr ffasiwn Gianni Versace a gafodd ei saethu'n farw.
Y Fam Theresa, y weithwraig elusennol o Albania, yn marw yn Kolcata, India.
John Denver - canwr Annie's Song a laddwyd mewn damwain awyren.
Jacques Cousteau - yr anturiwr tanddwr.
Allen Ginsberg - un o awduron mawr cenhedlaeth y 'beat'.
Stephan Grappelli - y feiolinydd.
Deng Xiaoping - arweinydd China.
Ac aeth dau o actorion mawr Hollywood, James Stewart a Robert Mitchum, tua'r machlud o fewn diwrnod i'w gilydd.
 |
 |
 |
 |
|


[an error occurred while processing this directive]
[an error occurred while processing this directive]
[an error occurred while processing this directive]
|