Beth yw eich atgofion chi o 1998? Cyfrannwch i'r dudalen hon drwy anfon eich atgofion atom - ewch i waelod y dudalen.
"Roedd 'na ornest go iawn ymlaen ym mis Ionawr 1998. Un eiriol oedd hi rhwng nifer o Gymry amlwg a cholofnydd y Sunday Times ar ôl iddo fo ein sarhau ni fel Cenedl.
Roedd AA Gill yn enwog am dynnu blewyn o drwyn ac am ei sylwadau gwrth-Gymreig, ond y tro yma, roedd o'n amlwg wedi mynd yn rhy bell wrth ein disgrifio ni fel "loquacious dissemblers, immoral liars, stunted, bigoted, dark, ugly, pugnacious little trolls".
1998 hefyd oedd y flwyddyn pan fues i, ymysg mannau eraill, yng Ngemau'r Gymanwlad yn Kuala Lumpur. Lle braf ar y naw pan fydd o wedi ei orffen!
Roedd gen i ystafell foethus mewn gwesty crand yn edrych lawr ar y Blue Mosgue. "Hyfryd" dwi'n eich clywed yn dweud. Wel.. oedd... oni bai fod y muezzin yn galw'r ffyddlon am hanner awr wedi pump bob bore. Roedd o'n well nag unrhyw gloc larwm gan fod pob nodyn yn treiddio'r "double glazing" fatha cyllell drwy fenyn.
Yn Kuala Lumpur gyda llaw mae'r Petronas Towers a ddaeth i amlygrwydd mewn ffilm o'r enw Entrapment lle y cafwyd partneriaeth annhebygol iawn rhwng Sean Connery a Catherine Zeta Jones."
John Hardy, Caerdydd.
Lle oeddech chi arni yn 1998?
 |