 |
 |
 |
Y penawdau, y pethau, y bobl... |
 |
 |
 |
Yr Athro Robert Winston yn cyflwyno cyfres newydd sbon ar y corff dynol, o gyfrif curiad y galon i hyd ein ewinedd!
Clicwch ar bwnc:
Cymru Y Byd Cerddoriaeth Celfyddydau Ffilmiau Teledu a Radio Chwaraeon Gwyddoniaeth Ffordd o Fyw Marwolaethau
CYMRU
Trwy'r flwyddyn, bu ymrafael tros gartre' i'r Cynulliad Cenedlaethol. Ar ôl anghytundeb rhwng Ysgrifennydd Cymru, Ron Davies, ac arweinydd Cyngor Caerdydd, Russell Goodway, methwyd â chael y dewis cynta' - Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Ar ôl 'cystadleuaeth' agored i Gymru gyfan, dewiswyd Bae Caerdydd.
Ym mis Ebrill fe glywyd Cymraeg yn y gofod am y tro cynta' erioed. Aelod o griw'r wennol ofod Columbia oedd Dafydd Rhys Williams o Ganada, ond roedd ei dad yn dod o Bargoed, Cwm Rhymni, a siaradodd yr iaith mewn neges o'r gofod.
Collwyd cannoedd o swyddi yn ardal Prestatyn wrth i gwmni archfarchnadoedd Somerfield brynu Kwiksave a symud y pencadlys o'r gogledd-ddwyrain i Loegr.
Roedd yna helynt cyson yn Ynys Môn, gyda'r bargyfreithiwr, Michael Farmer, yn y diwedd yn cynnal ymchwiliad annibynnol yno. Roedd cyhuddiadau o lygredd a bwlian yn erbyn cynghorwyr a ffraeo dychrynllyd rhwng carfanau. Sefydlwyd mudiad poblogaidd Llais y Bobol i geisio newid pethau.
Am y tro cynta' erioed, cynhaliwyd un o uwchgynadleddau'r Undeb Ewropeaidd yng Nghaerdydd. Roedd Arlywydd De Affrica, Nelson Mandela, ymhlith yr ymwelwyr.
Cafwyd dyn gyda chysylltiadau Cymreig cryf yn euog o lofruddio ei lysferch. Roedd rhieni Sion Jenkins yn byw yn Aberystwyth, ond roedd hyn yn ddechrau ar saith mlynedd o apeliadau ac ail-achosion. Yn y diwedd enillodd Sion Jenkins a chafodd ei ryddhau yn 2005.
Rhybuddiodd Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Dafydd Owen, y byddai'n rhaid cau tua 2,000 o gapeli trwy Gymru. Roedd pwyllgor wedi dechrau cyfarfod i geisio uno'r enwadau.
Ym mis Hydref, syfrdanwyd y byd gwleidyddol yng Nghymru gydag ymddiswyddiad Ron Davies, o fod yn Ysgrifennydd Cymru i ddechrau ac wedyn o fod yn arweinydd y Blaid Lafur Gymreig. Roedd wedi ei ddal mewn digwyddiad gwrywgydiol ar Gomin Clapham - ei "eiliad o wallgofrwydd".
Roedd pobol leol yn brwydro yn erbyn ac o blaid datblygiadau - ymgyrchwyr amgylcheddol yn meddiannu Caeau Eithinog ym Mangor i atal codi tai, a phobol Llanllyfni yn eistedd ar y briffordd i atal y traffig wrth alw am ffordd osgoi.
Ar ôl ymgyrch hir, llwyddodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i godi mwy na £4 miliwn i brynu rhan helaeth o'r Wyddfa. Roedd yr actor Anthony Hopkins wedi cyfrannu £1 miliwn ac wedi arwain yr ymgyrch ar ôl i Richard Williams, Hafod y Llan, gyhoeddi ddechrau'r flwyddyn ei fod yn gwerthu'r stad.
Y BYD
Ar Fawrth 1 Gorymdeithiodd 250,000 o bobol drwy Lundain i brotestio yn erbyn bygythiadau i fywyd traddodiadol cefn gwlad.
Arwyddwyd cytundeb heddwch Gwener y Groglith gan lywodraethau Prydain ac Iwerddon ynghyd ag wyth o bleidiau gwleidyddol Gogledd Iwerddon. Cefnogwyd ef mewn refferendwm yn Ne a Gogledd Iwerddon ond mae'r gwaith o'i weithredu'n parhau heddiw. Ym mis Awst, lladdwyd 28 yn Omagh, gan fom yr IRA 'go iawn' - un o'r grwpiau bach oedd yn erbyn y cytundeb.
Ennillodd dau o arweinwyr gwleidyddol cymedrol Gogledd Iwerddon y Wobr Nobel am Heddwch - John Hume o blaid genedlaetholgar yr SDLP a David Trimble arweinydd yr Unoliaethwyr swyddogol.
Bu'r Arlywydd Clinton yn ymladd am ei einioes wleidyddol ar ôl cael ei uchelgyhuddo tros ei berthynas gyda'r 'intern' yn y Tŷ Gwyn, Monica Lewinsky.
Gosodwyd embargo gan y Cenhedloedd Unedig ar werthu arfau i lwgoslafia oherwydd ymddygiad y llywodraeth at ei phoblogaeth Albanaidd yn Kosovo.
Llwyddodd Saddam Hussein i osgoi ymosodiad ar Irac gan luoedd yr Unol Daleithiau a Phrydain ar ôl arwyddo cytundeb gyda'r Cenhedloedd Unedig i ganiatáu i arolygwyr chwilio am arfau. Erbyn mis Hydref, roedd wedi newid ei feddwl.
Cyhoeddodd arweinydd o un garfan Islamaidd, Osama bin Laden, fod eisiau rhyfel crefyddol yn erbyn 'Iddewon' a 'Chroesgadwyr'. Ym mis Awst, amheuwyd mai ef oedd y tu cefn i ymosodiadau ar lysgenadaethau'r Unol Daleithiau mewn tair gwlad yn Affrica. Lladdwyd 224.
Roedd yna bryder tros gynnydd mewn arfau niwclear, wrth i India a Pacistan ill dwy ddatblygu a phrofi bomiau. Roedd y ddwy wlad mewn anghydfod parhaus tros ddyfodol Kashmir, ar y ffin rhyngddyn nhw.
Cafodd cyn-unben Chile, Augusto Pinochet, ei arestio wrth gael triniaeth iechyd yn Lloegr. Roedd rhai eisiau ei erlyn am droseddau yn erbyn dynoliaeth ar ôl iddo gipio grym yn ei wlad yn nechrau'r 1970au. Yn y diwedd cafodd ei anfon yn ôl i Chile.
Lladdwyd 18,000 o bobol yng Nghanol America, pan drawyd nifer o wledydd gan Hurricane Mitch.
CERDDORIAETH
Yn Gymraeg...
Ymddangosodd y boiband cynta' yn Gymraeg - Mega ... wedi ei greu'n fwriadol i wneud argraff yn Saesneg hefyd.
Ymhlith y bandiau newydd eraill a ddaeth i'r amlwg, roedd Topper, Gwacamoli a Melys ac un o'r CDs mwya' poblogaidd oedd Dawnsio ar y Dibyn gan Bryn Fôn.
Band y flwyddyn yn yr Eisteddfod oedd Anweledig o Flaenau Ffestiniog, er eu bod yn canu gyda'i gilydd ers tua chwe blynedd.
Cyhoeddodd Dafydd Iwan gasgliad o'i ganeuon cynnar ar CD a chyhoeddodd ei fod yn lled-ymddeol o ganu ... nid y tro cynta' na'r ola' iddo wneud.
Chwalodd y ddeuawd Iwcs a Doyle ar ôl anghytundeb. Roedden nhw wedi cael un flwyddyn lwyddiannus iawn, gyda gwobr Cân i Gymru a CD.
Cafodd Lucie Chivers o Donyrefail sesiwn ar raglen John Peel ar Radio 1.
Yn Saesneg...
Cyhoeddodd Catatonia eu halbwm enwoca', International Velvet, gyda'r gytgan gofiadwy, "Every day when I wake up I thank the Lord I'm Welsh".
Cafodd y Manic Street Preachers eu rhif 1 cyntaf a llwyddiant mawr gyda'r albwm This Is My Truth Tell Me Yours.
Cafodd Tom Jones ychydig o atgyfodiad gyda chyhoeddi CD o'i ganeuon gorau a gwnaed Elton John yn Syr Elton gan y Cwîn.
Aeth Gerri Halliwell i guddio wedi iddi ymddiswyddo o'r band Spice Girls ond roedd brenhinesau pop newydd ar y ffordd gyda'r band o America All Saints ac wrth i Britney Spears fynd yn syth i rif 1 gyda Baby One More Time. Cyn hir, daeth Billie Piper hefyd, yr artist unigol ieuenga'' i gael rhif 1.
Brenhines bop o fath gwahanol oedd Dana International, enillydd yr Eurovision. Roedd y gantores o Israel wedi bod yn ddyn.
Dyma rifau 1 y flwyddyn...
Never Ever - All Saints
All Around The World - Oasis
You Make Me Wanna... - Usher
Doctor Jones - Aqua
My Heart Will Go On - Celine Dion
Brimful Of Asha - Cornershop
Frozen - Madonna
It's Like That -Run DMC vs Jason Nevins
All That I Need - Boyzone
Under The Bridge / Lady Marmalade - All Saints
Turn Back Time - Aqua
Feel It - Tamperer featuring Maya
C'est La Vie - B*Wiched
Three Lions '98 - Baddiel, Skinner & Lighting Seeds
Because You Want To - Billie
Freak Me - Another Level
Deeper Underground - Jamiroquai
Viva Forever - Spice Girls
No Matter What - Boyzone
If You Tolerate This Your Children Will Be Next - Manic Street Preachers
Bootie Call - All Saints
Millennium - Robbie Williams
I Want You Back - Melanie B featuring Missy Elliot
Rolleroaster - B*Witched
Girlfriend - Billie
Gym & Tonic - Spacedust
Believe - Cher
To You I Belong - B*Witched
Goodbye - Spice Girls
CELFYDDYDAU
Ymhlith arddangosfeydd celf y flwyddyn, roedd sioe newydd gan Shani Rhys James ac un gan Catrin Williams o'r Bala, a ddefnyddiodd nodau clustiau defaid yn ysbrydoliaeth.
Ar ôl ei lwyddiant gyda Hedd Wyn, trodd Alan Llwyd ei sylw at fardd arall a chyhoeddi cofiant i Goronwy Owen - Gronwy Ddiafael, Gronwy Ddu.
Ymhlith llyfrau diddorol eraill, roedd Darllen y Meini, cyfrol gerddi ddiweddara' Gwyn Thomas; Codi'r Llen, casgliad o luniau o hen gwmnïau drama; Trwy Ddulliau Chwyldro, hanes Cymdeithas yr Iaith, a stori'r Swagman o Geredigion, a Rhwng Dau Fyd gan Bethan Phillips.
Bu raid i Lowri Davies gael help ei mam i deipio'r gwaith a enillodd iddi Fedal Lenyddiaeth yr Urdd yn LlÅ·n ac Eifionydd. Roedd hi'n gweithio am gyfnod ym Mhatagonia pan oedd wrthi'n sgrifennu. Aeth y Gadair i Gareth James, y Goron i Gwyneth Glyn a'r Fedal Ddrama i Dyfan Tudur. Sefydlwyd Ysgoloriaeth Bryn Terfel ar gyfer rhai o brif enillwyr y cystadlaethau llwyfan.
Un o awduron mwy annisgwyl y flwyddyn oedd yr Aelod Seneddol, Ieuan Wyn Jones. Cyhoeddodd fywgraffiad o'r dyn papur newydd, Thomas Gee.
Cyhoeddodd Gwyneth Lewis gyfrol newydd o farddoniaeth, Zero Gravity, gyda llawer o'r cerddi wedi eu hysbrydoli gan daith ei chefnder, Joseph Tanner, i'r gofod. A chafwyd 20fed nofel Emyr Humphreys, The Gift of a Daughter.
Yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, roedd yna sïon am ddwbwl ar ôl i Emyr Lewis ennill y Goron gyda champweithiau o gerddi am Gaerdydd. Yn y diwedd, doedd yna ddim Cadeirio ond aeth y Fedal Ryddiaith i Eirug Wyn am Blodyn Tatws a Gwobr Daniel Owen i Geraint V. Jones am ei nofel antur, Semtecs.
Yn y cyfamser, roedd yr Archdderwydd Dafydd Rowlands a'r academydd Hywel Teifi Edwards wedi galw am greu gwisg newydd yn yr Orsedd - un goch. Y nod oedd osgoi gwahaniaethu rhwng y gwahanol liwiau. Gwrthodwyd y syniad gan Bwyllgor yr Orsedd.
Un o ddramâu mwya' trawiadol y flwyddyn oedd yr un gan Mici Plwm a'i bartner actio, Wynford Ellis Owen, yn trafod alcoholiaeth Wynfford.
Cafodd trydedd symffoni y cyfansoddwr Seisnig Edward Elgar ei chwblhau gan Anthony Pane a chafodd ei pherfformio am y tro cynta' yn y Royal Festival Hall.
TELEDU A RADIO
Daeth gorsaf radio leol newydd i ardal Gwynedd a Môn - Champion FM, yn darlledu cerddoriaeth yn benna', yn Gymraeg a Saesneg.
Lansiwyd Sky Digital i newid byd teledu yng ngwledydd Prydain.
Er bod y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn Llundain wedi gwrthod cymryd cyfres arall o'r opera sebon Tiger Bay gan ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru, roedd y ddrama wedi creu seren allan o un actores, Suzanne Packer.
Roedd gêmau cwis a chystadlu'n parhau'n boblogaidd yn Gymraeg, gyda Mas o Diwn i gerddorion a Pryd o Dafod i folgwn.
Ond roedd yna gwyno gan lawer wrth i'r rhaglen Hel Straeon ddod i ben a phenderfynodd un o'r cyflwynwyr, Gwyn Llewelyn, adael byd teledu am y tro.
Rhaglen fwya' dadleuol y flwyddyn oedd Pleser a Phoen, gyda Lisa Reich yn astudio arferion S & M trwy gyfrwng y Gymraeg.
Roedd yna ymgais arall ar gomedi lwyddiannus, gyda Cerddwn Ymlaen, cyfres am ecstras yn y byd teledu, gyda Maldwyn John yn actio Eddie Parr.
Daeth yr actor Cymraeg, Ioan Gruffudd, yn wirioneddol enwog wrth gael y brif ran yn actio Hornblower mewn cyfres ar ITV.
Dechreuodd The Royle Family, math newydd o gomedi am deulu yn eistedd o flaen y teledu a gwneud fawr ddim.
Comedi fwya' amharchus y flwyddyn oedd South Park, y gyfres gartŵn oedd yn ymosod ar rai o fuchod sanctaidd y Gorllewin.
FFILMIAU
Roedd yna anhapusrwydd mawr yn Aberystwyth, gyda'r cyhoeddiad fod eu Gŵyl Ffilm Ryngwladol yn cael ei symud i Gaerdydd.
Cafodd ffilm y Titanic gyfanswm o 11 Oscar, un o'r enillwyr mwya' erioed. Ond ffilm 1997 oedd honno a ffilm 1998 oedd Saving Private Ryan - darlun cignoeth o ryfel gan Stephen Spielberg, gyda Tom Hanks yn y brif ran.
Roedd yna enwebiad hefyd i waith animeiddio gan Joanna Quinn o Gaerdydd - roedd Yr Enwog Ffred yn gartwn am gath oedd yn seren bop.
Un o ffilmiau Cymraeg y flwyddyn oedd Solomon a Gaenor, gyda Ioan Gruffudd a Nia Roberts. Roedd hi'n stori am garwriaeth Iddew a merch leol yng Nghymoedd y De.
Ffilm arall gan gyfarwyddwraig Gymreig addawol oedd Mad Cows gan Sarah Sugarman.
CHWARAEON
Llwyddodd Ffrainc i gipio Cwpan y Byd am y tro cynta', trwy guro Brasil o 3-0.
Roedd tîm pêl-droed Cymru'n llawer llai hapus, gyda chefnogwyr yn ymgyrchu'n agored i gael gwared ar y rheolwr o Sais, Bobby 'Y Clown' Gould.
Llwyddodd y paffiwr o Drecelyn, Joe Calzaghe, i ddal ei afael ym mhencampwriaeth pwysau uwch ganol WBO y byd. Ond bu raid i bencampwr arall, Robbie Regan, ymddeol oherwydd iechyd.
Roedd hi'n flwyddyn dda i'r rhedwr 400 metr, Iwan Thomas, wrth iddo ennill medal aur ym Mhencampwriaeth y Byd a Gêmau'r Gymanwlad, pan dorrodd record y bencampwriaeth.
Collodd tîm rygbi Cymru o 96-13 yn erbyn De Affrica, y gurfa waetha' erioed i un o'r pum gwlad. Ond daeth Graham Henry yn hyfforddwr o Seland Newydd i ddechrau cynnig achubiaeth.
Daeth Cymro Cymraeg yn un o brif chwaraewyr snwcer y byd, wrth i Matthew Stevens o Gaerfyrddin ddod yn ail ym Mhencampwriaeth Prydain.
GWYDDONIAETH A THECHNOLEG
Roedd pethau ar i fyny ym myd gwyddoniaeth, wrth i'r bilsen Viagra gael ei chyflwyno, i helpu dynion gyda thrafferthion rhywiol.
Aeth y Lunar Prospector Spacecraft o amgylch y lleuad a datgelu fod yna ddŵr wedi rhewi yno.
Aeth yr Americanwr cynta' yn y gofod, John Glenn, yn ôl yno ac yntau'n 77 oed, y gofodwr hyna' erioed.
Adeiladwyd pont grog yn Japan rhwng ynysoedd Shikoku a Honshu - y bont fwya' o'i bath yn y byd.
Ymhlith y datblygiadau cyfrifiadurol, lansiodd Apple yr iMac, lansiodd Microsoft eu rhaglen Windows 98 a daeth y peiriant chwilio Google i fod.
FFORDD O FYW
Daeth y sarong yn boblogaidd ... i ddynion yn ogystal â merched, ar ôl i'r chwaraewr pêl-droed, David Beckham, gael ei weld yn gwisgo un.
Ymhlith teganau poblogaidd y flwyddyn oedd Beanie Babies (creaduriaid meddal) a io-ios (yr hen ffefrynnau). Roedd ymladd yn y siopau adeg y Nadolig wrth i rieni fynnu dod o hyd i deganau meddal oedd yn dysgu siarad, y Furbies.
Cafwyd cynnwrf yn ardal Llanbed pan dorrodd stori yn y papurau tabloid fod ffermwraig leol, Liz Buttle, wedi cael babi a hithau'n 60 oed. Ar y pryd, hi oedd mam hyna' gwledydd Prydain ac roedd hi eisoes yn fam-gu.
Roedd yna ambell swydd golew yn cael eu hysbysebu yn y papurau newydd - Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru efallai, neu Gadeirydd y Bwrdd Croeso (£37,000 y flwyddyn am dri diwrnod yr wythnos o waith). Aeth swydd y Llyfrgellydd i ddysgwr, Andrew Green, am y tro cynta'.
Roedd yna newid mawr yn y byd ceir, wrth i gwmni Ford brynu Volvo o Sweden am bron $6.5 biliwn.
Ymddangosodd math newydd o arian yn Ewrop, ar ôl i'r rhan fwya' o wledydd yr Undeb Ewropeaidd gytuno ar gyflwyno'r Euro. Ond enghreifftiau sampl oedd y rhain ac roedd rhaid aros tan 1999 am yr arian go iawn.
Roedd yna newid mwy ym mywyd y Parchedig Bill Parry, y cymeriad lliwgar o Gaernarfon. Trodd o fod yn ddyn i fod yn ddynes o'r enw Dian.
Yn Druidston yn Sir Benfro, datgelwyd beth oedd wedi bod yn digwydd y tu ôl i nifer o shitiau sinc. Roedd yr AS Llafur o Loegr, Bob Marshall Andrews yn codi eco-dŷ gyda rhan helaeth ohono dan ddaear. Cafodd ei alw yn Tŷ Teletubbies.
Arwydd arall o'r amserau oedd fod y siop ddillad isa' a rhyw, Ann Summers, wedi agor ei siop gynta' yng Nghymru - yng Nghaerdydd, wrth gwrs.
Dyn mwya' amhoblogaidd y flwyddyn yng Nghymru oedd y beirniad bwyd, A.A. Gill. Fe alwodd y Cymry yn "ugly trolls" gan ddechrau ar ffasiwn newydd o ymosod ar drigolion Gwlad y Gân.
MARWOLAETHAU
R. Tudur Jones oedd prif hanesydd anghydffurfiaeth Cymru, ac yn brifathro coleg a phregethwr mawr hefyd. Roedd yn efengylaidd ei duedd a hefyd yn gyn ymgeisydd a ffigwr amlwg ym Mhlaid Cymru. Bu'n Olygydd papur y Blaid, Y Ddraig Goch.
Roedd yna sioc pan fu farw'r pêl-droediwr, Robbie James, yn ddim ond 41 oed. Ef oedd un o sêr lleol Abertawe pan aethon nhw i'r Adran Gyntaf.
Bu farw Shân Emlyn yn 61 mlwydd oed - roedd yn enwog am ei gwaith yn y byd canu gwerin ac am ei chysylltiadau gyda Patagonia.
Bardd-bregethwr oedd Eirian Davies ac roedd yn is-olygydd ar Y Faner pan oedd ei wraig, Jennie Eirian, yn olygydd.
Roedd Dorothy Squires wedi cael ei geni mewn fan deithiol ym Mhontyberem a bu farw yn Ysbyty Llwynypia, Y Rhondda. Bu'n un o gantorion mwya' poblogaidd yr 1940au ac mi fu'n briod gyda'r actor Roger Moore.
Roedd Hugh Cudlipp o Benarth yn un o dri brawd a fu'n golygu papurau mawr Fleet Street. Ef oedd yr enwoca' ohonyn nhw, yn sicrhau mai'r Daily Mirror yn y 50au oedd y papur mwya' poblogaidd yng ngwledydd Prydain.
Ymhlith marwolaethau eraill y flwyddyn, roedd:
Helen Wills Moody - un o'r chwarewyr tennis enwoca'.
Dr Spock - nid Mr Spock o Star Trek, ond yr arbenigwr ar fagu plant.
William Condry - yr awdur am fyd natur a fu'n byw yn Eglwysfach, Ceredigion, ac a ysgrifennodd yn helaeth am Gymru.
Joan Hickson - yr actores a fu'n actio Miss Marple mewn fersiynau o nofelau ditectif Agatha Christie. Roedd yn 92 oed.
Tammy Wynette - y gantores ganu gwlad o America
Florence Griffith-Joyner - y rhedwraig, yn ddim ond 29 oed.
Sonny Bono - yn yr un flwyddyn ag y cafodd ei gyn-wraig, Cher, rif 1 yn y siartiau.
Frank Sinatra - y crwner byd enwog.
Catherine Anne Cookson - awdur straeon hanes rhamantaidd.
Ian MacGregor - y dyn busnes caled o Ganada a arweiniodd y Gorfforaeth Ddur a'r Bwrdd Glo adeg y Streic Fawr.
Giant Haystacks - y reslar
 |
 |
 |
 |
|


[an error occurred while processing this directive]
[an error occurred while processing this directive]
[an error occurred while processing this directive]
|