ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cofio...?
Dathliadau Etholiad y Cynulliad
Y Penawdau, y pethau, y bobl...
Dathiadau mawr wedi etholiad y Cynulliad ar Fai 6ed, 1999

Clicwch ar bwnc:

Cymru
Y Byd
Cerddoriaeth
Celfyddydau
Ffilmiau
Teledu a Radio
Chwaraeon
Gwyddoniaeth
Ffordd o Fyw
Marwolaethau

CYMRU

  • Cafwyd etholiadau i'r Cynulliad Cenedlaethol ac agorwyd y sefydliad yn swyddogol gan y Frenhines. Roedd Plaid Cymru wedi rhoi sawl sioc i Lafur trwy ennill seddi annisgwyl yn Islwyn, y Rhondda a Llanelli. O ganlyniad, doedd gan Lafur ddim mwyafrif clir.

  • Roedd yna helynt wrth i Alun Michael gael ei ethol yn arweinydd newydd y Blaid Lafur yng Nghymru yn dilyn ymddiswyddiad Ron Davies. Roedd rhai'n ei weld yn bwdl i Lundain a Tony Blair yn erbyn 'dewis y bobol', Rhodri Morgan.

  • Bu farw bachgen 15 oed a dau oedolyn ym Mhontypridd o lid yr ymennydd. Erbyn Chwefror, roedd 13 o blant ac oedolion yn yr ysbyty yn dioddef o'r afiechyd. Cyn diwedd y flwyddyn, bu farw dau yn ardal Cei Conna hefyd.

  • Penderfynodd y Llywodraeth y byddai 10,000 o filwyr yng Nghymru yn cael iawndal oherwydd cyflwr 'vibration white finger', a achoswyd gan ddrilio cyson.

  • Bu raid i Ron Davies ymddiswyddo unwaith eto, y tro yma o fod yn Gadeirydd Pwyllgor Datblygu Economaidd y Cynulliad. Cyfaddefodd fod ganddo broblem seicolegol ynghylch rhyw gyda dynion dieithr.

  • Ym mis Mehefin y digwyddodd un o'r llofruddiaethau gwaetha' yn hanes Cymru. Cafodd tair cenhedlaeth o'r un teulu eu lladd yng Nghlydach yng Nghwm Tawe - Mandy Power, ei mam, a'i dwy ferch. Cymerodd flynyddoedd cyn i neb gael ei arestio ac mae'r dyn hwnnw wedi apelio yn erbyn dedfryd o garchar am oes.

  • Roedd yna helynt ar ôl i'r AC, Christine Gwyther, gael ei gwneud yn Ysgrifennydd Amaeth y Cynulliad. Mae hi'n llysieuwraig ac yn erbyn hela llwynogod.

  • Bu raid i'r A.C. Rod Richards roi'r gorau i arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol yn y Cynulliad er mwyn bod yn rhydd i ymladd cyhuddiadau o anafu merch ifanc yn ddifrifol mewn digwyddiad yn Llundain.

  • Cyhoeddwyd y byddai 1,000 o swyddi'n mynd o fewn y cwmni dŵr Cymreig Hyder. Roedden nhw'n rhoi'r bai ar afael rhy lym y rheoleiddiwr dŵr.

  • Cafwyd ymgyrch i berswadio Ffrainc i roi Llythyr Pennal gan Owain Glyn Dŵr yn ôl i Gymru. Hwnnw oedd yn dangos dyheadau Glyn Dŵr i greu gwladwriaeth annibynnol ac, yn y diwedd, cyhoeddwyd y byddai'n dod ar fenthyg i'r Llyfrgell Genedlaethol. br />

    Y BYD

  • Ddechrau'r flwyddyn daeth arian newydd i'r Undeb Ewropeaidd. Er gwaetha' trafferthion gyda'i werth, mae'r Euro wedi ennill ei blwy, ond nid yng ngwledydd Prydain.

  • Yn yr Unol Daleithiau, fe gafwyd yr Arlywydd Bill Clinton yn ddieuog yn yr achos uchelgyhuddo yn ei erbyn tros ei berthynas rywiol â'r weithwraig ifanc, Monica Lewinsky.

  • Cafwyd bomiau hoelion yng nghanol Llundain, wrth i ddyn o'r enw David Copeland gynnal ymgyrch gasineb yn erbyn pobol hoyw a lleiafrifoedd ethnig. Lladdwyd tair gwraig gan un o'r bomiau, yn nhafarn yr Admiral Duncan yn Soho.

  • Daeth y rhyfel yn Kosovo i ben ar ôl cytundeb heddwch rhwng NATO ac Iwgoslafia. Ond roedd rhagor o helynt i ddod a chafodd arweinydd y Serbiaid, Slobodan Milosevic, ei gyhuddo o droseddau yn erbyn dynoliaeth.

  • Yn Seattle, cafwyd protestiadau anferth yn erbyn globaleiddio - dechrau ar gyfres o wrthdystiadau o'r fath yn ystod y blynyddoedd wedyn.

  • Trosglwyddwyd grym o Lundain i Weithgor Rhannu Grym yng Ngogledd Iwerddon ac i Senedd yr Alban.

  • Bu farw 31 o bobol yn namwain rheilffordd Ladbroke Grove ar gyrion Llundain y lein o Gaerdydd i orsaf Paddington.

  • Cafwyd rhyfel deufis rhwng India a Phacistan, tros diriogaeth Kashmir. Roedd India'n hawlio buddugoliaeth. Ac yn Rwsia, lladdwyd 166 mewn ymosodiad ar floc o fflatiau. Ymladdwyr o Chechnya oedd yn cael y bai am osod y bom.

  • Ar ddiwrnod ola'r flwyddyn, ymddiswyddodd Boris Yeltsin o fod yn Arlywydd Rwsia, cafodd ei olynu gan Vladimir Putin. Roedd Arlywydd De Affrica, Nelson Mandela, hefyd wedi ymddeol, gyda Thabo Mbeki yn dod yn ei le.

  • Er bod blwyddyn i fynd mewn gwirionedd, roedd pobl yn dathlu'r Mileniwm newydd am hanner nos ar Ragfyr 31. Agorwyd Dôm y Mileniwm gan y Frenhines ond chafwyd dim o'r anhrefn a ofnwyd gyda chlociau cyfrifiaduron

    CERDDORIAETH

    Yn Gymraeg...

  • Roedd gwobr Cân i Gymru wedi codi i £10,000 a myfyriwr yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, Steffan Rhys Williams aeth â hi gyda Torri'n Rhydd. Roedd cystadleuydd arall, Héctor MacDonald, wedi teithio o Batagonia i gymryd rhan.

  • Cafodd dau siaradwr Cymraeg, Huw Stephen a Bethan Elfyn, eu dewis yn gyflwynwyr am noson yr wythnos ar Radio 1.

  • Cyhoeddodd y band Tokyu gasgliad o'u goreuon dan y teitl CD Mawr y Plant, gyda chlawr yn edrych yn union fel yr hen lyfr ... a daeth Belinda gan Big Leaves, a

  • Cyhoeddodd cwmni Sain gasgliad tri degawd i nodi ei ben-blwydd yn 30 oed ac unodd nifer o artistiaid i ganu amrywiaeth o ganeuon Emyr Huws Jones.

  • Er hynny, hen ganeuon oedd ar gasgliad mwya' dylanwadol y flwyddyn, degawd o ganeuon y band Datblygu.

    ac yn Saesneg...

  • Roedd dau fand o Gymru, Catatonia a'r Manic Street Preachers, yn cystadlu yn erbyn ei gilydd am wobrau Brit mewn tri chategori - y sengl orau, yr albwm gorau a gwobr fawr y grŵp gorau. Enillodd y Manics y ddau gategori ola'.

  • Albwm y Stereophonics, Performance and Cocktails, oedd gwerthwr gorau'r flwyddyn yn y DU gan ennill disg blatinwm o fewn tair wythnos.

  • Cafodd Robbie Williams flwyddyn dda; daeth Britney Spears i mewn i'r siartiau a llwyddodd Westlife i gael rhif 1 y Nadolig gan ddisodli Cliff Richard a'i fersiwn gawslyd o Weddi'r Arglwydd ar diwn Auld Lang Syne.

  • Ac at y dyfodol, daeth Eminem draw gyda'i fath newydd o rap a chymeriad o'r enw Slim Shady.

  • Dyma rifau 1 y flwyddyn, yn cael eu harwain gan gymeriad oddi ar y rhaglen animeiddio, South Park - roedd honno yno ar droad y flwyddyn:
    Chef - Chocolate Salty Balls (PS I Love You)
    Steps - Heartbeat/Tragedy
    Fatboy Slim - Praise You
    911 - Little Bit More
    Offspring - Pretty Fly For a White Guy
    Armand Van Heleden featuring Duane Heden - You Don't Know Me
    Blondie - Maria
    Lenny Kravitz - Fly Away
    Britney Spears - Baby One More Time
    Boyzone - When The Going Gets Tough
    B*Witched - Blame It On The Weatherman
    Mr Oizo - Flat Beat
    Martine McCutcheon - Perfect Moment
    Westlife - Swear It Again
    Backstreet Boys - I Want It That Way
    Boyzone - You Needed Me
    Shanks & Bigfoot - Sweet Like Chocolate
    Baz Luhrmann - Everyone's Free (To Wear Sunscreen)
    S Club 7 - Bring It All Back
    Vengaboys - Boom Boom Boom Boom
    ATB - 9PM (Till I Come)
    Ricky Martin - Livin' La Vida Loca
    Ronan Keating - When You Say Nothing At All
    Westlife - If I Let You Go
    Geri Halliwell - Mi Chico Latino
    Lou Bega - Mambo Number Five
    Vengaboys - We're Going To Ibiza
    Eiffel 65 - Blue (Da Be Dee)
    Christina Aguilera - Genie In A Bottle
    Westlife- Flying Without Wings
    Five - Keep On Movin'
    Geri Halliwell - Lift Me Up
    Robbie Williams - She's The One
    Wamdue Project - King Of My Castle
    Cliff Richard- Millenium Prayer
    Westlife - I Have A Dream/ Seasons In The Sun

    CELFYDDYDAU

  • Dechreuodd y gwaith ar Wyddoniadur Cymru, enseiclopidia mawr cynta'r Gymraeg ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae ar fin ymddangos ... medden nhw.

  • Roedd yna brotestio mawr tros strategaeth ddrama Cyngor y Celfyddydau ac, ar ôl yr holl gwyno, achubwyd cwmni Hijinx sy'n gweithio gydag actorion ag anableddau.

  • Cafodd Cysgod y Cryman gan Islwyn Ffowc Elis ei bleidleisio'n llyfr Cymraeg mwya' dylanwadol a phwysig yr 20fed ganrif

  • Bu'r ddau ganwr Cymraeg, y bariton, Bryn Terfel, a'r tenor, Gwyn Hughes Jones, yn canu gyda'i gilydd yn Falstaff yn Chicago, tra bu'r cyfansoddwr Alun Hoddinott a'r awdur John Owen yn cydweithio ar sgrifennu opera am lowyr y Tŵr.

  • Bardd a anwyd yn Llundain, Ifor ap Glyn, a enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol gyda cherdd am ddysgwyr. Os methodd ei dad, Dai Lloyd Evans, i gipio sedd Cynulliad, llwyddodd Gwenallt Llwyd Ifan i gael y Gadair. Gyda'r Eisteddfod ym Môn aeth y Fedal Ryddiaith i awdures leol, Sonia Edwards.

  • Llyfr arall mawr y flwyddyn oedd Llyfr y Ganrif - crynodeb gan rai o staff y Llyfrgell Genedlaethol o ddigwyddiadau'r 20fed ganrif ar ei hyd.

  • Cyhoeddodd y bardd, Gwyneth Lewis, gyfrol wreiddiol, gyda cherddi'n dychmygu'r ymchwiliad ar ôl i'r iaith Gymraeg gael ei llofruddio. Cyhoeddodd Twm Morys ac Iwan Llwyd gyfrol, Eldorado - cerddi a sgrifennwyd ganddyn nhw ar gyfer cyfres deledu o Dde America.

  • Roedd Eisteddfod yr Urdd yn Llanbed ac enillodd rhai o sêr y dyfodol - y bardd, y gantores a'r llenor Fflur Dafydd yn ennill y Fedal Lenyddiaeth, y gyflwynwraig gelf, Luned Emyr, yn cael y Fedal Ddrama, a Tudur Rhys Hallam yn ennill y Gadair. Aeth y Goron i Einir Gwenllian Thomas. A Mirain Haf oedd enillydd cynta' Ysgoloriaeth Bryn Terfel i berfformwyr.

  • Cyhoeddodd Jon Meirion Jones gyfrol swmpus am hanes ei deulu - Bois y Cilie a dechreuodd Gwasg Carreg Gwalch gyhoeddi casgliadau poced dan y teitl Pigion 2000.

  • Un o awduron newydd Saesneg gorau Cymru oedd John Williams, a gafodd ganmoliaeth uchel am ei gyfrol straeon am Gaerdydd, Five Pubs, Two Bars and a Nightclub.

    TELEDU A RADIO

  • Dechreuodd Talcen Caled, un o gyfresi drama fwya' boblogaidd S4C.

  • Mwy poblogaidd fyth oedd Tair Chwaer, a enillodd chwe gwobr BAFTA Cymru a gorffen y flwyddyn gyda ffilm, Cymer dy Siâr.

  • Cafwyd Porc Pei hefyd, stori wedi ei seilio i raddau ar blentyndod yr awdur a'r actor, Wynford Ellis Owen, a dilynwyd honno gan ffilmio cyfres gomedi, Porc Peis Bach.

  • Daeth cymeriad newydd i'r byd comedi Saesneg - Ali G, creadigaeth yr hanner Cymru, Sacha Baron Cohen. A daeth y Cymro Cymraeg, Huw Edwards i gyflwyno Newyddion 6 y ÃÛÑ¿´«Ã½.

  • Daeth Sex and the City o America i ddangos ladettes Manhattan a sgrifennodd y Cymro, Russel T. Davies, gyfres arloesol, Queer as Folk, am gymuned hoyw Manceinion.

  • Dyrchafiad i ferched - daeth Menna Richards yn bennaeth benywaidd cynta' ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru ac aeth Sioned Wiliam o'r Barri yn bennaeth comedi ITV.

  • Roedd yna gwyno ddechrau'r flwyddyn fod Pobol y Cwm yn rhy gry' i'w ddangos am 7 y nos, ond gwellodd pethau i'r selogion pan ddaeth Meic Pierce yn ôl i Gwm Deri.

  • Cyfres uchelgeisiol ar S4C oedd Cymru 2000, portread o hanes y genedl tros ganrif gyfan.

  • Cyfres fwya' uchelgeisiol y ÃÛÑ¿´«Ã½ oedd Walking with Dinosaurs, gyda chyfrifiaduron a thechnoleg modelau'n ail-greu'r creaduriaid cynhanesyddol.

    FFILMIAU

  • Yn ogystal â ffilm y Tair Chwaer ddydd Nadolig, roedd gan S4C ffilm fawr ar noson ola'r flwyddyn hefyd, gyda 31.12.99 yn tynnu ar stori Richey Edwards o'r Manic Street Preachers. Roedd y sgript gan Meic Povey.

  • Roedd Solomon a Gaenor wedi'i gwneud yn Gymraeg a Saesneg - gyda stori am Iddew a Chymraes ifanc yn y Cymoedd ar ddechrau'r ganrif. Ioan Gruffudd a Nia Roberts oedd y sêr ac roedd Maureen Lipman ynddi hefyd.

  • Daeth yr actor o Ddinbych, Rhys Ifans, a'i drôns, yn enwog wrth actio gyda Julia Roberts a Hugh Grant yn y ffilm, Notting Hill.

  • Roedd yna ganmoliaeth hefyd i ffilm gan Justin Kerrigan, cyfarwyddwr o Gaerdydd, Human Traffic.

  • Llwyddiant annisgwyl y flwyddyn oedd The Blair Witch Project, ffilm rad iawn gan griw o bobol ifanc, ond un oedd yn creu arswyd ac ofn.

  • A'r ffilm 'amatur' Gymraeg oedd Hambons a wnaed gan bobol ifanc leol ar gyfer Eisteddfod yr Urdd gan ddangos y gwrthdaro rhwng siaradwyr Cymraeg lleol a mewnfudwyr.

  • Seren annisgwyl y flwyddyn oedd cyn-chwaraewr pêl-droed Cymru, Vinnie Jones, yn actio dyn caled yn Lock, Stock and Two Smoking Barrels.

    CHWARAEON

  • Agorodd Stadiwm y Mileniwm a'r Cymro, Mark Taylor, oedd sgoriwr y cais cynta' yno, mewn gêm yn erbyn De Affrica.

  • Yn yr hydref, cynhaliwyd Cwpan Rygbi'r Byd yn y stadiwm gydag Awstralia yn ennill.

  • Ond roedd yna helynt yn y byd rygbi hefyd wrth i'r maswr a'r ciciwr Neil Jenkins adael Pontypridd am Gaerdydd a'r Undeb Rygbi'n cael eu cyhuddo o helpu'r clybiau mawr.

  • Talwyd arian mawr hefyd i ddenu'r hanner Cymro, y canolwr Jason Jones-Hughes o Awstralia, ond siomedig oedd ei berfformiadau.

  • Y rhedwr 400 metr, Iwan Thomas, a enillodd Bersonoliaeth Chwaraeon Cymru ddechrau'r flwyddyn ond cafodd anaf drwg wedyn.

  • Colin Jackson oedd seren yr athletwyr unwaith eto trwy gipio teitl pencampwr y byd yn y 110 metr tros y clwydi.

  • Torrodd Hicham El Guerrouj Record y Byd am y 1500 metr cyflyma' erioed yn Rhufain, mewn 3:40:13 munud

  • Enillodd yr Americanwr, Lance Armstrong, ras feiciau y Tour de France am y tro cynta' o lawer gwaith.

  • Llwyddodd Manchester United i ennill Cynghrair Pencampwyr Ewrop trwy guro Bayern Munich o ddwy gôl i un.

  • Er ei bod hi wedi ennill llu o deitlau, cafodd y feicwraig o Gaerdydd, Nicole Cooke, glywed ei bod yn rhy ifanc i gystadlu yng Ngemau Olympaidd 2000.

    GWYDDONIAETH A THECHNOLEG

  • Er bod y 'Melissa Worm' wedi ymosod ar y rhyngrwyd, roedd hi'n flwyddyn fawr i ddatblygiadau cyfrifiadurol: MySpace.com yn cael ei lawnsio'n swyddogol ar y rhyngrwyd Cyfrifiaduron Apple yn lawnsio'r iBook cynta'. Sega yn rhyddhau'r Dreamcast Games Console. Yn bwysicach na dim, cyhoeddwyd y fersiwn gynta' o MSN gan Microsoft.

  • Yng Nghymru, cyhoeddodd cwmni Broadsword Interactive o Aberystwyth y gêm gyfrifiadurol Gymraeg gynta' - fersiwn o Spirit of Speed.

  • Roedd yna ddiffyg llwyr ar yr haul i'w weld yng ngwledydd Prydain - fydd dim un arall tan 2090.

  • Bertrand Piccard a Brian Jones oedd y ddau gynta' i fynd o amgylch y ddaear mewn balŵn awyr poeth.

    FFORDD O FYW

  • Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, cyrhaeddodd poblogaeth y byd 6 biliwn gyda geni babi yn Sarajevo, Bosnia a Herzegovina.

  • Ffasiwn deithio'r flwyddyn oedd sgwters bach yr oedd yn bosib eu lapio ... ond roedden nhw'n beryg bywyd ar balmentydd.

  • Daeth Sara Ogwen, merch Jenny ac Euryn Ogwen, a brawd y cyflwynydd teledu, Rhodri, yn enwog dros nos ar ôl gwisgo ffrog wedi ei gwneud o Ddraig Goch.

  • Roedd Red Bull yn ddiod boblogaidd mewn clybiau dawns - diod ynni newydd oedd yn llawer cryfach o'i gymysgu gyda fodca!

  • Dim ond enw'r Urddaholics oedd yn swnio'n feddw - dyma ymgais newydd Urdd Gobaith Cymru i ddenu pobol ifanc tros 16 oed.

  • Priodas y flwyddyn oedd un David Beckham a Victoria Adams - Becks a Posh Spice.

  • Cymro Cymraeg o Lansannan, Eryl Williams, oedd un o gynllunwyr cwmni dillad chwaraeon Puma, yn gwneud shinguards Ryan Giggs a menig y golwr Shaka Hislop ... ymhlith pethau eraill.

  • Dth tcstn bblgdd - mewn geiriau eraill, daeth tecstio'n boblogaidd wrth i ffonau symudol ddatblygu i anfon negeseuon, a chyhoeddwyd llyfrau'n esbonio'r iaith newydd.

  • Arwydd o rym datganoli oedd bod y Daily Mirror wedi sefydlu argraffiad Cymreig, The Welsh Mirror, gyda staff yng Nghaerdydd.

  • Arwydd o bwysigrwydd yr amgylchedd ac argyfwng byd ffermio oedd Tir Gofal, cynllun newydd i roi arian am ffermio gwyrdd ... ac roedd Cymru'n arwain Ewrop.

    MARWOLAETHAU

  • Roedd R. Gerallt Jones yn ddyn amryddawn, yn ymwneud ag addysg a theledu ac yn awdur a beirniad llenyddol.

  • Yn ôl rhai, J.E. Caerwyn Williams oedd un o'r ysgolheigion Celtaidd mwya' erioed.

  • Roedd yna nifer o golledion ym myd actio, gan gynnwys Meredith Edwards (un o sêr Ealing erstalwm), Dilwyn Owen (actor traddodiadol ar gyfresi fel Pobol y Cwm a Licyris Olsorts) a Harriet Lewis (Maggie Post o Pobol y Cwm).

  • Actorion a chymeriadau oedd Guto Roberts (y tad o'r Gogledd yn Fo a Fe), Elfed Lewys, a oedd hefyd yn faledwr mawr, ac Elen Roger Jones, yr adroddwraig.

  • Awdur prin oedd Ifor Wyn Williams - sgrifennodd lyfrau antur gwych i bobol ifanc, fel Mwg Melys ac Yr Arwr Main, cyn cipio'r Fedal Ryddiaith am ei nofel am Gruffydd ap Cynan, Gwres o'r Gorllewin.

  • Ymhlith y marwolaethau eraill, roedd:
  • Ioan Bowen Rees - mynyddwr, awdur a phennaeth llywodraeth leol
  • O.M. Roberts - un o gynorthwywyr Tri Penyberth, adeg llosgi'r Ysgol Fomio yn 1936.
  • Ernest Zobole - yr artist o'r Rhondda
  • Desmond Llewelyn - yr actor o Went - Q yn ffilmiau James Bond
  • Johnny Morris - y cyflwynydd teledu o Gasnewydd oedd yn rhoi lleisiau i anifeiliaid ar Animal Magic erstalwm
  • Yr Arglwydd Robens - y dyn oedd wrth y llyw yn y Bwrdd Glo adeg trychineb Aberfan
  • Iris Murdoch - y nofelydd Saesneg o Iwerddon
  • Joe di Maggio - seren pêl-fas a chyn-ŵr Marilyn Monroe.
  • Yehudi Menuhin - un o'r feiolinwyr enwoca' erioed.
  • Ernie Wise - yr un bach efo'r coesau blewog o bartneriaeth Morcambe and Wise.
  • Jill Dando - y gyflwynwraig deledu a lofruddiwyd ar garreg ei drws.
  • Oliver Reed - actor da a rafin gwell
  • Dirk Bogarde - actor a dyn bonheddig
  • Sir Alf Ramsey - y rheolwr a arweiniodd Loegr i Gwpan y Byd yn 1966
  • Mario Puzo, awdur The Godfather, a Joseph Heller, awdur Catch-22.
  • Screaming Lord Sutch - y gwleidydd dychanol a safodd mewn mwy o etholiadau na neb arall erioed


  • Cofio...

    [an error occurred while processing this directive] [an error occurred while processing this directive] [an error occurred while processing this directive]


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý