 |
 |
 |
Y penawdau, y pethau, y bobl... |
 |
 |
 |
Tanni Grey-Thompson yn cipio un o brif wobrau "Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn" y ÃÛÑ¿´«Ã½
Clicwch ar bwnc:
Cymru Y Byd Cerddoriaeth Celfyddydau Ffilmiau Teledu a Radio Chwaraeon Gwyddoniaeth Ffordd o Fyw Marwolaethau
CYMRU
Cafodd y Prif Ysgrifennydd, Alun Michael, ei wrthod mewn pleidlais o ddiffyg hyder gan y Cynulliad a daeth Rhodri Morgan yn ei le. Cyn diwedd y flwyddyn, newidiwyd ei deitl ef yn Brif Weinidog.
Erbyn diwedd y flwyddyn, roedd wedi taro bargen gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol i ffurfio llywodraeth ar y cyd. Cafodd y Democratiaid ddwy sedd yn y Cabinet.
Daeth gwleidydd newydd i'r amlwg, wrth i'r ffermwr o Glwyd, Brynle Williams, arwain protestiadau tros bris tanwydd. Yn ddiweddarach byddai'n dod yn AC Toriaidd. Bu sawl blocâd ar ganolfannau olew trwy wledydd Prydain gan greu anhrefn.
Roedd yna helynt yn Shir Gâr tros benodi uwch swyddog newydd I fod yn gyfrifol am addysg a diwylliant - roedd cwyno ar ôl i'r Cyfarwyddwr Addysg ar y pryd, Keith Davies, fethu â chael cyfweliad. Mae bellach yn gynghorydd ei hun.
Cafwyd isetholiad yng Ngheredigion ar ôl i Cynog Dafis roi'r gorau i swydd aelod seneddol er mwyn canolbwyntio ar y Cynulliad. Cadwodd Plaid Cymru y sedd yn gyfforddus, trwy Simon Thomas.
Ymddiswyddodd Dafydd Wigley o fod yn Llywydd Plaid Cymru a'i harweinydd yn y Cynulliad - yn rhannol oherwydd iechyd ond yn rhannol am ei fod yn teimlo nad oedd pawb yn ei gefnogi.
Roedd yna sawl galwad am ddychwelyd Llythyr Pennal i Gymru er mwyn dathlu 600 mlwyddiant coroni Owain Glyn Dŵr yn Dywysog Cymru. Yn y diwedd, cafodd y Llyfrgell Genedlaethol hawl gan Ffrainc i fenthyg y llythyr a oedd yn amlinellu dyheadau Glyn Dŵr.
Galwodd Adroddiad Waterhouse i gam-drin plant yn y Gogledd am sefydlu Comisiynydd Plant i Gymru - y cynta' yn y DU. Daeth y swydd i fod y flwyddyn wedyn.
Roedd yna ragor o drafod ar ddiogelwch rheilffyrdd ar ôl i ddwy ferch fach gael eu lladd yn croesi'r lein ger Borth yng Ngheredigion.
Agorwyd yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Llanarthne ger Llandeilo, gyda tho'r tÅ· gwydr yr un mwya' yn Ewrop.
Y BYD
Kala Sosefina Mileniume Kauvaka o Tonga oedd babi cynta'r byd yn y Mileniwm newydd. A chryfhaodd galwadau'r ymgyrch Jiwbilî 2000 am ddileu dyledion y Trydydd Byd.
Dedfrydwyd y Dr Harold Shipman o ardal Manceinion i dreulio gweddill ei fywyd yn y carchar am ladd o leia' 15 o'i gleifion dan ei ofal. Ond roedd amheuaeth ei fod wedi lladd mwy na 300 arall.
Tynnodd Israel ei lluoedd o Libanus am y tro cynta' ers 22 mlynedd ond creodd ei phrif weinidog newydd, Ariel Sharon, anhrefn wrth ymweld ag un o safleoedd crefyddol y Moslemiaid yn Jeriwsalem. Dyna ddechrau gwrthryfel newydd ymhlith y Palesteiniaid - yr Intifada.
Damwain Concorde ym Mharis - 113 yn cael eu lladd wrth i'r awyren Air France gwympo i'r ddaear wrth geisio codi. Codwyd ofnau am ddiogelwch Concordes eraill hefyd.
Lladdwyd dau o gefnogwyr clwb pêl-droed Leeds pan oedd eu tîm yn chwarae allan yn Nhwrci, yn erbyn Galatasaray.
Y gweriniaethwr George W Bush yn curo'r Democrat Al Gore i ddod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau. Ond, roedd amheuon mawr tros ddilysrwydd y canlyniad yn Florida a gohiriwyd y datganiad terfynol am fis.
Bom yn ffrwydro mewn banc yn Wall Street, Efrog Newydd, gan anafu nifer o bobl - yr ymosodiad terfysgol cynta' allan o 11 ar y byd Gorllewinol yn ystod y pum mlynedd nesa'.
Bu raid i Slobodan Milosevic ymddiswyddo o fod yn Arlywydd Serbia ar ôl cyfres o brotestiadau cyhoeddus.
Daeth Vladimir Putin yn Arlywydd Rwsia yn lle Boris Yeltsin, gan gryfhau gafael haearn y Llywodraeth.
Cafodd dau achos llofruddiaeth sylw mawr yn Lloegr - bu galwadau am ddeddf newydd i ddatgelu enwau troseddwyr rhyw ar ôl llofruddiaeth merch fach o'r enw Sarah Payne, a dechreuodd cyfres o ymchwiliadau ac achosion llys tros farwolaeth bachgen croenddu o'r enw Damilola Taylor. Dim ond yn 2006 y llwyddwyd i alw ei laddwyr i gyfri'.
CERDDORIAETH
Yn Gymraeg ...
Cafodd y Big Leaves bedair gwobr yn seremoni Gwobrau Roc a Phop Radio Cymru.
Cafwyd yr ymgais ddiweddara' i greu band poblogaidd i'r 'kids' Cymraeg, gyda Cic - band a chyfres deledu. Ymgais arall â thafod yn y boch oedd Bois Bach, y 'boi band' o ardal Crymych.
Cyhoeddodd y Super Furry Animals eu halbwm fawr Gymraeg gynta', Mwng, a chael llwyddiant mawr. A chyhoeddodd MC Mabon (alias Griff Meredith) ei albwm cynta' yntau.
Roedd Adiemus, gan y cyfansoddwr o Benrhyn Gwyr, Karl Jenkins, ar frig y siartiau clasurol.
Daeth Gwenda Owen yn ôl i ganu ar ôl brwydro i guro canser.
Cafwyd cyhuddiadau fod Arfon Wyn, enillydd Cân i Gymru, wedi benthyg syniadau gan fand o Iwerddon ar gyfer ei gân fuddugol, Cae o Ŷd. Roedd ef yn gwadu hynny a ddaeth dim o'r cwynion yn y diwedd.
Yn Saesneg ...
Roedd dyddiau'r rhifau 1-am-wythnosau wedi hen fynd, gyda'r brif gân yn newid bron pob wythnos.
Fe fu'r cerddor o'r Garnant, John Cale, yn ôl yng Nghymru yn gwneud ffilm am roc Cymraeg, Beautiful Mistake.
Fel arfer, roedd yna record ryfedd ar y brig tros y Nadolig, gyda Bob the Builder yn disodli'r rapiwr, Eminem.
Dyma'r rhifau 1:
Westlife - I Have A Dream/Seasons In The Sun
Manic Street Preachers - Masses Against The Classes
Britney Spears - Born To Make You Happy
Gabrielle - Rise
Oasis - Go Let It Out
All Saints - Pure Shores
Madonna - American Pie
Chicane featuring Bryan Adams - Don't Give Up
Geri Halliwell - Bag It Up
Melanie C with Lisa 'Left Eye' Lopes - Never Be The Same Again
Westlife - Fool Again
Craig David - Fill Me In
Fragma - Toca's Miracle
Oxide & Neutrino - Bound 4 Da Reload (Casualty)
Britney Spears - Oops!...I Did It Again
Madison Avenue - Don't Call Me Baby
Billie Piper - Day & Night
Sonique - It Feels So Good
Black Legend - You See The Trouble With Me
Kylie Minogue - Spinning Around
Eminem - Real Slim Shady
Corrs - Breathless
Ronan Keating - Life Is A Rollercoaster
Five and Queen - We Will Rock You
Craig David - 7 Days
Robbie Williams - Rock DJ
Melanie C - I Turn To You
Spiller- Groovejet (If This Ain't Love)
Madonna - Music
A1 - Take On Me
Modjo - Lady (Hear Me Tonight)
Mariah Carey & Westlife - Against All Odds
All Saints - Black Coffee
U2 - Beautiful Day
Steps - Stomp
Spice Girls - Holler/Let Love Lead The Way
Westlife - My Love
A1 - Same Old Brand New You
LeAnn Rimes - Can't Fight The Moonlight
Destiny's Child - Independent Women Part 1
S Club 7 - Never Had a Dream Come True
Eminem - Stan
Bob The Builder - Can We Fix It?
CELFYDDYDAU
Roedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli ac, wrth ennill y Fedal Ryddiaith, llwyddodd yr awdur Eurig Wyn i dwyllo'r beirniaid i feddwl mai merch oedd. Aeth y Gadair i'r darlithydd Llion Jones a'r Goron i'r newyddiadurwr Dylan Iorwerth.
Cafodd dau o gewri'r byd rygbi eu gwneud yn aelodau o Orsedd y Beirdd - Orig 'El Bandito' Williams, y reslar, a Delme Thomas, un o arwyr rygbi Llanelli a Chymru.
Ym myd cerdd, cafodd y cyfansoddwr Guto Puw sylw ym Mangor wrth drefnu perfformiad gan feicwyr, yn canu eu clychau, canu a chwythu. Ac fe ddaeth y gantores Shan Cothi yn enwog wrth ennill rhan yn y sioe West End, Phantom of the Opera.
Yn y cyfamser, roedd yr actor Cymraeg, Matthew Rhys, yn mynd i'r gwely (ar lwyfan) gydag un o sêr mawr Hollywood, Kathleen Turner, mewn perfformiad o The Graduate.
Agorodd oriel newydd y Tate Modern yn Llundain a chynhaliwyd Gŵyl Bryn Terfel yn y Faenol ger y Felinheli am y tro cynta'.
Daeth y gwaith i ben o baratoi Caneuon Ffydd, y llyfr emynau ar y cyd i'r prif enwadau crefyddol. Ond bu raid gohirio'r cyhoeddi tan 2001 am fod cymaint wedi archebu copi ymlaen llaw - 60,000.
Cynhaliodd Gwasg Gomer gystadleuaeth Nofel 2000 i awduron newydd a chafodd ei hennill gan Owen Martell, gyda Cadw dy Ffydd, Brawd.
Cafodd Cymru Fardd Plant swyddogol am y tro cynta' - Myrddin ap Dafydd - a chafodd y ferch ifanc Catrin Finch ei gwneud yn delynores swyddogol i'r Tywysog Charles.
Bu raid i Joanna Weston ymddiswyddo o fod yn Brif Weithredwr Cyngor y Celfyddydau - dywedwyd fod y corff wedi "colli ei hygrededd" ar ôl sawl ffrae, gan gynnwys un tros theatr mewn addysg.
Roedd Eisteddfod yr Urdd ym Mro Conwy - aeth y Goron am yr ail dro i Einir Gwenllian Thomas, y Gadair i Ifan Prys, y Fedal Lenyddiaeth i Mari Stevens a'r Fedal Ddrama i Llinos Snelson.
FFILMIAU
Roedd hi'n flwyddyn wan o ran ffilmiau Cymreig, gyda'r brif un, Rancid Aluminium, yn cael ei lambastio.
Ond o leia' roedd Ioan Gruffudd yn 102 Dalmatians, dilyniant i ffilm enwog Walt Disney. Ac roedd cŵn bach o Gribyn a Sir Fôn yn cadw cwmni iddo.
Roedd yna Oscar am wisgoedd arbennig i Lindy Hemming o Grugybar ger Llandeilo. Y ffilm oedd Topsy Turvy.
Llwyddiant annisgwyl y flwyddyn oedd Billy Elliott, am fachgen o ardaloedd glo Swydd Efrog yn mynd o ganol Streic Fawr 1984 i fod yn ddawnsiwr ballet.
Un o'r ffilmiau a gafodd ei chanmol fwya' gan y beirniaid oedd Crouching Tiger, Hidden Dragon gan Ang Lee. Er mai ffilm Chinaeg oedd hi, roedd hi'n llwyddiant anferth yn America ac fe enillodd bedwar Oscar.
TELEDU A RADIO
Dyma flwyddyn y Brawd Mawr - daeth Big Brother i'r sgrîn a rhoi bywyd newydd mewn rhaglenni 'realiti'. A daeth un o gymeriadau comedi mawr y degawd i fod hefyd, wrth i'r hanner Cymro, Sacha Baron Cohen, ddyfeisio Borat o Kazakhstan.
Roedd yna ffrae anferth tros y rhaglen deledu Cân i Gymru ar ôl i S4C orfod cyfadde'' fod y systemau ffôn wedi methu a'r ffigurau terfynol wedi eu ffugio.
Roedd Dewi Pws yn cyfuno hiwmor a gwybodaeth wrth iddo ef a'r dyn camera, Alun Huws, grwydro i lefydd anghysbell y blaned yn Byd Pws.
Ar ôl trôns Notting Hill, roedd yna rôl fwy anarferol fyth i Rhys Ifans, yn llais i gartwnau teledu Sali Mali. Actor lad-aidd arall, Neil Morrissey, oedd llais Bob the Builder yn y cartŵn Saesneg.
Ymgais y flwyddyn at gomedi ar S4C oedd y sgetsus, Llwyth o Docs, gyda phobol fel Emyr 'Himyrs' Roberts ac Emyr Wyn a'r gyfres ddrama epig oedd Llafur Cariad gan Gareth Miles, am yrfa gwleidydd Llafur. Y gyfres ffeithiol fawr oedd Y Celtiaid, gyda'r newyddiadurwr Guto Harri'n cyflwyno.
CHWARAEON
Ffrainc yn ennill twrnament pel-droed Ewro 2000 wrth guro'r Eidal 2-1 ac, felly, yn bencampwyr Ewrop a'r Byd. A gosodwyd record byd wrth i Luis Figo gael ei drosglwyddo o Barcelona i Real Madrid am 60 miliwn Ewro, tua £40 miliwn.
Er fod Abertawe wedi ennill Pencampwriaeth y Drydedd Adran trwy gael gêm gyfartal yn Rotherham yng ngêm ola'r tymor, amharwyd ar y dathlu wrth i un o'u cefnogwyr, Terry Coles, gael ei ladd dan garnau un o geffylau'r heddlu.
Dim ond Cymry oedd yn rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd wrth i Mark Williams guro'r siaradwr Cymraeg Matthew Stevens o 18-16.
Daeth gyrfa athletwr mwya' llwyddiannus Cymru i ben heb fedal wrth i Colin Jackson ddod yn bumed yn y Gêmau Olympaidd yn Awstralia.
I lawer, Gêmau Cathy Freeman oedd y rheiny, wrth i'r ferch leol ennill yr aur yn y 400 medr. Enillodd y DU 11 aur, 10 arian a 7 efydd, gan ddod yn ddegfed. Enillodd Jonathan Edwards y naid driphlyg a chafodd y rhwyfwr Steve Redgrave ei bumed medal aur yn olynol yn y rhwyfo i bedwar, gan osod record newydd.
Trodd pump yn chwech wrth i'r Eidal ymuno â Phencampwriaeth Rygbi'r Chwe Gwlad ac roedd yna gap cynta' yn eu herbyn nhw i asgellwr ifanc o'r enw Shane Williams.
Roedd yna helynt yn y byd rygbi, wrth i Gymru gael eu cyhuddo o roi lle i chwaraewyr annilys. Yn groes i'r hyn a ddywedwyd, methodd dau chwaraewr o Seland Newydd, Brett Sinkinson a Shane Howarth, â phrofi fod eu teidiau'n dod o Gymru.
Dyma'r flwyddyn y daeth y ddwy chwaer, Venus a Serena Williams, i'r brig ym myd tennis. Enillodd Venus bencampwriaeth yr Unol Daleithiau ac wedyn Wimbledon, ar ôl curo ei chwaer yn y rownd gynderfynol.
Enillodd Tiger Woods dri o bedwar prif deitl y byd golff ac ennill bron $10miliwn mewn gwobrau.
Chwaraewyd y gêm ola' yn Stadiwm Wembley, gyda chwaraewr yr Almaen yn sgorio eu gôl ola' yno, wrth i'w wlad guro Lloegr o 1-0. Byddai hyn yn golygu fod prif gêmau pêl-droed Lloegr yn cael eu chwarae yn Stadiwm y Mileniwm am y chwe blynedd nesa' ... o leia'.
Dau ddyn cry - y chwaraewr rygbi, Delme Thomas, ac Orig 'El Bandito' Williams yn cael eu derbyn i'r Orsedd.
GWYDDONIAETH A THECHNOLEG
Cyhoeddodd gwyddonwyr eu bod bellach yn gallu mapio'r holl enynnau dynol.
Ar Chwefror 2, am y tro cynta' ers Awst 28, 888, roedd pob ffigwr yn y dyddiad yn eilrif - 02.02.2000.
Roedd gwyddonwyr yn Aberystwyth yn dweud eu bod wedi darganfod gwybodaeth newydd am natur cartilag ac y byddai hynny'n help mawr wrth drin anafiadau, ymhlith chwaraewyr pêl-droed, er enghraifft.
Roedd yna nifer o ddyfeisiadau newydd i helpu monitro iechyd a diogelwch o bell, gan ddefnyddio lloerennau neu signalau radio.
Mai 3 oedd y noson fawr i seryddwyr am fod yr haul, y lleuad a phump o'r prif blanedau yn agos iawn at ei gilydd yn y ffurfafen. Am fod hyn yn ddigwyddiad anghyffredin iawn, roedden nhw'n cynhyrfu'n ofnadwy.
FFORDD O FYW
Dilynodd dau o sêr Hollywood y ffasiwn diweddara' - priododd Catherine Zeta Jones o Abertawe a Michael Douglas, ychydig o fisoedd wedi geni eu mab, Dylan.
Crop tops, jins isel a thatŵs ar waelod y cefn oedd y ffasiwn i ferched.
I ddynion - jins bagi, isel gyda thrôns yn y golwg.
Un o'r swyddi a ddaeth ar gael yn ystod y flwyddyn oedd Cadeirydd Bwrdd yr Iaith - £24,000 y flwyddyn am ddeuddydd o waith yr wythnos.
Cafwyd enghraifft o wiriondeb gwario arian Loteri, gydag ymgais i gludo un o feini'r Preseli ar y môr i gyfeiriad Côr y Cewri. Fe suddodd ger glannau Sir Benfro. Caeodd Dôm y Mileniwm hefyd, un arall o'r cynlluniau Loteri mawr. ... ond o leia' cafodd Sharon Roberts o Ddeiniolen jacpot o fwy na £1 miliwn.
Tegan cwlt y flwyddyn oedd cardiau Pokemon ac roedd yna fersiwn bwrdd o'r gêm deledu Who Wants to be a Millionaire? a doliau Bob the Builder i'r plant bach.
Roedd yna ddadlau tros gynlluniau i blannu cnydau GM yn Sealand yn Sir y Fflint a Mathri yn Sir Benfro. Cafwyd protestiadau i'w rhwystro.
Roedd cwmni cludo Owens o Lanelli yn bygwth peidio â theithio dramor ar ôl cael dirwy am gario ffoaduriaid mewn lorri, heb yn wybod i'r gyrrwr. Mewn digwyddiad arall, cafwyd mwy na 50 o ffoaduriaid yn farw mewn lorri yn Dover.
Windows yn rhyddhau Windows 2000, ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn yn cyhoeddi Windows Me. Daeth Playstation 2 ar y farchnad a daeth feirws o'r enw y Love Bug i achosi anhrefn.
Rhedodd y trên bach am y tro cynta' ers degawdau rhwng Caernarfon a Waunfawr - y cam mawr cynta' i adfer lein fach Eryri.
Le Gallois - y bwyty Cymraeg-Ffrengig yng Nghaerdydd, oedd bwyty newydd gorau Cymru yn ôl The Good Food Guide.
MARWOLAETHAU
Howard Winstone o Ferthyr oedd un o bencampwyr paffio mwya' llwyddiannus Cymru - enillodd deitl pwysau plu y byd yn 1968.
R.S. Thomas oedd bardd Saesneg mwya' Cymru yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, gyda'i gerddi am fywyd cefn gwlad, cenedlaetholdeb a chrefydd. Roedd hefyd yn ffigwr gwleidyddol dadleuol.
Roedd Josef Herman yn arlunydd o Wlad Pwyl a ddaeth i fyw i ardal Ystradgynlais a threulio'r rhan fwya' o'i yrfa yn darlunio'r bobol leol, yn arbennig y glowyr.
Bargyfreithiwr a pherchennog cwmni cyhoeddi oedd Syr Alun Talfan Davies. Roedd hefyd yn enwog am ei ymrafael cyfreithiol yn erbyn y cylchgrawn Lol.
Roedd Emrys Jones yn un o newyddiadurwyr mwya' disglair Cymru ac yn dderyn drycin hefyd. Bu farw cyn cyrraedd ei hanner cant.
Ymhlith y marwolaethau eraill, roedd:
Paula Yates - cyn-wraig Bob Geldof a merch y cyflwynydd teledu, Jess Yates, o ardal Bae Colwyn.
Desmond Llewelyn - yr actor o Sir Fynwy, Q yn ffilmiau James Bond.
Rosemarie Frankland - y ferch o'r Rhos a ddaeth yn Miss World yn 1961.
Syr Stanley Matthews - un o chwaraewyr pêl-droed gorau Lloegr erioed.
Barbara Cartland - awdures binc y llyfrau rhamant.
Syr John Gielgud - un o'r actorion clasurol Saesneg.
Syr Alec Guinness - actor ac awdur.
Charles Shulz - yr arlunydd a greodd gartwnau Peanuts.
Syr Robin Day - arch-holwr teledu Lloegr.
Reggie Kray - un o'r ddau frawd a greodd ddychryn yn East End Llundain yn yr 1960au.
 |
 |
 |
 |
|


[an error occurred while processing this directive]
[an error occurred while processing this directive]
[an error occurred while processing this directive]
|