Tony Blair a'i deulu yn dathlu ennill ail dymor i Lafur yn rhif 10
Beth yw eich atgofion chi o 2001? Cyfrannwch i'r dudalen hon drwy anfon eich atgofion atom - ewch i waelod y dudalen
"Yn ogysta â sylwadau gwrth-Gymreig Anne Robinson yn 2001, un arall a dynnodd nyth cacwn i'w ben oedd y Cynghorydd Seimon Glyn gyda sylwadau am ddyfodol yr iaith Gymraeg yng nghefn gwlad a chysylltiad uniongyrchol ei thranc gyda mewnfudwyr uniaith Saesneg.
Mi ddaru'r sylwadau bolareddio cymdeithas, rhai yn cytuno'n llwyr ac eraill megis y Daily Mirror Cymreig yn ei ffieiddio. Fe ysgrifennwyd nifer o lythyrau at Seimon Glyn ac yn ystod Mis Awst fe'u rhodiwyd rhwng cloriau llyfr gan Wasg y Lolfa."
John Hardy, Caerdydd
 |