 |
 |
 |
Y Penawdau, y pethau, y bobl... |
 |
 |
 |
Ymosodiadau ar Ganolfan Fasnach y Byd yn Efrog Newydd
Clicwch ar bwnc:
Cymru Y Byd Cerddoriaeth Celfyddydau Ffilmiau Teledu a Radio Chwaraeon Gwyddoniaeth Ffordd o Fyw Marwolaethau
CYMRU
Clwy'r traed a'r genau oedd stori fawr y flwyddyn yng Nghymru, gyda gwaharddiad ar gerdded yng nghefn gwlad, llawer iawn o ddigwyddiadau'n cael eu canslo a busnesau'n diodde'. Yn rhannol oherwydd y clwy', aeth yr Urdd i drybini ariannol - gyda'r gwersylloedd ar gau am gyfnod, roedd llawer llai o incwm ar gael. Bu rhaid diswyddo, cyn i'r Llywodraeth helpu gyda chymorth ychwanegol.
Digwyddiad mawr yr Etholiad Cyffredinol yng Nghymru oedd cyfarfyddiad y dirprwy brif weinidog John Prescott gyda'r Cymro, Craig Evans, yn y Rhyl. Taflodd Evans wy a thaflodd Prescott. Yn yr ornest go iawn, cipiodd Lafur sedd Ynys Môn oddi ar Blaid Cymru, ond cymerodd y Blaid sedd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr oddi ar Lafur. Doedd dim AS Ceidwadol unwaith eto.
Cafwyd isetholiad cynta'r Cynulliad yn Nwyrain Abertawe, gyda Val Lloyd yn cadw'r sedd i Lafur, wedi marwolaeth Val Feld.
Roedd yna brotestio a deiseb tros y Cyfrifiad yng Nghymru. Gwrthododd miloedd â llenwi eu ffurflenni am nad oedd blwch i ddweud eich bod yn Gymro neu Gymraes.
Cyhoeddwyd fod gwaith dur Llanwern ger Casnewydd yn cau, gan golli tua 4,000 o swyddi.
Roedd yna golledion swyddi yng nghefn gwlad Cymru hefyd, gyda ffatri ddillad Dewhirst yn cau yn Llanbed - rhwng popeth, roedd y cwmni wedi diswyddo mwy na 1,000 o weithwyr wrth gau pedair ffatri yn y Gorllewin. Roedd y gwaith yn mynd i wledydd tramor fel Morocco.
Roedd y mewnlifiad hefyd yn stori fawr. Bu helynt tros alwadau gan Seimon Glyn, un o gynghorwyr Plaid Cymru, yng Ngwynedd, am gyfyngu ar fewnfudwyr ac aeth cyn-Gadeirydd Bwrdd yr Iaith, John Elfed Jones, i drafferth ar ôl cymharu'r llif o bobol i mewn i Gymru gyda chlwy'r traed a'r genau.
Yn rhannol oherwydd y mewnlifiad ac yn rhannol oherwydd Cynllun Unedol Ceredigion i ganiatáu codi 6,500 o dai tros 15 mlynedd, sefydlwyd mudiad newydd o'r enw Cymuned.
Ar yr un diwrnod â'r cyfarfod i sefydlu Cymuned, cafwyd rali yng Nghaernarfon i gefnogi gweithwyr ffatri leol Friction Dynamex. Bydden nhw'n picedu am dair blynedd cyn ennill achos diwydiannol eu bod wedi eu diswyddo'n annheg.
Ym mis Medi, cafodd un o awduron teledu enwoca' Cymru, John Owen, crëwr Pam Fi Duw?, ei gyhuddo o gam-drin bechgyn yn rhywiol. Lladdodd ei hun cyn wynebu'r achos terfynol. Sefydlodd Comisiynydd Plan Cymru ymchwiliad llawn i'r achos - roedd wedi dechrau yn ei swydd ym mis Mawrth.
br />
Y BYD
Clwy'r traed a'r genau oedd stori fawr hanner cynta'r flwyddyn trwy wledydd Prydain hefyd. Cafwyd 2,000 o achosion o'r afiechyd a chostiodd yr argyfwng tua £8bn i Lywodraeth Prydain.
Lladdwyd deg o bobol mewn damwain drên yn Selby, yn Swydd Efrog, ar ôl i yrrwr fynd i gysgu wrth olwyn Land Drover ar draffordd a phlymio i lawr i'r lein.
Cafwyd dyn o Libya yn euog o achosi trychineb Lockerbie, pan laddwyd 270 o bobol. Cafodd garchar am 27 mlynedd. Ond roedd llawer o'r teuluoedd yn parhau'n anfodlon.
Er ei fod wedi ei ohirio am ychydig oherwydd clwy'r traed a'r genau, llwyddodd Y Blaid Lafur i ennill buddugoliaeth hawdd arall yn yr Etholiadau Cyffredinol. Ymddiswyddodd William Hague o fod yn arweinydd y Ceidwadwyr a daeth y 'dyn tawel', Iain Duncan Smith, yn ei le.
Ar Fedi 11 cafwyd yr ymosodiad terfysgol gwaetha' yn hanes y byd pan gafodd pedair awyren eu cipio gan gefnogwyr Al Qaeda. Hedodd dwy i mewn i ddau dŵr Canolfan Fasnach y Byd yn Efrog Newydd, trawodd un arall yn erbyn y Pentagon yn Washington a'r ola'n chwalu mewn cae ym Mhennsylvania ar ôl ymgiprys rhwng teithwyr a'r terfysgwyr. Lladdwyd bron 3,000.
O ganlyniad i'r ymosodiad, gyda George Bush yn Arlywydd ers dechrau'r flwyddyn, penderfynodd yr Unol Daleithiau a Phrydain yn ymosod ar Afghanistan yn y gred mai yno yr oedd pencadlys Al Qaeda a'u harweinydd Osama bin Laden. Diorseddwyd llywodraeth Islamaidd y Taliban yno a dechreuodd y 'rhyfel yn erbyn terfysgaeth'.
Aeth cwmni Enron i'r wal yn yr Unol Daleithiau - y methdaliad mwya' yn hanes y byd. Ond roedd yna gyhuddiadau troseddol hefyd wrth iddi ddod yn amlwg fod penaethiaid y cwmni wedi bod yn creu cwmnïau ffug i guddio gwendidau ariannol.
Cafwyd gwrthdaro hiliol yn Oldham a Bradford, gyda phleidiau asgell dde eithafol y National Front a'r BNP yn cael eu cyhuddo o greu cythrwfl.
Daeargryn yn Gujerat, India, yn lladd dros 20,000 o bobl ac yn dinistrio'r rhan fwyaf o'r ddinas.
Roedd protestio gwrth-globaleiddio pan gynhaliwyd Cynhadledd y G8 yn Genoa yr Eidal. Cafodd un o'r protestwyr ei ladd.
br />
CERDDORIAETH
Yn Gymraeg...
Yn Gymraeg ...
Dyma rai o brif wobrau Roc a Phop Radio Cymru am y flwyddyn:
Band byw gorau - Big Leaves
EP gorau - Topper
Albwm gorau - Super Furry Animals
Grŵp newydd -Zabrinski
Band y flwyddyn - Maharishi
Roedd parti ewyn Ibiza am y tro cynta' ym Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych.
Cyhoeddodd y Texas Radio Band a Gogz eu EPs cynta' a daeth sengl hefyd gan y band rap o ardal Porthmadog, Pep le Pew.
Daeth Edward H. yn ôl at ei gilydd yng Ngŵyl y Faenol i wneud eu perfformiad byw cynta' ers 1983. Ond daeth Diffiniad a Topper i ben.
Roedd yna CD Gymraeg hefyd yn arbennig ar gyfer dawnsio llinell. Ei henw oedd ... Dewch i Ddawnsio ...
Geinor Owen a enillodd gystadleuaeth Cân i Gymru, gyda chân gan ei darpar-lysdad, Emlyn Dole. Roedd ei mam, Gwenda, wedi ennill y gystadleuaeth yn 1995.
ac yn Saesneg...
Cyfaddefodd Cerys Matthews fod ganddi broblemau iechyd a, chyn diwedd y flwyddyn, chwalodd Catatonia.
Erbyn hynny, roedden nhw wedi cyhoeddi albwm newydd, Paper Scissors Stone, ac roedd yna fand Cymreig newydd yn dechrau dod yn enwog - y rapwyr o Gasnewydd, Goldie Lookin' Chain.
Caneuon rhif un 2001:
Rui Da Silva featuring Cassandra - Touch Me
Jennifer Lopez - Love Don't Cost A Thing
Limp Bizkit - Rollin'
Atomic Kitten - Whole Again
Shaggy featuring Rikrok - It Wasn't Me
Westlife - Uptown Girl
Hear'Say - Pure And Simple
Emma Bunton - What Took You So Long
Destiny's Child - Survivor
S Club 7 - Don't Stop Movin'
Geri Halliwell - IT's Raining Men
DJ Pied Piper - Do You Really Like It
Shaggy featuring Rayvon - Angel
Christina Aguilera with Lil' Kim, Maya & Pink - Lady Marmalade
Hear'Say - The Way To Your Love
Roger Sanchez - Another Chance
Robbie Williams - Eternity/The Road To Mandalay
Atomic Kitten - Eternal Flame
So Solid Crew - 21 Seconds
Five - Let's Dance
Blue - Too Close
Bob The Builder - Mambo No 5
DJ Otzi - Hey Baby
Kylie Minogue - Can't Get You Out Of My Head
Afroman - Beacause I Got High
Westlife - Queen Of My Heart
Blue - If You Come Back
S Club 7 - Have You Ever
Daniel Bedingfield - Gotta Get Thru This
Robbie Williams & Nicole Kidman - Somethin' Stupid
CELFYDDYDAU
Er bod pryderon na fyddai modd cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol oherwydd clwy'r traed a'r genau, crëwyd hanes yn Ninbych. Enillwyd y Gadair gan ferch am y tro cynta' - Mererid Hopwood. Aeth y Goron i Penri Roberts a'r Fedal Ryddiaith i Elfyn Pritchard.
Arddangosfa fawr yr Eisteddfod oedd ffotograffau Philip Jones Griffiths, y dyn o Ruddlan a helpodd newid cwrs rhyfel Fietnam gyda'i luniau.
Yn yr hydref, aeth criw o Gymru draw i Batagonia i ailsefydlu'r Orsedd yno.
Roedd Eos Chater, siaradwraig Gymraeg o Gaerdydd, mewn band clasurol o'r enw Bond - pedair merch ifanc, oedd yn ceisio rhoi delwedd rywiol i gerddoriaeth o'r fath.
Roedd yna aros mawr am nofel newydd gan Wiliam Owen Roberts. Roedd Paradwys yn codi'n rhannol o gysylltiad Cymru a chaethwasiaeth. Ac y n Saesneg, parhaodd pwysigrwydd Aberystwyth, gyda Sheepshagger gan Niall Griffiths wedi ei gosod yn yr ardal, ynghyd â'r gynta' o gyfres o nofelau ditectif doniol gan Malcolm Pryce, Aberystwyth Môn Amour.
Un o lyfrau mwya' gwreiddiol y flwyddyn oedd Rhaid i ti Fyned y Daith Honno dy Hun, ymson y clerigwr, Aled Jones Williams, am farwolaeth ei dad.
Cafodd yr actor Daniel Evans un o wobrau Olivier am ei berfformiad yn y sioe gerdd Merrily We Roll Along. Doedd o ddim yn gwybod ei fod yn gallu canu tan ddwy flynedd ynghynt.
Oherwydd clwy'r traed a'r genau, bu raid cynnal Eisteddfod yr Urdd ar deledu, heb lawer o'r cystadlaethau arferol. Ond roedd y prif seremonïau'n aros - llwyddodd Luned Emyr i gipio'r Fedal Ddrama am yr ail dro, aeth y Gadair i Iwan Rhys, y Goron i Sara Huws a'r Fedal Lenyddiaeth i Owain Siôn.
Angharad Tomos oedd y fenyw gynta' i gyhoeddi ei hunangofiant yng Nghyfres y Cewri; roedd hunangofiant hefyd gan y darlledwr Roy Noble a chyfrol am y cantorion gwlad, John ac Alun.
Cafodd cyfrol gynta' cyfres Harry Potter ei chyfieithu i'r Gymraeg gan Emily Huws.
TELEDU A RADIO
ÃÛÑ¿´«Ã½ 2W yn cael ei lawnsio - y gwasanaeth digidol Cymreig.
Daeth Noel Sullivan y Cymro o Gaerdydd yn enwog (tros dro) trwy fod yn y band a enillodd y gyfres gynta' o Pop Idol a chafodd triniwr gwallt o'r enw Helen Adams o Went hefyd ei phymtheg munud ar Big Brother.
Roedd Cymro arall yn dechrau cael enwogrwydd go iawn - Rob Bryden, trwy ei gyfres o gomedi slei am yrrwr tacsi o Gaerdydd, Marion and Geoff.
Llwyddodd Anne Robinson i wylltio cenedl, trwy awgrymu ar y rhaglen Room 101, fod angen cael gwared ar Gymru a'r Gymraeg.
Cyfres ddrama fentrus y flwyddyn oedd Fondue, Rhyw a Deinosors ond doedd hi'n ddim wrth y rhaglen 'realiti' Procar Poeth, gyda sêr fel Bethan 'Beti Baps' Evans yn dangos ei hun (a rhai rhannau arbennig ohoni ei hun) ar y sgrin fach.
Mwy syber oedd y fersiwn newydd o glasur Marion Eames, Stafell Ddirgel, a Y Tŵr, rhan o gyfres o ddramâu i gofio deng mlwyddiant marwolaeth Gwenlyn Parry.
Ceisiwyd atgyfodi'r opera sebon Crossroads am y tro cynta' ers 1988, ond roedd yn fethiant.
Cafwyd y gyfres gynta' o gomedi Jennifer Saunders, Absolutely Fabulous, ers 1996, ac roedd yn eitha' llwyddiant.
Yn Gymraeg, daeth y rhaglen gylchgrawn Heno i ben ac, yn Saesneg, claddwyd Masterchef a'r Teletubbies.
Daeth rhaglen y 'bongs' yn ôl ar ôl dwy flynedd - News at Ten, gyda Trevor McDonald yn cyflwyno.
FFILMIAU
Y ffilm fawr o Gymru oedd Very Annie Mary gan Sara Sugarman gyda nifer o'i chyd-Gymry yn actio ynddi. Roedd Ioan Gruffudd a Matthew Rhys, er enghraifft, yn portreadu cariadon hoyw.
Aeth ffilm fawr Gymraeg i'r sinemâu ddiwedd Ionawr. Roedd Oed yr Addewid yn cynnwys perfformiad crefftus gan Stewart Jones. Eldra oedd y ffilm fawr arall, gyda merch 14 oed o'r enw Iona Jones o Fethesda yn y brif ran.
Roedd yna gynnwrf ac edrych ymlaen wrth i ffilm gynta' Harry Potter ddod i'r sinemâu a'r unig un i wneud yn well oedd y ffilm hud a lledrith arall, Lord of the Rings: The Fellowship of the Ring.
Shrek a Monsters Inc. oedd yr enghreifftiau diweddara' o ffilmiau llwyddiannus gydag animeiddio cyfrifiadurol.
Roedd yna gynnwrf ymhlith rhai ychydig yn hÅ·n hefyd wrth i fersiwn ffilm o The Bridget Jones Diary gael ei gwneud.
CHWARAEON
Tiger Woods oedd y chwaraewr cynta' erioed i ddal pedair prif bencampwriaeth golff y byd ar yr un pryd.
Gobaith mawr newydd rygbi Cymru oedd Iestyn Harris, maswr llachar y gêm gynghrair, a ddaeth i lawr i Gaerdydd am £1.5 miliwn. Ond cymysg oedd ei lwyddiant.
Cafodd Caerdydd esgyn i'r Ail Adran, gyda streicar ifanc newydd o'r enw Robbie Earnshaw yn dechrau tynnu sylw. Yn y cyfamser, aeth streicar arall o Gymro, John Hartson, tua'r Gogledd a Celtic.
Ond roedd Abertawe mewn helynt mawr ac, erbyn y Nadolig, roedden nhw'n agos at fynd i'r wal cyn i gefnogwyr achub y clwb yn y flwyddyn newydd.
A nhwythau wedi cipio Cynghrair Cymru am y pumed tro, Barry Town oedd y tîm cynta' o'r gynghrair i ennill rownd yng Nghynghrair y Pencampwyr yn Ewrop.
Beth bynnag am dîm rygbi cenedlaethol Cymru, llwyddodd tîm rygbi pobol fyddar Cymru i ennill pencampwriaeth y byd.
Cafodd Eirian Williams, Cymro Cymraeg o Lanelli, ddyfarnu yn rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd. A Williams arall, Mark, oedd rhif 1 y byd.
Enillodd Lerpwl y ddwy rownd derfynol bêl-droed fawr yn Stadiwm y Mileniwm, gan gipio Cwpan Worthington a'r Cwpan FA, cyn gorffen trebl unigryw, trwy ennill Cwpan UEFA hefyd.
O'r diwedd enillodd y Croat, Goran Ivanisevic, bencampwriaeth Wimbledon ar ôl dod yn agos sawl tro. Cadwodd Venus Wiliams deitl y merched.
Cafodd 13 o wylwyr eu hanafu ar ôl damwain yng Nghoedwig Brechfa yn ystod rali'r Network Q.
br />
GWYDDONIAETH A THECHNOLEG
Am y tro cynta', cloniwyd anifail sydd mewn peryg. Cafodd Noah, y gaur, ei eni ar Ionawr 8fed.
Mir, yr orsaf ofod Rwsieg, yn dod yn ôl i mewn i'r atmosffer a chwympo i mewn i'r môr ger Fiji.
Clwstwr o sêr yn cael ei ddarganfod sy'n 13.4 biliwn o flynyddoedd golau o'r ddaear.
Am y tro cynta' erioed, llwyddwyd i drawsblannu calon artiffisial.
Daeth daearegwyr o hyd i olion coed 300 miliwn o flynyddoedd oed mewn gwaith glo brig ger Blaendulais.
FFORDD O FYW
Blwyddyn fawr arall i fyd y cyfrifiaduron - Apple yn rhyddhau'r iPod, Microsoft yn cyhoeddi Windows XP, yr encyclopedia answyddogol, Wikipedia, yn ymddangos ar y rhyngrwyd am y tro cynta' a'r Pab John Paul II yn danfon yr e bost pontifficaidd cynta' o laptop yn ei swyddfa.
Y ffasiwn i ddynion ifanc oedd trowsusau difrifol o isel, i ddangos y trôns ac i herio disgyrchiant. Roedd bling yn boblogaidd hefyd - digon o dlysau sgleiniog - a chrysau-T gyda 'graffiti' arnyn nhw.
Y steils gwallt poblogaidd oedd 'Afros' i bobol ddu a gwyn fel ei gilydd, a steil o'r enw 'cornrow', gyda'r gwallt wedi ei blethu'n fân i greu patrymau tebyg i gae wedi ei aredig..
Ym myd haute couture, dechreuodd Julian McDonald gynllunio dillad i'r label Givenchy.
Arwydd o broblemau rhestrau aros y gwasanaeth iechyd oedd bod un claf yn Ysbyty'r Dywysoges Margaret yn Swindon wedi gorfod aros ar droli ysbyty mewn cyntedd tu fas i'r toiledau am 77 awr a 30 munud.
Roedd yna helynt tros ymgais cwpwl o Fwcle, Sir y Fflint, i brynu gefeilliaid o America tros y we. Yn y diwedd, ar ôl achosion llys, aed â'r plant oddi ar Alan a Judith Kilshaw.
Ymhlith y swyddi diddorol i gael eu hysbysebu, roedd cyfle i dri athro fynd i Batagonia i ddysgu Cymraeg i'r gymuned Gymreig yno.
Taten boeth y flwyddyn oedd y bwriad i blannu cnydau GM mewn dwy ardal yng Nghymru. Llwyddodd gwrthwynebiad lleol i'w hatal ym Mathri yn Sir Benfro ond cafodd rhai o'r cnydau genetig eu plannu yn Sealand yn Sir y Fflint a chafwyd protestiadau i geisio eu difrodi.
Am y tro cynta', yn unrhyw le yn y byd ers oes yr Ymerawdwr Rhufeinig, Nero, daeth hi'n bosib i gyplau o'r un rhyw briodi - yn yr Iseldiroedd.
A daeth technoleg fodern i un o ynysoedd Cymru, wrth i gysylltiad â'r We gael ei osod yn Ynys Bŷr, lle mae cymuned o fynachod. Cafodd ei roi yn y swyddfa bost, dan ofal y Postfeistr, y Tad Stephen.
MARWOLAETHAU
Roedd Cledwyn Hughes, Arglwydd Cledwyn o Benrhos, wedi bod yn Ysgrifennydd Cymru, yn Ysgrifennydd Amaeth ac arweinydd Llafur yn NhÅ·'r Arglwyddi.
Dafydd Rowlands oedd yr unig un i ennill Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod yn yr un flwyddyn ac fe ddaeth yn Archdderwydd hefyd.
Ar un adeg, roedd Delme Bryn Jones yn un o gantorion clasurol mwyaf addawol Cymru, ond ataliwyd ei yrfa gan drafferthion iechyd.
Roedd Val Feld yn gyn-gadeirydd Pwyllgor Datblygu Economaidd y Cynulliad. Roedd hi'n adnabyddus am ei gwaith yn y maes cymdeithasol a hi oedd un o sylfaenwyr y mudiad i bobol ddi-gartref, Shelter Cymru.
Y Cymro o Abertawe, Harry Secombe, oedd un o ddiddanwyr mwya' poblogaidd ei gyfnod - yn aelod o griw comedi'r Goons yn y 50au, yn ganwr a chyflwynydd Songs of Praise ar y teledu.
Ymhlith y marwolaethau eraill, roedd:
Dic Evans - y coxswain bad achub.
Dafydd Parri - awdur cyfres lyfrau'r Llewod i blant.
Rhys Jones - anthropolegydd o Gymro Cymraeg a ddaeth yn arbenigwr ar genhedloedd brodorol Awstralia.
Marged Pritchard - enillydd y Fedal Ryddiaith dwywaith.
John Owen Huws - yr arbenigwr ar straeon gwerin a chwedlau.
Chris Rees - 'tad' cyrsiau Wlpan yng Nghymru.
Ray Powell - AS Ogwr.
George Harrison - gitarydd y Beatles.
Christian Barnard - y meddyg cynta' i drawsblannu calon.
Mary Whitehouse - yr ymgyrchydd yn erbyn 'budreddi' ar y teledu.
Nigel Hawthorne - un o sêr y cyfresi comedi Yes Minister.
Donald Bradman - yn ôl rhai, y batiwr criced gorau erioed.
Douglas Adams - crëwr y llyfrau a rhaglenni cwlt, Hitchiker's Guide to the Galaxy.
Jack Lemon - yr actor.
Perry Como - y canwr.
Norton's Coin - y ceffyl o Nantgaredig a enillodd Gwpan Aur Cheltenham gyda'r pris gorau erioed.
22 miliwn o bobol - y ffigwr swyddogol hyd hynny am farwolaethau o AIDS.
 |
 |
 |
 |
|


[an error occurred while processing this directive]
[an error occurred while processing this directive]
[an error occurred while processing this directive]
|