I'r rheini ohonoch chi sydd fel fi yn hoff o chwarae gyda ffigurau, fe gafwyd munud balindromaidd am ddau funud wedi wyth yr hwyr ar yr ugeinfed o Chwefror 2002. Yr amser a'r dyddiad oedd 20 02 20 02 20 02 sydd yn darllen yr un peth yn nol ag ymlaen.
I ddyn o genhedlaeth arbennig fe ddigwyddodd rhywbeth chwyldroadol ar Radio Cymru yn ystod 2002 hefyd. Fe gyflwynwyd tonfeddi'r hwyr i'r ifanc eu ysbryd... felly os am fod yn "cwl" roedd angen gwrando ar C2, a dyna wnaeth sawl un wrth wneud eu gwaith cartref - gan gynnwys fi gyda llaw.
Flynyddoedd maith yn ol pan oedd gwaith cartref dipyn yn wahanol, roedd gen i Spike Milligan yn gwmni, ac yn aml iawn mi fuasa'i lais neu un o'i lyfrau yn fy nenu o fy llyfrau ysgol. Yn 2002 fe fu farw'r athrylith - athrylith oedd a'i ochr drist yn ogystal a'i ochr ddireidus llawn hwyl.
John Hardy, Caerdydd.
 |