ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cofio...?
Jiwbili aur y frenhines
Y penawdau, y pethau, y bobl...
Y Frenhines ym Mhalas Buckingham yn dathlu ei Jiwbili

Clicwch ar bwnc:

Cymru
Y Byd
Cerddoriaeth
Celfyddydau
Ffilmiau
Teledu a Radio
Chwaraeon
Gwyddoniaeth
Ffordd o Fyw
Marwolaethau

CYMRU

  • Roedd yna ddadlau dros newidiadau ym mhatrwm llywodraeth leol wrth i'r rhan fwya' o gynghorau sefydlu system gabinet. Roedd rhai wedi holi barn y bobol ac wedyn ei anwybyddu.

  • Roedd yna ad-drefnu yn y byd iechyd hefyd, gyda 22 o Fyrddau Iechyd Lleol yn cael eu ffurfio.

  • Wedi marwolaeth yr aelod seneddol, Ray Powell, cafwyd isetholiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Enillodd Huw Irranca Davies yn gyfforddus i Lafur, er bod ei fwyafrif i lawr.

  • Roedd yna ragor o fynd a dod yn y byd gwleidyddol. Daeth Alun Ffred Jones yn ymgeisydd Cynulliad yn lle Dafydd Wigley yng Nghaernarfon a chyhoeddodd y Ceidwadwr, Rod Richards, ei fod yn gadael y Cynulliad am resymau iechyd. Cafodd ei ddilyn yn sedd y Ceidwadwyr ar restr y Gogledd gan David Jones.

  • Fe fu aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn gwersylla y tu allan i bencadlys Cyngor Ceredigion yn Aberaeron i brotestio yn erbyn y Cynllun Datblygu Unedol oedd yn sôn am godi 6,500 o dai o fewn 15 mlynedd.

  • Casnewydd a enillodd y ras i ddod yn ddinas newydd. Roedd llefydd fel Wrecsam ac Aberystwyth yn cystadlu am y fraint - roedd y teitl yn cael ei roi yn rhan o ddathliadau Jiwbilî 50 y Frenhines.

  • Roedd yna alwadau am ymchwiliad ar ôl damwain angheuol ger Bae Colwyn lle'r oedd car yn cael ei ymlid gan yr heddlu - dyma'r pumed o'i bath o fewn ychydig fisoedd.

  • Cafodd llanc o'r enw Matthew Hardman ei garcharu am oes am un o'r llofruddiaethau gwaetha' erioed yng Nghymru. Roedd elfennau fampiraidd yn y ffordd y lladdodd y bensiynwraig Mabel Leyshon yn ei chartre' yn Llanfairpwll.

  • Fel yng ngweddill gwledydd Prydain, bu'r diffoddwyr tân ar streic tros gyflogau ac amodau gwaith a gwelwyd hen injans y fyddin, y 'Green Goddesses', ar y strydoedd unwaith eto.

  • Cafodd Paul Burrell, y Cymro a fu'n fwtler i'r Dywysoges Diana, ei glirio o ddwyn peth o'i heiddo. Honnodd ei fod wedi dweud wrth y Frenhines ei fod am gadw rhai o'i phethau. Aeth ati i sgrifennu hunangofiant.

    Y BYD

  • Jacques Chirac yn cael ei ail-ethol yn Arlywydd Ffrainc ond cynrychiolydd yr asgell dde eithafol, Jean Marie Le Pen, oedd yn ail.

  • Rhoddwyd sylw anferth i achos llofruddiaeth yn ardal Caergrawnt, pan laddwyd dwy ffrind ysgol 10 oed ym mhentre' Soham - Holly Wells a Jessica Chapman. Cafodd gofalwr ysgol ei gyhuddo o'i lladd a'i gariad ei chyhuddo o'i warchod.

  • Roedd yna ymosodiad terfysgol mawr arall gyda 202 o bobol yn cael eu lladd mewn tref wyliau yn ynys Bali - Awstraliaid oedd llawer ohonyn nhw a rhoddwyd y bai ar grŵp Moslemaidd lleol.

  • Dinistr hefyd ym Moscow wrth i'r ymladd rhwng Rwsia a Chechnya barhau. Cafodd degau eu lladd pan geisiodd milwyr ryddhau pobol oedd wedi eu dal yn gaeth mewn theatr gan derfysgwyr.

  • Roedd yna ragor o helyntion ar y rheilffordd wrth i saith o bobol gael eu lladd mewn damwain drên yn Potter's Bar yn Llundain.

  • Bu raid i wraig y Prif Weinidog, Cherie Blair, ymddiheuro am brynu dau fflat drud ym Mryste, gyda chymorth dyn o'r enw Peter Foster oedd â record o dwyll.

  • Collodd Tony Blair ddau o'i gefnogwyr selog, wrth i Stephen Byers ymddiswyddo o fod yn Ysgrifennydd Trafnidiaeth ac Estelle Morris o fod yn Ysgrifennydd Addysg. Roedd hi'n dweud na fedrai wneud y gwaith.

  • Ond roedd problemau mwy ar y gorwel iddo. Wrth i America bwyso am ymosodiad ar Irac, gwnaeth Tony Blair rai o'r datganiadau dadleuol fod arfau dinistriol gan Saddam Hussein.

  • Roedd yna fwy a mwy o obaith am heddwch yng Ngogledd Iwerddon wrth i'r IRA gytuno i gynnal ail rownd o ddadgomisiynu arfau.

  • Ond gwaethygu yr oedd pethau yn Israel, wrth iddi ddechrau codi ffens ddiogelwch i atal ymosodiadau hunan-fomio o diriogaeth y Palestiniaid. Ond roedd honno'n mynd â thir oddi ar y Palesteiniaid ac yn cael ei gweld yn ormesol.

    CERDDORIAETH

    Yn Gymraeg ...

  • Roedd yna frwydr newydd yn dechrau, rhwng dau fand pop o ferched ... Pheena a TNT

  • Cafodd y rapwyr Pep Le Pew noson ardderchog yn y Gwobrau RAP, gyda phedair gwobr i gyd. Roedd yna ddwy i Anweledig hefyd a gwbr ar wahan i'r cyfansoddwr Gai Toms am ei gynnyrch fel artist unigol.

  • Cafodd y gwasanaeth pop newydd, C2, ei lansio ar Radio Cymru.

  • Daeth un o grwpiau mawr diwedd y 60au a dechrau'r 70au, Y Tebot Piws, yn ôl at ei gilydd i ganu yng Ngŵyl y Faenol.

  • Gorffennodd y flwyddyn gydag albwm cynta' cantores newydd ... Meinir Gwilym. Cafodd lwyddiant mawr o'r dechrau.

    Yn Saesneg ...

  • ÃÛÑ¿´«Ã½ 6 Music, yr orsaf radio gyntaf ers blynyddoedd i gael ei lawnsio gan y ÃÛÑ¿´«Ã½.

  • Rhyddhaodd Bonnie Tyler, y gantores o Abertawe, CD newydd sef Heart & Soul/Heart Strings.

  • Enw newydd, Elin Fflur (Llywelyn) a enillodd Cân i Gymru a'r gystadleuaeth Ban Geltaidd gyda chyfansoddiad gan Arfon Wyn a Richard Synott, Harbwr Diogel. Yn y cyfamser, merch o Gydweli, Jessica Garlick, oedd yn cynrychioli'r DU yn yr Eurovision.

  • Roedd yna dristwch hefyd wrth i John Lee, drymiwr Cymreig y band Feeder, ei ladd ei hun.

  • Roedd hi'n flwyddyn dda i enillwyr rhaglenni realiti, wrth i'r ddau gynta' yn y gyfres Pop Idol - Will Young a Gareth Gates - rannu nifer o rifau 1, gan gynnwys un ar y cyd.

    Dyma rifau 1 y flwyddyn:

    Aaliyah - More Than A Woman

    George Harrison - My Sweet Lord

    Enrique Inglesias - Hero

    Westlife - World Of Our Own

    Will Young - Anything Is Possible/Evergreen

    Gareth Gates - Unchained Melody

    Oasis - The Hindu Times

    Sugababes - Freak Like Me

    Holly Valance - Kiss Kiss

    Ronan Keating - Tomorrow Never Comes

    Liberty X - Just a Little

    Eminem - Without Me

    Will Young - Light My Fire

    Elvis Presley vs JXL - A Little Less Conversation

    Gareth Gates - Anyone Of Us (Stupid Mistake)

    Darius - Colourblind

    Sugababes - Round Round

    Blazin' Squad - Crossroads

    Atomic Kitten - The Tide Is High

    Pink - Just Like a Pill

    Will Young & Gareth Gates - Long And Winding Road

    Las Ketchup - The Ketchup Song

    Nelly featuring Kelly Rowland - Dilemma

    DJ Sammy & Yanou featuring Do - Heaven

    Westlife - Unbreakable

    Christina Aguilera Dirty

    Daniel Bedingfield - If You're Not The One

    Eminem - Lose Yourself

    Blue featuring Elton John - Sorry Seems To Be The Hardest Word

    Girls Aloud - Sound Of The Underground

    CELFYDDYDAU

  • Cafwyd un o'r cadeiriau mwya' dadleuol erioed yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhyddewi - roedd hi'n cynnwys plastig a brigyn coeden ... ac enw'r gwneuthurwr yn fawr mewn llythrennau Ogam.

  • Myrddin ap Dafydd a enillodd y Gadair ond roedd llawer mwy o ddadlau am gerdd arbrofol Aled Jones Williams wrth iddo yntau ennill y Goron. Roedd yna stori fawr y tu cefn i'r gwobrau rhyddiaith hefyd - hunangofiant dychmygol merch go iawn oedd wedi marw a enillodd y Fedal Ryddiaith i Angharad Price tra oedd enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen, Eirug Wyn, yn brwydro yn erbyn canser.

  • Cyhoeddodd Rachel Trezise o'r Rhondda ei nofel gynta' - yn ôl llawer hi fydd un o awduron mawr y dyfodol.

  • The Amber Spyglass gan yr awdur Philip Pullman, a fagwyd yn rhannol yn Harlech, oedd y llyfr plant cynta' i ennill Gwobr Whitbread.

  • Am y tro cynta', trodd Bryn Terfel o fyd opera clasurol i ganu Sweeney Todd yn America ... ond ar yr un pryd roedd ei ddisg o ganeuon Wagner yn ennill gwobrau a chlod.

  • Roedd Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd ac aeth dwy o'r prif wobrau i bentre' bach Llandwrog - y Gadair i Ifan Prys a'r Goron i Angharad Elen. Meinir Jones oedd enillydd y Fedal Lên, Owain Llwyd gafodd Dlws y Cerddor a Lowri Hughes y Fedal Ddrama.

  • Cyhoeddodd Emrys Jones Llangwm ei CD cerdd dant cynta', Nico Annwyl .... Roedd yn 82 oed ar y pryd.

  • Cyhoeddwyd cyfrol newydd o farddoniaeth gan R. S. Thomas - roedd y cerddi yn Residues wedi eu darganfod ar ôl ei farwolaeth.

  • Roedd yna arddangosfa hynod ym Mhen LlÅ·n, yn cynnwys gwaith yr athro arlunwyr Elis Gwyn Jones a 22 o'i ddisgyblion, pob un yn artist da.

  • Cyhoeddodd y criw y tu cefn i'r cynllun papur dyddiol Cymraeg, Y Byd, eu bod nhw'n barod i ddechrau codi arian at y fenter.

    TELEDU A RADIO

  • Yn Gymraeg, roedd yna gyfres ddrama newydd 'galed' wedi ei gosod yng Nghaernarfon - Tipyn o Stad - ac roedd llawer o bobol ifanc leol yn cymryd rhan mewn drama gyfres ieuenctid o Sir Benfro, Darn o Dir.

  • Ar ôl diflaniad y rhaglen gylchgrawn Heno, daeth Wedi 6 yn ei lle ... Wedi 7 erbyn hyn ac roedd yna lwyddiant i raglenni dysgwyr gyda Welsh in a Week yn cipio Gwobr Ysbryd yr Å´yl yn yr Å´yl Ffilm a Theledu Geltaidd a cariad@iaith yn dilyn criw o ddysgwyr yn Nant Gwrtheyrn.

  • Ar y radio, daeth Stondin Sulwyn i ben ar ôl bron chwarter canrif a daeth Taro'r Post yn ei lle.

  • Roedd set anferth yn cael ei chodi yng Nghaerdydd ar gyfer y gyfres ddrama o waith Daniel Owen, Treflan. Hon, medden nhw, oedd y set deledu fwya' erioed i raglen Gymraeg.

  • Daeth merch o Bontardawe i blith y chwe terfynol ar y rhaglen 'realiti', Pop Idol. Ond mynd i'r gwellt wnaeth cytundeb recordio mawr Rosie Ribbons.

  • Er ei bod wedi dechrau yn 2001, dyma'r flwyddyn y daeth y gyfres gomedi The Office yn wirioneddol boblogaidd, gyda'i rhaglen ddogfen sbwff am fywyd swyddfa.

  • Llwyddiant annisgwyl y flwyddyn oedd The Osbournes, rhaglen yn dilyn teulu'r cyn-ganwr roc rheglyd, Ozzy Osbourne.

  • Daeth enwogrwydd i Aled Jones o Aberystwyth yn sgîl rhaglenni Big Brother 3 - daeth BBAled yn sylwebydd ar y gyfres i Radio 1.

    FFILMIAU

  • Ffilm fawr y Nadolig ar S4C oedd Dirgelwch yr Ogof, fersiwn o un o straeon smyglo T. Llew Jones.

  • Halle Berry oedd y wraig groenddu gynta' i ennill Oscar y brif actores.

  • Roedd ffilmiau Harry Potter a Lord of the Rings yn dal i dynnu cynulleidfaoedd anferth.

  • Spider-man oedd y ffilm gynta' i gymryd mwy na $100 miliwn yn ei wythnos gynta' mewn sinemâu yn yr Unol Daleithiau.

  • Ond ffilm gwlt y flwyddyn oedd Bend It Like Beckham am ferched yn chwarae pêl-droed.

    CHWARAEON

  • Am y tro' cynta' erioed, cynhaliwyd Cwpan Bêl-droed y Byd mewn dwy wlad yn Asia, yn Japan a Korea.

  • Brasil yn ennill am y pumed tro. Y sioc oedd fod Twrci a De Korea wedi dod yn drydydd a phedwerydd.

  • Mwy o bobol nag erioed o'r blaen yn dod i wybod ble mae'r meta-tarsals ... ar ôl i chwaraewr Lloegr, David Beckham, dorri un o fysedd ei draed ychydig cyn yr ornest fawr.

  • Ffrae anferth oedd problem Gweriniaeth Iwerddon - rhwng ei seren, Roy Keane, a'i rheolwr, Mick McCarthy.

  • Arsenal yn gwneud y dwbwl wrth ennill yr Uwch-Gynghrair a churo Chelsea yn rownd derfynol Cwpan yr FA a chafodd clwb pêl-droed Abertawe ei achub gan griw o gefnogwyr a phobol fusnes lleol.

  • Ar ddiwedd y flwyddyn, roedd Cymru'n gwneud yn arbennig o dda yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2004, gan gynnwys curo'r Eidal o 2-1 ... ond roedd llanast ar y ffordd.

  • Llwyddodd Clwb Criced Morgannwg i ennill y Cynghrair Dydd Sul am yr ail dro yn ei hanes.

  • Daeth y rhedwr o Gymro, Matt Elias, yn enwog, yn rhannol am ennill dwy fedal arian yn y 400m dros y clwydi yng Ngêmau'r Gymanwlad ym Manceinion ac yn rhannol oherwydd fod ei wallt wedi ei liwio'n binc.

  • Roedd yna aur i Jamie Arthur yn y bocsio, i Nicole Cooke yn y ras ffordd i feiciau ac i ddeuawd o saethwyr benywaidd. Johanne Brekke a Ceri Dallimore. Ond dim ond arian gafodd Colin Jackson yn y 110m tros y clwydi.

  • Llwyddodd Matthew Stevens i gyrraedd rownd gyn-derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd gan golli o un ffrâm i enillydd y gystadleuaeth, Peter Ebdon.

  • Cafodd Cymru gweir o 50-10 gan Loegr, wrth golli i bawb ond yr Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. Ar ben hynny, cyhoeddodd un o'u hychydig sêr mawr, Scott Quinnell, ei fod yn rhoi'r gorau i rygbi rhyngwladol.

  • Y chwiorydd Williams oedd yn rheoli tennis merched, gyda Serena yn curo'i chwaer, Venus, yn rowndiau terfynol tair o'r pencampwriaethau Camp Lawn.

  • Torrodd y joci Tony McCoy ddwy record, trwy guro cyfanswm Syr Gordon Richards am fuddugoliaethau tros y clwydi mewn tymor, a'r record am y mwya' o fuddugoliaethau erioed, trwy groesi'r 1,700.

    GWYDDONIAETH A THECHNOLEG

  • Ar yr 20fed o Chwefror am ddwy funud wedi wyth y nos, roedd yr amser, y dyddiad a'r flwyddyn i gyd yn balindromau perffaith - 20:02 20.02 2002.

  • Llong ofod Mars Odyssey NASA yn dechrau mapio arwynebedd Mars ac yn darganfod tystiolaeth fod dŵr wedi bod yno.

  • Darganfuwyd Quaoar, is-blaned o fewn system yr haul. Ar y pryd, dyma'r mwya' o'i fath ers Pluto - mae tua traean o led y lleuad.

  • Dyfeisiwyd maneg braille - un oedd yn troi iaith dwylo pobol fyddar yn eiriau ar sgrin.

  • Ac yn yr Unol Daleithiau, dechreuwyd defnyddio matiau cwrw sy'n gallu adnabod dau o'r cyffuriau sy'n cael eu defnyddio ar gyfer treisio date-rape.

    FFORDD O FYW

  • Cafodd pretzels eu hysbyseb gorau erioed, wrth i'r Arlywydd Bush dagu ar un a llewygu wrth wylio gêm bêl-droed Americanaidd.

  • Mewn pleidlais gan y ÃÛÑ¿´«Ã½ i ffeindio'r 'Prydeinwyr Mwya', roedd rhai pobol gyda chysylltiadau Cymreig yn y siart - Owain Glyn Dwr yn 23fed, Aneurin Bevan yn 45ed a'r Dywysoges Diana yn drydydd.

  • Cafodd yr asiantaeth garu Gymraeg gynta' ei chreu ar y We. Y gynhyrchwraig deledu, Sioned Morys, oedd un o'r rhai y tu cefn i pishyn.com.

  • Os oedd rhai'n dweud mai siopa oedd y grefydd newydd, daeth y ddau faes ynghyd wrth i weinidog o eglwys Bentecostaidd gael ei gwneud yn gaplan ar siopa Asda yng Ngwent.

  • Oherwydd ffilm newydd amdano, roedd yna awgrymiadau fod gan Jack the Ripper gysylltiadau Cymreig. Yn ôl un ddamcaniaeth, roedd yn Gymro Cymraeg o Aberffraw.

  • Roedd y pwysau'n cynyddu yn erbyn ysmygu. Daeth gwraig 64 oed o'r Unol Daleithiau ag achos iawndal gwerth $28 miliwn yn erbyn y cwmni baco Philip Morris.

  • Byddai'r arian wedi helpu rhai gweision sifil - roedd hysbyseb am swyddi gofalwyr i'r Amgueddfa Genedlaethol. Y cyflog? Rhwng £10,700 a £12, 013.

  • Cafwyd dychryn yn yr Unol Daleithiau hefyd wrth i ddyn ddechrau saethu'n ddireswm at bobol yn eu ceir ac ar y stryd yn Washington.

  • Roedd yna brinder pobol i helpu Sion Corn ddosbarthu ei anrhegion i blantos Cymru - yn rhannol oherwydd pryderon tros ddiogelwch plant. Roedd rhai hefyd yn gwahardd plant rhag eistedd ar eu gliniau.

  • Ond cafwyd cracyrs Cymraeg am y tro cynta' ac roedden nhw ar werth mewn rhai siopau Cymraeg. Er bod y jôcs yn iaith y nefoedd, doedden nhw ddim gwell!

    MARWOLAETHAU

  • Gwaith enwoca' Gruffudd Parry oedd sgriptiau ar gyfer y cymeriad digri, Y Co Bach, ond roedd yn ysgrifwr da hefyd ac wedi cyfrannu llawer at ei ardal ym Mhen LlÅ·n.

  • Canu a ddaeth ag enwogrwydd i'r plisman, Viv Fisher. Pan oedd tensiwn ar ei ucha' adeg ail-gyfri mewn etholiad yng Nghaerfyrddin, tawelodd y dorf trwy ei harwain mewn canu cynulleidfaol.

  • Cân enwoca' Elwyn Jones, y baritôn o Lanbedrog, oedd "A yw fy enw i lawr yn y dwyfol lyfr mawr?"

  • Geoff Charles oedd un o ffotograffwyr newyddiadurol gorau Cymru ac roedd wedi cyfrannu miloedd o luniau i'r Llyfrgell Genedlaethol.

  • Roedd George Guest yn feirniad cerddoriaeth o fri, gan weithio yng Ngholeg Sant Ioan, Rhydychen, ers blynyddoedd maith.

  • Cafodd ysgoloriaeth ei sefydlu i gofio am Gethin Rhys Williams, yr actor ifanc o Ysgol Glanaethwy a Rownd a Rownd a fu farw ar ei wyliau yn Sbaen.

    Ymhlith y marwolaethau eraill, roedd:

    Elin Mair - y cyflwynydd a'r delynores o Lanuwchllyn

    Wyn James - cyn-Ysgrifennydd Cyffredinol undeb UCAC

    Cliff McLucas - artist a chyfarwyddwr theatr dylanwadol.

    Y Fam Frenhines a'r Dywysoges Margaret - y fam a'r ferch.

    Myra Hindley - llofrudd y Moors Murders. Bu farw yn y carchar.

    Lonnie Donegan - y brenin sgiffl.

    Spike Milligan - un o ddigrifwyr mwya' dylanwadol ei oes.

    John Thaw - actor Inspector Morse

    Dudley Moore - y digrifwr a'r cerddor.

    Richard Harris a James Coburn - dau o actorion Hollywood.

    Thor Heyerdahl - anturiaethwr hanesyddol y Kon-Tiki.

    Kenneth Wolstenholme - y sylwebydd pêl-droed ar rownd derfynol Cwpan y Byd yn 1966. "They think it's all over. It is now."


  • Cofio...

    [an error occurred while processing this directive] [an error occurred while processing this directive] [an error occurred while processing this directive]


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý