|  |
 Cyhoeddi crys joio Swahili
O fewn deuddydd i'r helynt iaith sydd wedi bod yn gymaint testun siarad ar Faes Margam yr oedd crysau T ar werth yn datgan "Dwi'n joio siarad Swahili."
Ac ymhlith y rhai cyntaf i brynu un oedd cyfarwyddwr yr Urdd, Jim O'Rourke!
Wrth gadarnhau wrth ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd iddo wneud hynny dywedodd Mr O'Rourke, "Ond ddim i'w wisgo'n gyhoeddus."
Ac ychwanegodd er ei fod yn canmol menter fusnes y cwmni a gyhoeddodd y crys T fod ei gydymdeimlad llwyr ef gyda'r perfformwyr a gollodd eu gwobr gyntaf oherwydd bod iaith dramor yn eu cyflwyniad.
Y cwmni a ymatebodd mor sydyn i'r digwyddiad oedd cwmni crysau T Shwl Di Mwl.
Ar y crys mae'r geiriau: Dwi'n joio siarad Swahili gyda "Dwi'n grac" yn yr iaith Swahili uwch eu pen - Nimekasirika. . "Fe wnaethom ni'r crys am ein bod yn teimlo bod yr Urdd wedi bod yn ddwl. Mae'r plant bach yn gwneud eu gorau i siarad Cymraeg ac yn cymryd rhan yn yr wyl ond maent yn cael eu gwahardd am rywbeth bach," meddai Owain, sy'n cynllunio'r crysau. . . "Dyw'r Urdd ddim wedi iwso eu pennau; yn yr achos yma a'r un pan gafodd ysgol eu gwahardd am ddefnyddio cân Gernyweg. Ma' nhw'n hala fi'n grac gyda'i twpdra," meddai Owain. . Ychwanegodd i'r crysau fod yn gwerthu'n dda yn barod, yn enwedig ymhlith plant Ysgol Dewi Sant a gollodd eu gwobr gyntaf mewn cystadleuaeth!
|
|