|
|
![]() | ![]() ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page Cymru'r Byd | ![]() | |||||||||
![]() | |||||||||||
» | ![]() | ||||||||||
![]() |
| ![]() | |||||||||
![]() | Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! Ìý | ![]() |
Straeon![]() Llywydd dydd GwenerHuw Edwards - wyneb y newyddion
Mae Huw Edwards yn un o brif gyflwynwyr Newyddion y ÃÛÑ¿´«Ã½ ac yn cyflwyno'r rhaglen newyddion am ddeg o'r gloch ar ÃÛÑ¿´«Ã½ 1 yn ogystal â rhaglen awr am 5pm ar ÃÛÑ¿´«Ã½ News 24.
Fe'i magwyd yn Llangennech, Sir Gaerfyrddin, ac aeth i Ysgol Ramadeg Llanelli. Graddiodd mewn Ffrangeg o Brifysgol Cymru, Caerdydd cyn mynd ymlaen i fod yn gyflwynydd ar orsaf radio fasnachol, Sain Abertawe. Yn 1984 ymunodd â chynllun hyfforddi'r ÃÛÑ¿´«Ã½ a chymryd ei gam cyntaf tuag at fod yn newyddiadurwr. Rhwng Mai 1999 ac Ionawr 2003, cyflwynodd y newyddion am chwech o'r gloch ar ÃÛÑ¿´«Ã½ 1 ac yn 2002 enwyd ef yn brif gyflwynydd y rhaglen newyddion am ddeg o'r gloch ar y ÃÛÑ¿´«Ã½, y rhaglen sy'n cael ei gwylio gan y nifer fwyaf o bobl ym Mhrydain. Mae hefyd wedi cyflwyno a chyfrannu at nifer o raglenni eraill fel Newsnight, Panorama a rhaglenni noson etholiadau. Yn 2003 gwnaed ef yn Gymrawd ym Mhrifysgol Cymru, ac yn 2005 daeth yn Athro er Anrhydedd mewn Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd. Yr un flwyddyn penodwyd ef yn Noddwr y Coleg Cerdd Cenedlaethol. Mae'n organydd ac yn bianydd ac ar un adeg a'i olwg ar fynd yn bianydd cyngerdd proffesiynol. Mae hefyd wedi cyflwyno rhaglenni yn ymwneud â chrefydd, cerddoriaeth glasurol, a rhaglenni am yr iaith Gymraeg. Mae'n briod a chanddo bump o blant. Mae'n byw gyda'i deulu yn Llundain. Meddai Huw, "Bum yn cystadlu lawer gwaith yn Eisteddfod yr Urdd. Enillais gyda grŵp drama Ysgol Ramadeg Llanelli ddwywaith! Mae cael bod yn Llywydd y Dydd yn bleser anghyffredin yn enwedig gan fy mod i'n cael dod adref i Sir Gâr - y sir orau yng Nghymru o bell ffordd!" meddai. Cysylltiadau
Dyw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
![]() | ![]() About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy Ìý |