|
|
![]() | ![]() ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page Cymru'r Byd | ![]() | |||||||||
![]() | |||||||||||
» | ![]() | ||||||||||
![]() |
| ![]() | |||||||||
![]() | Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! Ìý | ![]() |
Straeon![]() Hanner disgwyl Rhiannon arall!Dyfalu a fydd Rhiannan arall yn hanes y goron
Y dyfalu yw, ai Rhiannon fydd yn ennill coron yr Urdd yng Nghaerfyrddin heddiw.
Unrhyw 'Rhiannon' - gan fod i'r enw hwnnw gysylltiad rhyfedd â choron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Datgelwyd y cysylltiad gan Geraint Roberts, prifathro Ysgol y Strade, Llanelli, sydd wedi bod yn arddangos ar safle'r ysgol ar y maes y goron gyntaf erioed i'w hennill yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd nôl yn 1931. Hanes diddorol "Mae hanes y goron yn ddiddorol," meddai Mr Roberts. "Fe'i prynwyd gan Mallt Anderson o Gaerdydd mewn siop ail-law a hen bethau yn Abertawe yn 2002 ac o ymchwilio i'w hanes fe wnaeth hi ddarganfod iddi gael ei hennill gan Rhiannon Collins o'r Tymbl a oedd yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg y Merched, Llanelli ar y pryd," meddai. "Yr oedd Mallt yn awyddus i ddychwelyd y goron fach i ysgol yn Llanelli a chan nad yw'r Ysgol Ramadeg yn bodoli bellach, cynigiodd hi i'r unig ysgol uwchradd Gymraeg yn y dref, Ysgol y Strade," ychwanegodd. Yr oedd hynny fis Hydref 2002. Mor falch "Yr oedd yr ysgol mor falch o'r rhodd arbennig hon gofynnwyd i Mari Thomas, y gemydd o Lanelli, i lunio coron arian maint llawn yr un patrwm â choron fechan 1931 i'w defnyddio yn eisteddfodau'r ysgol. "Ac o ganlyniad i waith Mari gyda'r goron hon y'i gwahoddwyd i lunio coron Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 2006," meddai Mr Roberts. . Ychwanegodd mai enillydd coron Ysgol y Strade 2007 oedd Rhiannon Roberts. "Rhiannon arall!" meddai "Yr un enw ag enillydd coron 1931." "Hefyd, Rhiannon Roberts fydd yn cyfarch enillydd Coron yr Urdd yn y pafiliwn brynhawn Gwener," meddai gan ychwanegu, "Tybed ai Rhiannon fydd enw'r enillydd hefyd?" ![]() "Sy'n addas iawn gan fod coron fechan 1931 yma ar y maes. Ychwanegodd i'r Rhiannon wreiddiol yn yr hanes, Rhiannon Williams wedi iddi briodi, farw yn 93 oed yn gynharach eleni yn Aberystwyth. Cysylltiadau
Dyw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
![]() | ![]() About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy Ìý |