ÃÛÑ¿´«Ã½

myPensiwn

Cynllun Pensiwn y ÃÛÑ¿´«Ã½

Mae Cynllun Pensiwn y ÃÛÑ¿´«Ã½ (y Cynllun) yn un o'r cynlluniau pensiwn galwedigaethol mwyaf yn y DU, gydag oddeutu 55,000 o aelodau a gwerth £15 biliwn o asedau. Mae’r Cynllun ar gau i aelodau newydd. Mae gan y ÃÛÑ¿´«Ã½ drefniant pensiwn ar wahân o’r enw LifePlan, ac efallai y bydd staff presennol yn gymwys i gael rhagor o fanylion; ewch i .

Mae gan y Cynllun unig ymddiriedolwr corfforaethol, sef ÃÛÑ¿´«Ã½ Pension Trust Ltd. Cyfeirir at gyfarwyddwyr yr ymddiriedolwr corfforaethol fel “Ymddiriedolwyr”. Mae 11 o Ymddiriedolwyr: tri Ymddiriedolwr annibynnol, pedwar Ymddiriedolwr a benodwyd gan y ÃÛÑ¿´«Ã½ a phedwar Ymddiriedolwr a etholwyd gan aelodau.

Darpariaethau Cymraeg

Yn anffodus, nid yw’r Cynllun yn gallu darparu gohebiaeth Gymraeg i aelodau.

Mae safonau’r Gymraeg yn berthnasol i’r ÃÛÑ¿´«Ã½ ei hun wrth iddo arfer ei swyddogaethau a chynnal ei fusnes, ond nid i gyrff annibynnol ar wahân fel y Cynllun, sy’n cyflawni ei weithgareddau ei hun, nac i’r ÃÛÑ¿´«Ã½ pan fydd yn cynnal gweithgareddau ar ran corff annibynnol o’r fath.

Mae’r Ymddiriedolwyr wedi penodi’r ÃÛÑ¿´«Ã½ i weinyddu’r Cynllun o dan delerau cytundeb gweinyddu. Felly, mae gohebiaeth a anfonir gan y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn y rôl honno yn gysylltiedig â gweithredu ei rôl a’i swyddogaethau fel yr Ymddiriedolwr, nid y ÃÛÑ¿´«Ã½. Nid oes gofyniad felly i ohebiaeth a anfonir gan y ÃÛÑ¿´«Ã½ ar ran y Cynllun fod ar gael yn Gymraeg.

Cymorth a chefnogaeth

Mae ein tîm mewnol ymroddedig yn gweinyddu’r Cynllun ac yn cefnogi swyddogaethau Adnoddau Dynol a Chyflogres y ÃÛÑ¿´«Ã½ i wasanaethu trefniadau pensiwn eraill y ÃÛÑ¿´«Ã½:

  • Cynllun Pensiwn y ÃÛÑ¿´«Ã½ – i gael cymorth a chefnogaeth, ffoniwch 0303 081 2848 neu anfonwch e-bost at mypension@bbc.co.uk
  • Cofrestru Awtomatig (NEST) – Os nad ydych chi mewn trefniant pensiwn cymwys, mae’n bosib y byddwch chi’n cael eich cofrestru’n awtomatig gyda’r Ymddiriedolaeth Cynilion Cyflogaeth Cenedlaethol (NEST). Ewch i i gael rhagor o wybodaeth

 

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: