Y Gronfa Lansio - Cwestiynau Cyffredin
Pwy all wneud cais i’r Gronfa Lansio?
Gall artistiaid, bandiau neu labeli recordio yng Nghymru (lle mae'r gweithgarwch yn seiliedig ar eu hartistiaid) wneud cais am gyllid o’r Gronfa Lansio. Rhaid i chi fod dros 18 oed a bod cyfeiriad eich cartref yng Nghymru.
Os ydych chi'n artist sydd wedi llofnodi contract gyda label recordio mawr, allwch chi ddim gwneud cais i’r gronfa.
Faint allwn ni wneud cais amdano?
Bydd y gronfa'n cynnig hyd at £2,000 o gyllid yr un.
Pa weithgareddau sy’n gallu cael eu cyllido?
Mae'r gronfa'n ceisio cefnogi pethau a fydd yn mynd â'ch gyrfaoedd cerddoriaeth 'i'r lefel nesaf'. Yn y gorffennol, mae ymgeiswyr llwyddiannus wedi cael cyllid i dalu am amser stiwdio, ymgyrchoedd albwm/EP/senglau, cysylltiadau cyhoeddus, sesiynau tynnu lluniau, saethu fideos cerddoriaeth, prosiectau cydweithredol, cymysgu a golygu, ac offerynnau/offer newydd.
Meddyliwch sut bydd y gweithgaredd rydych chi'n gwneud cais amdano yn gwneud gwahaniaeth i chi ar y foment hon.
Beth na ellir gwneud cais amdano?
Ni all y gronfa ariannu unrhyw beth na all ddigwydd yn ddiogel. Ni allwn dalu am eich amser (fel cyflog neu golled neu enillion). Ni allwn ariannu costau teithio rhyngwladol a threuliau cysylltiedig. Ni allwn ariannu cerbydau.
Rydw i'n fyfyriwr sy'n astudio y tu allan i Gymru, alla i wneud cais?
Os ydych yn byw yng Nghymru ond yn astudio yn rhywle arall, gallwch wneud cais ar yr amod eich bod yn gallu profi eich bod yn astudio a bod eich cyfeiriad cartref yng Nghymru.
Rydw i wedi cael Cyllid Lansio o'r blaen. Alla i wneud cais?
Ni fydd artistiaid sydd wedi llwyddo i gael cymorth gan y Gronfa Lansio yn un o’r ddwy rownd gyllido ddiwethaf (2023/24 a 2024/25) yn gymwys i wneud cais am gyllid yn 2025.
Sut mae gwneud cais?
Cliciwch y ddolen hon neu ewch i bbc.co.uk/horizons i gael copi o’r ffurflen ar-lein drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae'n ffurflen electronig gyda chyfres o gwestiynau a blychau gwybodaeth.
Mae gen i rai cwestiynau am y ffurflen gais a'r broses, gyda phwy ddylwn i siarad?
Allwn ni ddim rhoi cyngor unigol i ymgeiswyr, ond os oes gennych chi broblem neu ymholiad mae croeso i chi anfon e-bost i horizons@bbc.co.uk. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i ateb pob e-bost ond allwn ni ddim gwarantu hynny oherwydd ein bod yn cael cymaint o geisiadau.
Pryd mae'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais?
Bydd rhaid i chi gyflwyno eich cais cyn 23:59 ddydd Llun 27 Hydref 2027.
Sut bydd fy nghais yn cael ei asesu?
Bydd pob cais yn cael ei sgorio gan banel o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant cerddoriaeth o Gymru a'r DU. Caiff ceisiadau eu sgorio ar sail:
• Cryfder y gerddoriaeth
• Yr amseru a’r cyfleoedd
• Gwerth am arian
• A fydd y cais o fudd i artistiaid sydd ddim yn cael cefnogaeth ddigonol ar hyn o bryd neu i gynulleidfaoedd gwahanol.
Bydd gofyn i bob panelwr nodi unrhyw wrthdaro buddiannau ac ni ellir rhoi adborth ar y ceisiadau hyn.
Nid oedd fy nghais yn llwyddiannus. Ydw i'n gallu cael adborth?
Yn anffodus, oherwydd nifer y ceisiadau a dderbyniwn, allwn ni ddim darparu adborth i ymgeiswyr aflwyddiannus.
Pryd byddaf yn cael gwybod a ydw i wedi bod yn llwyddiannus gyda fy nghais?
Bydd y panel terfynol ar gyfer gwneud penderfyniadau yn cael ei gynnal ddechrau mis Rhagfyr 2025. Rydym yn disgwyl y byddwch wedi clywed gan y tîm erbyn 15 Rhagfyr 2025.
Roedd fy nghais yn llwyddiannus, pryd fydda i'n cael y cyllid?
Ar ôl i ni gasglu'r holl wybodaeth a’r asedau gan yr artistiaid llwyddiannus, mae’n debyg y bydd y cyllid yn eich cyrraedd ym mis Chwefror 2026.