Main content

Cyfansoddi: Cymru 2026

Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn frwd dros gefnogi ac arddangos gwaith a thalent Cyfansoddwyr ledled Cymru. Mae Cyfansoddi: Cymru yn cynnig cyfle i nifer o gyfansoddwyr gael gweithdy ar eu cerddoriaeth, cael ei pherfformio a’i recordio gan ÃÛÑ¿´«Ã½ NOW yn Neuadd Hoddinott y ÃÛÑ¿´«Ã½ ym Mae Caerdydd.

Bydd y cyfansoddwyr hyn yn cael adborth arbenigol gan gerddorion proffesiynol yn ogystal â mentora gan gyfansoddwyr ac arweinyddion o'r radd flaenaf! Eleni, bydd y prosiect yn cael ei arwain gan Arweinydd Jac van Steen, a’r Cyfansoddwr Cysylltiedig Gavin Higgins.

Mae’r prosiect blynyddol hwn a’r cyngerdd sy’n uchafbwynt iddo, yn cael ei redeg ar y cyd â Nimbus Lyrita Arts, TÅ· Cerdd, Chyfansoddwyr Cymru, Gŵyl Bro Morgannwg a Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru, ac mae’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu a thynnu sylw at dalent cyfansoddi o Gymru, ac yng Nghymru.

Dyddiadau

Diwrnodau Gweithdy: Dydd Mercher 11 & 12 Chwefror 2026

Ymarferion a Chyngerdd: Dydd Gwener 13 Chwefror 2026

Sut i wneud cais?

Gwahoddir cyfansoddwyr i gyflwyno sgôr i'w hystyried ar gyfer Cyfansoddi: Cymru erbyn dydd Sul 28ain Medi 2025 erbyn 23:00.

Bydd 6 sgôr yn cael eu dewis ar gyfer y prosiect a bydd yr ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer yn cael gwybod erbyn Dydd Llun 20fed Hydref 2025.

Croesewir ceisiadau gan gyfansoddwyr sy'n bodloni'r meini prawf canlynol:

  • Rhai sydd wedi’u geni, sy’n byw neu’n astudio yng Nghymru
  • Dros 18

Gellir dod o hyd i ganllawiau, meini prawf a manylion cyflwyno:

Nodwch fydd newid o staff trwy’r cyfnod cynnig gan fod Rachel dim ond yn gorchuddio mamolaeth. Os oes gennych unrhyw gwestiynau rhwng nawr a chanol mis Awst, ebostiwch Rachel ar rachel.naylor03@bbc.co.uk. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ar ôl canol mis Awst, ebostiwch Rhonwen, pwy fydd y Cynhyrchydd addysg i Gyfansoddi: Cymru 2026 ar rhonwen.jones@bbc.co.uk.

Os ydych chi’n cael unrhyw drafferth gyda’r ddolen, mae croeso i chi gysylltu â rachel.naylor03@bbc.co.uk.

Lawrlwythiadau