Main content

Cyngherddau Bach ÃÛÑ¿´«Ã½ NOW

Ymunwch â ni am gyngerdd rhyngweithiol llawn sbort a sbri gyda cherddorion ÃÛÑ¿´«Ã½ NOW, ar y cyd â . Perffaith ar gyfer plant 0-5 oed (mae croeso i deuluoedd a meithrinfeydd).

Bydd y plant yn cael eu tywys drwy amrywiaeth o gerddoriaeth gerddorfaol drwy weld, gwneud, symud a theimlo. Gadewch i ni greu ychydig o gerddoriaeth hudolus gyda'n gilydd!

Mae gennym dri chyngerdd eleni. Mae manylion pob cyngerdd, a sut mae cofrestru, i'w gweld isod:

Sylwch mai yn Saesneg y cynhelir y sesiynau hyn.

Dydd Llun 13 Hydref 2025

Amser: 10.30-11.30 (cyrhaeddwch am 10.15 i roi amser i bawb ddod i mewn)
Pwy: Bydd y cyngerdd cyffrous a hwyliog hwn yn cael ei arwain gan yr animateur arbennig, Julia Plaut, ynghyd â'r Top Brass Trio.

Llenwch y ffurflen i gadarnhau eich bod wedi cofrestru/y byddwch yn bresennol ar gyfer y digwyddiad hwn erbyn 4pm ddydd Llun 6 Hydref 2025. Os byddwn yn cyrraedd y capasiti cyn y dyddiad hwn, byddwn yn cau'r ffurflen gofrestru.

Dydd Llun 26 Ionawr 2026

Amser: 10:30-11:30 (cyrhaeddwch am 10:15 i roi amser i bawb ddod i mewn)

Pwy: Bydd y cyngerdd cyffrous a hwyliog hwn yn cael ei arwain gan yr animateur arbennig, Julia Plaut, ynghyd â'r Clarinetydd Lenny Sayers, a myfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Llenwch y ffurflen i gadarnhau eich bod wedi cofrestru/y byddwch yn bresennol ar gyfer y digwyddiad hwn erbyn 4pm ddydd Llun 19 Ionawr 2026. Os byddwn yn cyrraedd y capasiti cyn y dyddiad hwn, byddwn yn cau'r ffurflen gofrestru.

Dydd Llun 1 Mehefin 2026

Amser: 10:30-11:30 (cyrhaeddwch am 10:15 i roi amser i bawb ddod i mewn)
Pwy: Bydd y cyngerdd cyffrous a hwyliog hwn yn cael ei arwain gan yr animateur arbennig, Julia Plaut, ynghyd â Cherddorion ÃÛÑ¿´«Ã½ NOW, Gwen MacDonald a Jess Feaver.

Llenwch y ffurflen i gadarnhau eich bod wedi cofrestru/y byddwch yn bresennol ar gyfer y digwyddiad hwn erbyn 4pm ddydd Llun 11 Mai 2026. Os byddwn yn cyrraedd y capasiti cyn y dyddiad hwn, byddwn yn cau'r ffurflen gofrestru.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Oed: Mae’r cyngherddau hyn wedi’u hanelu at blant 0-5 oed
Lleoliad: Cynhelir y cyngherddau yn Neuadd Hoddinott y ÃÛÑ¿´«Ã½ – yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ar Lefel 2
Amser: Bydd cyngherddau'n cael eu cynnal rhwng 10.30 ac 11.30, heb egwyl
Tocynnau: Does dim angen tocynnau arnoch – y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw cofrestru drwy'r ddolen. Bydd cyfle i 'dalu fel y gallwch chi' wrth gyrraedd/gadael, os ydych chi'n dymuno cyfrannu.
Cyfryngau: Sylwch, efallai y bydd ffotograffau a fideos yn cael eu tynnu drwy gydol y sesiwn hon. Rhowch wybod i aelod o'n tîm ar y diwrnod os byddai'n well gennych chi i'ch plentyn beidio â chael tynnu ei lun.
Iechyd a Diogelwch: Bydd angen i chi a'ch plant bach gerdded i lawr grisiau i gyrraedd y man perfformio. Bydd gennym ni dywyswyr wrth law i'ch helpu chi gyda hyn os bydd angen cymorth arnoch chi. Os oes arnoch angen mynediad at gadair olwyn, neu os oes gennych chi unrhyw ofynion mynediad eraill y dylem fod yn ymwybodol ohonynt, rhowch wybod i ni wrth gofrestru.
Bwyd a Diod: Nid ydym yn caniatáu unrhyw fwyd na diod yn ein neuadd. Cadwch hyn mewn cof drwy gydol y cyngerdd.
Toiledau: Pan fyddwch yn cyrraedd Canolfan Mileniwm Cymru, ewch yn y lifft i'r ail lawr at fynedfa Neuadd Hoddinott. Yma fe welwch gyfleusterau toiled y gallwch eu defnyddio cyn y cyngerdd.
Parcio Bygis: Bydd lle i barcio bygis y tu allan i Neuadd Hoddinott ar Lefel 2.
Drws: Bydd polisi drws hamddenol ar gyfer y cyngerdd hwn felly os bydd angen i chi fynd a dod yn ystod y cyngerdd, mae croeso i chi wneud hynny.
³§Åµ²Ô: Nid oes disgwyl synau clecian mawr brawychus drwy gydol y sesiwn. Ni fydd yr offerynnau'n cael eu seinchwyddo, bydd y sŵn ar lefel acwstig naturiol yr offerynnau.
Goleuadau: Ni fydd goleuadau'n fflachio
Gwybodaeth: Bydd manylion iechyd a diogelwch a manylion defnyddiol eraill yn cael eu hanfon atoch cyn y cyngerdd.