Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Cian Ciarán yn Cyflwyno: Rhys a Meinir

Cian Ciarán a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn perfformio dehongliad Cian o chwedl Rhys a Meinir am y tro cyntaf erioed. The world première of Cian Ciarán's Rhys & Meinir.

Ar ôl bod ar y gweill ers bron i ugain mlynedd, mae Cian Ciarán o Super Furry Animals a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn addo gwledd i'r clustiau wrth i Cian a degau o gerddorion berfformio Rhys a Meinir am y tro cyntaf erioed.

Un o hen chwedlau gwerin Cymru yw Rhys a Meinir, sef stori am gyfeillgarwch yn Nant Gwrtheyrn yn datblygu'n gariad pur cyn arwain yn y pen draw at ofid, anobaith a thorcalon.

Lisa Gwilym a Huw Stephens sydd yn Neuadd Hoddinott y ÃÛÑ¿´«Ã½, Caerdydd, i'n tywys trwy'r antur gerddorol hon, ac mae Owain Llwyd yn ymuno â'r ddau i drafod ei argraffiadau yntau cyn ac ar ôl y perfformiad byw.

3 awr

Darllediad diwethaf

Mer 9 Tach 2016 19:00

Darllediadau

  • Gwen 4 Tach 2016 19:00
  • Mer 9 Tach 2016 19:00