Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Prifysgol Aberystwyth - Pa Ddyfodol?

Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt. An investigative look at topics in the news in Wales and beyond.

Mae Manylu wedi siarad â sawl aelod o staff prifysgol Aberystwyth sy'n dweud fod morâl yn isel - ac ar y rhaglen yr wythnos hon mae un darlithydd yn dweud ei ddweud yn ddi-enw. Mae cwymp y Brifysgol yn y tablau cynghrair a gostyngiad yn nifer y myfyrwyr wedi cyfrannu at y digalondid yn ôl y darlithydd a'r teimlad - yn ôl rhai - nad yw rheolwyr y sefydliad ar y trywydd cywir. Mae dau fyfyriwr yn dweud fod bodlonrwydd myfyrwyr wedi dirywio hefyd yn ystod y cyfnod mae nhw wedi bod yn astudio yn y coleg ger y lli. Ond mae rheolwyr y Brifysgol yn mynnu fod ganddyn nhw gynllun adfer ar y gweill, bod miliynau yn cael eu gwario ar gyfleusterau newydd a bod arian ymchwil helaeth wedi ei ddenu yn ddiweddar gan olygu fod dyfodol llewyrchus i brifysgol Aberystwyth. Mae llefarydd ar ran y Brifysgol yn dweud wrth Manylu fod y rhagolygon ar gyfer denu myfyrwyr yn 2015 yn dda iawn - ac mai cyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bobl ifanc ydi'r nod. Mae un sylwebydd ar addysg uwch yn tanlinellu nad tablau cynghrair yw'r unig ffon fesur ar gyfer Prifysgol lwyddiannus.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 22 Maw 2015 17:30

Darllediadau

  • Iau 19 Maw 2015 12:31
  • Sul 22 Maw 2015 17:30

Podlediad Manylu

Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.

Podlediad