Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Sgwrs am fywyd a gwaith Emlyn Williams saith deg mlynedd ers rhyddhau'r ffilm The Corn Is Green, a sylw i gerddoriaeth a barddoniaeth sydd wedi'u hysbrydoli gan y Wladfa.

Yr Athro Daniel Williams sy’n sôn am fywyd a gwaith Emlyn Williams o Sir y Fflint saith deg mlynedd ers rhyddhau’r ffilm The Corn Is Green.

Mae ‘na ddeuawd newydd ar y gweill wrth i’r gitarydd clasurol Rhisiart Arwel a’r delynores Gwenan Gibbard ddod ynghyd i berfformio mewn cyngerdd yng Nghaernarfon i nodi canrif a hanner ers sefydlu’r Wladfa.

Y Wladfa sy’n cael sylw’r beirdd Karen Owen a Mererid Hopwood hefyd. Mae gan y ddwy gyfrol newydd o farddoniaeth sy’n adrodd hanes eu taith i Batagonia.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 26 Gorff 2015 13:00

Darllediadau

  • Maw 21 Gorff 2015 12:00
  • Sul 26 Gorff 2015 13:00